Mae'r adroddiad hwn yn archwilio'r sylfaen dystiolaeth o effeithiolrwydd ymyriadau addysgol gyda'r nod o gefnogi plant a phobl ifanc â â nam amlsynnwyr mewn ysgolion.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nid yw’r Asesiad Tystiolaeth Cyflym yn nodi tystiolaeth i ddangos ymyriadau sy’n gallu mynd i’r afael yn bendant â ‘beth sy’n gweithio’.
Nododd y cam asesu tystiolaeth mai 29 astudiaeth yn unig oedd yn addas i'w cynnwys yn yr Asesiad Tystiolaeth Cyflym hwn. Mae'r adroddiad yn nodi bod maes ymchwil MSI yn gymharol newydd a chan fod MSI yn brin o boblogaeth ysgolion, mae ymchwil yn anodd.
Nodir peth tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol ar draws llawer o'r ymyriadau.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw mai prin fu'r asesiadau cadarn o ymyriadau yn yr ysgol yn y maes pwnc hwn. Amlygir dau oblygiad o hyn i Gymru:
- mae angen mwy o ymchwil i gynhyrchu tystiolaeth ar effeithiolrwydd ymyriadau
- rhaid i ymarferwyr ddylunio ymyriadau eang yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r arfer sydd ar gael. Ac yna defnyddio asesiad o gynnydd i ddiwygio ymyriadau.
Fodd bynnag, mae'r arfer addysgol a archwilir yma yn dangos gwerth cyffredinol llawer o'r ymyriadau.
Adroddiadau
Asesiad Tystiolaeth Cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau addysgol i gefnogi plant a phobl ifanc â nam amlsynnwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
David Roberts
Rhif ffôn: 0300 062 5485
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.