Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Adeg cyhoeddi'r strategaeth frechu hon ar ei newydd wedd, mae Cymru yn arwain y byd o safbwynt nifer y bobl sydd wedi'u brechu mewn gwlad o fwy na miliwn o bobl. Mae hyn yn dipyn o gamp ac fe hoffwn roi teyrnged i'r holl bobl sydd wedi gweithio mor galed dros fisoedd lawer i roi amddiffyniad sylweddol i bobl Cymru yn erbyn COVID-19. Hoffwn ddiolch hefyd i’r cyhoedd yng Nghymru am fanteisio yn eu lluoedd ar y cyfle gael eu brechu. Nid yn unig maent yn eu cadw eu hunain yn ddiogel, ond maent hefyd yn cadw eu hanwyliaid ac eraill yn y gymuned yn ddiogel. 

Erbyn 7 Mehefin roedd dros 2.1 miliwn o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn ac roedd dros 1 filiwn o bobl wedi’u brechu'n llawn, gyda dau ddos o'r brechlyn. Mae'r ail ddos yn hanfodol ar gyfer diogelwch hirdymor llawn felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn derbyn y cynnig o ail ddos.

Wrth inni symud yn nes at ein nod o gynnig brechlyn i bob oedolyn yng Nghymru, mae'n amserol inni ddiweddaru Strategaeth Frechu COVID-19 i Gymru a gyhoeddwyd gennym yn wreiddiol ar 11 Ionawr. Er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, cyhoeddwyd diweddariadau i'r strategaeth ar 26 Chwefror a 23 Mawrth. Heddiw, rwy'n cyhoeddi diweddariad pellach – sy'n adlewyrchu cyflymder a chynnydd ein rhaglen.

Mae Cam 2 ein rhaglen yn mynd rhagddo'n dda. Roeddem wedi nodi y byddwn, erbyn diwedd mis Gorffennaf, wedi cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i bob oedolyn cymwys yng Nghymru, ac rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni’r garreg filltir bwysig hon cyn bo hir.

Rwy’n hynod o falch o’n timau brechu yn y Byrddau Iechyd, ein partneriaid lleol a'r llu o wirfoddolwyr ym mhob rhan o’r wlad am eu hymrwymiad diwyro, a hoffwn ddiolch iddynt am wneud ein cynnydd aruthrol yn bosibl. Mae ein rhaglen yng Nghymru wedi bod ymhlith y goreuon yn y byd. Mae cefnogaeth barhaus y cyhoedd yng Nghymru hefyd wedi bod yn amlwg; rydych i gyd yn helpu i’ch diogelu eich hunain, eich teulu a'ch ffrindiau.

Mae Rhaglen Cymru yn parhau i sicrhau bod y brechlynnau cywir yn cael eu rhoi ar yr adeg gywir i’r bobl gywir yn unol â chanllawiau’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Wrth i amrywiolyn sy’n peri pryder ddod i'r amlwg yn ddiweddar, sydd â’r potensial i ddod y straen mwyaf cyffredin sy’n achosi COVID-19 yn y Deyrnas Unedig, fe'n hatgoffwyd unwaith eto pa mor gyflym y gall y feirws newid a rhoi ein cynlluniau dan bwysau.

Mae risg o hyd y daw trydedd don ac y bydd mwy o achosion o’r feirws mewn cymunedau, gan olygu y bydd y cyfraddau trosglwyddo yn cynyddu a phobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Bydd brechiadau yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Byddwn hefyd yn dal i fod yn effro o safbwynt amrywiolion a allai ddod i'r amlwg ac a allai osgoi amddiffyniad y brechlynnau presennol. Byddwn yn barod i addasu ein cynllun ac i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau mai'r brechlynnau sydd wedi'u caffael a'u cyflenwi yw'r rhai mwyaf effeithiol yn erbyn amrywiolion posibl. Ni fyddwn yn gyfan gwbl ddiogel nes y bydd rhagor o bobl ledled y byd wedi cael eu diogelu rhag COVID-19.

Mae’n bwysig iawn bod pob un ohonom yn dilyn y rheolau a'r canllawiau ar hylendid, pellter cymdeithasol a gorchuddion wyneb sydd ar waith er mwyn ein diogelu ni ein hunain a'n teuluoedd. Drwy wneud hynny, mae gennym well siawns o allu parhau i fyw gyda llai o gyfyngiadau wrth inni symud i dymor yr haf.

Hoffwn ddiolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth gyson. Credaf fod y rhaglen frechu yn gwneud cyfraniad enfawr at y frwydr yn erbyn COVID-19, a’i bod yn rhoi gobaith gwirioneddol inni ar gyfer dyfodol mwy disglair.

Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Trosolwg a lle rydyn ni nawr

Ers cyhoeddi'r ail ddiweddariad i Strategaeth Frechu COVID-19 i Gymru ym mis Mawrth, mae llwyddiant ein rhaglen yng Nghymru wedi parhau. Rydym wedi bod yn gweinyddu dosau cyntaf yn gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU ers sawl wythnos. Rydym wedi cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9, gan gyrraedd y garreg filltir hon cyn y dyddiad targed, sef canol mis Ebrill.

Mae ein cyrff GIG, a'r staff anhygoel ynddo, wedi gallu bod yn hyblyg ac addasu i amrywiadau yn y cyflenwad o frechlynnau ac i anghenion y cyhoedd. 

Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?

