Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2021 i Awst 2022
Data ar gyfer disgyblion lle mae awdurdodau lleol yn gwybod eu bod yn derbyn addysg y tu allan i'r ysgol yr gyfer Medi 2021 i Awst 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data ar Ddisgyblion sy'n Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion. Mae'n cynnwys data yn ôl oedran, rhyw, a'r math o ddarpariaeth.
Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu amser yn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae'r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Chwefror 2022. Fel arfer fe fyddai'r cyfrifiad yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Ond oherwydd lefel yr achosion coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022 gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022.
Mae’r Cyfrifiad EOTAS yn cynnwys disgyblion sy’n cael eu rhoi gan awdurdodau lleol mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau), neu fathau eraill o ddarpariaeth amgen y cyfeirir ati fel Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Mae'n cyfateb i'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgybl (PLASC), ond ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'r ysgol.
Mae'r datganiad hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am blant lle mae’r rhieni wedi rhoi gwybod i awdurdodau lleol eu bod yn cael eu haddysgu gartref. Nid yw'r plant hyn wedi'u cynnwys yng Nghyfrifiad EOTAS.
Am ddiffiniadau manylach am y meini prawf ar gyfer EOTAS a chategorïau darpariaeth EOTAS gweler diffiniadau a meini prawf.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn aml yn defnyddio nifer y disgyblion ym mhob 1,000 (cyfraddau) i gymharu grwpiau. Mae'r rhif yn cael ei gyfrifo trwy rannu â nifer y disgyblion yn y grŵp EOTAS gan nifer y disgyblion sydd yn yr un grŵp yng nghyfanswm poblogaeth myfyrwyr.
Er enghraifft, os mewn Awdurdod Lleol yn 2021/22 mae:
- 500 o ddisgyblion EOTAS yn yr awdurdod lleol
- 50,000 o ddisgyblion PLASC ac EOTAS yn yr un awdurdod lleol
Yna mae 10 disgybl EOTAS ym mhob 1,000 o ddisgyblion yn yr Awdurdod Lleol hwnnw.
Yng Nghymru, yn 2021/22 mae 4.8 o bob 1,000 o ddisgyblion gyda darpariaeth EOTAS.
Mae'r awdurdod lLleol yn ein hesiampl ni yn fwy na rhif Cymru, felly mae mwy o ddisgyblion EOTAS yn gymesur yn yr awdurdod lleol hwnnw nag yng Nghymru.
Disgyblion
Mae 2,254 o ddisgyblion yn cael rhyw fath o ddarpariaeth EOTAS. Mae hynny'n 4.8 o bob 1,000 o ddisgyblion yng Nghymru, sydd i lawr o 5.6 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2009/10.
Mae 1,814 o ddisgyblion EOTAS yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol. Dyna 3.8 o bob 1,000 o ddisgyblion yng Nghymru, sydd i fyny o 2.1 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2009/10. Mae'n ymddangos bod nifer y disgyblion EOTAS yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol yn trendio i fyny, ar ôl bron â dyblu'n gymesur ers 2009/10, y gallwch ei weld yn Siart 1.
Mae canran y disgyblion EOTAS yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol yn 80.5%, i fyny o 42% yn 2009/10.
Addysg ac eithrio yn yr ysgol (StatsCymru)
Mae llawer o ddisgyblion EOTAS yn dal ar y gofrestr mewn ysgolion a gynhelir.
O'r 2,254 o ddisgyblion EOTAS:
- 710 o ddisgyblion EOTAS â statws cofrestru ‘atodol’ mewn ysgolion a gynhelir yn y PLASC 2022 , sy'n golygu mai eu prif addysg oedd 'heblaw yn yr ysgol'
- Roedd gan 440 o ddisgyblion EOTAS statws cofrestru 'prif' neu 'gyfredol' mewn ysgolion a gynhelir yn y PLASC 2022 , sy'n golygu bod eu prif addysg mewn ysgol a gynhelir
Gallwch weld hyn wedi’i dorri lawr yn Siart 2. Mae'r siâp ar y chwith yn cynrychioli disgyblion EOTAS ar y gofrestr mewn ysgol a gynhelir. Mae'r siâp ar y dde yn dangos y disgyblion EOTAS sy’n derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol. Mae lle mae'r siapiau'n gorgyffwrdd yn cynrychioli nifer y disgyblion EOTAS sy'n derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol a gyda statws cofrestru 'atodol' mewn ysgol a gynhelir.
