Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am wneud yn siŵr bod gan bob plentyn ddannedd iach. Er ei bod yn bosibl atal pydredd dannedd ymysg plant ifanc, mae’r clefyd hwn yn dal i effeithio ar lawer o blant.

Mae’r Cynllun Gwên yn gweithio gyda theuluoedd a phlant ifanc rhwng 0 a 7 oed. Mae’n annog hylendid y geg mewn sawl ffordd:

  • rhoi cyngor i deuluoedd a darparu brwshys dannedd a phast dannedd fflworid
  • annog ymweliad â’r deintydd cyn i’r plentyn fod yn 1 oed
  • rhaglen iechyd deintyddol ar gyfer plant hyd at 7 oed mewn meithrinfa neu ysgol gynradd. Mae hyn yn cynnwys brwsio dannedd yn ddyddiol a rhoi farnais fflworid ddwywaith y flwyddyn 

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at ysgolion a meithrinfeydd mewn ardaloedd difreintiedig.