Dyma oedd y sefyllfa erbyn 4 Mehefin 2021:

  • mae 85% o oedolion Cymru wedi cael eu brechlyn cyntaf
  • 2 filiwn brechiad cyntaf
  • mae 50% o'r rhai rhwng 18 a 29 oed yng Nghymru wedi cael eu brechlyn cyntaf
  • mae 45% o oeolion cymru wedi'u brechu'n llawn

Ystyrir bod Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru ymhlith y mwyaf effeithiol ac effeithlon yn y byd. Mae nifer o ffactorau sydd wedi cyfrannu at ein llwyddiant.

Sicrhau bod y cyfnod amser rhwng derbyn brechlynnau a’u dosbarthu yn cael ei gadw mor fyr â phosibl. Mae pob dos o'r brechlyn a ddosberthir i Gymru yn cael ei gludo yn gyflym i'n canolfannau brechu, practisau meddygon teulu a fferyllfeydd i'w roi i ddinasyddion ar unwaith.

Cymryd gofal mawr i sicrhau bod cyn lleied o wastraff â phosibl. Er gwaethaf yr heriau o ran storio, dosbarthu a pharatoi’r brechlynnau, rydym wedi cadw gwastraff yn arbennig o isel. Mae’r brechlynnau hyn yn achub bywydau ac nid ydym am wastraffu diferyn ohonynt.

Olrhain pob dos o’r brechlyn o’r pwynt pan fyddwn yn ei dderbyn i’r adeg pan gaiff y brechiad ei roi. Mae System Imiwneiddio Cymru yn ein galluogi i gadw golwg ar bob ffiol o’r brechlyn, gan sicrhau ein bod yn defnyddio bron y cwbl o’r brechlynnau sydd yn ein system ddosbarthu.

Sicrhau bod ein seilwaith a'n capasiti yn hyblyg er mwyn rheoli unrhyw ostyngiadau a gynlluniwyd mewn cyflenwadau. Bydd wythnosau pan fydd y cyflenwadau o’r brechlyn sydd ar gael inni yn isel ond rydym yn disgwyl cyfnodau o’r fath ac yn cynllunio ar eu cyfer. Mae hyn yn golygu bod ein rhaglen wedi gweithredu ar raddfa gyson dros fisoedd lawer.

Cynllunio ymlaen llaw, rhagweld newidiadau yn y cyflenwad neu'r capasiti a gwneud dewisiadau da ar adegau allweddol, megis dechrau rhoi ail ddosau o frechlyn Pfizer ym mis Chwefror.

Gwneud y gorau o fanteision ein strwythurau GIG integredig lle mae ein saith Bwrdd Iechyd yn ymdrin â phopeth o iechyd y cyhoedd a gofal sylfaenol a chymunedol i wasanaethau eilaidd a thrydyddol, gan gynnwys bod yn gyfrifol am gynllunio a darparu gofal i'w poblogaeth.

Symud drwy’r grwpiau blaenoriaeth yn gyflym, ar yr adeg gywir. Penderfynwyd yn gynnar yn y broses y byddai Byrddau Iechyd yn gallu cynnig apwyntiadau i'r grŵp blaenoriaeth nesaf unwaith y byddai 50% o'r grŵp blaenoriaeth uwchben wedi'u brechu. Helpodd y penderfyniad ymarferol hwn i sicrhau ein bod yn cadw gwastraff mor isel â phosibl, ac arhosodd rhestrau ein clinigau yn llawn er mwyn inni symud yn effeithlon drwy'r rhaglen frechu.

Ymateb yn gyflym i newidiadau yn y galw. Mae gan y Byrddau Iechyd eu rhestrau wrth gefn a’u rhestrau byr rybudd eu hunain a gallant fod yn hyblyg er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw frechlyn ei wastraffu, yn enwedig os oes gan y brechlyn oes silff fer neu pan fydd pobl yn canslo neu'n methu â dod i’w hapwyntiad ar fyr rybudd.

Ymateb i’r risgiau sy’n dod i’r amlwg. Mae'r hyblygrwydd gweithredol wedi ein galluogi i ymateb yn gyflym i gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar yr amrywiolyn sy’n cael ei alw’n amrywiolyn Delta (VOC B.1.617.02) a nodwyd gyntaf yn India. Gall Byrddau Iechyd gyflwyno dosau cyntaf ag ail ddosau’n gynharach mewn rhai ardaloedd, pe bai hyn yn flaenoriaeth glinigol, ac os yw'r cyflenwad yn caniatáu.

Deall anghenion lleol. Mae modelau dosbarthu yn amrywio yn ôl Bwrdd Iechyd, fel arfer yn seiliedig ar ddaearyddiaeth a dwysedd y boblogaeth. Defnyddir safleoedd brechu torfol mewn ardaloedd lle mae’r boblogaeth yn uwch, ond mewn ardaloedd gwledig ac anodd eu cyrraedd mae rhai Byrddau Iechyd wedi mabwysiadu modelau sy’n defnyddio safleoedd lleol llai sy'n eu galluogi i ddarparu brechlynnau yn nes at gymunedau. Mae demograffeg rhai Byrddau Iechyd wedi golygu eu bod wedi defnyddio mwy o leoliadau gofal sylfaenol, gan gynnwys practisau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol, nag eraill.

Sicrhau ein bod yn darparu brechlynnau i’r rhai mwyaf agored i niwed neu’r rhai sydd heb wasanaethau digonol, yr arferid cyfeirio atynt yn aml fel pobl ‘anos eu cyrraedd’. Mae Byrddau Iechyd yn defnyddio modelau allgymorth i roi’r brechlyn mewn cartrefi gofal ac maent wedi sefydlu canolfannau dros dro a symudol mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ac ardaloedd gwledig.

