Canllawiau ar sut i ddefnyddio ein sianeli digidol i hyrwyddo ymgyrchoedd.
Cynnwys
Egwyddor gyffredinol
Dylem ddefnyddio sianeli presennol i hyrwyddo ymgyrchoedd ac unrhyw weithgarwch hyrwyddo arall.
Er enghraifft:
- LLYW.CYMRU
- y cyfryngau cymdeithasol
- gwefannau sefydliadau partner
Beth yw ymgyrch?
Ymgyrch yw cyfres o gyfathrebiadau a rhyngweithiadau arfaethedig i ddarparu canlyniad y mae modd ei fesur a’i ddiffinio dros gyfnod penodol.
Y datrysiadau sydd ar gael
URL byr yn hyrwyddo tudalen ar LLYW.CYMRU
Enghraifft: llyw.cymru/seren
Tudalen ymgyrch LLYW.CYMRU
Mae ymgyrchoedd LLYW.CYMRU yn darparu gwybodaeth ddarbwyllol i helpu codi ymwybyddiaeth ynghylch rhywbeth.
Efallai bydd nifer o ymgyrchoedd ynghylch gwahanol agweddau o bwnc.
Nid ydynt ar gyfer rhoi canllawiau craidd ar bwnc.
Mae gan ymgyrchoedd ddatganiad cul, maent fel arfer yn fach (yn aml 1 tudalen), ac yn cynnwys dolenni i wybodaeth berthnasol.
Gwefannau cyfryngau cymdeithasol a sefydliadau partner
Cysylltwch â’r Tîm Digidol Corfforaethol am gyngor ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Asedau ymgyrch
Dylech gadw deunyddiau ymgyrch ar gyfer rhanddeiliaid ar LLYW.CYMRU.
Enghraifft: adnoddau a deunyddiau ar gyfer yr ymgyrch ‘Rheolaeth yw hyn’