Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 8 Chwefor 2022 .

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Mae ein byrddau iechyd yn parhau i frechu pawb sy’n dymuno gwneud hynny, ac maent yn mynd â’r brechlyn i gymunedau i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i’w gael.

Ym mis Ionawr, cafodd mwy nag 20,000 o bobl eu dos cyntaf, a mwy na 65,000 eu hail ddos. Os ydych wedi aros cyn cael eich brechlyn, dyma’r amser. Mae byrddau iechyd yn barod amdanoch chi, gyda sesiynau galw heibio ar gael ar draws Cymru ar gyfer pob un o ddosau’r brechlyn COVID-19, gan gynnwys sesiynau galw heibio ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed. Gallwch weld manylion cyswllt y byrddau iechyd yma, a chaiff eu gwybodaeth ei diweddaru ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd plant 5 i 11 oed sydd “mewn risg” yn cael apwyntiad yn awtomatig i fynd i gael y brechlyn. Mae plant 5 i 11 oed sy’n gyswllt ar aelwyd i rywun sy’n imiwnoataliedig yn gymwys ar gyfer y brechlyn, ac mae angen iddynt lenwi ffurflen i roi gwybod i fyrddau iechyd bod angen apwyntiad arnynt. Mae’r ffurflen ar gael yma.

Ar 4 Chwefror, cyhoeddwyd ymchwil newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar y brechlyn COVID-19 a’r brechlyn atgyfnerthu. Mae’r ymchwil yn dweud bod y risg o farwolaeth, wedi’i haddasu yn ôl oedran, sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yn gyson is ymhlith y rheini sydd wedi cael o leiaf tri brechiad o gymharu â phobl sydd heb eu brechu.

Mae hyn wir ar gyfer pob grŵp oedran. Rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2021 yn Lloegr, roedd y risg o farwolaeth 93.4% yn is ar gyfer pobl oedd wedi cael trydydd dos, neu’r brechiad atgyfnerthu o leiaf 21 diwrnod yn ôl, o gymharu â phobl oedd heb eu brechu.

Cyn hyn, dangosodd ymchwil gan yr ONS fod y brechlyn yn lleihau’r risg o gael yr haint yn ystod cyfnod yr amrywiolion Alpha a Delta, a bod y brechiad atgyfnerthu yn cynnig dros 90% o amddiffyniad yn erbyn haint symptomatig ymhlith oedolion 50 oed a throsodd.

Gadael neb ar ôl

Gall unrhyw un sydd eisiau derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos wneud hynny o hyd. Os na lwyddoch i fynd i’ch apwyntiad gwreiddiol, gallwch fynd nawr. Mae sesiynau galw heibio ar gael ledled Cymru ar gyfer pigiadau atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos. Mae manylion y byrddau iechyd ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad da, ac mae werth ei gael hyd yn oed os ydych wedi cael COVID. Y rheswm am hyn yw oherwydd gall y lefel o amddiffyniad sydd gan bobl ar ôl cael y feirws amrywio, yn dibynnu ar ba mor ysgafn neu ddifrifol oedd eu salwch, faint o amser sydd ers iddynt gael yr haint, a’u hoedran. Ond gwyddom fod y brechlyn, yn arbennig y brechlyn atgyfnerthu, yn cynnig amddiffyniad da.

Mae’n fwy tebygol y bydd pobl sydd heb eu brechu angen gofal critigol mewn ysbytai oherwydd COVID, gan gynnwys yr amrywiolyn Omicron, a gan amlaf, mae eu canlyniadau’n waeth na’r rheini sydd wedi’u brechu.

Gall timau brechu ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych am y brechlyn, a’ch cefnogi wrth gael eich brechu. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros, ac mae nyrsys arbenigol ar gael yn llawer o’r canolfannau hyn i helpu’r rheini sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol.

Pryd y gallaf gael fy mrechlyn ar ôl cael COVID-19?

Os ydych dros 18 oed neu’n iau na 18 oed ac yn y grŵp risg uchel, ac yn dal COVID-19 ond eich bod i fod i gael eich brechiad COVID-19, mae angen i chi aros 28 diwrnod cyn cael y brechiad. Diben hyn yw peidio â drysu rhwng symptomau haint COVID-19 a symptomau ar ôl y brechiad.

I blant a phobl ifanc dan 18 oed nad ydynt yn y grwpiau risg uchel, mae’r JCVI wedi cynghori y dylent aros 12 wythnos yn ddelfrydol ar ôl cael yr haint, cyn cael y brechlyn. Fodd bynnag, mae gan fyrddau iechyd yng Nghymru yr hyblygrwydd i leihau’r bwlch rhwng y dosau ar gyfer pobl ifanc 12 i 17 oed i o leiaf 8 wythnos, mewn cyfnodau pan fo trosglwyddiadau’n uchel. Mae hyn yn unol â chanllawiau JCVI, cyhyd â bod digon o wybodaeth yn cael ei rhoi i rieni a gofalwyr cyn iddynt roi caniatâd.

Statws brechu COVID-19

Ar hyn o bryd, mae’r Pàs COVID yn orfodol i bawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed
  • Sinemâu
  • Theatrau
  • Neuaddau cyngerdd

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 24 awr ddiwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i randdeiliaid drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/pas-covid-canllawiau-ar-gyfer-busnesau-digwyddiadau-html

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs COVID i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Mae canllaw ar gyfer pwy sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn, gan gynnwys faint o amser i aros rhwng y dosau, wedi cael ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 6.7 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru.
  • Mae mwy na 2.5 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.37 miliwn o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn.
  • Mae 73.4% o oedolion 18-29 oed a 75.3% o oedolion 30-39 oed wedi cael eu hail ddos.
  • Mae 75.4% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf ac mae 56.9% o bobl ifanc 12-15 oed wedi cael eu dos cyntaf.
  • Mae mwy na 54,000 o bobl sydd â system imiwnedd wan iawn wedi cael eu trydydd dos sylfaenol.
  • Mae mwy nag 1.8 miliwn o bobl wedi cael dos atgyfnerthu.
  • Mae 69.2% o unigolion 12 oed+ yng Nghymru wedi cael dos atgyfnerthu neu drydydd dos. Nid yw’r ffigur hwn yn ystyried y ffaith na fydd pawb yn gymwys am ddos atgyfnerthu ar hyn o bryd, er enghraifft pobl nad ydynt mewn grŵp cymwys, pobl sydd wedi cael eu hail ddos lai na dri mis yn ôl a phobl sydd wedi cael haint COVID-19 yn ddiweddar.
  • Mae 90.9% o breswylwyr cartrefi gofal, 76.1% o staff cartrefi gofal a mwy nag 84.6% o bobl dros 50 oed wedi cael dos atgyfnerthu.

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r brechlyn a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.