Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn cynnig fframwaith strategol. O fewn y fframwaith hwn mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ar yr angen am arolygon ystadegol, ac ar y modd y cânt eu cynnal.

Nodau allweddol y strategaeth hon yw:

  • sicrhau y caiff anghenion Llywodraeth Cymru am wybodaeth eu diwallu yn y modd mwyaf priodol a chosteffeithiol, p’un ai drwy arolygon neu drwy ffynonellau data eraill sydd eisoes mewn bodolaeth
  • helpu i sicrhau bod yr wybodaeth a gesglir drwy arolygon yn addas at ei diben, ac y gwneir y defnydd gorau ohoni
  • gwella’r ffordd yr ydym yn cynnal ac yn comisiynu arolygon, er mwyn sicrhau gwerth am arian, ansawdd data a diogelwch data, ac er mwyn cadw’r baich ar ymatebwyr i’r lleiaf posibl
  • hybu arferion da ym maes arolygon a gwella safon yr arolygon hynny yr ydym yn eu hariannu yng Nghymru

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r darlun mawr o ran arolygon yng Nghymru:

  • y math o wybodaeth y mae arolygon ystadegol yn ei chasglu
  • y modd y defnyddiwn yr wybodaeth honno
  • y modd yr ydym yn blaenoriaethu gofynion arolygon newydd
  • y modd yr ydym yn gwella ansawdd arolygon ac yn sicrhau gwerth am arian
  • y modd yr ydym yn cydweithio â defnyddwyr er mwyn eu helpu i ddeall ac i ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar gael
  • y gwaith yr ydym wedi cychwyn arno i wneud mwy o ddefnydd o’r ffynonellau data sydd eisoes mewn bodolaeth

Y math o wybodaeth y gall arolygon ystadegol ei gasglu

Defnyddir arolygon ystadegol i gasglu tystiolaeth i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau mewn nifer o ffyrdd. Gan fod gennym ymagwedd at bolisïau sy’n fwyfwy neilltuol i Gymru, mae’n hanfodol bod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn sy’n benodol i Gymru hefyd. Gallai hynny helpu:

  • i ddeall mater/problem yn well
  • i nodi a dadansoddi tueddiadau hirdymor
  • i ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth benodol
  • i archwilio a chymharu rhinweddau opsiynau cystadleuol
  • i werthuso effaith polisïau a rhaglenni

Y mathau o wybodaeth y gellir eu casglu drwy arolygon.

  • Cwestiynau ffeithiol: yn aml, arolygon sy’n cynnig yr unig ffordd ymarferol o amcangyfrif gwerthoedd ar gyfer grwpiau mawr o’r boblogaeth, e.e. asesu eu statws iechyd, eu bodlonrwydd ar fywyd ac ati.
  • Cwestiynau am wybodaeth: asesu’r hyn y mae ymatebwyr yn ei wybod am bwnc penodol.
  • Cwestiynau am agweddau: ceisio mesur barn, credoau, gwerthoedd a theimladau ymatebwyr. Fel arfer, nid oes modd arall o ddod o hyd i’r agweddau hyn, e.e. drwy arsyllu neu drwy ddata gweinyddol.
  • Cwestiynau am ymddygiad: mesur yr hyn y mae pobl yn ei wneud neu’n bwriadu ei wneud a sut y mae hynny’n berthnasol i ymyrraethau penodol.
  • Cwestiynau am ddewisiadau: mesur dewisiadau ymatebwyr ar gyfer gwahanol fathau o opsiynau a chanlyniadau posibl, gan gynnwys cyfnewidiadau rhwng amcanion polisïau sy’n cystadlu â’i gilydd. Gellir defnyddio’r rhain i ddod â gwerthoedd ariannol gwahanol ganlyniadau i’r golwg, gan gynnwys y canlyniadau hynny nad oes ganddynt brisiau marchnad amlwg (e.e. newidiadau yn ansawdd yr aer, statws iechyd). Defnyddir y gwerthoedd ariannol hyn ar gyfer dadansoddiadau cost a budd.

Yn aml, nid oes ffordd ymarferol, fforddiadwy a dibynadwy arall o gasglu’r wybodaeth hon ond un o swyddogaethau allweddol ein gwasanaeth cynghori ar arolygon yw canfod a fyddai modd defnyddio ffynonellau eraill o wybodaeth (gweler Adran 4).

