Neidio i'r prif gynnwy

Mae Designed to Smile in Practice yn adnodd e-ddysgu ar gyfer timau deintyddol. 

Nod y rhaglen yw gwella’r gofal ataliol a’r cyngor a roddir i blant a’u rhieni/gofalwyr pan fyddant yn ymweld â’r deintydd. 

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer aelodau o’r tîm deintyddol sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, gan gynnwys:

  • hylenwyr deintyddol
  • therapyddion deintyddol
  • nyrsys deintyddol

Mae’r rhaglen yn gysylltiedig â’r rhaglen sydd gennym ar gyfer gwella iechyd y geg, sef y Cynllun Gwên.
Dyma rai o fanteision cwblhau’r cwrs:

  • Achrediad Sylfaenol Arian - Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd
  • 10 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus y gellir ei brofi
  • cyfle i ddysgu am y rhaglen Cynllun Gwên
  • gwella gofal ataliol yn eich practis