Rhoi gwybod i bobl Cymru yn rheolaidd am ein cynnydd. Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd yn cyhoeddi gwybodaeth yn ddyddiol ynglŷn â nifer y bobl sydd wedi’u brechu. Rydym hefyd yn cyhoeddi diweddariad cynnydd wythnosol a data wythnosol ar gyflenwadau a gwastraff.

Mae ymroddiad a gwydnwch staff a staff cymorth y GIG wedi bod yn ysbrydoledig. Maent wedi addasu a bod yn hyblyg o dan bwysau aruthrol i sefydlu amryw o fodelau brechu sy'n gwneud y defnydd gorau o'r brechlynnau sydd ar gael, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i ddarparu brechlynnau yn agos at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Ein blaenoriaethau

Rydym wedi bod yn cynnig brechlynnau yn unol â chyngor gan Gyd-bwyllgor arbenigol annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth, sy’n seiliedig ar oedran a risg, ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid. Mae grwpiau 1 hyd 9 yng ngham 1, a grwpiau 10 hyd 12 yng ngham 2.

  1. Pobl sy'n byw mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn a'u staff gofalu
  2. Pawb 80 mlwydd oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  3. Pawb 75 mlwydd oed a hŷn
  4. Pawb 70 oed a hŷn a phobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol
  5. Pawb 65 mlwydd oed a hŷn
  6. Pawb rhwng 16 mlwydd oed a 64 mlwydd oed sydd â chyflwr iechyd sylfaenol ay'n golygu eu bod mewn mwy o berygl o salwch difrifol a marwolaeth
  7. Pawb 60 mlwydd oed a hŷn
  8. Pawb 55 mlwydd oed a hŷn
  9. Pawb 50 mlwydd oed a hŷn
  10. Pawb 40 i 49 mlwydd oed
  11. Pawb 30 i 39 mlwydd oed
  12. Pawb 18 i 29 mlwyddyn oed

Rydym wedi seilio'r tair carreg filltir yn ein Strategaeth ar y dull blaenoriaethu hwn.

Cam 1

Carreg filltir 1: cynnig brechlyn i bob oedolyn yng ngrwpiau 1 i 4 erbyn canol mis Chwefror (cyflawnwyd ar 12 Chwefror 2021).

Dyma ein grwpiau mwyaf agored i niwed a fyddai'n cael y canlyniadau gwaethaf pe byddent yn dal y feirws, ynghyd â staff cartrefi gofal a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen. Roedd yn hanfodol bwysig ein bod yn gweithio i frechu'r bobl hyn yn gyntaf i'w cadw'n ddiogel. Mae'r nifer sydd wedi manteisio ar y brechlyn yn y grwpiau hyn wedi bod yn eithriadol o uchel, gydag o leiaf 91% ym mhob un o’r grwpiau yn manteisio ar y cynnig o frechlyn. 

Carreg Filltir 2: cynnig brechlyn i bob oedolyn yng ngrwpiau 5 i 9 erbyn canol mis Ebrill (cyflawnwyd ar 4 Ebrill 2021).

Y grwpiau hyn oedd y grwpiau agored i niwed nesaf, yn nhrefn blaenoriaeth yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor. Roedd grŵp 6 yn cynnwys pobl 16 oed a hŷn â chyflyrau iechyd penodol a oedd yn wynebu’r risg fwyaf. Drwy dargedu'r grwpiau blaenoriaeth yng Ngherrig Milltir 1 a 2, amcangyfrifir o argymhellion y Cyd-bwyllgor y byddai tua 99% o farwolaethau o COVID-19 wedi'u hatal. 

Cam 2

Carreg filltir 3: cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i'r rhai yng ngrŵp 10, sef gweddill yr oedolion cymwys yn y boblogaeth erbyn diwedd mis Gorffennaf. Ein nod, fel gyda grwpiau 1 i 9, yw sicrhau bod o leiaf 75% o bobl yn manteisio ar y cynnig o frechlyn.

Mae Carreg Filltir 3 yn cynrychioli Cam 2 ein rhaglen a lle rydyn ni nawr. Mae ein grŵp targed yn boblogaeth iau ac iachach a fydd yn debygol o deimlo eu bod yn wynebu llai o berygl ac a allai hefyd fod yn fwy petrusgar. Felly mae ein deunydd cyfathrebu wedi targedu grwpiau penodol ac wedi bod yn seiliedig ar dystiolaeth gan wneud defnydd llawn o ffigurau cyhoeddus, y gellir ymddiried ynddynt er mwyn sicrhau cefnogaeth ar gyfer y brechlyn a’r awydd i’w gael.

Gyda'r cynnydd cryf rydym wedi'i weld hyd yma yn ein timau brechu, cyn belled ag y bydd digon o gyflenwad, rydym yn disgwyl cyflawni'r canlynol yn ystod Cam 2:

  • 2 filiwn o ddosau cyntaf (cyflawnwyd hyn ar 16 Mai)
  • 1 filiwn o ail ddosau (cyflawnwyd hyn ar 23 Mai)
  • 75% yn manteisio ar y dos cyntaf ym mhob un o'r 10 grŵp erbyn diwedd Gorffennaf

Dros y misoedd diwethaf mae GIG Cymru wedi gweinyddu miloedd o frechlynnau; cymysgedd o ddosau cyntaf ac ail ddosau a brechlynnau gwahanol ochr yn ochr â'i gilydd. Mae hyn yn golygu bod y GIG yn gweithredu setiau gwahanol o drefniadau i bob pwrpas sy'n cyflwyno heriau o ran rheoli stoc brechlynnau a chapasiti.