Addysg ac eithrio yn yr ysgol (StatsCymru)
Y ffocws yn y datganiad hwn fydd ar ddisgyblion EOTAS yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol - y 1,814 disgybl a gynrychiolir gan y sgwâr mawr ar y chwith. Mae disgyblion sydd â statws cofrestru 'prif' neu 'gyfredol' yn PLASC 2022 wedi'u cynnwys yng nghyhoeddiad Cyfrifiad yr Ysgolion.
Addysg gartref ddewisol
Ym mlwyddyn academaidd 2021/22 roedd yn hysbys bod 4,681 o blant yn derbyn addysg ddewisol yn y cartref yng Nghymru. Nid yw’r nifer hwn wedi’i gynnwys yng nghyfanswm nifer y disgyblion EOTAS yn ddiweddarach yn y datganiad hwn.
Cyfradd y disgyblion sy'n cael eu haddysgu fel cartref dewisol ar 2021/22 yw 9.8 o bob 1,000 o ddisgyblion, cynnydd o 1.6 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2009/10, ac mae'r gyfradd wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny. Cynyddodd y gyfradd ym mhob awdurdod lleol.
Ceredigion oedd â'r gyfradd uchaf, sef 23.8 o bob 1,000 o ddisgyblion. Mae Ceredigion wedi nodi'n gyson y gyfradd uchaf o blant sy'n cael eu haddysgu gartref ers 2009/10 ar gyfer merched a bechgyn.
Yn 2021/22 mae'r gyfradd yng Ngheredigion wedi cyrraedd:
- 24.1 o bob 1,000 o ferched
- 23.5 o bob 1,000 o fechgyn
Roedd y twf cyfrannol uchaf ym Mlaenau Gwent, gyda chynnydd i dros 20 gwaith y gyfradd o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref gafodd yn 2009/10.
Yr oedran mwyaf cyffredin i ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref yw 15.
Yn 2021/22:
- 23.2 o bob 1,000 o ferched 15 oed yn cael eu haddysgu gartref
- 22.0 o bob 1,000 o fechgyn 15 oed yn cael eu haddysgu gartref
Rhwng 2009/10 a 2021/22, bu cynnydd yng nghyfraddau addysg gartref dewisol ar draws pob grŵp oedran, gyda'r cynnydd mwyaf yn y grŵp oedran 5 oed. Yn 2021/22 mae'r gyfradd o ddisgyblion 16 oed sy'n cael eu haddysgu gartref wedi cynyddu i 32 gwaith hynny yn 2009/10.
Mae rhieni’n hysbysu eu hawdurdod lleol yn wirfoddol eu bod yn addysgu eu plant gartref (oni bai eu bod wedi tynnu eu plentyn allan o’r ysgol). Mae hyn yn golygu efallai na fydd y data’n cynnwys yr holl blant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref yn ddewisol.
Awdurdodau lleol
Merthyr Tudful oedd â'r gyfradd uchaf o ddisgyblion EOTAS, gyda 9.4 o bob 1,000 o ddisgyblion yn cael eu prif addysg y tu allan i'r ysgol.
Mae niferoedd EOTAS Sir Benfro wedi cynyddu fwyaf ers 2009/10, yn mynd o gyfradd o 0.5 o bob 1,000 o ddisgyblion i 6.6 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2021/22. Mae'r gyfradd bellach 12 gwaith yn fwy nag yn 2009/10. Mae hyn oherwydd cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cael eu cofnodi gyda chofrestriad atodol mewn ysgol a gynhelir, yn hytrach na chael eu cofnodi fel statws cofrestru prif neu gyfredol.
Anghenion addysgol arbennig, anghenion dysgu ychwanegol a phrydau ysgol am ddim
Yn 2021/22, mae yna, yn gymesur, llawer mwy o ddisgyblion ag Anghenion Addysg Arbennig neu Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu haddysgu y tu allan i'r ysgol yn bennaf nag yn y boblogaeth gyffredinol o fyfyrwyr.
