Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata yn ymwneud â coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd a chyfrifiadau dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau gan ddarparwyr cartrefi gofal i AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Mae’r datganiad hwn bellach yn cynnwys gwybodaeth ar y nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd ag un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf i AGC. Mae’r data yn dangos dim ond y nifer o gartrefi gofal sydd wedi rhoi gwybod i AGC am achos o COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith eu staff neu ddefnyddwyr gwasanaeth (preswylwyr) ac nid yw’n dangos y cyfanswm nifer o achosion coronafeirws ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Gan fod y data yn dangos y nifer o gartrefi gofal sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 yn y 7 diwrnod neu 20 diwrnod diwethaf, nid ydynt yn dangos a oes achos o coronafeirws yn y gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae’r data yn dibynnu ar adroddiadau cyson a manwl gywir gan ddarparwyr cofrestredig. Mae'r data hyn wedi cael eu casglu i lywio gweithgareddau a phenderfyniadau rheoleiddio AGC, ac mae'n eu galluogi i fonitro'r cartrefi gofal gydag achosion o COVID-19.

O 9 Ebrill 2021, newidiodd AGC amlder y data y maent yn eu cyflenwi i Lywodraeth Cymru ar y nifer o gartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un achos o COVID-19 neu fwy. Yn lle eu darparu yn ddyddiol, mae’r data yn awr yn cael eu darparu’n wythnosol ar ddydd Iau. Y rheswm dros wneud y newid hwn yw oherwydd mai ychydig iawn o newid sydd yn y data o ddydd i ddydd. Felly, mae symud o adrodd yn ddyddiol i wythnosol wedi galluogi i AGC ryddhau peth o’r capasiti arolygu, o wirio data yn ddyddiol, gan eu galluogi i ddychwelyd i gynyddu amlder arolygon gwasanaeth. Yr unig ddata a gafodd eu heffeithio gan y newid hwn oedd y data hysbysiadau o achosion. Yn flaenorol roeddem yn adrodd ar y nifer o achosion COVID-19 yn y 7 neu 20 diwrnod diwethaf yn seiliedig ar ddata ar y dydd Gwener, ond o 9 Ebrill rydym nawr yn cyfeirio at y data ar y dydd Iau. Mae data dyddiol o’r cyfnod cyn 9 Ebrill 2021 wedi’u harddangos yn Siart 1 a’u darparu ar StatsCymru i roi darlun llawn o’r data sydd ar gael. Ar ôl 9 Ebrill 2021 mae data wythnosol yn cael eu harddangos sy’n lleihau’r amrywiadau yn y data a ddangosir yn y siartiau.

I sicrhau cysondeb gyda’r data achosion, rydym hefyd wedi symud y data nifer dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion i ddydd Iau, yn hytrach na dydd Gwener, ond mae hyn yn aros fel data dyddiol.

Prif ganlyniadau

  • Mae 5 o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi rhoi gwybod i AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 7 diwrnod diwethaf.
  • Mae 19 o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi rhoi gwybod i AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 20 diwrnod diwethaf.
  • Mae nifer y cartrefi gofal i oedolion sydd wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd, ymhlith staff neu breswylwyr, yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf wedi gostwng yn gyffredinol ers Ionawr 2021 ac maent nawr ar eu lefelau isaf ers dechrau’r cyfnod adrodd ar 16 Rhagfyr 2020.
  • Mae AGC wedi derbyn hysbysiad o 9,036 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid COVID-19 yn unig.
  • Roedd 67% o’r cyfanswm o farwolaethau ers 1 Mawrth 2020 am breswylwyr mewn cartrefi gofal gyda nyrsio.
  • Mae AGC wedi derbyn hysbysiad o 1,920 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19 ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn ffurfio 21% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd ymysg preswylwyr mewn cartrefi gofal oedolion yn ystod y cyfnod hwn.
  • Nid oes unrhyw farwolaethau preswylwyr gofal cartref sy'n gysylltiedig â COVID-19 wedi’u hamau neu gadarnhau wedi’u hadrodd ers 26 Mawrth 2021.

Hysbysiadau o achosion

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf. Mae nifer y cartrefi gofal i oedolion hefyd yn cynnwys data ar gyfer cartrefi gofal oedolion a phlant cyfun. Nid yw’r data’n cynnwys y nifer cyfredol o achosion COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion nac yn rhoi gwybod a oes achos yn y cartref ar hyn o bryd.