Mae pob dos a roddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Rydym eisiau sicrhau bod niferoedd uchel o bobl yn parhau i fanteisio ar y brechlynnau er mwyn diogelu Cymru. Gan fod y nifer sydd wedi manteisio ar y dos cyntaf o’r brechlyn yng ngrwpiau 1-4 yn fwy na 90% ym mhob un o’r grwpiau, rydym hefyd am gyflawni'r lefel uchel hon ar gyfer yr ail ddos. Mae'r ail ddos yn hanfodol i ddiogelu pobl yn llawn yn y tymor hirach, gan gynnwys yn erbyn amrywiolion, felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn derbyn y cynnig o ail ddos.

Yn ystod y Cam hwn, bu'n rhaid i'r rhaglen addasu i gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ogystal â'r amrywiolyn newydd sy’n peri pryder o’r enw Delta a nodwyd gyntaf yn India.

Mewn ymateb i gyngor y Cyd-bwyllgor, gwnaethom flaenoriaethu'r brechlyn ar gyfer cysylltiadau aelwydydd oedolion imiwnoataliedig. Roedd hyn er mwyn amddiffyn yr oedolion hynny sydd â systemau imiwnedd gwannach ac sy'n fwy tebygol o gael y canlyniadau gwaethaf os ydynt yn dal COVID-19.

Gan weithio gyda sefydliadau gofalu cenedlaethol, rhoesom eglurder o ran y trefniadau ar gyfer gofalwyr di-dâl yng ngrŵp 6 drwy gyflwyno canllawiau a ffurflen gais ar-lein i'r rhai nad ydynt wedi cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda'u meddyg teulu. 

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau brechu COVID-19 ar gyfer menywod beichiog, y rhai sy'n bwydo ar y fron a menywod o oedran beichiogi, gan eu helpu i wneud dewis gwybodus ynglŷn â manteisio ar y brechlyn, yn unol â chanllawiau’r Cyd-bwyllgor ar frechlynnau a argymhellir.

Rydym hefyd wedi gweld newidiadau i’r cyngor diogelwch rhagofalus ar gyfer pobl o dan 40 mlwydd oed. Roeddem yn gallu cefnogi'r GIG i ymateb yn gyflym i'r newidiadau hynny ac rydym wedi sicrhau bod y brechlyn priodol ar gael ar yr adeg gywir i unigolion. Gwnaethom hefyd sicrhau bod gan y cyhoedd yr wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt i wneud dewis gwybodus. Rydym wedi canfod bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod lefelau uchel yn manteisio ar y brechlyn.

Os yw’r cyflenwad yn caniatáu, a chyda chefnogaeth barhaus y GIG, rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd Carreg Filltir 3 yn gynharach na'n targed, sef 'diwedd Gorffennaf'. Rydym yn disgwyl y byddwn wedi cynnig brechiad i bawb dros 18 oed yn gynnar yr wythnos nesaf ac rydym yn disgwyl cyrraedd y nod o frechu dros 75% o bobl ym mhob grŵp fis yn gynnar. Bydd hyn yn dod â Cham 2 i ben ac yn ein symud ymlaen at Gam 3.

Peidio â gadael neb ar ôl

Er bod y nifer sy'n manteisio ar y cynnig o frechlyn COVID-19 yng Nghymru yn parhau'n uchel iawn, mae nifer o bobl o hyd ar draws pob ystod oedran sy’n dal i fod heb eu brechu, er iddynt gael mwy nag un cynnig.

Rydym yn gweithredu yn unol â’r egwyddor o ‘Beidio â gadael neb ar ôl’ ac rydym bob amser wedi mynd yn ôl i gysylltu eto ag unrhyw rai sydd wedi’u methu er mwyn cynnig apwyntiad arall iddynt. Nid yw byth yn rhy hwyr i dderbyn y cynnig o frechlyn.

Rhaid rhoi mynediad teg i bob person at y rhaglen frechu, gan sicrhau cyfle cyfartal iddynt gael eu brechu. Rhaid gwneud pob ymdrech i ddymchwel rhwystrau. Dyna pam y mae cymorth ychwanegol, pwrpasol ac addasiadau rhesymol wedi cael eu darparu i'r rhai sydd â gofynion arbennig, grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol a'r unigolion hynny sy'n anodd eu cyrraedd. Byddwn yn parhau i ddarparu’r cymorth a’r addasiadau hynny.

Dros y mis diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer sy’n methu eu hapwyntiad ar draws Cymru. Yn sgil ymddangosiad amrywiolion newydd sy’n fwy trosglwyddadwy, mae hi cyn bwysiced ag erioed i fanteisio ar y cynnig o frechiad cyntaf ac, yn hollbwysig, yr ail frechiad hefyd. Mae'r wyddoniaeth yn dweud wrthym fod ail ddos yn darparu amddiffyniad llawer uwch. 

Pam nad yw rhai pobl yn manteisio ar eu cynnig o frechlyn?