Cyfraddau disgyblion EOTAS ar gyfer pob categori o ddarpariaeth AAA neu ADY
Gyda datganiad o AAA
- 49.4 o bob 1,000 o ddisgyblion.
Gweithredu gan yr ysgol a mwy
- 26.6 o bob 1,000 o ddisgyblion.
Cynllun Datblygu Unigol a gynhelir gan yr AALI
- 84.7 o bob 1,000 o ddisgyblion.
O'i gymharu â chyfartaledd o 3.8 o bob 1,000 o ddisgyblion ym mhoblogaeth gyffredinol disgyblion.
Yn 2021/22 cynyddodd y gyfradd o ddisgyblion EOTAS ag AAA neu ADY o'i gymharu â 2009/10. Cyfradd 2009/10 oedd 8.1 o bob 1000 o ddisgyblion, o'i gymharu â 20.5 o bob 1000 o ddisgyblion yn 2021/22.
Yn 2021/22, Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig yw'r ddarpariaeth AAA fwyaf cyffredin ar gyfer disgyblion yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol.
Bu mwy o ddisgyblion yn gymesur yn gyson wedi cael eu haddysgu'n bennaf y tu allan i'r ysgol sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim (FSM) ers 2009/10. Cyrhaeddodd y gyfradd uchafbwynt yn 2017/18, gyda 8.4 o bob 1,000 o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn fsm yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol, o'i gymharu â 7.1 o bob 1,000 o ddisgyblion yn 2021/22.
Roedd 36.4% o ddisgyblion yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2021/22, o'i gymharu â 21.3% o ddisgyblion yr ysgol (PLASC) a oedd yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Darpariaeth EOTAS
Gan y gall disgyblion fynychu mwy nag un ddarpariaeth addysgol mewn wythnos, gall rhai disgyblion gael eu cyfrif yn erbyn mwy nag un ddarpariaeth. Felly, mae nifer y cofrestriadau (1,856) yn uwch na nifer y disgyblion yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol (1,814 o ddisgyblion).
Yn 2021/22 roedd 825 o gofrestriadau mewn unedau cyfeirio disgyblion, a oedd yn cyfrif am 43.5% o'r holl gofrestriadau addysgol EOTAS. Unedau cyfeirio disgyblion yw'r ddarpariaeth fwyaf cyffredin o hyd i ddisgyblion EOTAS. Mae canran y disgyblion yn PRUs wedi bod yn gymharol gyson ers 2009/10.
Mae Addysg sy'n gysylltiedig â Gwaith wedi gostwng o 3.9% yn 2009/10 i fod yn rhy isel i'w adrodd yn 2021/22.
21.4 oedd nifer yr oriau o addysg a ddarparwyd i ddisgyblion yn derbyn eu prif addysg y tu allan i'r ysgol. Roedd disgyblion oedd wedi cofrestru mewn coleg addysg bellach yn derbyn y nifer fwyaf o oriau o ddarpariaeth ar gyfartaledd, gyda 25.0 awr ar gyfartaledd fesul disgybl.
Addysg ac eithrio yn yr ysgol (StatsCymru)
Ers 2009/10 mae'r defnydd o hyfforddiant unigol ac ysgolion annibynnol wedi cynyddu. Ysgolion Annibynnol yw'r ail ddarpariaeth fwyaf erbyn hyn ar gyfer disgyblion EOTAS yn ystod 2021/22.
Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig
Mae gan blentyn anghenion arbennig os oes ganddynt anawsterau dysgu y mae angen darparu cymorth addysgol arbennig ar eu cyfer. Mae anhawster dysgu yn golygu bod gan y plentyn dipyn mwy o anhawster wrth ddysgu na’r mwyafrif o blant o’r un oedran neu fod gan y plentyn nam neu gyflwr iechyd neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain anabledd sy’n gofyn am gyfleusterau addysgol gwahanol i’r rhai y mae’r ysgol yn eu darparu fel rheol ar gyfer plant. Gall disgyblion ag anghenion addysgol arbennig gael Datganiad a roddir gan ALl neu gall yr ysgol nodi eu hanghenion. Yn yr ail achos, dônt o dan un o ddau gategori pellach: Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy.
Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.
Mae plant yn symud o’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) i’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros 3 blynedd, er mwyn sicrhau digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen ac i baratoi cynlluniau.
Mae’r Cod ADY wedi’i weithredu mewn partneriaeth ag arweinwyr trawsnewid addysg, partneriaid darparu a sefydliadau addysg, gyda rhaglen ddysgu a datblygu, a chreu rolau statudol newydd mewn awdurdodau lleol, ysgolion a’r gwasanaeth iechyd.
Mae cyfrifiad ysgolion 2022 yn cynrychioli’r cyflwyniadau cyntaf gan Gydlynwyr ADY penodedig ledled Cymru, fel rhan o Weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Mae dadansoddiad o’r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod y gostyngiad yn nifer y disgyblion ADY/AAA yn 2022 o ganlyniad i adolygiad systematig gan ysgolion o’u cofrestrau ADY/AAA yn barod ar gyfer cyflwyno’r system ADY. Tynnwyd y disgyblion hynny ag anghenion lefel isel, na nodwyd bod ganddynt ADY/AAA cydnabyddedig, oddi ar y gofrestr.
Gofynnwyd hefyd i ysgolion beidio defnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Roedd y categori hwn wedi dod yn un cyffredinol ar gyfer y rhai yr oedd angen cymorth dal i fyny arnynt, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn lle ei fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr a oedd yn aros am asesiad. Mae hyn wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os canfyddir nad oedd ganddynt ADY/AAA. Bydd y categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ yn cael ei ddileu o gyfrifiad ysgolion 2023.
Yn ogystal, mae llawer o ddisgyblion ar Gynlluniau Gweithredu Gan Yr Ysgol (y rhai sydd angen y swm lleiaf o ddarpariaeth addysgol arbennig) wedi'u tynnu oddi ar y gofrestr ADY/AAA. Roedd hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn rhai tymor byr ond eu bod yn parhau ar y gofrestr, neu nid oes angen darpariaeth ychwanegol neu wahanol i'r hyn a ddarperir ar gyfer dysgwyr eraill, y gellir mynd i'r afael â hi fel rhan o ddarpariaeth gyfannol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro nifer y dysgwyr ag ADY/AAA drwy gydol gweithrediad y system ADY ac yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY/AAA yng Nghymru, ac i sicrhau eu bod yn anghenion yn cael eu diwallu.
Diffiniadau a meini prawf
Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS)
Y prif faen prawf ar gyfer eu cynnwys yn y cyfrifiad EOTAS yw disgyblion y mae gan Awdurdod Lleol yng Nghymru gyfrifoldeb ariannol drostynt ac os na chaiff ei gynnwys yn y cyfrifiad hwn ni fyddai'r casgliad hwn yn cael ei godi drwy CYBLD. Fodd bynnag, gall rhai disgyblion gael eu cynnwys yn y cyfrifiad EOTAS ac ar CYBLD ysgol (ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir).
Bydd y wybodaeth a gesglir yn canolbwyntio ar blant sy’n derbyn addysg a noddir gan yr ALl y tu allan i’r ysgol yn unol â diffiniad Adran 19(1) Deddf Addysg 1996 (Deddfwriaeth y DU) h.y. y plant hynny sydd o oedran ysgol orfodol sydd, oherwydd salwch, gwaharddiad neu reswm arall, heb dderbyn addysg addas am ryw gyfnod penodol.
Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau)
Dywed Adran 19(1) Deddf Addysg 1996 (Deddfwriaeth y DU) ei bod yn ofynnol i ALlau wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg addas mewn ysgolion neu fel arall ar gyfer plant sydd mewn oed y mae’n rhaid iddynt fynychu ysgol ac sydd, am ba reswm bynnag, boed salwch, wedi’u heithrio o ysgol neu fel arall, yn methu â derbyn addysg addas am unrhyw gyfnod oni bai y gwneir trefniadau addas ar eu cyfer. Dywed Adran 19 (2) (Deddfwriaeth y DU) y bydd unrhyw ysgol a sefydlwyd i ddarparu addysg ar gyfer plant o’r fath, ac nad yw’n ysgol sirol [cymunedol] neu’n ysgol arbennig, yn cael ei galw yn “Uned Cyfeirio Disgyblion”.
