Skip to main content

Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Hydref 2018 i Medi 2019.

Mae'r siart yn dangos y canlyniadau’r Arolwg Blynyddol y Boblogaeth o 2001 tan diwedd Mehefin 2019. Yn 2001 roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r tuedd yn gostwng tan 2007 ac wedyn yn cynyddu eto i 874,600 erbyn diwedd Medi 2019 Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd wedi’u plotio ar yr un siart er mwyn dangos bod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is - dros 200,000 yn is.

Prif bwyntiau

  • Ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben 30 Medi 2019, adroddodd yr Arolwg Blynyddol bod 29.0% o bobl dair oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i 874,600 o bobl.
  • Mae hyn 0.7 pwynt canran yn is nag yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn dod i ben 30 Medi 2018), sy’n cyfateb i 14,600 yn llai o bobl.
  • Mae’r siart uchod yn dangos sut mae’r ffigurau hyn wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), wedi iddynt fod yn gostwng yn raddol o 2001 i 2007. Fodd bynnag, dyma’r trydydd chwarter yn olynol ble mae nifer y bobl sydd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng.
  • Yn Sir Gâr (93,400) a Gwynedd (90,300) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg o hyd.
  • Ym Merthyr Tudful (10,800) a Blaenau Gwent (11,500) y mae’r niferoedd isaf.
  • Yng Ngwynedd (76%) ac Ynys Môn (67%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Ym Mhen-y-bont ar Ogwr (16%) a Blaenau Gwent (17%) y mae’r canrannau isaf.
  • Adroddodd 16.2% (489,200) o bobl dair oed a throsodd eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.1% (153,600) yn wythnosol a 6.2% (187,700) yn llai aml.
  • Dywedodd 1.5% (44,400) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 71.0% yn gallu siarad Cymraeg.
  • Dywedodd 34% (1,012,500) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 26% (785,800) ddarllen yn Gymraeg a 24% (717,800) ysgrifennu’n Gymraeg.

Nodyn

Mae canlyniadau’r Cyfrifiad ar gyfer 2001 a 2011 wedi’u plotio ar y siart uchod hefyd, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y Cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae nifer o resymau posibl pam y byddai canlyniadau’r Cyfrifiad yn is na rhai’r arolwg. Er enghraifft, mae’r Cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan yr unigolion eu hunain, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb.

Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r Cyfrifiad na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol.

Roedd blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn ddiweddar yn trafod yn gryno sut i ddehongli’r data am y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y Cyfrifiad â’r Arolwg Blynyddol ar gael mewn bwletin sy’n rhoi canlyniadau manylach ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o 2001 i 2018.

Mae’r Arolwg Blynyddol yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099

Rhannu’r dudalen hon