Drwy ddeall pwy nad yw'n manteisio ar eu cynnig a pham, gallwn gymryd camau i ddymchwel rhwystrau. Gallai’r rhesymau gynnwys trafferthion o ran teithio i apwyntiad, anawsterau wrth geisio aildrefnu apwyntiad, cyfrifoldebau megis gofal plant a mân gostau cysylltiedig, manylion cyswllt anghywir ar gyfer cleifion, trafferthion o ran mynediad a logisteg yn ogystal â diffyg hyder ac ymddiriedaeth yn y brechlyn.

Gan ddysgu o raglenni brechu eraill a gwaith ymchwil, gwyddom fod rhai grwpiau o bobl, am wahanol resymau, yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o frechlyn COVID-19. Er enghraifft, mae dynion yn llai tebygol o fanteisio ar ymyriadau ataliol na menywod.

Mae grwpiau eraill a allai wynebu anawsterau penodol yn cynnwys:

  • pobl sy’n ddigartref, yn camddefnyddio sylweddau neu â salwch meddwl difrifol
  • pobl â nam ar y synhwyrau, anabledd corfforol neu anabledd dysgu
  • ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr
  • pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig
  • pobl o dan anfantais economaidd
  • rhieni sengl â phlant sy’n ddibynnol arnynt

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio adroddiad misol ar gydraddoldeb o ran brechlyn COVID-19 yng Nghymru yn ôl rhyw, amddifadedd economaidd-gymdeithasol a grŵp ethnig. Dyma ganfyddiadau’r adroddiad diweddaraf (ar gyfer y cyfnod rhwng 8 Rhagfyr 2020 a 14 Mai 2021):

  • mae bylchau anghydraddoldeb o ran darparu o leiaf un dos o frechlyn COVID-19 rhwng grwpiau ethnig a grwpiau economaidd-gymdeithasol ymysg oedolion yng Nghymru wedi lleihau ers mis Mawrth. Fodd bynnag, o ran y nifer sydd wedi’u brechu, mae anghydraddoldebau sylweddol yn parhau, yn enwedig ymysg unigolion o dras Ddu Affricanaidd a Du Caribïaidd.
  • mae lleihau anghydraddoldebau yn amlygu pwysigrwydd cynnig cyfleoedd i ddal i fyny a dechrau ymyriadau iechyd cyhoeddus lleol a chenedlaethol.
  • gwelwyd yr anghydraddoldeb mwyaf yn y ddarpariaeth rhwng grwpiau ethnig mewn oedolion rhwng 50 a 59 oed. Roedd y gyfran o bobl a oedd wedi cael y brechiad cyntaf yn y grwpiau ethnig cyfunol Du, Asiaidd, Cymysg ac Eraill yn y grŵp oedran hwn yn 79.9% o’i gymharu â 91.3% yn y grwpiau ethnig cyfunol Gwyn.
  • felly, roedd y ddarpariaeth frechu yn is mewn grwpiau sydd mewn mwy o berygl o COVID-19.
  • gwelir patrwm tebyg o anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth o’r ail ddos ag ar gyfer y cyntaf, er bod y bwlch yn y ddarpariaeth fel arfer yn ehangach ac mae'r cam hwn o'r rhaglen frechu yn llai aeddfed.

Pa gamau yr ydym yn eu cymryd?

Mae sicrhau tegwch yn elfen allweddol o waith o fewn Rhaglen Frechu COVID-19 ac mae COVID-19: Strategaeth Brechu Teg i Gymru (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021) yn nodi bwriadau'r rhaglen. Rydym yn rhoi dau ddull ar waith, y naill i ddeall y gyfradd sy'n manteisio ar y cynnig o frechlyn, a’r llall i roi camau ar waith yn sgil hynny.#

Y Pwyllgor Brechu Teg

Sefydlwyd y Pwyllgor i oruchwylio ac adolygu tegwch o fewn rhaglen frechu COVID-19. Mae'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr o grwpiau ymbarél, y grwpiau eu hunain nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, a sefydliadau'r trydydd sector, yn ogystal ag arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG i ddeall rhwystrau i frechiadau COVID-19 ar gyfer grwpiau ar y cyrion, a gwaith i ddymchwel y rhwystrau hynny. Mae aelodau'r Pwyllgor yn cynnig eu harbenigedd i wneud argymhellion ac awgrymiadau ynghylch yr hyn a fyddai'n annog ac yn galluogi'r grwpiau hyn i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. Mae rhai o'r argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, rhai ar gyfer y GIG a Byrddau Iechyd, a rhai y byddant yn bwrw ymlaen â hwy eu hunain.

Gweithgor Apwyntiadau a Fethwyd 

Caiff gwahoddiadau i apwyntiadau brechu eu trefnu'n awtomatig a'u hanfon mewn llythyr i gartref unigolyn. Os nad yw’n mynd i’r apwyntiad, ac nad yw’n rhoi gwybod i'r brechwyr, caiff ei ystyried yn Apwyntiad a Fethwyd. Mae'r GIG yn parhau i adolygu data ar y rhai nad ydynt yn mynd i’w hapwyntiad i ddeall patrymau o ran amseriad a daearyddiaeth drwy'r gweithgor Apwyntiadau a Fethwyd ynghyd â strategaethau i wirio manylion cyswllt yn ofalus.Mae hyn yn galluogi strategaethau lleol neu genedlaethol, megis addasu apwyntiadau sydd wedi’u trefnu’n awtomatig, i gefnogi darpariaeth weithredol effeithiol o frechlynnau a deunydd cyfathrebu wedi'i dargedu i roi gwybodaeth i bobl a’u galluogi i fanteisio ar eu cynnig. O ganlyniad, maent wedi bod yn hyblyg a rhoi trefniadau penodol ar waith ar gyfer rhai grwpiau ar y cyrion, gan gynnwys pobl ddigartref neu bobl sy'n gofalu am eraill.

