Cynllun Plant a Phobl Ifanc
Yr hyn y byddwn yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny, yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Neges gan y Dirprwy Weinidog
Yng Nghymru, rydym am sicrhau'r gorau i'n plant – pob un ohonynt, ni waeth beth fo'u cefndir, o ble y maent yn dod na ble y maent yn byw. Rydym am i bob un ohonynt gael y dechrau gorau mewn bywyd ac i fynd ymlaen i fyw'r bywyd y maent yn dymuno ei fyw.
Mae'r cynllun hwn yn nodi'r rhan y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae i wneud Cymru yn lle gwych i'n plant a'n pobl ifanc dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Yn dilyn etholiad y senedd yn 2021, y gwnaeth llawer o bobl ifanc 16 oed a throsodd bleidleisio ynddo, gwnaethom gyhoeddi ein Rhaglen Lywodraethu.
Mae hon yn ddogfen sy'n esbonio i bawb yng Nghymru beth y byddwn yn ei wneud dros y pum mlynedd y byddwn yn llywodraethu, i wireddu'r addewidion a wnaed gennym yn yr etholiad. Mae'n cynnwys llawer o syniadau ac ymrwymiadau i gefnogi plant a phobl ifanc.
Mae'r cynllun rydych wrthi'n ei ddarllen yn esbonio'r gwaith cymhleth y bydd angen i weinidogion Llywodraeth Cymru ei wneud gyda'i gilydd i droi'r syniadau a'r ymrwymiadau hyn yn gamau gweithredu. Mae hefyd yn dangos rhywfaint o'r gwaith rydym eisoes wedi ei wneud ac yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023.
Rwy'n ddiolchgar, yn arbennig, i'r plant a'r bobl ifanc a fynegodd eu barn am y blaenoriaethau yn ystod cyfnod llunio'r cynllun hwn. Bydd eich cyfraniad, nid yn unig at y gwaith o lunio'r cynllun, ond hefyd ei gyflawni, yn hanfodol i'w lwyddiant.
Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Ein huchelgais
Rydym am i Gymru fod yn lle gwych i blant a phobl ifanc dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol.
Yr hyn rydym yn ei gredu
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac i roi sylw iddo ym mhob penderfyniad a wnawn.
Credwn fod gan bob un o'n plant a'n pobl ifanc yr hawl i wneud y canlynol:
- Cael y dechrau gorau mewn bywyd
- Cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a'u mwynhau, a chael yr addysg orau bosibl i feithrin eu gwybodaeth a'u creadigrwydd a'u galluogi i wireddu eu potensial
- Mwynhau ffyrdd iach o fyw a chael eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth, esgeulustod a gwahaniaethu
- Gallu chwarae a chael hwyl
- Cael eu trin â pharch a chael rhywun i wrando arnynt
- Byw mewn cartref a chymuned sy'n lle braf i dyfu i fyny ynddo
- Cael y cymorth ariannol a materol sydd ei angen arnynt
Ein blaenoriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru
Cyhoeddodd gweinidogion Cymru eu Rhaglen Lywodraethu ar ôl iddynt gael eu hethol yn 2021. Mae'n cynnwys rhestr o rai o'r pethau pwysig y byddant yn eu gwneud dros blant a phobl ifanc (yn ogystal ag oedolion) cyn yr etholiad nesaf yn 2026.
Yn seiliedig ar ein credoau, rydym yn gwneud llawer o waith i gefnogi plant a phobl ifanc, er mwyn gwireddu ein huchelgais a chyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.
Gall rhywfaint o'r gwaith hwn gael ei wneud yn annibynnol gan un gweinidog. Mae gwaith arall yn fwy cymhleth, ac mae angen dau weinidog neu fwy i gydweithio. Mae rhywfaint o'r gwaith mor gymhleth fel bod angen i'r holl weinidogion gydweithio, fel un Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â sefydliadau eraill fel awdurdodau lleol, y GIG a'r sector gwirfoddol.
