Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiad o'r termau allweddol a ddefnyddir yn ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod).

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd

Rhaid i drethdalwyr hysbysu Awdurdod Cyllid Cymru am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle mae rhai trafodiadau lesoedd penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Am fwy o wybodaeth, gweler paragraff DTTT/6030 yn ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Mae gan brynwr eiddo 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i ffeilio eu ffurflen a thalu unrhyw Dreth Trafodiadau Tir sy'n ddyledus. Wrth ffeilio ffurflen dreth Treth Trafodiadau Tir, mae gan y sefydliad sy'n talu’r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno’r ffurflen a thalu'r dreth. Dim ond ar drafodiadau a gyflwynir i ni y gallwn ni gyflwyno ystadegau a gall hyn gynnwys data ar drafodiadau nad oeddent yn hysbysadwy.

Treth sy'n ddyledus

Cyfrifir swm y Dreth Trafodiadau Tir sy'n ddyledus ar gyfer trafodiadau hysbysadwy sydd wedi’u cyflwyno Awdurdod Cyllid Cymru . Mae'n cyfrif gan ddefnyddio cyfraddau treth a bandiau treth y Dreth Trafodiadau Tir, sy'n amrywio yn ôl y math o drafodiad. 

Yn gyffredinol, bydd y dreth sy'n ddyledus yn berthnasol i'r wybodaeth ar y ffurflen dreth. Nid yw hyn yr un fath â'r taliadau treth a dderbyniwyd mewn gwirionedd, a all gyrraedd hyd at 30 diwrnod (neu fwy yn achos datganiadau hwyr) wedi i’r trafodiad ddigwydd.

Gwerth yr eiddo a drethir

Er mwyn cyfrifo faint o dreth sy'n ddyledus, bydd pris prynu'r trafodiad (a elwir hefyd yn gydnabyddiaeth) yn cael ei gasglu ar y ffurflen dreth. 

Pan fydd rhydd-ddaliad yn cael ei brynu, yn y rhan fwyaf o achosion, y gydnabyddiaeth yw pris prynu'r eiddo. O dan rai amgylchiadau, bydd gwerth yr eiddo ar y farchnad yn cael ei gofnodi yn hytrach na'r pris a dalwyd. 

Ar gyfer pryniannau lesoedd preswyl mae'r gydnabyddiaeth ar ffurf premiwm, sef gwerth yr eiddo fel arfer. 

Fodd bynnag, ar gyfer lesoedd amhreswyl sydd newydd gael eu rhoi, y gydnabyddiaeth yw’r premiwm ar gyfer caffael y les. Pan fo rhent yn daladwy o dan delerau’r les, bydd y ffigurau rhent yn cael eu defnyddio ar gyfer cyfrifo gwerth presennol net y les, sy'n cael ei drethu.

Mae mwy o ganllawiau ar y gwerth presennol net ar gael ym mharagraff DTTT/4080 ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Trafodiadau preswyl

Pryniannau eiddo preswyl yw'r rhain. Diffinnir eiddo preswyl fel:

  • adeilad a ddefnyddir fel un annedd neu ragor, neu sy’n addas i’w ddefnyddio felly, neu sydd yn y broses o gael ei godi neu ei addasu i’w ddefnyddio felly
  • tir sy’n ardd neu’n diroedd, neu’n ffurfio rhan o ardd neu diroedd adeilad o'r fath (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar dir o'r fath), a
  • buddiant mewn tir neu hawl dros dir sy'n bodoli, neu a fydd yn bodoli, er budd adeilad o'r fath neu dir o'r fath

Gall trafodiadau preswyl fod naill ai ar y:

  • brif gyfradd; fel arfer pan nad yw'r prynwr eisoes yn berchen ar unrhyw anheddau eraill, neu pan fo'r prynwr yn prynu prif breswylfa yn lle ei brif breswylfa, a
  • cyfraddau uwch; fel arfer pan fo'r prynwr eisoes yn berchen ar anheddau eraill, neu os nad yw'r prynwr yn unigolyn (er enghraifft, cwmni)

Am fwy o wybodaeth, gweler paragraff DTTT/1050 yn ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Trafodiadau amhreswyl

Mae’r rhain yn unrhyw drafodiadau nad ydynt yn rhai preswyl, megis trafodiadau’n ymwneud â siopau, swyddfeydd, neu dir amaethyddol.

Mae ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru ar drafodiadau amhreswyl hefyd yn cynnwys eiddo nad yw'n breswyl yn gyfan gwbl (sef eiddo sydd ag elfennau preswyl a masnachol).

Am fwy o wybodaeth, gweler paragraff DTT/1060 yn ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Rhyddhad

Gellir hawlio rhyddhad ar trafodiadau preswyl ac amhreswyl. Mae rhyddhadau’n gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Dylid nodi bod modd rhoi sawl rhyddhad ar un trafodiad. Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus i sero (a elwir yn rhyddhad llawn) neu o ganran neu swm penodol neu drwy ddefnyddio dull cyfrifo gwahanol (a elwir yn rhyddhad rhannol).

Y rhyddhadau mwyaf cyffredin a hawlir fel arfer yw: 

  • rhyddhad grŵp
  • caffaeliadau sy’n cynnwys nifer o anheddau
  • rhyddhad i elusennau. 

Mae mwy o wybodaeth am y rhyddhadau a pha bryd y gallant fod yn berthnasol i'w gweld yn y canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod Cyllid Cymru.