O 9 Ebrill 2021, mae AGC wedi newid amlder cyflwyno data i Lywodraeth Cymru ar y nifer o gartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un achos o COVID-19 neu fwy. Yn lle eu darparu yn ddyddiol, bydd y data yn awr yn cael eu cyhoeddi’n wythnosol ar Ddydd Iau. Mae data dyddiol o cyn 9 Ebrill 2021 wedi’u harddangos yn Siart 1 i roi darlun llawn o’r data sydd ar gael. Ar ôl 9 Ebrill 2021 data wythnosol fydd yn cael eu harddangos, sy’n lleihau’r amrywiadau yn y data.

Image
Mae Siart 1 yn dangos y nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi hysbysu AGC am achos COVID-19 a gadarnhawyd yn y 7 a 20 diwrnod diwethaf hyd 06 Mai 2021. Mae 5  o gartrefi gofal i oedolion wedi rhoi gwybod yn y 7 diwrnod diwethaf a 19 wedi rhoi gwybod yn y 20 diwrnod diwethaf.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes.

Yng Nghymru mae 1,049 o gartrefi gofal i oedolion ac 17 o gartrefi gofal i oedolion a phlant. O’r rhain hyd 6 Mai 2021:

  • Mae 5 (0.5%) wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd, ymhlith staff neu breswylwyr, yn y 7 diwrnod diwethaf. Nid yw hyn wedi newid o’r wythnos a ddaeth i ben ar 29 Ebrill 2021. Mae nifer yr hysbysiadau nawr ar yr isaf ers dechrau’r cyfnod adrodd.  
  • Mae 19 (1.8%) wedi hysbysu AGC am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr yn y 20 diwrnod diwethaf.  Mae hyn yn leihad o gymharu â 23 (2.2%) yn y 20 diwrnod hyd 29 Ebrill 2021.Mae nifer yr hysbysiadau nawr ar yr isaf ers dechrau’r cyfnod adrodd.

Hysbysiadau o farwolaethau

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r nifer o farwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i AGC.

O 9 Ebrill 2021, newidiodd AGC amlder cyflwyno data i Lywodraeth Cymru ar y nifer o gartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un achos o COVID-19 neu fwy. Yn lle eu darparu yn ddyddiol, mae’r data yn awr yn cael eu darparu’n wythnosol ar ddydd Iau. I sicrhau cysondeb, o’r dyddiad yma, symudwyd y data marwolaethau i ddata ar y dydd Iau, yn hytrach na’r dydd Gwener, ond mae’r data yn parhau i fod yn ddata dyddiol.

Image
Mae’r AGC wedi derbyn hysbysiad o 9036 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19. Mae hyn 19% yn uwch na’r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 35% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Ychwanegwyd cyfartaledd cyfartaleddau treigl 7 diwrnod 2018 a 2019 fel cymhariaeth â data 2020 a 2021.

Oherwydd y flwyddyn naid yn 2020, cyfartaledd 28 Chwefror a 1 Mawrth 2018 a 2019 yw’r data ar gyfer 29 Chwefror.

Mae data dyddiol ond ar gael o 1 Ionawr 2018, felly cyfartaledd 7 diwrnod rhwng 1 a 7 Ionawr 2018 gan ddefnyddio'r dyddiau lle mae'r data ar gael. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran ansawdd a methodoleg.

