Neidio i'r prif gynnwy

Yr adroddiad hwn yw'r diweddariad cyntaf i adroddiad Llesiant Cymru. Mae'n cynnwys y data diweddaraf a, lle bo'n briodol, yn adrodd ar y cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

7 nod llesiantGosodwyd y 7 nod llesiant er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Maent wedi'u gosod yn y gyfraith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r adroddiad hwn yn asesu cynnydd yn erbyn y nodau cenedlaethol ar draws Cymru gyfan. Nid yw'n adroddiad am berfformiad unrhyw sefydliad, ond yn hytrach am y newidiadau rydym yn eu gweld gyda'n gilydd ar draws Cymru.

Mae adroddiad eleni yn cynnwys dadansoddiad ychwanegol ar lesiant plant. Rydym wedi rhoi crynodeb o'r canfyddiadau allweddol hynny mewn sleidiau ac wedi defnyddio'r rhannau perthnasol o'r adroddiad mewn dogfen ar wahân, sef 'Llesiant Cymru 2017-18: Beth ydym ni’n ei wybod am lesiant plant?'.

Prif bwyntiau

  • Mae disgwyliad oes wedi bod yn cynyddu dros y tymor hir ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r cynnydd hwnnw wedi arafu, a hyd yn oed stopio. Mae’r cyfnod a dreulir mewn iechyd da wedi bod yn cynyddu, ond mae anghydraddoldeb yn parhau ar draws y gwahanol grwpiau.
  • Yn gyffredinol, mae un o bob deg person yn dilyn llai na dau ymddygiad iach o ran eu ffordd o fyw, ac ychydig o newid a welwyd yn unrhyw un o'r pum prif ymddygiad iach dros y flwyddyn ddiwethaf. 
  • Gwelwyd cynnydd da dros y tymor canolig mewn meysydd fel bwydo ar y fron ac iechyd deintyddol, ond mae gordewdra ymysg plant yn parhau i fod yn her, ac wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae perfformiad cyffredinol marchnad lafur Cymru wedi parhau i fod yn gryf, gyda bylchau rhwng cyfraddau cyflogaeth ac anweithgarwch Cymru a'r DU yn parhau i fod yn isel mewn termau hanesyddol. Fel sy'n wir am economi'r DU yn ehangach, mae twf cyflogau wedi parhau i fod yn wan o gymharu â'r tuedd tymor hir.
  • Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi parhau i leihau, ac mae bellach ar y lefel isaf ar gofnod yng Nghymru. Ond mae ein dangosydd yn dynodi bod benywod yn llai debyg na gwrywod i fod mewn gwaith o ansawdd da. Mae bwlch sylweddol o hyd mewn canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl. 
  • Mae cyrhaeddiad addysgol yn parhau i godi, ac mae mwy o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn parhau i fod yn un o'r prif resymau dros anghydraddoldebau ar gyfer rhai canlyniadau fel cyrhaeddiad addysgol. 
  • Mae tlodi incwm cymharol wedi parhau'n gyson ers dros ddegawd, ac mae ar ei uchaf ymysg plant. Amcangyfrifir bod llai o bobl mewn amddifadedd materol na tlodi incwm cymharol. 
  • Mae'r dangosyddion cydlyniant cymunedol yn weddol newydd, felly ychydig o newid sydd i'w weld hyd yma. Mae synnwyr pobl o gymuned a pherthyn yn dibynnu ar amrywiol ffactorau, er bod yr holl ddangosyddion yn gysylltiedig â statws economaidd-gymdeithasol neu amddifadedd. Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o bobl yn fodlon gyda'r ardal lle maent yn byw, er bod bron i un o bob pump yn teimlo'n unig. 
  • Er gwaetha rhywfaint o gynnydd, mae pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwleidyddiaeth. Mae hil yn parhau i fod yn elfen sy'n ysgogi bron i dri chwarter yr holl droseddau casineb, ac mae nifer yr achosion o droseddau yn ymwneud â hil sy'n cael eu cofnodi yn cynyddu. 
  • Mae nifer o oedolion yn mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ond mae hyn yn amrywio gyda oed a chefndir. Er bod newid i ffynhonnell y data, mae'r tueddiadau ar gyfer y ddau wedi bod yn codi.
  • Mae un o bob pump yn siarad Cymraeg a mae hyn wedi bod yn gyson dros blynyddoedd diweddar, er bod cynnydd yn nifer y rhai sy'n siarad “ychydig o eiriau”. Mae'r defnydd o'r iaith wedi aros yn gyson.
  • Er bod allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gostwng yn y tymor hir, mae'r data diweddaraf yn dangos cynnydd mewn allyriadau yn 2016 o gymharu â 2015. Mae llygredd aer yn parhau i fod yn fater iechyd sylweddol. 
  • Gwelwyd cynnydd o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan gynnwys dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond mae ein hôl troed ecolegol yn awgrymu bod ein prif adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio'n gynt nag y gellir eu hailgyflenwi.
  • Er bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos rhai tueddiadau cadarnhaol mewn perthynas ag amgylchedd Cymru, mae'r asesiad cynhwysfawr diwethaf o adnoddau naturiol Cymru yn dangos bod amrywiaeth biolegol yn dirywio'n gyffredinol, ac nid oes modd dweud bod gan unrhyw ecosystem yng Nghymru yr holl nodweddion sydd eu hangen i wrthsefyll hyn.

