Cyflwynwyd terfyn cyflymder o 20mya gennym ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru yn Medi 2023.
Beth wnaethom
Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd, a'r genedl gyntaf yn y DU, i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.
Mae'r newid yn berthnasol i ffyrdd cyfyngedig yn unig. Mae'r rhain fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o bobl. Yn aml mae ganddynt oleuadau stryd arnynt, wedi eu gosod dim mwy na 200 llath ar wahân.
Fe wnaethom weithio gyda’r sefydliadau sy’n gyfrifol am ffyrdd yng Nghymru:
- awdurdodau priffyrdd,
- Asiantaethau Cefnffyrdd, sy’n gweithredu'r rhwydwaith ffyrdd strategol
- awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am ffyrdd gwledig
Gyda’n gilydd, gan ddefnyddio ein canllawiau nodwyd pa ffyrdd ddylai gael terfyn o 20mya
Ni wnaeth pob ffordd 30 mya newid i 20mya. Gelwir y ffyrdd hyn yn eithriadau. Penderfynodd Awdurdodau Lleol pa ffyrdd ddylai aros ar gyflymder o 30mya yn seiliedig ar y canllawiau a ddarparwyd gennym. Mae arwyddion 30mya i ddweud hyn wrthych.
Rhaid i bob awdurdod priffyrdd ddilyn y broses statudol ar gyfer Gorchmynion Rheoli Traffig i wneud eithriadau.
Mae map ar DataMapCymru yn dangos pa ffyrdd a fydd yn aros ar 30mya.
Pam wnaethom ni hyn
- Rydym wedi gwneud y newid hwn i:
lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol ganddynt (gan leihau'r effaith ar y GIG hefyd o drin y bobl sydd wedi'u hanafu) - annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
- helpu i wella ein hiechyd a'n lles
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
Effeithiau cynnar
Cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd, cafodd ei dreialu mewn wyth cymuned ledled Cymru:
- Llandudoch, Sir Benfro
- Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
- Sant-y-brid, Bro Morgannwg
- Canol Gogledd Caerdydd
- Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
- Y Fenni, Sir Fynwy
- Glan Hafren, Sir Fynwy
- Bwcle, Sir y Fflint
Yn gyffredinol, cafwyd bod cyflymder wedi gostwng yn yr ardaloedd hyn.
Cewch ddarllen mwy yn yr adroddiadau monitro ar wefan Trafnidiaeth Cymru.