Am y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid
Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu arfer eithriadol ym maes Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Mae 'Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion' yn nodi egwyddorion allweddol sy’n sylfaen i waith ieuenctid yng Nghymru. Cyn enwebu, rydym yn annog y rheini sy’n gwneud enwebiadau i gyfeirio at y ddogfen hon, gan feddwl sut y mae’r sawl a enwebir yn arddangos arferion eithriadol o ran pum piler Gwaith Ieuenctid.
Categorïau
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn berthnasol i weithwyr ieuenctid unigol, gweithwyr cymorth ieuenctid, gwirfoddolwyr, rheolwyr, prosiectau a grwpiau ar gyfer gwaith sy’n cael ei wneud mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid neu mewn lleoliadau eraill sy’n defnyddio dull gweithredu Gwaith Ieuenctid.
Mae categorïau’r gwobrau yn 2023 yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau strategol a geir yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru ac yn anelu at ddathlu’r amrywiaeth gyfoethog o waith ieuenctid yng Nghymru, gan gydnabod bod Gwaith Ieuenctid rhagorol yn cael ei ddarparu drwy'r sector gwirfoddol a sector yr awdurdodau lleol a thrwy amrywiaeth o leoliadau a dulliau Gwaith Ieuenctid.
Ni all pob sefydliad Gwaith Ieuenctid neu Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol gyflwyno mwy nag un enwebiad ym mhob un o'r categorïau a dim mwy na thri o enwebiadau ar draws pob categori.
Dim ond unwaith y cewch wneud cais am yr un prosiect. Dylid ystyried yn ofalus pa gategori sy'n gweddu orau i'r enwebiad.
Rhaid i'r holl enwebiadau fod ar gyfer gwaith sydd wedi digwydd rhwng Medi 2022 a Medi 2023.
Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth (2 gwobr)
Dangos rhagoriaeth ar lefel leol
Dangos rhagoriaeth ar lefel ranbarthol neu genedlaethol. (Prosiectau sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol)
Mae’r wobr hon yn cydnabod prosiectau neu wasanaethau sy'n dangos rhagoriaeth wrth weithio gydag ystod eang o bartneriaid; gwneud y mwyaf o’r sgiliau, yr wybodaeth a'r arbenigedd i gyflwyno cynnig Gwaith Ieuenctid holistig ac unedig i bobl ifanc, gan hyrwyddo Gwaith Ieuenctid y tu hwnt i’r sector er mwyn i ragor o bobl ddeall grym ac effaith gadarnhaol Gwaith Ieuenctid.
Gwobr arloesi digidol
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd yn yr arferion digidol sydd wedi’u cyflwyno ar draws y sector Gwaith Ieuenctid wedi cyflymu. Mae’r wobr hon yn cydnabod arferion Gwaith Ieuenctid gwych a’r effaith ar bobl ifanc o ganlyniad i arloesi digidol.
Gallai hyn gynnwys datblygiadau newydd ac arloesol ar gyfer timau a sefydliadau lle mae eu presenoldeb digidol yn swyddogaeth greiddiol iddynt; yn ogystal ag addasu’n llwyddiannus, ar gyfer sefydliadau neu dimau sydd wedi newid eu dull o weithio er mwyn gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd digidol newydd sydd ar gael.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn lleoliad gwaith ieuenctid
Mae’r wobr hon yn cydnabod prosiectau neu wasanaethau sy'n dangos rhagoriaeth wrth sicrhau bod cyfleoedd Gwaith Ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol. Hynny yw, rhoi ystyriaeth bwysig i faterion fel lleoliad gwasanaethau, ond hefyd bod yn hygyrch ac yn gynhwysol mewn ystyr ehangach i bob person ifanc.
Felly, bydd prosiectau cymwys yn adlewyrchu amrywiaeth o gefndiroedd, sawl hunaniaeth, profiadau ac anghenion pobl ifanc yng Nghymru/eu cymunedau. Byddant yn dangos sut y maent yn dileu rhwystrau i ymgysylltu a chyfranogi, a sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb, ac yn arbennig i'r bobl ifanc hynny a allai fod â phrofiad o gael eu hynysu, o fod ar gyrion cymdeithas, o gael eu hecsbloetio neu sydd â phrofiad o gamwahaniaethu, gan gynnwys y bobl ifanc sydd â nodwedd warchodedig.
Arweinyddiaeth
Mae’r wobr hon yn cydnabod arweinwyr teilwng mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd pobl ifanc ac wedi ysgogi a chymell eraill i wneud yr un peth. Nid yw’r wobr hon wedi’i chyfyngu i’r rheini sy’n dal swydd mewn awdurdod, rydym yn cydnabod yn fwriadol bod arweinyddiaeth yn digwydd ar bob lefel mewn sefydliad.
Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth o ragoriaeth o ran ysbrydoli timau, hybu diwylliant o wella drwy edrych yn ôl a hunanwerthuso a darparu atebion arloesol er mwyn ymateb i’r her o newid.
Gweithiwr ieuenctid eithriadol
Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolyn sydd wedi cyflawni gwaith rhagorol ym maes ieuenctid ac wedi cael effaith eithriadol ar fywydau pobl ifanc.
Rydym yn gofyn bod pob enwebiad yn cynnwys gwybodaeth ynghylch a yw’r person wedi'i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Fodd bynnag, ni fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon fel rhan o'r broses sgorio.
Gwaith gwirfoddol eithriadol mewn lleoliad gwaith ieuenctid
Mae’r wobr hon yn cydnabod gwirfoddolwr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Nodwch nad yw’r wobr hon wedi’u bwriadu ar gyfer myfyrwyr Gwaith Ieuenctid ar leoliad, oni bai bod y myfyriwr yn cyflawni dros ei oriau ac yn mynd y filltir nesaf.
Seren y Dyfodol
Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolion sy’n newydd i’r proffesiwn ond sy’n dangos addewid a photensial. I fod yn gymwys ar gyfer y categori hwn, rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi mewn Gwaith Ieuenctid am lai na dwy flynedd.
Arloesedd yn y Gymraeg
Mae’r wobr hon yn cydnabod prosiectau neu wasanaethau sy’n arddangos arfer eithriadol ym maes Gwaith Ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg ac effaith fawr ar bobl ifanc. Bydd y beirniad yn edrych am dystiolaeth o arloesedd wrth ddarparu gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yn y Gymraeg, yn arbennig pan fo sefydliadau wedi cyflwno proisectau neu ddulliau gweithredu creadigol.
Dyddiadau defnyddiol
Dechrau'r cyfnod enwebu
27 Mehefin 2023
Dyddiad cau
29 Medi 2023
Cyhoeddi'r rhestr fer
Tachwedd/ Rhagfyr 2023
Seremoni wobrwyo
Chwefror/ Mawrth 2024 (dyddiad i’w gadarnhau)
Sut caiff y rhestr fer ei llunio?
Bydd yr holl enwebiadau yn cael eu hasesu gan banel o feirniaid sy'n cynnwys pobl ifanc a chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Bydd staff Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu'r broses ac yn sicrhau bod y timau dyfarnu yn deg drwy gydol y broses.
Meini Prawf Beirniadu
Bydd y panel beirniaid yn sgorio ar sail y meini prawf canlynol:
- Perthnasedd i’r categori
- Tystiolaeth glir o ddull gweithredu mewn perthynas â Gwaith Ieuenctid gan gyfeirio at y pum piler Gwaith Ieuenctid fel y’u nodir yn 'Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion'
- Effaith – gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc, y gymuned a’r gweithlu ieuenctid
- Rhagoriaeth – dangos safonau uchel ac ansawdd ymarfer eithriadol yn gyson
Cyfeiriwch bob ymholiad at youthworkexcellence.awards@gov.wales.
Geiriau o gyngor ar gyfer enwebu
Dyma bum peth i’w cofio er mwyn i’ch enwebiad wneud argraff.
#1: Dewiswch yn ddoeth!
Mae llawer o gategorïau ar gael ichi. Rhowch amser i ystyried a dewis y categori mwyaf perthnasol.
#2: Rhowch enghreifftiau manwl
Atebwch bob cwestiwn yn ofalus a gofalwch bod yr enghreifftiau rydych yn eu rhoi yn berthnasol.
#3: Rhowch dystiolaeth
Ychwanegwch ddata a thystiolaeth i gryfhau eich enwebiad – mae hyn wir yn help i ddeall effaith eich prosiect.
#4: Mynd y filltir ychwanegol
Cofiwch, mae bod yn rhagorol yn golygu mynd y filltir ychwanegol. Cofiwch ddweud wrthym pan fydd rhywun wedi mynd y tu hwnt i’r hyn oedd yn ddisgwyliedig.
#5: Mae lleisiau pobl ifanc yn bwerus
Cofiwch gynnwys digon o adborth gan bobl ifanc – yn eu llais eu hunain. Mae hyn yn bwerus iawn ac yn gallu dod â’ch enwebiad yn fyw.
Pob lwc!
Hysbysiad preifatrwydd
Yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chyflwyno mewn perthynas â’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid.
Cyfeiriwch bob ymholiad at youthworkexcellence.awards@gov.wales.