Y modd y defnyddiwn wybodaeth o arolygon i ddatblygu polisïau a’u rhoi ar waith

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae tystiolaeth yn dod mewn llawer ffurf, ac mae gan bob ffurf rôl wahanol wrth gefnogi gwneud penderfyniadau. Mae’r data a ddaw o arolygon yn rhan o’r sylfaen dystiolaeth gyffredinol honno. Her allweddol ar gyfer pob math o dystiolaeth yw sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio mewn modd effeithiol wrth ddatblygu, cyflwyno ac adolygu polisïau.

Dim ond trwy ddefnyddio arolygon cymdeithasol y gellir dangos tystiolaeth o lawer o ganlyniadau bwriedig camau gweithredu Llywodraeth Cymru. Er enghraifft:

  • caiff canfyddiadau’r cyhoedd o ymddygiad gwrthgymdeithasol a nifer yr achosion o gamddefnyddio cyffuriau eu monitro gan Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr
  • ceir safbwyntiau am fynediad i wasanaethau cyhoeddus megis iechyd ac addysg, a bodlonrwydd â’r gwasanaethau hynny, yn Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • mae Arolwg Teithwyr Bysiau Cymru yn darparu data ar ba mor fodlon yw pobl ar y gwasanaethau bysiau sydd ar gael mewn ardaloedd gwledig

Mae nifer o arolygon wedi dylanwadu ar ddatblygu a chyflenwi polisïau drwy ddarparu data i gynllunio ymyriadau, pennu llinellau sylfaen, monitro cynnydd, a chefnogi gwerthusiadau. Un enghraifft yw’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS), sydd â sampl fawr yng Nghymru (tua 20,000 o aelwydydd), ac sy’n canolbwyntio ar weithgarwch y farchnad lafur ac ar gymwysterau. Mae dadansoddi gwybodaeth o’r arolwg hwn wedi arwain at lunio polisïau sy’n gwella sgiliau, a bu’r wybodaeth hon yn ganolog wrth lunio’r rhaglen Yn Awyddus i Weithio. Gan fod y sampl hon yn fawr, a chan fod modd sicrhau cywirdeb y data ar lefel leol, mae’r arolwg hwn wedi cael ei ddefnyddio fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth wrth ystyried ceisiadau am grantiau i gefnogi busnesau mewn lleoliadau penodol.

Yr arolygon sy’n cael eu cynnal yng Nghymru

Gellir categoreiddio’r arolygon sy’n cael eu cynnal yng Nghymru, fel a ganlyn:

i) Arolygon rheolaidd a gaiff eu cynnal gan Lywodraeth Cymru
ii) Arolygon ad-hoc a gaiff eu cynnal gan Lywodraeth Cymru
iii) Arolygon a gaiff eu cynnal gan adrannau eraill o’r Llywodraeth ond a gaiff eu cefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru
iv) Arolygon a gaiff eu cynnal yng Nghymru gan gyrff cyhoeddus eraill.

Cyhoeddir rhestr gyfoes gan gynnwys yr arolygon yng nghategori i), ii) a iii) yn flynyddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

i) Arolygon rheolaidd a gaiff eu cynnal gan Lywodraeth Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru

Caiff arolygon rheolaidd eu cynnal gan Lywodraeth Cymru pan fydd angen data i fonitro cynnydd yn rheolaidd. Dangosir enghreifftiau o arolygon ystadegol a gynhelir yn rheolaidd gan Lywodraeth Cymru isod. Yn 2016-17, roedd yr Arolwg Cenedlaethol a'r Arolwg Iechyd Cymru wedi eu dwyn ynghyd mewn un arolwg, ynghyd â thri arolwg arall sy'n cael eu rhedeg gan Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru: Yr Arolwg Oedolion Egnïol, yr Arolwg o Hamdden yn yr Awyr Agored Yng Nghymru ac Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru. Ceir fwy o wybodaeth am yr arolwg unigol yma ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol.