  • Rhwng 1 Mawrth 2020 a 6 Mai 2021, hysbyswyd AGC am 9,036 o farwolaethau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achos, nid COVID-19 yn unig.
  • Cynyddodd yr hysbysiadau o farwolaethau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion yn sydyn o ddechrau mis Ebrill 2020 hyd at ddechrau mis Mai 2020 i'r lefel uchaf ers dechrau'r pandemig. Ar ôl hyn fe wnaethant ostwng i lefelau sy'n agos at y lefelau cyn y pandemig ac, yn gyffredinol, roeddent yn dilyn yr un duedd â chyfartaledd 2018 a 2019 tan ddiwedd mis Hydref 2020.
  • Rhwng dechrau mis Tachwedd 2020 a diwedd mis Rhagfyr 2020, roedd yr hysbysiadau'n dilyn tuedd debyg i gyfartaledd 2018 a 2019 ond roedd y niferoedd yn gyson uwch. Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021 gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer yr hysbysiadau ond roedd hyn yn parhau'n is na'r uchafbwynt yn 2020. Ers 1 Mawrth 2021, mae nifer yr hysbysiadau wedi gostwng ac yn gyffredinol wedi bod yn is na chyfartaledd 2018 a 2019.
Image
Roedd 67% o farwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion wedi'u lleoli mewn cartrefi gofal â nyrsio. Roedd 33% o'r marwolaethau wedi'u lleoli mewn cartrefi gofal heb nyrsio.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Ceir dadansoddiad llawn o'r holl ddata o 1 Ionawr 2018 ar StatsCymru. Yn ystod 2019, roedd gwasanaethau cartrefi gofal yn cael eu hail-gofrestru gyda AGC o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd, a chyflwynodd dull newydd o hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal. Gallai fod hyn wedi amharu ar yr hysbysiadau a gyflwynwyd. 

Rhwng 1 Mawrth 2020 a 6 Mai 2021 hysbyswyd AGC am 6,094 o farwolaethau (67%) â nyrsio a 3,069 o farwolaethau (33%) heb nyrsio ymhlith preswylwyr cartrefi gofal i oedolion.

Image
Cafodd AGC hysbysiad o 1920 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 21% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd. Cafodd 1407 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 513 fel achosion bosib o COVID-19. • Roedd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 a hysbyswyd i AGC ar 16 Mawrth 2020, a ddigwyddodd mewn lleoliad ysbyty.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn y siart yn cynnwys achosion sydd wedi’u cadarnhau ac achosion posib o COVID-19. Ehangwyd y polisi profi cartrefi gofal ar 16 Mai i gynnwys cynnig profion i bob aelod o staff a phob preswyliwr sy’n symptomatig ac asymptomatig a nad ydynt erioed wedi profi'n bositif am COVID-19, hyd yn oed lle nad yw'r cartref wedi rhoi gwybod am achosion posibl neu wedi eu cadarnhau. Gallai profion mwy eang fod wedi arwain at rai marwolaethau'n cael eu cofnodi fel marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID-19 pan fyddant o'r blaen efallai wedi cael eu cyhoeddi fel rhai a amheuir o farwolaeth COVID-19.

Rhwng 1 Mawrth 2020 a 6 Mai 2021

  • Cafodd AGC hysbysiad o 1,920 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 21% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd.
  • Cafodd 1,407 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 513 fel achosion bosib o COVID-19.
  • Roedd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 a hysbyswyd i AGC ar 16 Mawrth 2020, a ddigwyddodd mewn lleoliad ysbyty.
  • Ar ddechrau mis Tachwedd 2020, bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 a hysbyswyd i AGC. Bu cynnydd pellach ym mis Ionawr 2021 a oedd yn uwch na'r nifer a welwyd ar ddiwedd mis Ebrill 2020.
  • Nid yw AGC wedi cael gwybod am unrhyw farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 ers 26 Mawrth 2021.
Image
Roedd 69% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn y cartref gofal. Roedd 29% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn yr ysbyty.

Hysbysiadau i Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwneud â COVID-19 mewn cartrefi gofal oedolion ar StatsCymru

Tabl 1: Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion gydag achos cadarnhaol neu phosib o COVID, yn ôl lleoliad y farwolaeth, 1 Mawrth 2020 i 6 Mai 2021
Ambiwlans 2
Yn y gwasanaeth 1,319
Yr ysbyty 564
Hosbis 4
Arall 15
Cartref ei hunain 16
Anhysbys 0
Cyfanswm 1,920

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Rhwng 1 Mawrth 2020 a 6 Mai 2021

  • Roedd 69% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’u lleoli yn y cartref gofal.
  • Roedd 29% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’u lleoli yn yr ysbyty.

Cefndir

Mae’r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y dyddiad hysbysu yn hytrach na dyddiad cadarnhau’r achos COVID-19 neu dyddiad y farwolaeth. Mae hysbysiadau i AGC am achosion a gadarnhawyd ac achosion marwolaeth yn cael eu hadrodd gan ddarparwr y cartref gofal. Oherwydd y patrymau gwaith, mae tueddu i fod llai o hysbysiadau o achosion COVID-19 a gadarnhawyd neu farwolaethau yn ystod y penwythnosau o’i gymharu â dydd Llun i ddydd Gwener. Yn aml mae mwy o hysbysiadau ar ddydd Llun.

