Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2021

Mae'r Athro Keshav Singhal MBE yn llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol yn ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ef yw Cadeirydd Grŵp Asesu Risg Covid-19, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2020 ar ddechrau'r achosion o Coronafeirws, a arweiniodd at ddatblygu Adnodd Asesu Risg Covid-19 ar gyfer y Gweithlu.

Yr Adnodd Asesu Risg oedd y cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig ac mae'n caniatáu i bobl sy'n gweithio mewn gwahanol sectorau ystyried eu ffactorau risg personol ar gyfer Covid-19, gwirio a ydynt mewn mwy o berygl o symptomau mwy difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â Covid-19 ac yn rhoi cyngor ar sut i gadw'n ddiogel.

Ers ei lansio ddiwedd mis Mai, mae'r Adnodd wedi'i gwblhau gan fwy na 90,000 o bobl ledled Cymru.

Mae hefyd yn Llywodraethwr Canolfan India ac yn Gadeirydd Cymdeithas Ffisigwyr Prydeinig Tarddiad India (BAPIO). Drwy BAPIO, helpodd i sefydlu cynllun sydd wedi dod â nifer fawr o glinigwyr ifanc o India i Gymru bob blwyddyn.

Mae'n aelod o Gyngor ac yn Ymddiriedolwr Prifysgol Abertawe ac mae'n aelod o bwyllgor Ymgynghorol De Cymru yr Arglwydd Gangellorion.

Yn ddiweddar, fe'i penodwyd yn Is-gennad Anrhydeddus Gwlad Pwyl.