Drwy dynnu’r holl gamau gweithredu gwahanol at ei gilydd, gellir eu clystyru o dan y 4 pennawd canlynol a nodir yn y Strategaeth Brechu Teg:

1. Strategaeth a chynllun gweithredu

  • y Pwyllgor brechu teg - goruchwylio ar adolygu annhegwch
  • is-grwpiau'r Pwyllgor: Anableddau Corfforol, Nam ar y Synhwyrau ac Anableddau Dysgu, Digartrefedd, Salwch Meddwl Difrifol a Chamddefnyddio Sylweddau, Ceiswyr Lloechs a Ffoaduriaid, Grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig, Pobl dan Anfantais Economaidd
  • Gofod Dysgu ar y Cyd ar gfyer enghreifftiau o arferion da ar draws Byrddau Iechyd
  • Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd
  • annog pobl i gofrestru â meddyg teulu a sicrhau bod manylion yn gywir - glanhau data

2. Modelau mynediad a chyflenwi

  • gweithgor Apwyntiadau a Fethwyd - deall patrymau ac ystyried camau wedi'u targedu
  • cynnig dewis arall yn lle apwyntiadau wedi'u trefnu'n awtomatig
  • gwneud addasiadau rhesymol
  • model cyflenwi hyblyg
  • system archebu hyblyg

3. Data ac ymchwil gwyliadwriaeth

  • adroddiad gwyliadwriaeth uwch bob mis
  • arolwg agweddau - Iechyd Cyhoeddus Cymru/YouGov
  • gwyddor ymddygiada yn sail i'r ffordd o gysylltu eto â'r rheniy sy'n methu eu hapwyntiad
  • casglu canfyddiadau ansoddol i ddeall pam y mae pobl yn amharod i gael eu brechu

4. Cyfathrebu ac ymgysylltu

  • grŵp ymgysylltu
  • rhannu asedau cyfathrebu i'w defnyddio'n lleol
  • hyrwyddwyr cymunedol
  • lleisiau yr ymddiriedir ynddynt
  • rôl cyrff ymbarel ac elusennau

Ar ôl cyrraedd carreg filltir 3, bydd cyfnod penodol o ganolbwyntio ar degwch a mynediad at y brechlyn gyda mwy o hyblygrwydd ac allgymorth.

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o argymhellion y Pwyllgor Brechu Teg i gyflawni hyn. Mae Byrddau Iechyd eisoes yn bwrw ymlaen â rhai o'r rhain ac rydym yn parhau i weithio gyda hwy i adolygu a defnyddio'r data i lywio gwaith cynllunio, darparu a chyfathrebu cenedlaethol a lleol. 

Deall y gyfradd sydd wedi’u brechu mewn grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol

  • Datblygu data lleol ar gyfer Byrddau Iechyd i nodi ardaloedd lle mae’r gyfradd frechu’n isel, a thargedu camau gweithredu yn unol â hynny

Gwella hygyrchedd

  • Sicrhau bod safonau hygyrchedd ac addasiadau rhesymol ar waith megis mannau tawel i’r rhai sydd eu hangen a llwybrau mynediad clir
  • Hyrwyddo fformatau hygyrch o wybodaeth gan gynnwys ieithoedd amgen
  • Datblygu Cardiau Mynediad Meddygon Teulu i gefnogi grwpiau agored i niwed, gan gynnwys ceiswyr lloches a mudwyr, i gofrestru gyda meddyg teulu
  • Defnyddio gwirfoddolwyr trafnidiaeth gymunedol
  • Hyrwyddo hyfforddiant ymwybyddiaeth o golli golwg a chlyw ar gyfer staff clinigol
  • Hyrwyddo manylion cyswllt Byrddau Iechyd a phrosesau clir i'w dilyn i wneud apwyntiad

Gwell argaeledd

Modelau cyflenwi hyblyg gyda’r canlynol:

  • clinigau dros dro mewn canolfannau cymunedol, ee cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan glinig dros dro ar y penwythnos yng nghanol dinas Casnewydd i bobl dros 40 oed, gyda system i fynd â phobl o dan 40 oed i Ganolfan Brechu Torfol Casnewydd i gael brechlyn Pfizer
  • clinigau dros dro mewn canolfannau ffydd, ee mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi bod yn cynnal canolfannau brechu rheolaidd mewn mosgiau yng Nghaerdydd
  • clinigau brechu allgymorth ar gyfer cymunedau teithwyr, ee mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn cynnig brechiadau mewn safleoedd teithwyr ac mae Bwrdd Iechyd Powys yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys a grwpiau teithwyr i gynnig brechiadau
  • clinigau brechu allgymorth yn y pwynt cyswllt ar gyfer pobl ddigartref, ee clinigau brechu mewn hosteli a llety â chymorth fel y rhai a gynhelir yn yr 'Immbulance' allgymorth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cynyddu hyder ac ymddiriedaeth o fewn y rhaglen frechu

  • dull pwrpasol, wedi'i dargedu ar gyfer gwahanol grwpiau cymwys megis pobl ifanc drwy ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
  • sgript ar gyfer ailgynnig apwyntiadau a negeseuon testun yn seiliedig ar ganfyddiadau ymddygiadol
  • sicrhau bod cymunedau mudol yn gwybod nad yw data personol yn cael eu rhannu y tu hwnt i raglen frechu COVID-19
  • defnyddio lleisiau yr ymddiriedir ynddynt a hyrwyddwyr cymunedol i gyfleu negeseuon allweddol – mae hyn wedi’i ategu gan swyddogion cymunedol ac ymgysylltu newydd ym mhob Bwrdd Iechyd i weithio gyda chymunedau lleol i gefnogi'r rhaglen frechu

Edrych ymlaen

Wrth inni ddysgu mwy am y feirws, ei amrywiolion a pha mor effeithiol yw'r brechlynnau, daw'n gliriach bod rheoli'r feirws yn debygol o fod yn her hirdymor.