Enghreifftiau o arolygon rheolaidd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru
Teitl yr arolwg Prif ddiben yr arolwg Sampl
Arolwg Cenedlaethol Cymru Arolwg trawsbynciol yw hwn, ond un sy’n canolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus ac ar les. Un o ddibenion allweddol yr arolwg yw ceisio clywed llais y dinesydd fel rhan o wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 12,000
Arolwg Teithwyr Bysiau Cymru Casglu gwybodaeth am fodlonrwydd y rhai hynny sy’n defnyddio bysiau, a data cysylltiedig, er mwyn datblygu polisi trafnidiaeth. 4,700
Arolwg Busnesau Fferm Darparu gwybodaeth am fusnesau fferm, er mwyn helpu i fonitro ac i ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru. 550

ii) Arolygon ad-hoc a gaiff eu cynnal gan Lywodraeth Cymru

Cynhelir yr arolygon hyn fel rheol i ateb cwestiwn ymchwil penodol, weithiau fel rhan o astudiaeth werthuso ehangach. Mae’n bwysig bod yr arolygon hyn yn destun yr un gwaith craffu a sicrhau ansawdd ag arolygon rheolaidd, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn addas at eu diben.

iii) Arolygon a gaiff eu cynnal gan adrannau eraill o’r Llywodraeth, ond a gaiff eu cefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru’n ffodus i allu cael gafael ar ddata da sy’n galluogi cymariaethau i gael eu gwneud â gweddill y DU, drwy arolygon mawr a gynhelir yn y DU neu ym Mhrydain Fawr. Rhoddir cyfraniadau ariannol i arolygon sydd eisoes mewn bodolaeth am ddau reswm:

  • i wella ansawdd yr wybodaeth i Gymru drwy gynyddu maint y sampl (enghraifft o arolwg lle gwnaethpwyd hynny yw Arolwg o’r Llafarlu)
  • a/neu fel rhan o gonsortiwm trawsweinyddol / trawsadrannol a sefydlir i ariannu arolwg sydd â thema drawsbynciol, mae hyn yn wir fel arfer yn achos astudiaethau hydredol, megis ‘Cymdeithas deall’.

Gall hynny arbed costau sylweddol os bydd ein hangenion yn cyd-fynd yn agos ag anghenion y DU. Mae hefyd yn fodd o ddarparu rhywfaint o ddylanwad dros gynnwys yr arolygon hyn a thros y modd y cânt eu cynnal.

Wrth benderfynu ar sut i gynnal arolwg, mae’n bwysig ystyried potensial fanteisio ar arolwg sydd eisoes mewn bodolaeth. Caiff yr arbedion posibl o ran costau eu pwyso a’u mesur yn erbyn y gallu i ddiffinio cwestiynau’r arolwg yn union, gan fod llai o hyblygrwydd yn achos arolwg sydd eisoes mewn bodolaeth.

iv) Arolygon a gaiff eu cynnal yng Nghymru gan gyrff cyhoeddus eraill

Caiff nifer o arolygon eraill eu cynnal yng Nghymru gan adrannau llywodraeth y DU a chan gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhain yn ffynhonnell bosibl o wybodaeth, ynghyd â bod yn bosibiliadau o ran cynyddu maint y sampl, os yw hynny’n fodd effeithiol o ddiwallu anghenion Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae gan nifer o’r arolygon hyn yn y categori hwn, a gaiff eu cynnal ar lefel y DU gyfan, sampl fach iawn yn unig o Gymru. Mae’r arolygon hyn 7 wedi’u llunio i ddarparu canlyniadau ar lefel y DU yn unig. Gan hynny, mae’n bosibl na fyddai canlyniadau ar wahân ar gael ar gyfer Cymru, ac y gallai costau cynyddu’r sampl fod yn sylweddol hefyd.

Lle dangoswyd mai arolwg yw’r ffordd orau o gasglu’r wybodaeth dan sylw, yna un o rolau allweddol eraill ein gwasanaeth cynghori ar arolygon (gweler Adran 4) yw penderfynu pa ddull sydd orau o ran casglu’r wybodaeth drwy arolwg, er enghraifft:

  • defnyddio data arolygon sydd eisoes mewn bodolaeth
  • cynyddu maint sampl arolwg sydd esioes mewn bodolaeth neu ychwanegu cwestiynau newydd ato
  • cynnal arolwg unigryw sy’n benodol i Gymru;  Cynnal arolwg sydd eisoes mewn bodolaeth ac sy’n benodol i Gymru

