Mae Designed to Smile in Practice yn adnodd e-ddysgu ar gyfer timau deintyddol.
Nod y rhaglen yw gwella’r gofal ataliol a’r cyngor a roddir i blant a’u rhieni/gofalwyr pan fyddant yn ymweld â’r deintydd.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer aelodau o’r tîm deintyddol sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, gan gynnwys:
- hylenwyr deintyddol
- therapyddion deintyddol
- nyrsys deintyddol
Mae’r rhaglen yn gysylltiedig â’r rhaglen sydd gennym ar gyfer gwella iechyd y geg, sef y Cynllun Gwên.
Dyma rai o fanteision cwblhau’r cwrs:
- Achrediad Sylfaenol Arian - Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd
- 10 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus y gellir ei brofi
- cyfle i ddysgu am y rhaglen Cynllun Gwên
- gwella gofal ataliol yn eich practis