Gerald Williams MBE
Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2018
Bu Gerald Williams MBE, 83 oed o Drawsfynydd, Gwynedd yn gweithio drwy gydol ei oes i sicrhau na fydd hanes ei ewythr yn mynd yn angof, fel ceidwad Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn.
Cadwodd at ei addewid i 'gadw'r drws yn agored' ers 1954, gan groesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd i Yr Ysgwrn, yn rhad ac am ddim. Bu gwaith diflino Gerald o gymorth i gadw enw Hedd Wyn yn y cof, gan ddiogelu etifeddiaeth y bardd o'r Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae polisi drws agored cartref ei deulu yn helpu i sicrhau na fydd rhan hanfodol o hanes ac etifeddiaeth Cymru'n cael ei cholli. Mae'n barod i siarad ag unrhyw un am Yr Ysgwrn ac yn arbenigwr ar fywyd Hedd Wyn. Yn Yr Ysgwrn ceir arddangosfeydd am fywyd ac etifeddiaeth farddol Hedd Wyn, ynghyd â'r Gymraeg a diwylliant Cymru, y traddodiad barddol, hanes cymdeithasol a chefn gwlad a'r Rhyfel Byd Cyntaf. Er nad yw Gerald bellach yn gweithio ar y fferm, llwyddodd i sicrhau bod yr adeiladau'n cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol drwy eu trosglwyddo i Barc Cenedlaethol Eryri yn 2012.
Mae hefyd yn parhau i wirfoddoli gyda staff y Parc i gefnogi eu gwaith. Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans. Bu farw ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos yn unig cyn Eisteddfod Genedlaethol 1917, pan enillodd y Gadair Ddu am ei awdl Yr Arwr. Yn 2017, chwaraeodd Mr Williams ran flaenllaw yn y gweithgareddau i goffau Brwydr Passchendaele.