Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

The Young Creators Project, Cardiff Council Youth Service

Cafodd y prosiect creawdwyr ifainc ei greu mewn ymateb i bobl ifanc, staff a phartneriaid yn cyfathrebu'r angen i ymgysylltu'n ddigidol â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a bod presenoldeb digidol wedi'i gyfyngu'n flaenorol i dudalen gwefan gorfforaethol.

Gan weithio gyda grŵp bach cychwynnol o ddim ond pedwar o bobl ifanc cwmpas y prosiect cychwynnol oedd i bobl ifanc weithio gyda datblygwr meddalwedd i ddatblygu sgiliau newydd a chyfrannu at ddylunio gwefan y Gwasanaeth Ieuenctid. Arweiniodd brwdfrydedd ac ymroddiad y grŵp at gynnydd mawr yn y niferoedd (21 ar hyn o bryd) a chwmpas ehangach. Ar hyn o bryd mae'r bobl ifanc hyn yn cymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau digidol creadigol sy'n rhoi datblygu cynnwys wrth wraidd y broses gyfranogi.

Ers hynny mae'r grŵp Creawdwyr Ifainc wedi trawsnewid presenoldeb digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Trwy gydol y nifer o brosiectau cyffrous y mae'r bobl ifanc wedi bod yn rhan ohonynt, maent wedi gallu mynegi eu hunain a'u barn yn y cynnwys y maent wedi bod yn ei greu.

Bu'r panel beirniadu nodi pa mor llwyddiannus y bu'r prosiect yn ei ddull o newid darpariaeth ar-lein y gwasanaethau ieuenctid a chanmol y ffaith ei fod yn ganlyniad o'r gwasanaeth ieuenctid a phobl ifanc yn gweithio gyda'i gilydd. Prosiect sy'n cael effaith enfawr, gyda photensial mawr ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.