Ysgolion annibynnol
Ysgolion sy'n codi ffioedd ac a all gael eu hariannu hefyd gan unigolion, cwmnïau neu sefydliadau elusennol. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.
Ysgolion arbennig
Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.
Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblion â datganiad
Disgyblion y mae'r Awdurdod yn cadw datganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer o dan Ran iv o Ddeddf Addysg 1996. Gall yr ALl gyhoeddi datganiad ar ôl asesu anghenion plentyn.
Gweithredu gan yr Ysgol
Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.
Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy
Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.
Cynlluniau Datblygu Unigol
Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.
Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan Swyddfa ar gyfer Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- wedi'i ychwanegu at a gwella y wybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
- cynhyrchu'r datganiad diweddaraf mewn fformat newydd i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol.
- gwneud mwy o ddata ar gael ar StatsCymru.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.
Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy’n ymwneud ag ansawdd data 2022, ac yn disgrifio’r offeryn rheoli ansawdd a ddefnyddir yn y maes gwaith hwn.
Perthnasedd
Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi’r data sylfaenol ymhellach. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:
- gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
- awdurdodau lleol ac ysgolion
- Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
- Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru
- rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
- y gymuned ymchwil
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
- dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a’r cyfryngau
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:
- i gynghori gweinidogion
- i lywio’r broses benderfynu ym maes polisi addysg yng Nghymru
- i ddarparu gwybodaeth i Estyn yn ystod arolygiadau o ysgolion
- i gynorthwyo â gwaith ymchwil i gyrhaeddiad addysgol
Cywirdeb
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yr holl ddata’n cael eu dilysu cyn i dablau gael eu cyhoeddi. Caiff data eu casglu ar ffurflen electronig a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru trwy DEWi, system ddiogel i drosglwyddo data ar lein a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae gwahanol gamau dilysu a gwirio synnwyr awtomatig yn rhan annatod o’r broses er mwyn sicrhau bod y data o ansawdd da.
Gan ddechrau yn 2011/12, ar ôl casglu’r data, cynhaliwyd cyfnod dilysu ychwanegol pan anfonwyd tablau cryno o’u data at awdurdodau lleol, gan ofyn iddynt wirio eu bod yn gywir. Er y cadarnhawyd bod y rhan fwyaf o’r data’n gywir, tynnodd y cyfnodau gwirio hyn sylw at broblemau gyda data nifer o awdurdodau lleol, a gafodd eu datrys, gan wella cywirdeb y data ymhellach.
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) / Cyfrifiad Ysgolion (Ffurflen STATS1)
Mae data’r ysgolion yn deillio o'r dychweliadau Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion a'r dychweliadau STATS1 a anfonir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Ionawr bob blwyddyn. Caiff y dychweliadau eu hawdurdodi gan brifathrawon, a'u dilysu gan Awdurdodau Lleol. Oherwydd lefel yr achosion coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022. Roedd cau ysgolion rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19) yn golygu bod dyddiad cyfrifiad 2021 wedi’i ohirio tan 20 Ebrill 2021.
Mae CYBLD yn gasgliad data electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir pob mis Ionawr gan bob ysgol a gynhelir. Mae ysgolion yn cofnodi data ar eu disgyblion a’u hysgol trwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.
Amseroldeb a phrydlondeb
Cyhoeddir y datganiad hwn bob blwyddyn tua diwedd mis Gorffennaf, gydag oedi eleni oherwydd Pandemig Coronafeirws (COVID-19). Rhoddir cyfnod i Awdurdodau Lleol lanlwytho data ac ymateb i ymholiadau dilysu cyn cyhoeddi canlyniadau.
Hygyrchedd ac eglurder
Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Yn cyd-fynd ag ef mae Taenlen Dogfen ac mae tablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio am ddim sy’n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.
Cymharedd
Lloegr
Ystadegau: niferoedd ysgolion a disgyblion (Yr Adran Addysg)
Yr Alban
Ystadegau ac ymchwil (Llywodraeth yr Alban)
Gogledd Iwerddon
Ystadegau addysg (Yr Adran Addysg)
Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.