Byddwn yn parhau i fonitro twf unrhyw amrywiolion yng Nghymru yn ofalus. Brechlynnau yw ein ffordd orau allan o'r pandemig hwn o hyd. Yn unol â chyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, rydym yn gweithio gyda'n timau rheoli achos lluosog lleol a'n Byrddau Iechyd i hwyluso darpariaeth gynt o ail ddos o frechlyn, yn amodol ar gyflenwad Byrddau Iechyd. Bydd hyn wedi'i dargedu at bobl yn y perygl mwyaf o COVID-19, pan fo pryderon ynghylch trosglwyddo mewn ardaloedd lle mae’r nifer sydd wedi manteisio ar y cynnig o frechlyn yn isel. Mae cwblhau'r cwrs dau ddos yn arbennig o bwysig i ddiogelu pobl rhag y mathau presennol o’r feirws ac amrywiolion newydd.

Pan fydd y feirws sy'n achosi COVID-19 yn lledaenu'n gyflym, mae'n glir y gall amrywiolion ddod i'r amlwg a allai gael eu trosglwyddo'n haws ac achosi niwed os gallant osgoi ein brechlynnau presennol. Mae amrywiolyn Delta a nodwyd gyntaf yn India wedi disodli'r amrywiolyn amlycaf a nodwyd gyntaf yng Nghaint, yn Lloegr ac fe fydd yn lledaenu'r ehangach.

Mae astudiaeth ddiweddar gan Public Health England yn awgrymu bod un dos o unrhyw frechlyn yn rhoi amddiffyniad cymedrol o dros 30% inni, ond bod angen cwrs llawn o ddau ddos er mwyn cael yr amddiffyniad gorau. Credir bod dau ddos o frechlyn Pfizer yn rhoi amddiffyniad o dros 80% a bod dau ddos o frechlyn AstraZeneca yn rhoi amddiffyniad o 60-70%. Er hynny mae'n bosibl bod un dos o'r brechlynnau hyn yn rhoi amddiffyniad o ychydig dros 33% yn unig, felly mae'n bwysig bod pawb yn derbyn y cynnig o ail ddos yn unol â’r drefn risg ar gyfer y carfannau a nodir gan JCVI ar gyfer y rhaglen.

Mae'n bwysig hefyd ddilyn canllawiau presennol Llywodraeth Cymru yn enwedig ar hunanynysu a phrofi, ac ar lefelau cymysgu dan do, gan awyru lleoedd dan do yn dda, yn ogystal â chofio aros yn ddiogel trwy gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchuddion wyneb a golchi dwylo'n rheolaidd.

Wrth inni symud yn nes at gwblhau Cam 2 a chyrraedd carreg filltir 3, pan fydd pob oedolyn cymwys wedi cael cynnig dos cyntaf, beth ddaw nesaf?

Rydym yn gweithio mewn amser real i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer Cam 3 er bod nifer o bethau nad ydym yn sicr yn eu cylch o hyd. Mae treialon ac astudiaethau yn cael eu cynnal o amgylch y byd i ddeall mwy am:

  • am ba hyd y mae pobl yn cael eu diogelu ar ôl cael dau ddos o frechlyn?
  • pwy fydd angen brechiad atgyfnerthu a pha frechlynnau sydd orau iddynt?
  • a ellir rhoi'r brechlyn ffliw a’r brechlyn COVID-19 yr un pryd?
  • a ddylid brechu pobl iau neu blant o dan 18 oed, ac o ba oedran?
  • sut y gallai fod angen inni addasu brechlynnau i ymateb i amrywiolion newydd.

Bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn rhoi cyngor ar y ffordd ymlaen yng Ngham 3. Yn y cyfamser, rydym yn ymgymryd â gwaith cynllunio gan ragdybio y bydd angen canolbwyntio ar bedwar maes yn y cam nesaf er mwyn cynnal imiwnedd:

Cam 3

Image
Delwedd sy'n dangos agweddau allweddol cynllunio Cam 3, i barhau i ddiogelu pobl rhag COVID-19 a chynnal imiwnedd. Mae hyn yn cynnwys darparu brechlynnau atgyfnerthu i'r rhai sydd wedi cael y ddau ddos, ail ddos i'r rhai sydd ond wedi cael un, ail-gynnig brechiad i'r rhai sydd heb ei gael o gwbwl, a brechu pobl ifanc.

Bydd angen cyflawni Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru ochr yn ochr â rhaglenni brechu pwysig eraill megis y rhaglen frechu rhag y Ffliw a rhaglen dal lan ar gyfer Imiwneiddio Plant a Phobl Ifanc Oedran Ysgol wrth i gyfnod yr hydref fynd rhagddo yn nes ymlaen yn 2021. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n Byrddau Iechyd ar yr agweddau hyn.

