Sut i ysgrifennu teitlau ar gyfer cynnwys ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Ysgrifennu teitl da
Dylai'r teitl (ynghyd â'r grynodeb) ddweud wrth y defnyddwyr os mai'r cynnwys ar y dudalen yw'r cynnwys y maent yn chwilio amdano.
Defnyddiwch iaith y bydd defnyddwyr yn deall. Efallai na fydd y cyhoedd yn gwybod ein henw swyddogol ni am rywbeth.
Cadwch deitlau yn fyr. Anelwch i gael 65 nod neu'n llai oherwydd:
- nad yw peiriannau chwilio yn dangos unrhyw beth ar ôl 65 nod
- bod teitlau hirach yn anos eu deall
Defnyddiwch deitlau gweithredol pan fyddwch yn gofyn i ddefnyddwyr wneud rhywbeth, er enghraifft:
- gwnewch gais am
- gwiriwch
- tanysgrifiwch i
- dewch o hyd i
- cofrestrwch ar gyfer
- mewngofnodwch
Defnyddiwch declynnau allweddeiriau fel Google Trends i ddod o hyd i'r iaith y mae defnyddwyr yn ei defnyddio i chwilio.
Gwnewch yn siŵr bod teitlau yn unigryw ac yn gwneud synnwyr heb gyd-destun. Dyw hi ddim yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr i weld nifer o dudalennau gyda'r un teitl, er enghraifft 'ffurflen gais'. Gwnewch hyn yn fwy penodol, er enghraifft 'Ffurflen gais grant cyfleusterau cludo nwyddau ar y rheilffyrdd'.
Ceisiwch osgoi gorsymleiddio. Er enghraifft, 'Cysylltwch â'r Arolygaeth Gynllunio' yn hytrach na 'Cysylltwch â ni'.
Dylai'r geiriau pwysicaf fod ar ddechrau'r teitlau bob tro.
Ystyriwch ddefnyddio colon:
- i helpu defnyddwyr i gysylltu grwpiau bychain o gynnwys sy'n berthnasol i'w gilydd
- i roi'r geiriau pwysicaf ar ddechrau teitlau
Os oes nifer o dudalennau yn cynnwys yr un frawddeg, newidiwch y teitl fel bod y brif eitem yn dod yn gyntaf. Er enghraifft, mae 'Safonau lles defaid' a 'Safonau lles buchod' yn newid yn 'Defaid: safonau lles', a 'Buchod: safonau lles'.
Nid oes atalnod llawn ar ddiwedd teitlau.
Teitlau tudalennau cyhoeddiadau
Gall teitlau fod yn wahanol i deitl swyddogol y ddogfen. Gallwch ddefnyddio'r teitl swyddogol ar gyfer yr atodiad neu sôn amdano yn y grynodeb neu gopi'r dudalen os ydych chi'n meddwl bydd defnyddwyr yn chwilio am y term yma.
Defnyddiwch y flwyddyn yn y teitl os yw'n rhan o gyfres gyda'r un teitl. Er enghraifft:
- Glastir Organig 2017: llyfryn rheolau
- Glastir Organig 2016: llyfryn rheolau
Wrth ychwanegu cofnodion cyfarfodydd, dylech ddefnyddio enw'r sefydliad a'r manylion. Er enghraifft 'Cyfarfod bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru'. Bydd dyddiad y cyfarfod yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y teitl, o'r maes dyddiad y cyfarfod.