Mae'r tudalennau nesaf yn dweud wrthych am y gwaith rydym yn ei wneud a rhai o'r pethau y dywedodd plant a phobl ifanc wrthym pan wnaethom ofyn iddynt am eu barn.
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd gweinidogion Cymru yn cydweithio i gyflawni'r blaenoriaethau canlynol:
Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd, gan gynnwys gwasanaethau blynyddoedd cynnar da a chymorth i rieni neu ofalwyr. Dylai gael ei gefnogi gartref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol, ac wrth iddo symud rhyngddynt.
Beth mae hyn yn ei olygu:
- Byddwn yn parhau i wella gwasanaethau blynyddoedd cynnar
- Byddwn yn cynnig gwasanaethau blynyddoedd cynnar i fwy o blant a theuluoedd
- Byddwn yn cynnig mwy o wasanaethau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg
- Byddwn yn cefnogi plant gartref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol, ac yn eu helpu wrth iddynt symud rhyngddynt
- Byddwn yn cynnig help a chymorth i rieni a gofalwyr
- Byddwn yn parhau i gynnig cyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar chwarae mewn lleoliadau gofal plant ac ysgolion
Dywedodd plant a phobl ifanc:
Rydym am fwy o leoedd, a rhai gwell, lle gallwn chwarae'n ddiogel.
Mae angen gwneud mwy i adnabod a helpu teuluoedd mewn angen.
Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei drin yn deg mewn addysg. Dylent gael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial.
Beth mae hyn yn ei olygu:
- Byddwn yn sicrhau bod addysg yn brofiad cadarnhaol i bob plentyn a pherson ifanc
- Byddwn yn rhoi'r help ychwanegol sydd ei angen ar bob plentyn a pherson ifanc i oresgyn rhwystrau a gwireddu ei botensial
- Byddwn yn sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy hygyrch a theg i bob plentyn a pherson ifanc
- Byddwn yn paratoi ac yn cefnogi pobl ifanc yn well pan fyddant yn symud o'r ysgol i (hunan) gyflogaeth, hyfforddiant neu addysg barhaus
Dywedodd plant a phobl ifanc:
Dylai plant a phobl ifanc gael eu hannog a'u cefnogi, pa beth bynnag yw eu hincwm (teuluol).
Ni ddylai neb golli allan ar addysg oherwydd y ffordd mae'n edrych, ei allu, ei ddiwylliant na'i gefndir ethnig.
Mae angen lle diogel ar bob plentyn a pherson ifanc i ddysgu ynddo.
Blaenoriaeth: Dylai pob person ifanc gael ei gefnogi ar ei daith drwy addysg, hyfforddiant a (hunan) gyflogaeth, ac wrth iddo symud rhyngddynt.
Beth mae hyn yn ei olygu:
- Byddwn yn sicrhau bod gan bob person ifanc dros 16 oed o leiaf un opsiwn bob amser: addysg, hyfforddiant neu (hunan) gyflogaeth
- Byddwn yn cefnogi dewis pobl ifanc
- Byddwn yn gwella'r cymorth i bobl ifanc wrth iddynt symud drwy'r opsiynau hyn
- Byddwn yn annog defnyddio a dysgu Cymraeg yn yr ysgol, y coleg, y brifysgol a'r gweithle
- Byddwn yn gwella addysg a hyfforddiant fel y gall mwy o bobl ifanc ennill cymhwyster (uwch)
Dywedodd plant a phobl ifanc:
Mae angen mwy o gymorth arnom yn yr ysgol a'r coleg i'n helpu i ddewis llwybrau gyrfa a dod o hyd i swyddi.
Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei gefnogi i deimlo'n gryf yn feddyliol ac yn emosiynol.