Brechlyn atgyfnerthu

Mae'n debygol y bydd ar y rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth  1 hyd 4, ac o bosibl grwpiau 1 hyd 9 neu’n ehangach, angen un dos o frechlyn COVID-19 fel brechiad atgyfnerthu. Rydym yn cynllunio i GIG Cymru fod yn barod i roi'r brechiad atgyfnerthu hwn cyn gynted ag y bydd cyngor terfynol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi’i gadarnhau, gan nodi pwy fydd yn cael ei frechu ac ym mha drefn. Rydym yn disgwyl cael cyngor interim dros yr haf. Mae’n bosibl y bydd grwpiau eraill yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu, gan ddibynnu ar y cyngor.

Ail ddos

Bydd angen i bobl iau, sy'n cael eu brechu yn ddiweddarach yng ngham 2, gael eu hail frechiad yn ystod cam 3.

Ein nod yw sicrhau y bydd pawb sydd wedi cael dos cyntaf yn cael eu hail ddos hefyd, a hynny ar draws yr holl grwpiau oedran. Yn amodol ar y cyflenwad o frechlynnau, cyngor y Cyd-bwyllgor ac unrhyw newidiadau i’r cyfnodau rhwng dosau, rydym yn hyderus y byddwn yn parhau i gyflenwi'r ail ddos mor gyflym ac mor llwyddiannus â'r dos cyntaf. Mae gan fyrddau iechyd ddisgresiwn a hyblygrwydd lleol i ddehongli'r canllawiau, ar sail yr hyn a fyddai'n gweithio yn lleol neu'n lleol iawn, sy'n cynnwys rhoi'r ail ddos yn gynharach mewn rhai ardaloedd, os bydd hyn yn blaenoriaeth glinigol, a lle mae'r cyflenwad yn caniatáu.

Yn amodol ar y cyflenwad o frechlynnau, rydym yn disgwyl cynnig dos cyntaf i bawb sy'n gymwys erbyn canol mis Mehefin a chynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi i bawb sy'n dymuno achub ar y cyfle i gael eu brechu.

Ailgynnig y dos cyntaf

Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechlyn. Fel y nodwyd yn flaenorol, byddwn yn cymryd camau wedi'u targedu i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal rhai pobl rhag manteisio ar eu cynnig o frechlyn. Mae ymrwymiad clir yn y Rhaglen Frechu i sicrhau cyfle a mynediad cyfartal i bawb.

Rhoddir blaenoriaeth ar ddechrau Cam 3 i estyn allan i gymunedau gydag ymdrech cyfunol a gweladwy i alluogi unrhyw un nad yw wedi cael pigiad hyd yma i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. 

Brechu pobl ifanc

Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi adolygu data treialon clinigol mewn plant rhwng 12 a 15 oed. Daeth i'r casgliad bod brechlyn COVID-19 PfIzer/BioNTech yn bodloni'r safonau uchel o ddiogelwch, effeithiolrwydd ac ansawdd sydd eu hangen ac mae wedi awdurdodi ei ddefnyddio ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 oed.

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wrthi'n ystyried y dystiolaeth glinigol i benderfynu a ddylid brechu pobl ifanc dros 12 oed neu ai'r peth gorau fyddai cynnig brechlyn i grwpiau penodol o blant, ar sail eu hoedran neu eu ffactorau risg clinigol. Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto a disgwylir i'r Cyd-bwyllgor ddarparu'r cyngor hwn tua diwedd mis Gorffennaf. At ddibenion cynllunio ar gyfer Cam 3, rydym wrthi’n ystyried sut y gall GIG Cymru weithredu’n brydlon unrhyw argymhelliad gan y Cyd-bwyllgor ar gyfer yr ystod oedran hon.

System archebu ar-lein

Mae ein system archebu brechiadau COVID-19 wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran cynnal cyflymder ein rhaglen frechu. I gefnogi Cam 3 a sicrhau bod llwyddiant ein rhaglen frechu effeithiol yn parhau, rydym yn bwriadu lansio system archebu ar-lein newydd. Bydd hon yn adeiladu ar ein profiad gyda’r system bresennol ond bydd yn galluogi’r cyhoedd i newid eu hapwyntiad oes oes angen ac i archebu eu hapwyntiadau brechu eu hunain. Nod hyn yw diwallu anghenion presennol y rhaglen frechu a’i hanghenion yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, rydym yng ngham datblygu’r gwaith hwn, ond ein nod yw rhoi system ddigidol ar-lein ar waith i helpu i drefnu brechiadau atgyfnerthu, os bydd angen, erbyn yr Hydref.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen frechu

Byddwn yn gallu adrodd mwy am y meysydd hyn yn ein naratif wythnosol sy'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ac yn nodi cynnydd yn erbyn ein strategaeth.

Byddwn hefyd yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth am y rhaglen frechu yn rheolaidd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol, sy'n rhoi gwybodaeth am faint o frechlynnau sydd wedi'u rhoi, gan gynnwys dadansoddiadau dyddiol yn ôl grŵp blaenoriaeth, a dadansoddiadau wythnosol yn ôl Bwrdd Iechyd. Hefyd, mae adroddiadau gwyliadwriaeth misol ar gydraddoldeb cyfraddau brechu rhwng grwpiau ethnig a lefelau amddifadedd economaidd-gymdeithasol yn cael eu cyhoeddi bellach.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos, gan gynnwys data am gyflenwadau brechlynnau ac am wastraff.