Hysbysiadau o achosion COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion

Mae’r data a gyflwynir yma yn seiliedig ar yr hysbysiadau o achosion a gadarnhawyd y mae AGC wedi’u cael gan gartrefi gofal i oedolion, sy’n ymwneud â’u staff neu ddefnyddwyr gwasanaeth (preswylwyr). Dim ond yn seiliedig ar ganlyniad prawf positif gan labordy y bydd angen i ddarparwr y cartref gofal roi gwybod i AGC. Efallai y bydd oedi rhwng cadarnhau achos o COVID-19 a phan fydd y darparwyr cartrefi gofal yn hysbysu AGC. Mae’r nifer o achosion COVID-19 a gadarnhawyd y cyfeirir atynt yma yn wahanol i’r nifer o achosion newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid yw’n bosibl cymharu’r ffynonellau data hyn yn uniongyrchol oherwydd y gwahaniaeth mewn amseru a lefel y dilysiad a gynhaliwyd. Rydym yn cyhoeddi’r data hwn i sicrhau bod mynediad at ddata AGC yn dryloyw ac yn rhoi awgrym amserol o’r tueddiadau ar gyfer pob hysbysiad o achosion COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Fodd bynnag, mae AGC yn dibynnu ar gael gwybodaeth gyson a manwl gywir gan ddarparwyr. Mae AGC wedi gofyn i ddarparwyr eu hysbysu heb unrhyw oedi ond mae’n bwysig nodi:

  • nad yw’r data yn rhoi gwybod inni beth yw’r nifer cyfredol o achosion a gadarnhawyd mewn unrhyw wasanaeth (cartref gofal i oedolion)
  • bod y data mor gywir â’r wybodaeth a roddwyd gan y darparwr
  • bod darparwyr yn rhoi gwybod am achosion a gadarnhawyd o 19 Awst 2020 ymlaen yn unig

Hysbysiadau o farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion

Mae’r data a gynhwysir yn seiliedig ar yr Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan AGC o gartrefi gofal i oedolion sy’n ymwneud â'i phreswylwyr. Gall y lleoliad y farwolaeth fod o fewn y cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall. Nid yw'r data yn seiliedig ar brofion a gadarnhawyd yn y labordy, ac felly nid oes modd eu cymharu yn uniongyrchol gyda data Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Yn ei dangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym, mae ICC yn cynnwys rhai hysbysiadau a dderbyniwyd o gartrefi gofal gyda phrawf am COVID-19 sydd wedi’i gadarnhau gan labordy. O ganlyniad, ni all y data yma cael eu hadio at ei gilydd.

Cyhoeddir y data hwn i sicrhau bod mynediad i ddata AGC yn dryloyw ac i roi syniad amserol o'r tueddiadau ar gyfer pob marwolaeth o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru, os yw’n achos o COVID-19 neu arall. Serch hynny mae AGC yn ddibynnol ar y darparwyr i hysbysu ac i allu mynegi bod y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID-19. Mae’r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cynnwys pob marwolaeth sydd yn gysylltiedig â COVID-19 yn ôl y dystysgrif marwolaeth, yn adrodd niferoedd uwch o farwolaethau oherwydd COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda AGC a SYG i ymchwilio i ansawdd y data hwn.

Mae’r data a gynhwysir yn y datganiad yma yn gywir ar 23:59 6 Mai 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata ar achosion a gadarnhawyd a marwolaethau mewn cartrefi gofal sydd wedi’i achosi gan y coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o achosion a gadarnhawyd a marwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i’r AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Perthnasedd

Fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer darparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, mae'n ofynnol yn statudol i ddarparwyr hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr. Mae’n ofynnol yn statudol i ddarparwyr cartrefi gofal hefyd roi gwybod i AGC am unrhyw frigiadau o achosion o glefydau heintus fel COVID-19. Mae AGC wedi gofyn i ddarparwyr cartrefi gofal roi gwybod iddo am bob achos o COVID-19 a gadarnhawyd mewn preswylwyr neu staff yn y cartref gofal, ond does dim gofyniad statudol i wneud hyn. Hefyd, defnyddir yr ystadegau hyn yn ddyddiol at nifer o ddibenion eraill:

  • i roi gwybodaeth i AGC i hysbysu ei weithgareddau a phenderfyniadau rheoleiddio
  • i ddeall effaith y pandemig ar gartrefi gofal
  • i gefnogi cyngor ar sail tystiolaeth am benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adolygiadau o drefniadau cyfyngiadau symud
  • cyfraniadau at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled Cymru a’r DU

Cywirdeb

Mae data dyddiol ond ar gael o 1 Ionawr 2018, felly cyfrifwyd y cyfartaledd 7 diwrnod rhwng 1 a 7 Ionawr 2018 gan ddefnyddio'r dyddiau lle mae'r data ar gael. Er enghraifft, ar gyfer 1 Ionawr 2018, dyma fydd y data ar y dyddiad hwn. Ar gyfer 2 Ionawr 2018, dyma fydd cyfartaledd y 2 ddiwrnod blaenorol, mae hyn yn parhau tan 7 Ionawr 2018 pan ellir cyfrifo'r cyfartaledd 7 diwrnod llawn sydd wedyn yn parhau drwy gydol y gyfres amser.

O 9 Ebrill 2021, newidiodd AGC amlder cyflwyno data i Lywodraeth Cymru ar y nifer o gartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un achos o COVID-19 neu fwy. Yn lle eu darparu yn ddyddiol, mae’r data yn awr yn cael eu darparu’n wythnosol ar Ddydd Iau. Y rheswm dros wneud y newid hwn oedd oherwydd mai ychydig iawn o newid sydd yn y data o ddydd i ddydd. Felly, mae symud o adrodd yn ddyddiol i wythnosol wedi galluogi i AGC ryddhau peth o’r capasiti arolygu, o wirio data yn ddyddiol, gan eu galluogi i ddychwelyd i gynyddu amlder arolygon gwasanaeth. Yr unig ddata a gafodd eu heffeithio gan y newid hwn oedd y data hysbysiadau o achosion. Yn flaenorol roeddem yn adrodd ar y nifer o achosion COVID-19 yn y 7 neu 20 diwrnod diwethaf yn seiliedig ar ddata ar y dydd Gwener, ond o 9 Ebrill ymlaen rydym nawr yn cyfeirio at y data ar y dydd Iau. Mae data dyddiol o’r cyfnod cyn 9 Ebrill 2021 wedi’u harddangos yn Siart 1 a’u darparu ar StatsCymru i roi darlun llawn o’r data sydd ar gael. Ar ôl 9 Ebrill 2021 mae data wythnosol yn cael eu harddangos sy’n lleihau’r amrywiadau yn y data a ddangosir yn y siartiau.

I sicrhau cysondeb gyda’r data achosion, rydym hefyd wedi symud y data nifer dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion i ddydd Iau, yn hytrach na dydd Gwener, ond mae hyn aros fel data dyddiol. Mae’r newid hwn hefyd wedi’i wneud i’r ffigurau a gyhoeddwyd ar StatsCymru gyda’r datganiad hwn.

Gall nifer y cartrefi gofal i oedolion yn yr adroddiad hwn amrywio. Mae hyn o ganlyniad i gofrestru cartrefi gofal i oedolion am y tro cyntaf neu gau cartrefi gofal eraill. Er enghraifft, yn ystod mis Tachwedd 2020, tynnwyd 6 cartref gofal i oedolion oddi ar y rhestr a chymeradwywyd 4 cartref o’r newydd. Ar gyfer hysbysiadau o achosion COVID-19 a gadarnhawyd mewn cartrefi gofal i oedolion, bydd data yn cael eu casglu yn wythnosol ar ffurflen ar-lein a ddatblygwyd ac a gynhelir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar gyfer hysbysiadau o farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal i oedolion, cesglir data yn ddyddiol drwy gyfrwng ffurflen ar-lein a ddatblygwyd ac a gynhelir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae’r data wedi’u dilysu yn erbyn datganiadau blaenorol a bydd unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu gwirio.

Caiff data ei gasglu yn ddyddiol trwy ffurflen ar-lein sydd wedi’i datblygu a’i chynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Dilyswyd y data yn erbyn datganiadau blaenorol a chwestiynwyd unrhyw newidiadau sylweddol.