Beth mae hyn yn ei olygu:
- Byddwn yn ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn
- Byddwn yn cefnogi ymgyrchoedd i wella lles pob plentyn a pherson ifanc
- Byddwn yn gwella'r gallu i gael gafael ar gymorth lefel isel ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn ogystal â gwasanaethau arbenigol pan fo angen
Dywedodd plant a phobl ifanc:
Mae lles meddyliol ac iechyd meddwl yn bwysig oherwydd gallant gael effaith enfawr ar y dewisiadau rydym yn eu gwneud ac, felly, ar weddill ein bywyd.
Mae angen mwy o gymorth iechyd meddwl lefel isel hygyrch nawr fel na fydd angen meddygon a nyrsys iechyd meddwl arnom maes o law.
Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei gefnogi i gael cyfle teg mewn bywyd
Beth mae hyn yn ei olygu:
- Ni fyddwn yn gadael neb ar ôl wrth inni symud tuag at Gymru lanach, cryfach a thecach
- Byddwn yn gweithio i atal tlodi ac i gefnogi plant a phobl ifanc mewn cartrefi incwm isel
- Byddwn yn gwella'r cymorth i blant a phobl ifanc y mae angen help ychwanegol arnynt i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial
- Byddwn yn gweithio i roi diwedd ar bob math o wahaniaethu, bwlio, aflonyddu a thrais
Dywedodd plant a phobl ifanc:
Yn aml, ni all plant a phobl ifanc ag incwm (teulu) isel gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i'r ysgol. Mae angen cymorth arnom fel na fyddwn yn colli allan ar y cyfleoedd hyn.
Mae cymorth ar gael mewn ysgolion i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mwy difrifol, ond nid yw'r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol llai difrifol na phlant o gymunedau ethnig leiafrifol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc fyw mewn cartref da a diogel.
Beth mae hyn yn ei olygu:
- Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal plant, pobl ifanc a theuluoedd rhag profi digartrefedd
- Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n profi digartrefedd yn cael cartref da a diogel
Dywedodd plant a phobl ifanc:
Dylid sicrhau bod fflat neu gartref, yn hytrach na hostel, ar gael i bobl ifanc sy'n gadael gofal.
Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnynt i aros gyda'u teuluoedd neu ailymuno â nhw, lle y bo'n bosibl
Beth mae hyn yn ei olygu:
- Byddwn yn cefnogi teuluoedd sy'n wynebu cyfnod anodd
- Byddwn yn diogelu plant a phobl ifanc rhag niwed ac yn helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd, lle y bo'n bosibl
- Byddwn yn gwella ein gofal a'n cymorth i blant a phobl ifanc na allant aros gyda'u teulu am gyfnod byr neu hirach.
- Byddwn yn helpu teuluoedd na allant fyw gyda'i gilydd i gadw mewn cysylltiad ac i aduno, lle y bo'n ddiogel gwneud hynny.
Dywedodd plant a phobl ifanc:
Os bydd pethau'n anodd gartref, rydym am i benderfyniadau gael eu gwneud gyda ni, nid drosom ni.
Ein gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc
Mae'r tudalennau nesaf yn dweud wrthych am rywfaint o'r gwaith rydym wedi ei wneud o’r blaen a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y 12 mis nesaf.
Nid yw hon yn rhestr o bopeth rydym wedi ei wneud neu y byddwn yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc. Byddwn yn mynd ar drywydd gwaith arall.
Byddwn yn diweddaru'r rhestr hon bob blwyddyn, fel y gallwch weld yr hyn rydym wedi ei gyflawni a'r hyn y byddwn yn canolbwyntio arno nesaf.
Bob blwyddyn, byddwn yn siarad â phlant a phobl ifanc cyn diweddaru'r cynllun hwn.
