Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Cheryl Fereday, Youth Engagement and Progression Officer, Rhondda Cynon Taf

Mae Cheryl Fereday yn Swyddog Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yng Ngwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ei rôl bresennol yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bobl ifanc bregus rhwng 16 a 24 oed a chefnogi pobl ifanc lle mae anawsterau cymhleth yn effeithio ar ymgysylltu a chyfranogi. Mae gan Cheryl brofiad helaeth, eang ac mae'n fodel rôl gwych i'r rhai sy'n gweithio ochr yn ochr â hi - ymroddedig, gwybodus, dibynadwy a bob amser y man galw cyntaf os oes angen help neu gefnogaeth ar unrhyw un.

Mae Cheryl wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r gwasanaeth YEP ac mae'n llunio perthnasoedd rhagorol gyda'r bobl ifanc y mae'n ymgysylltu â nhw a gyda'r gweithwyr proffesiynol y mae'n gweithio gyda nhw. Yn ddiweddar, bu iddi arwain rhaglen beilot lwyddiannus, Rhaglen Dod yn Annibynnol, a oedd yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc 16 i 24 oed wrth iddynt bontio i fod yn oedolion ifanc. Roedd y prosiect yn hanfodol bwysig gan ei fod yn ymgysylltu â grŵp hynod fregus o bobl ifanc ag anghenion cymhleth sydd wedi cael llawer o gefnogaeth trwy gydol eu haddysg ond y mae disgwyl iddynt nawr, fel oedolion, reoli ac ymdopi ar eu pennau eu hunain gyda'r gefnogaeth honno wedi diflannu. Dyluniwyd a chyflwynwyd y prosiect gan Cheryl ac roedd yn ymdrin â phynciau, dysgu a materion nad ydynt yn gyffredinol yn cael llawer o sylw yn yr ysgol, megis perthnasoedd, diogelwch ar y we, iechyd rhywiol, a sgiliau byw'n annibynnol.

Bu'r panel beirniadu dynnu sylw at ehangder profiad Cheryl, ei effaith amlwg a'i hymrwymiad hir dymor, ynghyd â'i hagwedd gadarnhaol tuag at ddulliau newydd. Mae dealltwriaeth Cheryl o anghenion y bobl ifanc yn amlwg ac mae ei empathi, ei charedigrwydd a’i hymroddiad llwyr i’r bobl ifanc y mae’n gweithio gyda nhw yn ysbrydoledig.