Y modd y caiff galwadau am arolygon newydd eu trin

Cyn i arolwg gael ei gomisiynu, rhaid dilyn nifer o gamau i sicrhau bod y penderfyniad iawn yn cael ei wneud:

  • gwirio a yw’r wybodaeth sydd ei hangen eisoes ar gael
  • gwirio ai’r dull a awgrymir yw’r dull gorau o gasglu’r wybodaeth
  • sicrhau bod y cyngor proffesiynol priodol yn cael ei roi er mwyn cynorthwyo â chynllunio a rheoli holiaduron ac arolygon ac adrodd amdanynt

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Arolygon a’u Cymeradwyo yn Llywodraeth Cymru yn cynnig y gefnogaeth hon i swyddogion yn Llywodraeth Cymru, ac yn y cyrff cyhoeddus a noddir gan y Llywodraeth. Cyhoeddir gwybodaeth am y gwasanaeth hwn ar y rhyngrwyd.

Gwirio a yw’r wybodaeth sydd ei hangen eisoes ar gael

Mae arolygon mawr o ansawdd da yn gostus, yn enwedig arolygon wynebyn-wyneb. Felly, i sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian, mae’n bwysig nad yw arolygon yn cael eu defnyddio ond i gasglu’r wybodaeth honno na ellir ei chael yn unman arall. Cedwir cofnod o arolygon sydd eisoes mewn bodolaeth er mwyn helpu i lywio’r penderfyniad hwn yn ogystal â dibynnu ar arbenigedd y gymuned ddadansoddi ehangach yn Llywodraeth Cymru i gynghori ar ffynonellau data eraill.

Gwirio ai’r dull a awgrymir yw’r dull gorau o gasglu’r wybodaeth

Cyn gynted ag y cytunir bod angen arolwg, mae’n rhaid dod o hyd i’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o’i gynnal. Gallai hynny olygu ychwanegu cwestiynau at un o arolygon Llywodraeth Cymru neu at un o’r arolygon eraill sydd eisoes mewn bodolaeth, neu drwy gynyddu maint sampl un o’r arolygon eraill hynny sydd eisoes mewn bodolaeth. Opsiwn arall yw comisiynu arolwg newydd sbon. I sicrhau gwerth am arian, rhaid i faint y sampl fod yn ddigonol ond nid yn rhy fawr. Rhaid gofalu bod yr wybodaeth yn cael ei chasglu o’r sampl leiaf sy’n caniatáu’r lefel iawn o fanylder ar gyfer y dadansoddi gofynnol.

Mae un enghraifft o sut yr ydym yn ystyried dulliau o gasglu data arolwg yn yr adroddiad dewisiadau, a oedd yn sail I’r penderfyniad i ddod â sawl arolwg ynghyd i ffurfio un arolwg o 2016-17 ymlaen.

Sicrhau bod y cyngor proffesiynol priodol yn cael ei roi er mwyn cynorthwyo â chynllunio a rheoli holiaduron ac arolygon ac adrodd amdanynt

Mewn nifer o achosion mae’r un cwestiynau neu rhai tebyg wedi’u gofyn o’r blaen, ac maent ar gael fel rhan o set o gwestiynau sydd wedi’u cysoni ar gyfer Ystadegau Gwladol neu fel rhan o gronfeydd eraill o gwestiynau. Mae’r cymorth a roddir i’r rhai hynny sy’n datblygu arolygon yn cynnwys tynnu sylw at gwestiynau o’r fath, yn ogystal ag arweiniad ar sut y gellid datblygu cwestiynau newydd. Daw arolygon ystadegol o dan y diffiniad o ystadegau swyddogol, sy’n golygu dilyn yr un safonau sydd wedi’u pennu ar gyfer ystadegau swyddogol wrth adrodd am ystadegau. Yn yr un modd, rhaid i arolygon ystadegol ddilyn canllawiau cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR).

Cydweithio â chyrff allanol

Mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio’n agos â’r cyrff hynny y mae’n eu noddi, a chyrff ac adrannau eraill o’r Llywodraeth yn y sector cyhoeddus, i wella ansawdd ei harolygon ac i wneud y defnydd gorau ohonynt.

