Neidio i'r prif gynnwys

Gwobr Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cael eu henwebu gan y cyhoedd.

Categorïau

Mae 11 categorïau, a'r cyhoedd sy’n enwebu am 10 ohonynt. Mae'n bwysig sicrhau bod y person neu'r grŵp yr ydych yn enwebu'n cael eu henwebu yn y categori mwyaf priodol - bydd y diffiniadau isod yn eich helpu i benderfynu.

  • Amgylchedd: Ar gyfer unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at ddiogelu neu wella’r amgylchedd naturiol. Gallai hyn fod ar lefel leol, ledled Cymru neu’n rhyngwladol a gallai gynnwys gwaith cadwraeth, mentrau cynaliadwyedd, addysg amgylcheddol, neu waith cymunedol sy’n taclo newid hinsawdd.
  • Arwr Cymunedol: Ar gyfer rhywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau pobl yn eu cymuned leol neu ledled Cymru. Er enghraifft, rhywun sydd wedi sefydlu neu arwain mentrau sy’n dod â phobl at ei gilydd, mynd i’r afael â phroblemau lleol, neu wneud lles i’r gymdogaeth.
  • Busnes ac Arloesedd: Ar gyfer unigolyn, grŵp neu sefydliad yng Nghymru sydd wedi cael llwyddiant eithriadol trwy fusnes neu arloesi. Gall hyn gynnwys creu swyddi , datblygu cynnyrch, gwasanaethau, prosesau, technolegau neu syniadau newydd sydd o fudd i gymdeithas ac yn codi proffil entreprenuriaeth Cymru.
  • Chwaraeon: Ar gyfer unigolyn, tîm neu grŵp sydd wedi rhagori mewn chwaraeon cenedlaethol neu ryngwladol, neu sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i helpu eraill i lwyddo. Gall enwebeion fod yn gystadleuwyr, hyfforddwyr, swyddogion, neu’r rhai sydd wedi gweithio y tu ôl i’r llenni i gefnogi ein hathletwyr elît.
  • Dewrder: Ar gyfer unigolyn neu grŵp sydd wedi dangos dewrder rhyfeddol, yn wyneb perygl neu adfyd, er gwaetha’r risg i’w diogelwch eu hunain.
  • Diwylliant: Ar gyfer rhywun sydd wedi rhagori yn y celfyddydau a diwylliant - cerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol, ffilm, theatr, treftadaeth, neu’r Gymraeg. Efallai bod yr enwebeion wedi gwneud eu marc yng Nghymru neu wedi dod â diwylliant Cymru i gynulleidfa ehangach.
  • Er Lles ein Plant: Ar gyfer unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i wella bywydau plant yng Nghymru. Gallai hyn gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, chwaraeon, y celfyddydau, neu’r sector gwirfoddol - neu unrhyw un sydd, trwy ymroddiad, arloesedd neu eiriolaeth, wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant.
  • Gwasanaethu’r Cyhoedd: Ar gyfer unigolyn neu dîm sy’n gweithio yn rheng flaen ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn darparu gwasanaeth eithriadol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr ym maes iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, y gwasanaethau brys a phob gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen arall.
  • Gwirfoddoli: Ar gyfer unigolyn neu grŵp sy’n rhoi eu hamser yn ddi-dâl i gefnogi eraill neu i gryfhau eu cymuned. Gallai hyn gynnwys gwirfoddoli i sefydliad lleol, elusen genedlaethol, neu brosiect ar lawr gwlad. Gall enwebeion hefyd gael eu cydnabod am eu gwaith yn codi arian neu godi ymwybyddiaeth o achosion sydd o fudd i Gymru a’i phobl.
  • Person Ifanc: Ar gyfer person ifanc eithriadol ac ysbrydoledig, neu grŵp o bobl ifanc, rhwng 11 a 19 oed, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol neu wedi cyflawni rhywbeth rhyfeddol mewn unrhyw faes. Gallai hyn fod mewn chwaraeon, y celfyddydau, gweithredu cymunedol, entrepreneuriaeth, gwirfoddoli, neu unrhyw faes arall lle maent wedi cael effaith gadarnhaol.

Prif Weinidog Cymru a'i gynghorwyr sy'n penderfynu ar y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol a'r enillwyr.

Pwy gewch chi enwebu

Pwy gewch chi enwebu?