Pam ein bod wedi llunio adroddiad ar wahân ar gyfer plant?

Nid yw Arolwg Cenedlaethol Cymru, ffynhonnell 14 o'r dangosyddion, yn edrych ar blant dan 16 oed. Ar gyfer rhai dangosyddion rydym wedi defnyddio mesurau gwahanol, ond tebyg, o ffynonellau eraill (er enghraifft llesiant meddyliol neu arolwg chwaraeon ysgolion). Mewn ymateb i'r adborth a ddaeth i law wrth ymgynghori ar y dangosyddion cenedlaethol, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i ddefnyddio'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion i ddatblygu ein dadansoddiad o lesiant plant mewn meysydd fel unigrwydd a chanfyddiad am ddiogelwch. Mae adroddiad eleni felly yn cynnwys dadansoddiad ychwanegol ar lesiant plant yn seiliedig ar y ffynhonnell hon, yn ogystal ag Astudiaeth Carfan y Mileniwm a ffynonellau eraill fel data ar blant mewn aelwydydd di-waith o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ac asesiad dechreuol y Cyfnod Sylfaen. 

Dangosyddion Cenedlaethol

Mae'r adroddiadau sydd â disgrifiad a siart o'r tueddiadau diweddar yn erbyn pob un o 46 dangosydd cenedlaethol. Ceir dolenni at y ffynonellau data a, lle bo hynny ar gael, cyhoeddiadau ystadegol lle caiff y dangosyddion eu dadansoddi yn fanylach.

StatsCymru

Mae'r data a ddefnyddiwyd i fesur y dangosyddion cenedlaethol ar gael yn bennaf ar wefan StatsCymru. Rhoddir rhagor o fanylion yn ôl ardal ddaearyddol neu grŵp poblogaeth lle bynnag y bo'n bosib. 

Adroddiadau

Llesiant Cymru, 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Llesiant Cymru, 2018: beth rydyn ni’n ei wybod am lesiant plant? , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 956 KB

PDF
956 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adroddiad ansawdd ar gyfer gwybodaeth gyd-destunol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 409 KB

PDF
409 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Llesiant Cymru, 2018: Siartiau a data perthnasol , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 441 KB

XLSX
441 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data atodol cynhwysir yn yr Adroddiad Llesiant, 2018 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 48 KB

XLSX
48 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd

Rhif ffôn: 0300 025 6691

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.