Fel y nodwyd uchod, yn 2016-17 daeth arolygon a oedd yn flaenorol yn cael eu rhedeg ar wahân gan Lywodraeth Cymru a thri Chorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ynghyd i ffurfio un arolwg.

Rydym yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â’n cydweithwyr sy’n rheoli arolygon ar draws y llywodraeth, yn ogystal â chymryd rhan mewn grwpiau llywio trawslywodraethol, fel Pwyllgor Cysoni Ystadegau Gwladol.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Arolygon a’u Cymeradwyo (gweler Adran 4) yn cynnig gwasanaeth i’r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn cadw mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol, a’r cyrff sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth tân, heddlu a’r gwasanaeth iechyd, yn ogystal â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, drwy ein cysylltiad â Phwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru. Mae hyn yn caniatáu i ni ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio ar ymchwil gymdeithasol yng Nghymru.

Rydym hefyd yn sicrhau bod arbenigedd allanol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’n gwaith ym maes arolygon, er enghraifft drwy:

  • gynnwys academyddion ymchwil fel aelodau o grŵp cynghori technegol Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • comisiynu cyngor methodolegol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu gan arbenigwyr annibynnol ym maes arolygon

Sicrhau bod y data o arolygon ar gael a gwneud y defnydd gorau o’r data hynny

Wrth gomisiynu arolygon rydym yn ystyried yn ofalus pa wybodaeth sydd ei hangen a sut y byddwn yn dadansoddi’r canlyniadau i ateb yr anghenion hynny. Caiff allbynnau ystadegol neu adroddiadau ymchwil, sydd mor fanwl a dibynadwy ag y gallant fod, eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo modd ar dudalen Ystadegau ac Ymchwil. Cyhoeddir data nifer o arolygon drwy ein StatsCymru.

Caiff data o arolygon rheolaidd eu cyhoeddi ar wefan Archif Data'r DU fel bod ymchwilwyr eraill yn gallu gweld a defnyddio’r data. Mae hefyd yn bosibl gwneud cais am ddata o arolygon i’w defnyddio at ddibenion penodol, yn amodol ar gael cytundeb ar gyfer gweld a defnyddio data drwy gysylltu â Llywodraeth Cymru.

Mae rhyddhau data fel tablau ystadegol neu at ddibenion ymchwil yn un o’r ffyrdd yn unig o gefnogi defnyddioldeb data arolygon. Mae nifer cynyddol o arolygon yn gwneud darpariaeth i gysylltu ymatebion i arolygon â data gweinyddol (ond mae cyfle i atebwyr tynnu’n ôl o wneud hyn). Gall cysylltu data golygu bod angen i arolygon gasglu llai o ddata gan fod y data hynny eisoes ar gael yn rhywle arall, a bod modd manteisio ar ddata gweinyddol a data o arolygon drwy gyfuno setiau data. Ar hyn o bryd, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn archwilio ac yn asesu opsiynau amgen ar gyfer cynhyrchu data ar boblogaethau a data demograffig-gymdeithasol, drwy ei phrosiect i drawsnewid y Cyfrifiad. Mae’n bosibl felly y bydd ymgysylltu data gweinyddol yn lleihau’r angen am arolygon yn y dyfodol.

Cynlluniau cyhoeddi

Yn ôl y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau mae gofyn i ni gyflwyno adroddiad yn flynyddol am y costau a amcangyfrifir (er enghraifft, i fusnesau, i ddarparwyr gwasanaethau, neu i’r cyhoedd) ar gyfer ymateb i arolygon ystadegol, ac ymdrechu i ddatblygu dulliau a fydd yn lleihau’r costau i sefydliadau neu i bobl unigol.

I gydymffurfio â hyn, mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Arolygon a’u Cymeradwyo yn cadw cofnod o bob arolwg rheolaidd ac ad hoc a gaiff eu cynnal gan Lywodraeth Cymru neu gan y cyrff a noddir ganddi.

Caiff cost ariannol ymateb i’n harolygon ei chyfrifo a’i chofnodi yn yr Rhestr Ar-lein o Arolygon Ystadegol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r:

Gwasanaeth Cynghori ar Arolygon a’u Cymeradwyo
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: arolygon@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 3/2018

ISBN digidol: 978-1-78903-390-8

Image
GSR logo