Mae’r data yn cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at ganol nos pob diwrnod.

Mae’r casgliad data ar farwolaethau yn ymwneud â phreswylwyr o gartrefi gofal i oedolion.

Mae data am achosion o COVID-19 yn ymdrin â nifer y cartrefi gofal sydd wedi adrodd achos, nid nifer yr achosion na nifer yr adroddiadau.

Mae’r data ar achosion COVID-19 yn ymwneud â phreswylwyr a staff yn y cartref

Mae’n ofynnol i gartrefi gofal hysbysu i AGC am leoliad ac achosion marwolaethau. Cyn 29 Ebrill 2020 roedd hyn drwy flwch testun rhydd ac mae AGC wedi defnyddio chwiliadau â llaw ar y data i gynhyrchu crynodebau yn ôl categori. Ers 29 Ebrill 2020 mae’r ffurflen wedi’i diwygio i gynnwys categorïau blwch ticio gorfodol ar gyfer achosion a gadarnhawyd/posib o COVID-19, ac i gynnwys lleoliad (ysbyty, cartref gofal, hosbis, ambiwlans, arall). O ganlyniad mae yna newid i’r fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu’r ffigurau ers 29 Ebrill 2020.

O ran yr achosion ‘a gadarnhawyd’ o COVID-19, o Ebrill 29 ymlaen, mae'r darparwyr cartrefi gofal wedi rhoi gwybod i AGC drwy ateb y cwestiwn: 'A oedd y farwolaeth wedi cael ei chadarnhau fel marwolaeth o ganlyniad i COVID-19?'.

Cyn y dyddiad hwn, ni ofynnwyd y cwestiwn yma i ddarparwr cartrefi gofal, felly 'a gadarnhawyd' ar gyfer y rhain yw lle mae arolygwyr AGC wedi adolygu'r data testun rhydd a roddwyd gan ddarparwr y cartref gofal (ar sail cwestiynau ‘achos marwolaeth y person, os yw'n hysbys ac wedi'i gadarnhau gan ymarferydd meddygol’ a 'crynodeb o'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth y person a'r holl ffactorau sy'n cyfrannu') a phenderfynu ei fod yn ymwneud ag achos a gadarnhawyd.

Yn y ddwy senario, mae AGC yn ddibynnol ar y darparwr cartref gofal i'w hysbysu'n briodol o achos a gadarnhawyd.

Yn dilyn y canllawiau cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 17 Rhagfyr 2020, gellir datgan bod brigiadau COVID-19 drosodd unwaith mae 20 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r unigolyn diwethaf i gael ei heffeithio neu ddangos symptomau. Rhaid i dimau aml-ddisgyblaethol ystyried amgylchiadau penodol cartrefi unigolion, yn cynnwys y prosesau Atal a Rheoli Haint sydd wedi’u gweithredu. Yn unol â’r canllawiau, mae AGC wedi adolygu ei adroddiad hysbysiadau dyddiol i newid y mesur 28 diwrnod blaenorol i fesur 20 diwrnod. Mae’r newid yma wedi’i adlewyrchu yn y data sydd wedi’u cyflwyno yn y datganiad hwn.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data hysbysiad o farwolaethau yn y datganiad hwn yn darparu data o 1 Ionawr 2018 ac ymlaen. Mae’r hysbysiad o ddata achosion COVID-19 a gadarnhawyd yn y datganiad hwn yn darparu data o 16 Rhagfyr 2020 ymlaen i ddechrau a byddwn yn ceisio cynnwys cyfres amser wedi’i ôl-ddyddio yn y man er mwyn adlewyrchu'r newid yn y canllawiau a ddigwyddodd ar 17 Rhagfyr 2020.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau ac Ymchwil o ein gwefan. Mae tablau StatsCymru yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ôl i'r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymharedd

Cyhoeddwyd data ar gyfer Lloegr am y tro cyntaf ar 28 Ebrill 2020.

Mae'r Prif Ystadegydd wedi cynhyrchu blog o'r gwahanol ffynonellau data ar farwolaethau cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd.

Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Hynny yw, Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd rhoi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb ddydd Mercher 25 Mai 2021.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at  kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 144/2021