Neidio i'r prif gynnwy

4. Ar ôl i chi wneud cais

Eich cyngor lleol fydd yn prosesu eich cais. Byddant yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi gael asesiad symudedd hefyd.

Cyfarfod yw asesiad symudedd lle bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud yn siŵr eich bod:

  • yn gymwys am Fathodyn Glas
  • yn cael yr holl gefnogaeth bosibl i fynd o le i le

Byddwch yn cael penderfyniad ynghylch eich cais mewn tua 12 wythnos. Os nad yw eich cais yn llwyddiannus, gallwch ofyn iddo gael ei adolygu. Bydd mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn yn y llythyr gan yr awdurdod lleol.