  • Does dim rhaid i’r enwebeion fod yn ddinasyddion Prydeinig na byw yng Nghymru, ond bydd ganddynt gysylltiad ystyrlon â Chymru.
  • Cewch enwebu ffrindiau, aelodau o’ch teulu, cydweithwyr neu hyd yn oed ffigwr cyhoeddus.
  • Rhaid i’r sawl sy’n cael ei enwebu fod yn o leiaf 16 oed. Ond, ar gyfer Gwobr y Person Ifanc, cewch enwebu pobl oedran 11 i 19 oed.
  • Mae grwpiau o bobl, timau neu gwmnïau’n gymwys am wobr, yn ogystal ag unigolion (dylid nodi enw cynrychiolydd y grŵp ar y ffurflen).
  • Mae croeso ichi ailenwebu rhywun os cafodd ragor o lwyddiant ers ei enwebu’r tro cynt.
  • Ni roddir gwobrau i rywun ar ôl ei farwolaeth.

Pwy sy’n gallu enwebu?

  • Gall unrhyw un enwebu.
  • Mae hunanenwebiadau hefyd yn cael eu derbyn.
  • Ni fyddwn yn datgelu enw’r person sy’n enwebu. oni bai ei fod yn dymuno hynny (ar ôl i’w enwebai ennill Gwobr).

Sut i enwebu

Y ffordd hawsaf i enwebu yw trwy ein ffurflen ar-lein. Gallwch arbed y ffurflen, dod nôl ati, a’i chyflwyno unwaith y byddwch chi'n hapus. Cewch e-bost diolch awtomatig ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen.

Neu, gallwch lawrlwytho fersiwn pdf o'r ffurflen a'i hanfon yn ôl atom trwy e-bost neu bost. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Sut i anfon llythyr o gefnogaeth

Ar ôl i chi gyflwyno'ch enwebiad, gallwch hefyd gyflwyno llythyrau cymorth gan bobl neu sefydliadau sy'n gyfarwydd â'u cyflawniadau, er nad yw hyn yn hanfodol. Lawrlwythwch dempled os oes angen awgrymiadau arnoch ar ba fath o wybodaeth i'w gynnwys.

Bydd rhaid i bob llythyr gael gynnwys enw’r categori wobrwyo ac enw’ch enwebai a dylid ei hanfon ato: gwobraudewisant@llyw.cymru neu bostio at: Gwobr Dewi Sant 2027, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Bydd rhaid i lythyrau o gefnogaeth ein cyrraedd erbyn y dyddiad cau – Hanner nos, 4 Rhagfyr 2026.

Cynghorion am enwebu

  • Hyd yn oed os ydych yn enwebu rhywun adnabyddus, rhaid disgrifio’r hyn y mae wedi’i gyflawni’n gywir. Disgrifiwch ei gymeriad a’i weithredoedd wrth y Pwyllgor Ymgynghori a pheidiwch â rhagdybio bod pawb yn gwybod amdano neu amdani a’i llwyddiannau.
  • Rhowch enghreifftiau da ac esbonio sut y bu i’ch enwebai lwyddo, Ni fydd dweud “Mae Dafydd Dafis wedi codi llawer o arian at achosion da” yn ddigon. Byddai “Trefnodd Dafydd Dafis râs 5km noddedig yn y pentref a chael cefnogaeth noddwyr lleol adnabyddus i godi £5,000 at achosion da” yn well.
  • Rhowch gymaint o ffeithiau ag yr ydych yn eu gwybod neu y gallwch gael hyd iddyn nhw ar-lein. Mae croeso ichi ddefnyddio pwyntiau bwled yn lle brawddegau llawn i gadw o dan y terfyn geiriau.

Dyddiadau allweddol

Gwobrau 2027

  • 4 Rhagfyr 2026 – enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2027 yn cau
  • 17 Mehefin 2027 - seremoni gwobrau

Y broses feirniadu

Pwyllgor Ymgynghorol Gwobr Dewi Sant sy’n dewis y teilyngwyr yn y 10 categori cynt.

Hysbysiad preifatrwydd GDPR

Drwy gyflwyno eich ffurflen enwebu rydych chi'n cydsynio i'n hysbysiad preifatrwydd.

Enwebwch

Pwy sy’n eich ysbrydoli? Pwy ddylai Cymru fod yn falch ohonynt? Mae Gwobr Dewi Sant yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.

Cysylltu â ni
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynghylch Gwobr Dewi Sant, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod.