Neidio i'r prif gynnwy

Aethom ni â Lily ar ei thaith hir gyntaf pan roedd hi’n chwe mis oed. Teithiom ni i Fietnam i weld ei nain a’i thaid, modrybedd, ewythrod a’i chefndryd. Oherwydd roeddwn i ar gyfnod mamolaeth, aeth Lily a minnau am bum wythnos, tra ymunodd Mark gyda ni bythefnos ar ôl i’r daith ddechrau. Hedfanom ni o faes awyr Heathrow yn Llundain i Ddinas Ho Chi Minh, gan newid awyren yn Abu Dhabi. Roedd y daith i fod i gymryd pedair awr ar ddeg (ond cymerodd ddeunaw awr ychwanegol, sy’n stori arall).

Roeddwn i’n teimlo’n nerfus am deithio ar fy mhen fy hun gyda baban bach ac roeddwn wedi bod yn dyst i blant yn crio am oriau ar awyrennau, felly penderfynais baratoi ar gyfer y gwaethaf. Fel mae’n digwydd, roedd Lily yn deithiwr delfrydol gan iddi gysgu am ran fwyaf y daith. Rydym ni wedi hedfan ers hynny ac, er ei bod yn crio ar adegau, mae’n tueddu dangos diddordeb ym mhopeth sydd o’i chwmpas - y maes awyr, y teithwyr a’r awyrennau - felly rwy’n ceisio annog ei chwilfrydedd ar bob taith hir.

Dyma fy nghyngor i am deithiau hir gyda phlentyn:

Pacio

Mae pacio i faban neu i blentyn ifanc wastad yn anodd, yn enwedig os oes gennych daith hir o’ch blaenau. Mae gwybod eich bod wedi dod â digon o bethau ar yr awyren yn helpu i wneud y daith yn llai o straen. Rydw i wedi dysgu o brofiad bod gwneud yn siŵr bod gen i ddigon o’r eitemau sylfaenol yn hollbwysig - bwyd, diod, cewynnau, llieiniau sychu a dillad sbâr i’r baban (rhag ofn ei bod hi’n sâl ar yr awyren) ac i chi (rhag ofn bod y baban yn sâl arnoch chi). Os yw eich plentyn yn torri dannedd, cofiwch bacio bibiau a llieiniau mwslin. Rwyf i hefyd yn pacio hoff flanced Lily, yr un mae hi’n hoffi ei ddefnyddio i gysgu, oherwydd ei fod o gymorth mawr wrth deithio ar awyren. Gan ei bod hi ychydig yn hŷn erbyn hyn, rwy’n pacio llyfrau i’w diddanu: llyfrau darllen, llyfrau lliwio a phensiliau, jig-sos a gemau teithio sy’n mynnu llai o le. Yn ogystal, rwyf wastad yn gwneud yn siŵr bod potel o Calpol gen i.

Awyrennau

Yn gyffredinol, mae awyrennau’n dda o ran rhoi croeso i deuluoedd sydd â phlant ifanc. Fel arfer, rydych yn cael blaenoriaeth wrth fynd ar yr awyren ac mae’r rhan fwyaf o stiwardiaid yn gymwynasgar, felly peidiwch ag oedi rhag gofyn am gymorth os oes angen unrhyw beth arnoch chi. Fodd bynnag, gall eich bygi fod yn broblem. Mae’n debygol o gael ei niweidio yn ystod y daith, felly peidiwch â mynd ag un drud gyda chi.

Parthau amser

Mae Fietnam saith awr o flaen y DU. Fel arfer, mae’n cymryd hyd at ddeuddydd i ni adfer ar ôl taith hir, felly rydym yn ceisio teithio ar awyren sy’n cyrraedd gyda’r nos, er mwyn sicrhau ein bod yn cael noson o gwsg ar ôl cyrraedd. Mae taith hir bob tro yn llafurus ac, os cyrhaeddwch yn ystod y dydd, mae’n anodd iawn peidio â mynd i’r gwely’n syth ar ôl cyrraedd. Ceisiwch osgoi hynny. Mae’n well aros ar ddihun er mwyn rhoi cyfle i glociau cyrff pawb addasu. 

Tywydd gwahanol

Mae Fietnam yn wlad gynnes a llaith ac roeddwn yn poeni am sut y byddai Lily’n ymateb i’r gwres. Mae llawer o bobl yn cael brech gwres, ond fe wnes i drochi Lily gwpwl o weithiau bob dydd ac, o ganlyniad, ni chawsom unrhyw broblemau yn ystod y gwyliau. Rydym yn tueddu aros o dan do yn ystod cyfnod cynhesaf y diwrnod (12pm-2pm). Roeddwn i hefyd yn gorchuddio Lily mewn eli haul yn rheolaidd ac mae rhai fferyllfeydd yn gwerthu chwistrelli oeri. 

Gofal iechyd

Roedd Lily ychydig yn anwydog yn ystod y gwyliau, ond ni chawsom unrhyw argyfyngau iechyd, diolch byth. Fodd bynnag, oherwydd bod Fietnam yn wlad drofannol, mae perygl o ddal malaria neu glefyd dengue, felly rydym yn cario chwistrell, llieiniau sychu a bandiau gwrth-fosgito i bobman gyda ni. Mae rhwyd fosgito’n atal Lily rhag cael ei chnoi yn ystod y nos. Gwiriwch gyda’ch meddyg teulu am unrhyw frechiadau sydd eu hangen arnoch er mwyn teithio i’ch cyrchfan a pheidiwch â’i gadael hi tan y funud olaf. Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod gennych gysylltiadau meddygol ar gyfer ble bynnag y byddwch yn aros, rhag ofn.

Ymdopi â straen

Mae teithio gyda baban neu blentyn ifanc yn gallu peri straen, felly peidiwch â bod ofn gofyn am help os oes angen. Mae llawer o bobl yn deall yr heriau sy’n gysylltiedig â theithio gyda phlant, felly peidiwch â phoeni os yw eich plentyn yn dechrau crio. Cofiwch beth rydych yn ei wneud adref neu pan ewch chi i’r siopau. Mae tynnu sylw’r plentyn yn gallu bod yn effeithiol ac, os oes dau oedolyn yn teithio, cymerwch dro yn ei gadw’n hapus.

Mwynhewch

Er bod teithiau hir yn gallu bod yn anodd, cofiwch fod ymweld â lle newydd yn gallu bod yn brofiad hyfryd i chi ac i’ch plentyn. Gwnewch y mwyaf o’r cyfle. Os gallwch fforddio gwneud, mae mynd ar wyliau yn cynnig cyfle i chi ymlacio a mwynhau profiadau newydd yng nghwmni eich gilydd. Fel chi, bydd eich plant yn mwynhau gweld lle newydd, cwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar fwyd newydd. Mae’n bwysig i ni fynd â Lily i Fietnam i dreulio amser gyda’i theulu gan nad ydym yn cael llawer o gyfle i’w gweld nhw. Mae pob taith yn creu atgofion gwerthfawr iddi hi ac i aelodau’r teulu. Gofynnwch am gyngor, paratowch yn drylwyr ac, yn bwysicach oll, mwynhewch eich hunain.