Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Os ydych yn cael trafferth mynd o gwmpas a'ch bod yn defnyddio car, gallech gael Bathodyn Glas.

Mae Bathodyn Glas yn eich galluogi i barcio'n agosach at eich cyrchfan. Gall eich helpu hefyd i aros yn actif ac annibynnol.

Mae'r bathodyn fel arfer yn ddilys am 3 blynedd. Bydd angen i chi wneud cais arall am Fathodyn Glas ar ddiwedd y 3 blynedd. Gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu cais. Dylech ystyried hyn i wneud yn siŵr nad ydych heb fathodyn glas.

Mwy o wybodaeth am fod yn gymwys am Fathodyn Glas.