Neidio i'r prif gynnwy

1. Cefndir

Mae’r data a gynhwysir yn seiliedig ar yr Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o gartrefi gofal i oedolion sy’n ymwneud â'i phreswylwyr. Gall y lleoliad o farwolaeth bod o fewn y cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall. 

Cyhoeddir y data hwn i sicrhau bod mynediad i ddata AGC yn dryloyw ac i roi syniad amserol o'r tueddiadau ar gyfer pob marwolaeth o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru, os yw’n achos o COVID-19 neu arall. Serch hynny mae AGC yn ddibynnol ar y darparwyr i hysbysu ac i allu mynegi bod y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID-19. Mae’r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cynnwys pob marwolaeth sydd yn gysylltiedig â COVID-19 yn ôl y dystysgrif marwolaeth, yn adrodd niferoedd uwch o farwolaethau oherwydd COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda AGC a SYG i ymchwil ansawdd y data hwn.

Mae’r data yn y datganiad yma yn seiliedig ar ddyddiad yr hysbysiad yn hytrach na dyddiad y farwolaeth. Mae hysbysiadau i AGC am achosion marwolaeth yn cael ei adrodd gan y darparwr cartref gofal. Nid yw'r rhain yn seiliedig ar brofion a gadarnhawyd yn y labordy, ac felly nid oes modd eu cymharu yn uniongyrchol gyda data Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Yn ei dangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym, mae ICC yn cynnwys rhai hysbysiadau a dderbyniwyd o gartrefi gofal gyda phrawf am COVID-19 sydd wedi’i gadarnhau gan labordy. O ganlyniad, ni all y data yma cael eu hadio at ei gilydd. Byddwn yn gweithio gyda ICC ac AGC i ddeall yr orgyffwrdd yma a cheisio mesur faint o'r marwolaethau hyn sydd wedi'u chynnwys yn amcangyfrifon ICC.

Mae’r data a gynhwysir yn y datganiad yma yn gywir ar 23:59 Mai 1.

2. Prif ffigurau cenedlaethol

Prif ganlyniadau

  • Mae’r AGC wedi derbyn hysbysiad o 1,892 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers Mawrth 1 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19.
  • Mae hyn 92% yn uwch na’r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 50% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.
  • Roedd 71% o’r cyfanswm o farwolaethau ers Mawrth 1 2020 am breswylwyr oedd yn derbyn gofal gyda nyrsio. 

Mae’r AGC wedi derbyn hysbysiad o 1,892 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers Mawrth 1af 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19. Mae hyn 92% yn uwch na’r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 50% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.

Siart 1: Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr a dderbyniwyd o gartrefi gofal i oedolion, gan gynnwys marwolaethau o bob achos (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 7 Ionawr i 1 Mai 2020 (MS Excel)

Tabl 1: Y cyfanswm o farwolaethau preswylwyr a dderbyniwyd i AGC o gartrefi gofal i oedolion, 1 Mawrth i 1 Mai 2020 wedi’i gymharu â’r un cyfnod dwy flynedd yn gynt
Y gofal a ddarparwyd 1 Mawrth i 1 Mai 2018 1 Mawrth i 1 Mai 2019 1 Mawrth i 1 Mai 2020
Gyda nyrsio 783 658 1,343
Heb nyrsio 481 329 549
Cyfanswm 1,264 987 1,892

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn y siart yn cynnwys achosion sydd wedi’i gadarnhau ac achosion bosib o COVID-19. Mae’r siart yn dangos cynnydd yn farwolaethau sydd yn gysylltiedig â COVID-19 ac sydd ddim yn achos o COVID-19 ers canol mis Mawrth.

Marwolaethau preswylwyr cartrefi gofal a hysbyswyd i AGC yn ôl achos marwolaeth a dyddiad yr hysbysiad (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 1 March to 1 May 2020 (MS Excel)

Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn y siart yn cynnwys achosion sydd wedi’i gadarnhau ac achosion bosib o COVID-19.

Rhwng 1 Mawrth a 1 Mai 2020:

  • cafodd AGC hysbysiad o 418 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 22% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd.
  • cafodd 126 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 292 fel achosion bosib o COVID-19.
  • roedd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 a hysbyswyd i AGC ar 16 Mawrth, a ddigwyddodd mewn lleoliad ysbyty

Mae’r siart yn dangos cyfartaledd treigl 7 diwrnod o achosion posib a cadarnhaol o farwolaethau COVID-19 yn ôl lleoliad o farwolaeth. Mae pob lleoliad wedi gweld cynnydd ers canol mis Mawrth.

Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal i oedolion gydag achos cadarnhaol neu phosib o COVID-19 yn ôl lleoliad o farwolaeth a dyddiad yr hysbysiad (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 7 Mawrth i 1 Mai 2020 (MS Excel)

Tabl 2: Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion gydag achos cadarnhaol neu phosib o COVID, yn ôl lleoliad o farwolaeth, 1 Mawrth i 1 Mai 2020
Ambiwlans 2
Yn y gwasanaeth 295
Yr ysbyty 115
Hosbis 1
Arall 4
Cartref ei hunain 1
Anhysbys 0
Cyfanswm 418

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Rhwng 1 Mawrth a 1 Mai 2020:

  • roedd 71% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn y cartref gofal
  • roedd 28% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn yr ysbyty

3. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata ar farwolaethau mewn cartrefi gofal sydd wedi’i achosi gan y coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o farwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i’r AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Perthnasedd

Fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer darparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, mae'n ofynnol yn statudol i ddarparwyr hysbysu marwolaethau preswylwyr i AGC. Hefyd, defnyddir yr ystadegau hyn yn ddyddiol at nifer o ddibenion eraill:

  • i ddeall yr effaith o’r pandemig ar gartrefi gofal
  • i gefnogi cyngor ar sail dystiolaeth am benderfyniadau dyfodol ynghylch adolygiadau o drefniadau cyfyngiad symud
  • cyfraniadau at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled Cymru a’r DU

Cywirdeb

Caiff data ei gasglu yn ddyddiol trwy ffurflen ar-lein sydd wedi’i ddatblygu a chynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Dilyswyd y data yn erbyn datganiadau blaenorol a chwestiynwyd unrhyw newidiadau sylweddol.

Mae’r data yn cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at ganol nos pob diwrnod.

Mae’r casgliad data yn ymwneud â phreswylwyr o gartrefi gofal i oedolion.

Mae’n ofynnol i gartrefi gofal hysbysu i AGC am y lleoliad ac achosion marwolaeth. Cyn 29 Ebrill 2020 roedd hyn drwy flwch testun rhydd ac mae AGC wedi defnyddio chwiliadau â law ar y data i gynhyrchu crynodebau yn ôl categori. Ers 29 Ebrill 2020 mae’r ffurflen wedi’i diwygio i gynnwys categorïau blwch ticio gorfodol ar gyfer achosion cadarnhaol neu posib o COVID-19, ac i gynnwys lleoliad (ysbyty, cartref gofal, hosbis, ambiwlans, arall). O ganlyniad mae yna newid i’r fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu’r ffigurau ers 29 Ebrill 2020.

O ran yr achosion ‘Cadarnhaol’ COVID-19, o Ebrill 29 ymlaen, mae'r darparwr cartrefi gofal wedi rhoi gwybod i AGC drwy ateb y cwestiwn: 'A oedd y farwolaeth wedi cael ei chadarnhau fel canlyniad o COVID-19?'.

Cyn y dyddiad hwn, ni ofynnwyd y cwestiwn yma i ddarparwr cartrefi gofal ac felly 'Cadarnhaol' ar gyfer y rhain yw lle mae arolygwyr AGC wedi adolygu'r data testun rhydd a hysbyswyd gan ddarparwr y cartref gofal (ar sail cwestiynau ‘achosion marwolaeth y person, os yw'n hysbys ac wedi'i gadarnhau gan ymarferydd meddygol’ a 'crynodeb o'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth y person a'r holl ffactorau sy'n cyfrannu') a phenderfynu ei fod yn ymwneud ag achos a gadarnhawyd.

Yn y ddwy senario, mae AGC yn ddibynnol ar y darparwr cartref gofal i'w hysbysu'n briodol o achos a gadarnhawyd.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o Fawrth 1 2020 ymlaen, ac ar gyfer yr un cyfnod ddwy flynedd yn gynt.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau ac Ymchwil o ein gwefan. Mae Taenlen Dogfen Agored yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ôl i'r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymharedd

Cyhoeddwyd data ar gyfer Lloegr am y tro cyntaf ar 28 Ebrill 2020.

Mae'r Prif Ystadegydd wedi cynhyrchu blog o'r gwahanol ffynonellau data ar farwolaethau cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd.

Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Hynny yw, Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd rhoi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Ar hyn o bryd, datganiad ystadegol wythnosol yw hwn. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 9.30yb bob dydd Mawrth. Byddwn yn adolygu'r amlder yn unol ag newidiadau mewn anghenion defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf ddydd Mawrth 12 Mai.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at kas.covid19@llyw.cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stefanie Taylor
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 39/2020