Cyflwynwyd terfyn cyflymder o 20mya gennym ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru yn Medi 2023.
Cael y cyflymder cywir ar y ffordd iawn
Credwn fod 20mya yn iawn, bydd yn achub bywydau ac yn lleihau gwrthdrawiadau ac anafiadau. Rydym am sicrhau ei fod wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir.
Yn 2024, cafodd y cyhoedd gyfle i awgrymu lle roedden nhw'n teimlo y dylid gwneud newidiadau. Mae awdurdodau priffyrdd yn defnyddio’n canllawiau diwygiedig i asesu’r awgrymiadau hyn.
Bydd unrhyw newidiadau o ran terfynau cyflymder yn gorfod cael eu gwneud drwy orchymyn rheoleiddio traffig. Bydd yn cymryd sawl mis i gwblhau’r broses hon.
Cefnffyrdd
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru. Maent yn cael eu gweithredu gan Asiantwyr Cefnffyrdd ar ein rhan. Rydym wedi dechrau cydweithio gyda’r Asiantwyr hyn er mwyn adolygu’r terfynau 20mya ar ein 111 o gefnffyrdd.
Beth wnaethom
Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i basio cyfraith yn newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya.
Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae yna lawer o bobl. Yn aml mae ganddynt oleuadau stryd, wedi eu gosod o leiaf bob 200 llath. O’r blaen, y terfyn cyflymder yn y mannau hyn oedd 30mya.
Gwnaethon ni weithio gydag:
- Awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am ffyrdd sirol
- Asiantaethau Cefnffyrdd, sy’n rhedeg y rhwydwaith ffyrdd strategol ar ran Llywodraeth Cymru
i nodi pa ffyrdd ddylai aros yn 30mya. Gwnaethon ni gyhoeddi canllawiau i helpu awdurdodau priffyrdd i benderfynu.
Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddon ni ganllawiau newydd ar gyfer awdurdodau priffyrdd i’w helpu i benderfynu pa ffyrdd allai fynd yn ôl i’r hen derfyn cyflymder o 30mya.
Rhaid i bob awdurdod priffyrdd ddilyn y broses statudol ar gyfer gorchmynion Rheoli Traffig i wneud eithriadau.
Mae map ar DataMapCymru yn dangos pa ffyrdd a fydd yn aros yn 30mya.
Arwyddion ffyrdd
Mae arwyddion ffyrdd yn dangos pryd rydych chi’n croesi’r ffin i ardal â therfyn cyflymder gwahanol.
Gan mai 20mya yw’r terfyn diofyn mwyach, ni fydd arwyddion atgoffa. Arwyddion atgoffa yw’r arwyddion llai hynny sy’n cael eu rhoi ar oleuadau stryd yn hytrach na mewn parau.
Pam wnaethom ni hyn
- Rydym wedi gwneud y newid hwn i:
lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol ganddynt (gan leihau'r effaith ar y GIG hefyd o drin y bobl sydd wedi'u hanafu) - annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
- helpu i wella ein hiechyd a'n lles
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
Effeithiau cynnar
Cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd, cafodd ei dreialu mewn wyth cymuned ledled Cymru:
- Llandudoch, Sir Benfro
- Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
- Sant-y-brid, Bro Morgannwg
- Canol Gogledd Caerdydd
- Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
- Y Fenni, Sir Fynwy
- Glan Hafren, Sir Fynwy
- Bwcle, Sir y Fflint
Yn gyffredinol, cafwyd bod cyflymder wedi gostwng yn yr ardaloedd hyn.
Cewch ddarllen mwy yn yr adroddiadau monitro ar wefan Trafnidiaeth Cymru.