Y dechrau gorau mewn bywyd
Yr hyn rydym wedi ei wneud:
- Darparu cymorth ymwelwyr iechyd i bob teulu â phlentyn dan 7 oed – Plant Iach Cymru
- Helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig – Dechrau'n Deg
- Cefnogi teuluoedd y mae angen help arnynt -Teuluoedd yn Gyntaf
- Ariannu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar bob wythnos i blant bach 3-4 oed rhieni sy'n gweithio – Cynnig Gofal Plant Cymru
- Rhoi cymorth a chyngor i rieni – Magu plant. Rhowch amser iddo
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:
- Cymryd camau i greu un system addysg a gofal plentyndod cynnar
- Talu am ofal plant i fwy o blant
- Annog teuluoedd i siarad Cymraeg â'u plant – Polisi cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd
- Cynyddu nifer y gwasanaethau gofal plant a grwpiau rhiant a phlentyn cyfrwng Cymraeg sydd ar gael – Cymraeg 2050
- Cynnig mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022
- Helpu mwy o blant gyda'u lleferydd drwy Siarad Gyda Fi
- Rhoi Bwndeli Babi am ddim i fwy o deuluoedd
- Darparu cymorth eiriolaeth i rieni y mae eu plant yn wynebu risg o fynd i ofal
Ysgol a Choleg
Yr hyn rydym wedi ei wneud:
- Gwneud dosbarthiadau babanod yn llai
- Helpu teuluoedd incwm isel i brynu gwisg ysgol ac offer chwaraeon – Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad
- Darparu eitemau am ddim ar gyfer y mislif mewn ysgolion a cholegau – Cynllun gweithredu strategol ar gyfer urddas mislif
- Sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hadnabod ac yr eir i'r afael â nhw yn gynt – Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:
- Rhoi'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith ym mis Medi 2022
- Dechrau ystyried diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol
- Cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol a'r coleg, yn ogystal â gartref ac yn y gymuned – Cymraeg 2050
- Annog ysgolion i ddysgu mwy o Gymraeg – Cymraeg 2050
- Sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy hygyrch a theg i bob plentyn a pherson ifanc – Cymraeg 2050
- Talu am brydau ysgol am ddim i fwy o ddisgyblion
- Parhau i chwalu'r rhwystrau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol neu namau – Rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol
- Cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i aros mewn addysg am gyfnod hirach, i gael canlyniadau gwell ac i ennill cymhwyster
- Rhoi gwell cymorth i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol i gael swydd, hyfforddiant neu addysg barhaus
Meithrin sgiliau a chael swydd
Yr hyn rydym wedi ei wneud:
- Creu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel – Cynllun polisi sgiliau prentisiaethau
- Rhoi gwell cyngor ar yrfaoedd – Cymru'n Gweithio
- Rhoi help i feithrin sgiliau newydd – Cyfrif Dysgu Personol
- Rhoi cymorth i bobl ddi-waith sydd ag anghenion cymhleth, sydd mewn tlodi neu sy'n wynebu risg o hynny – Cymunedau am Waith a Mwy
- Talu am gymorth gofal plant i rieni mewn hyfforddiant neu sy'n chwilio am waith – Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:
- Cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu (hunan) gyflogaeth i bawb dan 25 oed – Gwarant i Bobl Ifanc
- Helpu pobl ifanc 16-18 oed i feithrin sgiliau ar gyfer gwaith – Twf Swyddi Cymru+
- Gweithio tuag at greu 125,000 yn rhagor o brentisiaethau – Cynllun polisi sgiliau prentisiaethau
- Rhoi gwell cyfleoedd i bobl ifanc gael gwasanaethau paru swyddi
- Annog dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle – Cymraeg 2050
- Helpu pobl ifanc drwy'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid
Iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles emosiynol
Yr hyn rydym wedi ei wneud:
- Newid y gyfraith i roi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol
- Helpu i annog ffyrdd iach ac egnïol o fyw ledled Cymru – Y Gronfa Iach ac Egnïol
- Darparu gweithgareddau chwaraeon a hamdden i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed – Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles
- Cyhoeddi cymorth lles emosiynol ac iechyd meddwl ar-lein i blant a phobl ifanc – Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
- Cynnwys iechyd a lles yn y cwricwlwm ysgol
- Cynnig mwy o gwnsela a chymorth iechyd meddwl arbenigol mewn ysgolion ledled Cymru
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu model NYTH/NEST newydd i gefnogi dull 'dim drws anghywir' o gael gafael ar wasanaethau, a darparu help a chymorth yn gynharach ar gyfer iechyd meddwl ac emosiynol pobl ifanc
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:
- Gweithio gydag ysgolion a phartneriaid eraill i frechu plant
- Helpu plant a theuluoedd i fyw bywydau iachach a mwy egnïol – Pwysau Iach: Cymru Iach
- Gwella gwaith ieuenctid fel y gall mwy o bobl ifanc gael lle diogel i wneud ffrindiau, dysgu a thrafod eu problemau
- Parhau gyda’n gwaith ar y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles emosiynol
- Darparu model NYTH/NEST ar draws holl rhanbarthau Cymru er mwyn gwella help a chymorth cynharach ar gyfer iechyd meddwl ac emosiynol pobl ifanc
- Gwella cymorth lles mewn colegau a phrifysgolion
- Darparu cymorth iechyd meddwl arbenigol “mewngymorth” i ysgolion
- Mesur i ba raddau y gall cyfleusterau noddfa cymunedol helpu i gefnogi pobl ifanc mewn argyfwng
Cymdeithas deg, cenedl garedig
Yr hyn rydym wedi ei wneud:
- Rhoi'r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru
- Cyflwyno'r Cod Ymarfer Statudol ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth
- Gwella’r broses o nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o brofi digartrefedd a rhoi cymorth iddynt – Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid
- Gwella cymorth i blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:
- Adeiladu cartrefi preswyl i blant ag anghenion cymhleth yng Nghymru, fel y gallant aros yn lleol
- Parhau i weithio ac ymgysylltu â darparwyr preifat gofal preswyl a gofal maeth i blant ynghylch y newid i system gofal ddi-elw yng Nghymru
- Parhau i brofi dulliau newydd o ymdrin â thai i bobl ifanc agored i niwed drwy'r Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref
- Gwella bywydau'r rheini â nodweddion gwarchodedig drwy gyfres o gynlluniau gweithredu sy'n ystyried hil, nam, rhywedd a LHDTC+.
- Datblygu cynlluniau i helpu i ddiogelu merched ifanc rhag cam-drin domestig, aflonyddu a thrais rhywiol.
- Parhau i gyflawni'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru gan sicrhau dull ailsefydlu sy'n canolbwyntio ar y teulu cyn rhyddhau unigolyn
Yr argyfwng hinsawdd a natur
Yr hyn rydym wedi ei wneud:
- Gwrthwynebu echdynnu tanwydd ffosil yng Nghymru – Polisi glo
- Cyflwyno tâl am fagiau plastig untro
- Helpu teuluoedd incwm isel i brynu tanwydd yn ystod y gaeaf - Cynllun cymorth tanwydd gaeaf
- Lleihau cost trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc 16-21 oed – Fy Ngherdyn Teithio
- Gweithio i wella llwybrau cerdded a beicio yng Nghymru
- Cyhoeddi cynllun yn esbonio sut y byddwn yn cyrraedd ein targed o leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2050 – Cymru Sero Net
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:
- Gwahardd plastig untro
- Cyflawni ein cynllun Rhwydweithiau Natur
- Parhau â'n rhaglenni addysg amgylcheddol, Maint Cymru ac Eco-sgolion er mwyn rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd nesaf
- Dechrau creu Coedwig Genedlaethol i Gymru
- Gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd
- Gostwng y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl i 20mya
- Cyhoeddi dogfen am gymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
Sut y byddwn yn ymddwyn
Byddwn yn:
- Parchu hawliau plant, mabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar hawliau plant, a chyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- Gweithio'n galed i wireddu ein huchelgais a chyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer holl blant a phobl ifanc Cymru, mewn ffordd sy'n adlewyrchu ac yn ystyried y canlynol:
- pwy ydynt
- ble yng Nghymru y maent yn byw
- statws economaidd-gymdeithasol
- hil, ethnigrwydd a diwylliant
- cyfeiriadedd rhywiol
- iaith gyntaf
- ffydd a chred
- namau, anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth
- hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd
- p'un a ydynt yn byw gyda'u rhieni, gofalwyr, mewn cartref neu ar eu pen eu hunain
- p'un a ydynt yn rhieni neu'n ofalwyr eu hunain
- p'un a ydynt mewn cysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid
- Sicrhau bod tegwch, cydraddoldeb, cynhwysiant, gwrth-hiliaeth a gwrth-wahaniaethu yn rhan o'n holl waith. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cymorth gwahanol a/neu fwy o gymorth i'r plant a'r bobl ifanc hynny y mae angen help gwahanol a/neu fwy o help arnynt i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial.
- Hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein holl waith er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050
- Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc fel pobl gyflawn, yn hytrach nag ar rannau o'u bywydau neu eu hamgylchiadau (cyfannol)
- Gweithio ar sail y gred bod gan bob person, teulu a chymuned gryfderau y gellir adeiladu arnynt (seiliedig ar asedau)
- Gweithio gyda phobl a sefydliadau sy'n helpu ac yn cefnogi plant a phobl ifanc (cydweithredol)
Sut y byddwch yn gwybod ein bod yn gwneud cynnydd
Mae gweinidogion Cymru wedi gosod naw carreg filltir y maent am i Gymru eu cyflawni.
Erbyn 2050:
- Bydd o leiaf 99% o blant yn dangos dau ymddygiad iach neu fwy
- Bydd 75% o'r oedolion o oedran gweithio yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu uwch
- Bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu'n is
- Dim ond ei chyfran deg o adnoddau'r byd y bydd Cymru yn ei defnyddio
- Bydd y bwlch rhwng cyflogau mewn perthynas â rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd wedi'i gau
- Bydd y bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r gyfradd gyflogaeth yn y DU wedi'i gau, a bydd ffocws ar waith teg a chynyddu presenoldeb grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur
- Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
- Bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru
- Bydd Cymru yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net
Bob blwyddyn, byddwn yn mesur ac yn adrodd ar sut mae'r camau gweithredu yn y cynllun hwn yn ein helpu i gyflawni'r naw carreg filltir genedlaethol hyn.
Sut y gallwch helpu
Gwyddom fod plant a phobl ifanc yn helpu ei gilydd a'u cymunedau ledled Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud mwy.
Mae llawer o bethau y gall Llywodraeth Cymru a gweinidogion eu gwneud i gefnogi plant a phobl ifanc.
Mae llawer o bobl eraill yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac yn eu helpu a'u cefnogi bob dydd, fel rhieni, gofalwyr, ffrindiau, athrawon, gweithwyr ieuenctid, hyfforddwyr chwaraeon, meddygon, nyrsys, ymwelwyr iechyd ... gormod o lawer i'w rhestru yma!
Hoffem ofyn i bawb wneud y canlynol:
- Ymuno â ni yn ein huchelgais i wneud Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo
- Penderfynu sut y byddwch yn troi'r uchelgais honno yn gamau gweithredu
- Cydweithio i wella gwasanaethau lleol a chanlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd
Dywedodd plant a phobl ifanc:
- “Dylai pawb deimlo cyfrifoldeb a chyfrannu os yw gweinidogion Cymru am lwyddo i sicrhau newid.”
Sut y byddwn yn eich cynnwys
Byddwn yn:
- Gwrando ar blant, pobl ifanc a theuluoedd wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau
- Siarad â phlant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd tuag at wireddu ein huchelgais a chyflawni ein blaenoriaethau
- Ymateb i adborth gan blant a phobl ifanc. Gweler ein manylion cyswllt.