Trafodiadau cysylltiol

Mae trafodiadau cysylltiol yn cynnwys nifer o drafodiadau rhwng yr un prynwyr a'r un gwerthwyr lle maent yn rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau. Gall y trafodiadau hyn a all ddigwydd naill ai ar yr un pryd neu beidio. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys prynu rhydd-ddaliad a les yn ymwneud â’r un eiddo, yn ogystal â sawl eiddo yn cael eu gwerthu gan yr un gwerthwr a'u prynu gan yr un prynwr dros gyfnod o amser.

Dylai’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth ynglŷn â pha drafodiadau sy’n drafodiadau cysylltiol ar y ffurflen dreth. Lle nad yw Awdurdod Cyllid Cymru yn cael y wybodaeth hon, gall effeithio ar ansawdd ein dadansoddiad ar drafodiadau cysylltiol o fewn ein data ehangach. Rydym yn egluro hyn ymhellach yn ein gwybodaeth ansawdd ar gyfer ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir.

Am fwy o wybodaeth am drafodiadau cysylltiol, gweler y canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

Ad-daliadau cyfraddau uwch

Os, o fewn tair blynedd i gwblhau trafodiad Treth Trafodiadau Tir cyfraddau uwch, bod y prynwr yn gwerthu ei brif breswylfa flaenorol, mae'n bosibl y bydd yn gymwys i gael ad-daliad o'r elfen cyfraddau uwch o Dreth Trafodiadau Tir. Rhaid bod yr annedd a brynwyd wedi’i phrynu i gymryd lle prif breswylfa flaenorol y trethdalwr.

Am fwy o wybodaeth am gyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir ac ad-daliadau, gweler y canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

Pontio

Mae cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn berthnasol i unigolyn sy'n prynu eiddo fel prif breswylfa newydd, lle nad yw wedi gwerthu ei breswylfa flaenorol ar yr adeg prynu. Ond, os yw'r trethdalwr yn gwerthu ei brif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd, mae'r unigolyn yn gymwys ar gyfer derbyn ad-daliad o elfen cyfraddau uwch y dreth. Yn yr achosion hyn, newidir y trafodiad yn un prif gyfradd breswyl pan hawlir yr ad-daliad. 

Yn ystadegau unrhyw flwyddyn benodol, dim ond rhai ad-daliadau fydd eisoes wedi'u hawlio. Felly, bydd rhai trafodiadau cyfradd uwch yn gadael y cyfrif yn y blynyddoedd dilynol yn y pen draw. Ni fyddwn yn gwybod maint llawn y pontio sy’n weddill yn y flwyddyn ddiweddaraf am hyd at 4 blynedd, gan gynnwys y flwyddyn ychwanegol a ganiateir ar gyfer yr hawliad ei hun..

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth o ystadegau ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, gan gynnwys cyfanswm y refeniw a godir a nifer yr ad-daliadau a wneir bob mis. Ar lefel ardal leol, rydym yn cyhoeddi canran flynyddol y trafodiadau preswyl y mae'r cyfraddau uwch yn berthnasol iddynt. 

Dyddiadau (dod i rym, cyflwyno, olaf, cymeradwyo ad-daliad)

Defnyddir gwahanol ddyddiadau yn ystadegau’r Awdurdod i gyflwyno data dros amser.

Dyddiad dod i rym

Mae hyn pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad yn cael ei gwblhau ar eiddo.

Rydym yn cyflwyno data yn ein datganiadau ystadegol yn seiliedig yn bennaf ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym. Tra bod defnyddio'r dyddiad dod i rym mewn dadansoddiad yn gallu arwain at fwy o anwadalrwydd yn y data (er enghraifft, oherwydd newid mewn cyfraddau treth), a diwygiadau mewn datganiadau ac adroddiadau data olynol, y dyddiad hwn yw’r pwynt y digwyddodd y trafodiad ac nid dyddiad tybiannol yn y dyfodol pan dderbyniwyd y ffurflen dreth. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd y gyfres a grëir o'n dadansoddiad yn adlewyrchu newidiadau mewn cyfraddau treth a pholisi ar yr adeg y gwneir unrhyw newidiadau.

Am fwy o wybodaeth, gweler paragraff DTTT/1040 yn ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Dyddiad cyflwyno

Dyma'r dyddiad y cyflwynir ffurflen dreth i Awdurdod Cyllid Cymru. Mae cyhoeddiadau ystadegol eraill yn y DU yn defnyddio'r dyddiad cyflwyno i gynhyrchu eu hystadegau. Felly, rydym wedi cynnwys rhai ystadegau y gellir eu cymharu yn ôl dyddiad cyflwyno yn ein ystadegau blynyddol blaenorol. Rydym hefyd yn cynnwys ystadegau ar drafodiadau wythnosol erbyn y dyddiad a gyflwynwyd yn ein hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir misol a chwarterol.

Dyddiad olaf

Gellir cyflwyno ffurflenni Treth Trafodiadau Tir ar unrhyw adeg. Wrth gynhyrchu ein hystadegau misol a chwarterol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, rydym yn defnyddio trydydd dydd Llun y mis fel y 'dyddiad olaf'. Nid yw ffurflenni treth na diwygiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu cynnwys yn ein hystadegau a gyhoeddir ar gyfer y mis hwnnw.

Dyddiad cymeradwyo ad-daliad

Ar y wefan StatsCymru, rydym yn cynnwys rhai ystadegau ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl y dyddiad pan gymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.