Jess Fishlock MBE
Nominated for Sport award
Mae Jess Fishlock o Gaerdydd wedi bod yn aelod o dîm Cenedlaethol Menywod Cymru ers 2006. Yn 2017, Jess oedd y chwaraewr cyntaf (menyw neu ddyn) i ennill 100 cap i'r tîm cenedlaethol. Mae hefyd wedi ennill y teitl Peldroedwraig y Flwyddyn bedair gwaith.
Mae Jess bellach wedi ymddangos 113 o weithiau dros dîm Cymru ac wedi sgorio 29 gôl. Roedd yn rhan bwysig o'r garfan yn eu hymdrech i gymhwyso ar gyfer Cwpan Menywod y Byd FIFA 2019, gan chwarae ym mhob gêm er gwaethaf yr ymrwymiadau teithio dwys.
Mae ar fenthyg ar hyn o bryd i'r Olympique Lyonnais yn Ffrainc o Seattle Reign FC yn yr UDA. Gydag 14 o deitlau yn y gynghrair, Olympique Lyonnais yw y tîm menywod mwyaf llwyddiannus yn hanes adran gyntaf Ffrainc.
Mae hefyd wedi chwarae i nifer o glybiau eraill yn y DU ac Ewrop ac wedi treulio amser gyda Dinas Melbourne fel chwaraewr a hyfforddwr, ac yn 2017, hyfforddwyd y tîm i'w ail deitl yn olynol yn Gêm Derfynol y Cynghrair-W.
Roedd yn aelod o dîm FFC Frankfurt a enillodd deitl Cynghrair Pencampwyr y Menywod UEFA yn 2015.