Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi perchnogion tir a rheolwyr tir, gan gynnwys ffermwyr, i gynhyrchu bwyd a ffeibr mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Cynllunio Creu Coetir – yn cyfrannu at y themâu canlynol:

  • rheoli tir ar lefel fferm
  • gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar lefel tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu mewn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael, a llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – cynllun a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Meterion Gwledig Cymru (ar businesswales.gov.wales).

Y prif bwyntiau

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau rhwng £1,000 a £5,000 fel cyfraniad i ddatblygu planiau ar gyfer creu coetiroedd newydd.

Rhaid ichi ddefnyddio Cynllunydd Coetir Cofrestredig i ddatblygu plan creu coetir.

Bydd y taliadau creu coetir yn helpu ffermwyr i newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Ni fydd anfantais o ran bod yn gymwys am yr SFS o fod wedi gwneud y gwaith plannu coed cyn dechrau’r cynllun. 

Rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddilysu’r planiau i sicrhau eu bod yn bodloni UKFS a rheolau'r cynllun.  Pan fydd plan wedi cael ei ddilysu bydd yn gymwys ar gyfer Grant Creu Coetir.

Mae'n rhaid ichi gael asesiad gorfodol oddi wrth CNC cyn ichi ddatgan diddordeb yn y Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Rhaid datgan diddordeb ar gyfer plan i greu coetir sydd o leiaf 0.25 hectar o faint, neu 0.5ha os yw’n blan amaeth-goedwigaeth. Os ydych am blannu llai na dau hectar ar dir wedi'i wella'n amaethyddol neu ar dir isel ei werth amgylcheddol yng Nghymru, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i  wneud cais i'r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir

Pan fydd plan wedi cael ei ddilysu, bydd yn gymwys ar gyfer gwneud cais am Grant Creu Coetir (WCG) am bum mlynedd o ddyddiad y dilysu. Bydd hyn yn caniatáu i reolwr tir wneud cais am gyllid yn y dyfodol i greu coetir heb yr angen i fynd drwy'r broses ddilysu eto, ar yr amod nad yw'r plan creu coetir wedi cael ei newid. Bydd cyfnodau ymgeisio am y WCG yn agor yn rheolaidd o hyn ymlaen, yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael. 

Trosolwg o broses y Cynllun Cynllunio Creu Coetir

  1. Cyngor cyn ymgeisio 
    Rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb ofyn i gwiriocynlluncoetir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am gyngor cyn ymgeisio. Bydd tîm Rhaglen Coetir CNC yn rhoi’r cyngor hwn o fewn 28 diwrnod.
     
  2. Datgan diddordeb 
    Ar ôl cynnal yr asesiad cyn ymgeisio, gan gynnwys arolygon/ymgynghoriadau, gallwch Ddatgan Diddordeb ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW Ar-lein). Rhaid i’r Datganiad o Ddiddordeb fod ar gyfer plan i greu coetir sydd o leiaf 0.25 hectar o faint neu 0.5ha os yw’n blan amaeth-goedwigaeth. Os ydych am blannu llai na dau hectar ar dir wedi'i wella'n amaethyddol neu ar dir isel ei werth amgylcheddol yng Nghymru, mae’n bosibl y gallwch wneud cais i'r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir
     
  3. Y Plan
    Mae'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn rhoi arian i dalu am gynllunydd coetir cofrestredig i ddatblygu plan i greu coetir ar y Gofrestr Cynllunio Coetir. Rhaid cynnwys gwybodaeth ychwanegol os oes angen Asesu'r Effaith Amgylcheddol, a chytunir ar hynny mewn trafodaeth orfodol cyn ymgeisio gydag CNC
     
  4. Dilysu
    Rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddilysu planiau i wneud yn siwr eu bod yn bodloni Safon Goedwigaeth y DU (UKFS) a rheolau'r Grant Creu Coetir.
     
  5. Cymeradwyo a hawlio
    Ar ôl i CNC ddilysu’r plan, gallwch hawlio taliad ar gyfer y plan ar RPW Ar-lein. Byddwch wedyn yn gymwys i wneud cais am Grant Creu Coetir (WCG) i wneud y gwaith plannu.

Os ydych am gael arian Llywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw eitemau gafodd eu dilysu yn y plan gafodd ei gymeradwyo, mae’n bwysig nad ydych yn dechrau plannu, paratoi’r tir na gwneud unrhyw waith cyfalaf ategol fel gosod ffensys, gatiau ac ati cyn cael Dyfarniad Grant WCG.

Adran A:cyflwyniad

Fel rhan o’n cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2030. I helpu i wneud hyn, rydym wedi cyflwyno'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Mae'r cynllun hwn ar gael drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n cynnig grantiau rhwng £1,000 a £5,000 i ddatblygu planiau ar gyfer creu coetir newydd.

Mae cyllid ar wahân drwy'r WCG yn cynnig cyllid i ffermwyr a rheolwyr tir ar gyfer plannu coed a gosod ffensys a gatiau, pan fydd eich plan ar gyfer creu coetir wedi cael ei gymeradwyo. 

Isod mae proses gam wrth gam y cynnig newydd:

  • bydd trafodaeth cyn ymgeisio ffurfiol ynglŷn â’r cynnig i greu coetir yn cael ei chynnal rhwng CNC ac unrhyw barti sydd â diddordeb cyn i’r Datganiad o Ddiddordeb gael ei gyflwyno 
  • caiff unrhyw berchennog tir neu reolwr tir yng Nghymru wneud cais o dan y cynllun drwy RPW Ar-lein. Cewch ddewis defnyddio cynllunydd coetir cofrestredig i wneud cais ar eich rhan
  • dewisir planiau ar sail sgoriau’r Map Cyfleoedd Coetiroedd
  • rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio cynllunydd i gwblhau Plan Creu Coetir trwy‘r Gofrestr Cynllunio Coetir. Bydd CNC yn gallu gweld y plan i’w ddilysu i sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag UKFS
  • pan fydd plan wedi cael ei ddilysu a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd rheolwyr tir yn cael gwneud cais am Grant Creu Coetir (WCG) Llywodraeth Cymru am bum mlynedd o ddyddiad ei gymeradwyo
  • bydd rheolwyr tir yn cael taliad o hyd at £5,000, yn seiliedig ar arwynebedd y plan. Ni fydd taliadau’n cael eu gwneud ar gyfer planiau nad ydynt wedi cael eu dilysu, er bydd cymorth ar gael o hyd ar gyfer arolygon y gofynnwyd amdanynt
  • bydd planiau sy'n bodloni un o'r categorïau coetir a gefnogir yn gymwys ar gyfer gwneud cais am grant WCG ar gyfer plannu coed
  • bydd perchenogion tir neu reolwyr tir yn gyfrifol am roi gwybod i RPW drwy eu cyfrif RPW Ar-lein os byddant yn dewis plannu’r coetir heb gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ni fydd anfantais o ran bod yn gymwys am yr SFS o fod wedi gwneud y gwaith plannu coed cyn dechrau’r cynllun. 

Adran B: pwy sy’n gymwys

I fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir rhaid bodloni'r meini prawf canlynol:

  • bod wedi’ch cofrestru fel cwsmer gydag RPW ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN)
  • rhaid ichi fod yn ddeiliad tir cyhoeddus neu breifat neu’n gyngor neu’n gymdeithas, gan gynnwys grwpiau cymunedol sy'n plannu ar dir cyhoeddus. Rhaid bod gennych reolaeth lwyr dros y tir
  • rhaid bod gan denantiaid reolaeth lwyr dros y tir ac wedi cael caniatâd y landlord i gymryd rhan yn y cynllun
  • bydd landlordiaid yn cael gwneud cais i'r cynllun os ydynt yn gallu dangos eu bod wedi cadw rheolaeth lwyr dros y tir. Ni fydd landlordiaid yn cael gwneud cais am gyllid ar gyfer unrhyw dir sydd wedi bod yn destun anghydfod â thenant yn y 12 mis diwethaf
  • rhaid bod gennych reolaeth lwyr dros y tir a rhaid ichi gadw’r rheolaeth lwyr honno nes i'r hawliad gael ei dalu. Rhaid eich bod wedi cofrestru eich tir gyda System Adnabod Parseli Tir RPW a bod gennych reolaeth lwyr dros y tir pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Nid oes angen ichi fod yn ffermwr i wneud hyn
  • nid yw Adrannau’r Llywodraeth na’u hasiantiaid yn gymwys ar gyfer taliad

Gofynion i fod yn gymwys 

Rhaid i dir fodloni'r meini prawf canlynol:

  • bod wedi'i gofrestru gyda System Adnabod Parseli Tir RPW
  • bod wedi'i wneud o barseli cae sy'n 0.1 hectar neu'n fwy ac wedi'i leoli yng Nghymru – nid yw'r term parsel cae yn golygu bod rhaid iddo fod yn dir amaethyddol
  • ni fydd coetir arno’n barod. Mae hyn yn cynnwys tir a ddangosir ar Restr Goedwigoedd Genedlaethol Forest Research – Y Rhestr Genedlaethol o Goetiroedd a Choed (ar mapdata.llyw.cymru)
  • os yw'r tir yn dir comin cofrestredig, rhaid naill ai cael caniatâd o dan adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, neu gadarnhad ysgrifenedig nad oes angen caniatâd o dan adran 38 gan Weinidogion Cymru, cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Os bydd angen caniatâd, mae angen caniatâd o dan adran 38 cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb

Adran C: grantiau sydd ar gael

Planiau Creu Coetir

Telir grant o £1,000 o leiaf ar gyfer pob Plan Creu Coetir sy'n cael ei gwblhau. Ar gyfer arwynebeddau o goetir dros 20 hectar, telir £50 fesul hectar cyfan, hyd at uchafswm o £5,000 fesul plan, i gynnwys unrhyw arolygon arbenigol. Er enghraifft, byddai plan ar gyfer 15 hectar yn derbyn taliad o £1,000, a byddai plan ar gyfer 35.5 hectar yn derbyn taliad o £1,750 (£1,000 + (15 x £50)).

Bydd yr arian a delir yn cyfrannu at gost datblygu Plan.

Rhaid i'r plan gael ei ddilysu gan CNC cyn y gellir hawlio taliad. 

Os nad yw'r plan yn cael ei ddilysu, ni chaiff taliad ei wneud ar gyfer y plan, er y gellir hawlio hyd at £5,000 i gynnal arolygon arbenigol o hyd. Yr arwynebedd sy'n gymwys ar gyfer taliad fydd arwynebedd terfynol y plan, fel y mae wedi cael ei ddilysu gan CNC. Mae'n bosibl y bydd hwn yn wahanol i'r arwynebedd a gyflwynwyd yn y datganiad o ddiddordeb os bydd newidiadau yn ystod y broses ddilysu. Rhaid peidio â chynnwys arwynebedd unrhyw fannau agored sy'n fwy na 0.5 hectar wrth gyfrifo arwynebedd y coetir.

Rhaid i'ch Plan Creu Coetir gynnwys cais ar gyfer un neu fwy o'r categorïau coetir yn Nhabl 1. Yn y dyfodol, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn dewis newid y categorïau coetir, ond byddwn yn sicrhau y bydd planiau a gafodd eu dilysu cyn i'r categorïau gael eu newid yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais am gyllid. Caiff ymgeiswyr ddewis cwblhau plan nad yw’n perthyn i un o’r categorïau creu coetir hyn ond efallai na fydd yn gymwys am arian creu coetir yn y dyfodol. 

Grant Creu Coetir

Mae'r categorïau o goetir sy'n gymwys ar gyfer y Grant Creu Coetir (WCG) yn cael eu hamlinellu yn y tabl isod, ynghyd â gwerthoedd y grant os ydych yn gwneud cais i'r cynllun ac yn cael eich dewis.

Tabl 1: Taliadau cyfalaf ac arwynebedd fesul categori coetir

Categori o goetirRhif gwaith
cyfalaf
ManylebTaliad am
blannu coetir
newydd/Ha
(£)
Coetir
cymysg
gwell
P004
  • Isafswm o 5 prif rywogaeth (o leiaf 10% o bob un) 
  • Isafswm o 25% o goed llydanddail gan gynnwys elfen o lwyni prennaidd neu 30% os yw’r arwynebedd plannu o dan y trothwy uchaf ar gyfer tir caeedig ac yn fwy na 30 hectar
  • Uchafswm o 10% o lwyni prennaidd 
  • Dim mwy na 50% o’r un rhywogaeth 
  • Dwysedd stocio 2,500/hectar
  • Dim da byw (gan gynnwys ceffylau, merlod a chamelidau)
5,146
Coetir
brodorol –
carbon
P003
  • Cymysgedd o rywogaethau brodorol  
  • Caniatáu uchafswm o 30% o lwyni prennaidd
  • Dwysedd stocio 2,500/hectar
  • Dim da byw (gan gynnwys ceffylau, merlod a chamelidau)
6,170
Coetir
brodorol – bioamrywiaeth (1,600)
P002
  • Rhywogaethau brodorol – dylai’r gymysgedd fod yn frodorol i’r safle a chydymffurfio i raddau helaeth â'r mathau mewn Cynlluniau Gweithredu ar gyfer Cynefinoedd (er enghraifft derw ucheldirol, coed collddail cymysg ar diroedd isel), fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd yr amodau lleol yn gofyn am rywfaint o amrywiaeth o’r rhain
  • Stoc plannu o darddiad addas 
  • Caniatáu uchafswm o 30% o lwyni prennaidd
  • Gwasgariad clystyrog o rywogaethau gyda bylchau amrywiol
  • Dwysedd stocio 1,600/hectar
  • Dim da byw (gan gynnwys ceffylau, merlod a chamelidau)
 4,550

Coetir
brodorol –bioamrywiaeth 

(1,100)

P005
  • Rhywogaethau brodorol – dylai’r gymysgedd fod yn frodorol i’r safle a chydymffurfio i raddau helaeth â'r mathau mewn Cynlluniau Gweithredu ar gyfer Cynefinoedd (er enghraifft derw ucheldirol, coed collddail cymysg ar diroedd isel), fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd yr amodau lleol yn gofyn am rywfaint o amrywiaeth o’r rhain
  • Stoc plannu o darddiad addas
  • Caniatáu uchafswm o 30% o lwyni prennaidd
  • Gwasgariad clystyrog o rywogaethau gyda bylchau amrywiol
  • Dwysedd stocio 1,100/hectar
  • Dim da byw (gan gynnwys ceffylau, merlod a chamelidau)
 3,302
Amaeth-goedwigaeth – ar dir uchel P006
  • 80 o goed yr hectar 
  • Amddiffyniad o amgylch coed unigol
  • O leiaf blwch o 8m rhwng pob coeden
  • Nid yw’n gymwys am daliad premiwm
2,500
Amaeth-goedwigaeth ar dir iselPOO7
  • 50 o goed yr hectar
  • Amddiffyniad o amgylch coeden unigol
  • O leiaf bwlch o 15m rhwng pob coeden
  • Nid yw’n gymwys am daliad premiwm
  • Isafswm o 5 prif rywogaeth (o leiaf 10% o bob un) 
  • Dim mwy na 25% o’r un rhywogaeth 
  • Hyd at 15% yn llwyni prennaidd 
  • O leiaf 10% yn gyltifarau ffrwythau masnachol 
  • Dim mwy na 30% yn gyltifarau ffrwythau masnachol
  • Creu clystyrau o rywogaethau gyda bylchau amrywiol
  • Dwysedd stocio 2,500/hectar
  • Dim da byw (gan gynnwys ceffylau, merlod a chamelidau)

 

2,000
Coed cymysg – ffrwythau a chnauP008
  • Isafswm o 5 prif rywogaeth (o leiaf 10% o bob un) 
  • Dim mwy na 25% o’r un rhywogaeth 
  • Hyd at 15% yn llwyni prennaidd 
  • O leiaf 10% yn gyltifarau ffrwythau masnachol 
  • Dim mwy na 30% yn gyltifarau ffrwythau masnachol
  • Creu clystyrau o rywogaethau gyda bylchau amrywiol
  • Dwysedd stocio 2,500/hectar

Dim da byw (gan gynnwys ceffylau, merlod a chamelidau)

 

Tabl 2: Talu am waith cyfalaf ychwanegol

Gwaith Cyfalaf YchwanegolRhif Gwaith
Cyfalaf
ManylebTaliad fesul Eitem
Ffensys pyst a weiar gyda netinP595Ffensys pyst a weiar gyda netin stoc

 

£8.32

Ffensys ceirwP518Ffensys i amddiffyn coed rhag i geirw eu bwyta £11.93
Giât safonol (metel)P590  £221.00
Gât Safonol (pren caled)P599 £669.41
Gât safonol (pren meddal)P600 £291.75
Gât ceffylau bren â phystP516

Gatiau ceffylau i roi mynediad i gerddwyr a phobl ar geffylau ar hawliau tramwy cyhoeddus.  

Cydymffurfio â BS5709.

£220.83
Gât mochyn o bren â phystP517Gatiau moch i alluogi cerddwyr i groesi ffiniau caeau ar hawliau tramwy cyhoeddus. Cydymffurfio â BS 5709.£237.80

Maint lleiaf gwaith plannu newydd

Ni chewch blannu llain sy’n llai na 0.01ha o faint, sef 10m x 10m. Byddai angen felly rhwng 8 a 25 o goed arnoch gan ddibynnu ar y cymysgedd o rywogaethau rydych yn eu dewis. Lleia’n y byd yw’r llain, y mwyaf arloesol y gallwch fod wrth greu’ch coetir. Er enghraifft gallwch blannu mewn rhesi (stribedi o goed wedi’u plannu ar draws cae i wahanu unedau pori). Rhaid plannu arwynebedd o o leiaf 0.25ha, 0.5ha ar gyfer amaeth-goedwigaeth, i fod yn gymwys am y Grant Creu Coetir. Rhaid ffensio’r plannu newydd a rhaid i’r coetir gydymffurfio â rheolau UKFS. Nid oes terfyn uchaf ar faint y llain. 

Ni chewch gyflwyno dau Ddatganiad o Ddiddordeb ar gyfer yr un daliad tir yn yr un flwyddyn galendr. Felly dylech gynnwys yr holl dir rydych am blannu coed arnyn nhw mewn un datganiad. 

Nid oes gofyn ichi wneud cais am arian i blannu’r plan cyfan yr un pryd. Rydych yn cael ei gynnal bob yn damaid dros amser os dyna’ch dymuniad (cyn belled â bod pob darn yn bodloni gofynion y cynllun). 

Grant Amaeth-goedwigaeth ar Dir Isel (50 o goed/hectar)

Mae’r opsiwn tir isel ar gyfer unrhyw dir sydd o dan derfyn uchaf tir wedi’i amgáu. Bydd angen plannu 50 o goed yr hectar, gydag o leiaf bwlch o 15m rhwng pob coeden. 

Mae’r taliad yn cynnwys arian i amddiffyn coed, fel y categorïau creu coetir eraill. Mater i’r ymgeisydd yw penderfynu pa ddull amddiffyn i’w ddefnyddio. 

Cewch blannu coeden ifanc o unrhyw faint. Rhaid cadw’r goeden am oes y contract a phlannu coeden arall yn ei lle os bydd angen.

Mae grant Cynnal blynyddol ar gael ichi ei hawlio am y 12 mlynedd gyntaf. Nid oes taliad premiwm ar gael ar gyfer y tir hwn, gan y bydd yn para’n dir cynhyrchu amaethyddol. 

Grant Amaeth-goedwigaeth ar Dir Uchel (80 o goed/hctar)

Mae’r opsiwn tir uchel ar gyfer unrhyw dir sydd uwchlaw terfyn uchaf tir wedi’i amgáu. Bydd angen plannu 80 o goed yr hectar, gydag o leiaf bwlch o 8m rhwng pob coeden. 

Mae’r taliad yn cynnwys arian i amddiffyn coed, fel y categorïau creu coetir eraill. Mater i’r ymgeisydd yw penderfynu pa ddull amddiffyn i’w ddefnyddio. 

Cewch blannu coeden ifanc o unrhyw faint. Rhaid cadw’r goeden am oes y contract a phlannu coeden arall yn ei lle os bydd angen.

Mae grant Cynnal blynyddol ar gael ichi ei hawlio am y 12 mlynedd gyntaf. Nid oes taliad premiwm ar gael ar gyfer y tir hwn, gan y bydd yn para’n dir cynhyrchu amaethyddol. 

Perthi (gwrychoedd)

Bydd ymgeiswyr yn cael gwneud cais i blannu perth (gwrych) i ffinio’r coetir fel rhan o’u prosiect creu coetir. Bydd rhaid i’r plan creu coetir esbonio amcanion plannu a rheoli perth. Rhaid i’r berth fodloni’r gofynion canlynol: 

  • rhaid plannu cymysgedd o o leiaf dair rhywogaeth o goed a llwyni perthi brodorol. Ni fydd yr un rhywogaeth yn fwy na 65% o’r cyfanswm. Peidiwch â chynnwys coed ynn fel rhan o’r cymysgedd oherwydd clefyd y coed ynn (Hymenoscyphus fraxinea)
  • plannu perth newydd â dwysedd o 7 planhigyn y metr am yn ail mewn dwy res, gyda 20cm rhwng pob rhes

Bydd yr arwynebedd o dan y berth yn cael yr un taliad â gweddill y coetir. Ni fydd y coed a llwyni a blennir yn effeithio ar ofynion gweddill y coetir (h.y. ni ddylech eu cynnwys wrth gyfri’r dwysedd stocio, canran y rhywogaethau na chyfran y llwyni prennaidd). Rhaid i linell y berth fod yn rhan o’r cynllun creu coetir.  Mae arian ar gael, ar gyfer perthi yn unig, trwy gynllun Grantiau Bach – yr Amgylchedd

Ffensio

Er mwyn cael grant, gofalwch nad yw’r ffens yn fwy na 10m o ffin y coed sydd wedi’u plannu. Ni fydd llinell y ffens yn hirach na pherimedr y polygon a blennir. Rhaid i’r ffens allu cadw stoc o’r coetir. 

Gatiau 

Gallwch ddewis gât safonol (metel neu bren) er mwyn creu mynedfa i gynnal y coetir rydych wedi’i greu neu gatiau (sy’n cau eu hunain) ar gyfer llwybrau tramwy cyhoeddus a chaniataol. Gellir eu cynnwys yn y contract Gwaith Cyfalaf. 

Mannau agored 

Gall hyd at 15% o’r tir sy’n cael ei blannu fod yn ddarnau gwasgaredig o dir agored na ellir eu plannu a gall darnau unigol o dir agored na ellir eu plannu fod hyd at 0.5ha o faint. Ni chewch gynnwys darnau agored unigol o dir sy’n fwy na 0.5ha yn eich cynllun plannu. Bydd angen ichi addasu’r bylchau rhwng y coed yn rhannau o’r safle i gyfrif am y tir na ellir ei blannu i sicrhau bod nifer y coed y mae’r contract yn gofyn amdanyn nhw yn cael eu plannu (gweler Tabl 2). 

Tabl 3 – Bylchau rhwng coed, ar gyfer canrannau gwahanol o dir agored – gyda dwysedd stocio o 2,500 coesyn yr hectar (cymysgedd brodorol carbon a choetir cymysg gwell)

% yn dir agored bylchau m x mCoesynnau/ha yn yr arwynebedd net 
0%2.002,500
5%1.952,631
10%1.902,777
15%1.842,941

Gellir grwpio coed y categorïau Bioamrywiaeth Frodorol – 1,600 coesyn/hectar a Bioamrywiaeth Frodorol – 1,100 coesyn/hectar yn nes at ei gilydd er mwyn caniatáu ar gyfer tir agored.

Coed a llwyni gwasgaredig sydd yno eisoes 

Mae gwerth amgylcheddol mawr i’r coed a llwyni gwasgaredig sydd ar y tir eisoes ac ni ddylid eu torri i lawr ond dylid eu cynnwys yn y cynllun plannu newydd. Bydd angen mapio’r llwyni prennaidd a’r coed gwasgaredig os ydy’r arwynebedd yn fwy na 0.5ha. 

Taliad ardal flynyddol 12 mlynedd

Y premiwm ar gyfer y taliad ardal blynyddol 12 mlynedd yw £350 yr hectar (ddim yn cynnwys Amaeth-goedwigaeth).

Cyfraddau cynnal a chadw am 12 mlynedd (taliad fesul hectar)

Y gyfradd cynnal a chadw fesul hectar (ddim yn cynnwys Amaeth-goedwigaeth) ar gyfer blwyddyn 1 yw £400, blwyddyn 2 yw £300 a blwyddyn 3 yw £250. Y gyfradd flynyddol o flwyddyn 4 i flwyddyn 12 yw £70. Y taliad ar gyfer y categori Amaeth-goedwigaeth am 5 mlynedd yw £70 (12 mlynedd). 

Y cyfraddau cynnal a chadw am 12 mlynedd – taliad yr hectar 

Y gyfradd premiwm fesul hectar yw £350 y flwyddyn am 12 mlynedd.

Y cyfraddau cynnal a chadw am 12 mlynedd ar gyfer Amaeth-goedwigaeth (tir isel a thir uchel) – Taliad yr hectar 

Mae'r taliad Cynnal a Chadw ar gael i ofalu am y coed gafodd eu plannu drwy gydol cyfnod y contract - gweler y tabl uchod. Mae hyn yn dechrau’n uwch i gydnabod y costau uwch yn y blynyddoedd cynnar ar ôl plannu er mwyn darparu'r cyllid pan fo angen. Mae taliad safonol ar gyfer y categori Amaeth-goedwigaeth am 12 mlynedd (£70/ha/blwyddyn) ac nid yw ar gael ar dir sy’n eiddo cyhoeddus. 

Arolygon arbenigol

Os bydd CNC neu Heneb yn cynghori bod angen arolwg arbenigol fel rhan o’r cyngor cyn ymgeisio, cewch hawlio 80% o gost yr arolwg hwn yn ychwanegol at eich hawliad  ar gyfer y plan. Ar gyfer arolygon â chyfanswm cost o lai na £5,000 bydd angen cyflwyno un dyfynbris. Ar gyfer unrhyw arolygon â chyfanswm cost rhwng £5,000 a £24,999, bydd angen ichi gyflwyno tri dyfynbris ar gyfer yr arolwg i ddangos gwerth am arian. Bydd y taliad yn seiliedig ar 80% o'r dyfynbris isaf. Mae’r mathau o arolygon arbenigol y mae cyllid ar gael ar eu cyfer yn cynnwys:

  • ystlumod a phili-palod
  • mawn
  • adar sy'n bridio
  • llystyfiant / cynefinoedd
  • archeoleg  

Y grant mwyaf y gellir ei hawlio (gan gynnwys unrhyw arolwg arbenigol) yw £5,000. Os bydd arolwg arbenigol yn dangos na chewch blannu ar unrhyw ran o’r cynllun, bydd dal gofyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Ar ôl ei gyflwyno, gall Llywodraeth Cymru dalu am yr arolwg arbenigol. 

Mae'n bosibl y bydd gwybodaeth sy'n cael ei chasglu fel rhan o arolygon ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cael ei chadw gan CNC neu Lywodraeth Cymru i ddiweddaru eu sail gwybodaeth amgylcheddol.

Cynlluniau a ffynonellau cyllid eraill

Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid ar gyfer eich Plan Creu Coetir, bydd angen ichi ystyried a fyddwch chi’n gallu cael arian ar gyfer plannu coed yn y dyfodol drwy'r WCG.

Cynllun Cynefin Cymru

Mae’n bosib y bydd tir rydych yn hawlio Cynllun Cynefin Cymru arno ar eich Ffurflen Gais Sengl (SAF) 2025 yn gymwys am gyllid plannu coed trwy’r WCG.

Byddwn yn cymryd y tir o’ch hawliad Cynllun Cynefin Cymru cyn rhoi contract WCG ichi. Ni fyddwch wedyn yn gallu cael taliad ar y tir hwn o dan Gynllun Cynefin Cymru. 

Y Cynllun Troi’n Organig

Os oes gennych dir o dan y Cynllun Troi’n Organig a’ch bod am blannu coed, rhaid ichi ofyn i'r tir gael ei dynnu o'ch contract Troi’n Organig, drwy RPW Ar-lein. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo hyn, bydd y tir yn cael ei dynnu o'r contract Troi’n Organig, a dim ond ar ôl i'r tir gael ei dynnu y cewch ddechrau plannu coed.

Cymorth Organig 

Lle bydd tir wedi’i gynnwys mewn hawliad Cymorth Organig a’ch bod am blannu coed, rhaid ichi ofyn i’r tir gael ei dynnu o’ch hawliad Cymorth Organig, drwy RPW Ar-lein. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo hyn, bydd y tir yn cael ei dynnu o’ch hawliad Cymorth Organig. Dim ond ar ôl i’r tir gael ei dynnu y cewch ddechrau plannu coed. 

Tyfu er mwyn yr Amgylchedd

Os oes gennych dir o dan gontract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, gallwch ei gynnwys yn eich contract Grant Creu Coetir. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr ofyn i'r tir gael ei dynnu o'u contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd drwy eu cyfrif RPW Ar-lein. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo hyn, bydd y tir yn cael ei dynnu o'r contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, a dim ond ar ôl i'r tir gael ei dynnu y cewch ddechrau plannu coed.

Gwaith cyfalaf a gafodd ei ariannu o’r blaen

Os ydych eisoes wedi cael cyllid i gynnal gwaith cyfalaf plannu coed neu godi ffensys o dan unrhyw rai o'r cynlluniau isod, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir

  • y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
  • holl gynlluniau Glastir
  • Grantiau Bach – yr Amgylchedd
  • Grantiau Bach – Creu Coetir
  • Grant Creu Coetir 

Adran D: cyn gwneud cais

Gwnewch yn siŵr bod eich tir yn addas ar gyfer creu coetir

Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn gwirio a yw eich tir yn addas ar gyfer plannu coed gan ddefnyddio'r Map Cyfleoedd Coetir. Mae hyn yn dangos unrhyw gyfyngiadau neu sensitifeddau sy'n gysylltiedig â safle plannu newydd. Mae ar gael yma: Map Cyfleoedd Coetir (ar mapdata.llyw.cymru). Nid yw sensitifeddau bob amser yn golygu nad yw plannu coed yn bosibl, ond mae'n golygu bod ffactorau y mae angen eu hystyried neu ymgynghori yn eu cylch. Er na ellir defnyddio'r map i wneud penderfyniad terfynol, mae'n ddefnyddiol ar gyfer nodi ardaloedd lle mae'n debygol y bydd sensitifeddau, fel y gallwch ystyried a mynd i'r afael â’r rhain ar ddechrau eich cynllunio.

Byddwn hefyd yn argymell eich bod yn siarad â chynllunydd coetir cofrestredig, sy'n gallu rhoi cyngor ar faint, lleoliad ac opsiwn plannu priodol ar gyfer eich cynigion. Fe welwch restr o gynllunwyr coetir cofrestredig yn Cynllunwyr coetir cofrestredig: manylion cyswllt.

Bydd gofyn i dempled plan coetir gael ei lenwi gan gynllunydd cofrestredig. Os bydd angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar gyfer eich cynllun, byddwn yn  gofyn ichi ddarparu rhagor o wybodaeth. 

Cael cyngor cyn ymgeisio

Mae cael trafodaeth cyn ymgeisio ag CNC yn rhan orfodol o’r broses.  Gall unrhyw un sydd â diddordeb wneud cais am drafodaeth cyn ymgeisio am ddim trwy GwirioCynllunCoetir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  Bydd tîm Rhaglen Coetir CNC yn gobeithio ateb pob cais am gyngor cyn ymgeisio o fewn 28 diwrnod. Os bydd angen ymweld â safle, cewch ateb o fewn 28 diwrnod ar ôl yr ymweliad. 

Rhaid bod cyngor cyn ymgeisio wedi cael ei ddarparu, ac unrhyw arolygon y nodwyd bod eu hangen fod wedi cael eu cwblhau cyn ichi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. 

Adran E: sut i wneud cais

Mae'r datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar gael drwy RPW Ar-lein. Mae rhagor o fanylion ynghylch sut i gofrestru isod os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb

Rhaid ichi gwblhau datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno fel y gallwch agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. Bydd Cod Defnyddio newydd yn cael ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Gwelwch y canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o fanylion yn RPW Ar-Lein: defnyddio 'rheoli fy nhir'. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd angen dweud wrth Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Pan fyddwn wedi derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant (CRN Asiant) a Chod Defnyddio RPW Ar-lein atoch. Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Rhoi Caniatâd i Asiant ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Darllenwch ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar ein wefan.

Y broses ddethol

Bydd Llywodraeth Cymru yn sgorio datganiadau o ddiddordeb bob mis. Os nad oes digon o arian i gynnig cyllid i bob datganiad o ddiddordeb, cynigir y cyllid i'r datganiadau sy'n derbyn y sgôr uchaf. Dyma'r un dull ag a ddefnyddir ar gyfer dyrannu cyllid ar gyfer creu coetir. Nid oes sgôr isaf ar gyfer derbyn cyllid, gan fod hyd yn oed ardaloedd y tu allan i ardaloedd sy'n derbyn sgôr uchel yn debygol o gynnwys safleoedd sy'n addas ar gyfer creu coetir a fydd yn darparu manteision i'r cyhoedd. Os nad yw eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis, byddwn yn parhau i'w ystyried ar gyfer cyllid yn y dyfodol oni bai eich bod yn dewis ei dynnu'n ôl.

Mae’r sgôr yn cael ei chyfrifo ar sail ffiniau’r parseli tir sydd wedi’u cynnwys yn eich datganiad o ddiddordeb, a nifer o haenau data sy’n sgorio pob ardal yng Nghymru ar sail potensial coetiroedd i ddarparu manteision i’r cyhoedd, fel casglu carbon, atal llifogydd a gwella ansawdd aer. Gallwch weld yr haenau data hyn ar y Map Cyfleoedd Coetir (ar mapdata.llyw.cymru) a gwirio pa sgôr mae eich datganiad o ddiddordeb yn debygol o'i dderbyn.

Ar ôl y broses ddethol, bydd neges yn cael ei hanfon i’ch cyfrif RPW Ar-lein yn cadarnhau a ydych chi wedi cael eich dewis. Os dewisir eich datganiad o ddiddordeb, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno Plan Creu Coetir i'w ddilysu.

Os nad ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn egluro’r rheswm ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Os bydd gwerth y ceisiadau’n fwy na gwerth y gyllideb, y prosiectau sy'n sgorio uchaf fydd yn cael eu dewis. Mae rhagor o wybodaeth am y broses sgorio ar gael yn y Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Adran F: cyflwyno’r Plan Creu Coetir

Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, bydd angen ichi fynd i adran y Gofrestr Cynlluniau Coetir RPW Ar-lein naill ai i gadarnhau’ch bod yn derbyn y cynnig, neu i’w wrthod. Yna bydd angen ichi enwi’ch plan cyn dewis Cynllunydd Cofrestredig os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Bydd angen ichi ddefnyddio cynllunydd cofrestredig i gwblhau Plan Creu Coetir ar eich rhan. Mae rhestr o gynllunwyr cofrestredig ar gael yn Cynllunwyr coetir cofrestredig: manylion cyswllt.Bydd gwybodaeth ar sut i grwydro adran y Gofrestr i'w gweld yn y Gofrestr Cynlluniau Coetir.

Bydd y cynllunydd cofrestredig yn ysgrifennu Plan Creu Coetir sy’n nodi’r cynnig ar gyfer y coetir newydd a sut bydd yn cael ei weithredu yn unol â rheolau UKFS a’r cyngor y bydd CNC wedi’i roi. Rhaid cyflwyno’r plan o fewn 12 wythnos ar ôl ichi gael cadarnhad bod eich Datganiad o Ddiddordeb wedi bod yn llwyddiannus. 

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol iawn y gellir rhoi estyniad i’r dyddiad cau.  Os oes rheswm dilys pam na ellir cwblhau plan o fewn y cyfnod o 12 wythnos, rhaid gofyn yn ysgrifenedig am estyniad trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r plan. Os na fyddwch wedi cyflwyno’r plan a heb ofyn i’r RPW am estyniad o fewn 12 wythnos, caiff eich cais ei ddileu a bydd yn rhaid i chi aros am 12 mis ar ôl dyddiad dileu’ch cais cyn y cewch wneud cais arall. 

Yn adran y Gofrestr, byddwch yn gallu lawrlwytho shapefile sy’n cynnwys y parseli tir gafodd eu dilysu yn eich datganiad o ddiddordeb, y bydd angen i’ch cynllunydd cofrestredig eu defnyddio i lunio eich plan.

Bydd angen i’ch cynllunydd newid y shapefile â’ch bwriadau ar gyfer plannu, ffensys, gatiau a thir agored drwy ei System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS). Bydd angen lanlwytho’r shapefile wedi’i diweddaru i adran y Gofrestr ochr yn ochr â’r plan wedi’i gwblhau a’r holl ddogfennau ategol eraill.

Bydd templedi a chanllawiau’r plan creu coetir a chanllawiau mapio ar gael ar RPW Ar-lein. Nid ydym yn cael derbyn templedi planiau a mapiau eraill – bydd cyflwyno dogfennau o’r fath yn golygu nad yw eich datganiad o ddiddordeb yn gymwys.

Rhaid cyflwyno’ch plan wedi’i gwblhau a’r shapefile i Lywodraeth Cymru drwy’r Gofrestr. Bydd eich plan yn cael ei anfon at CNC i gwblhau’r broses ddilysu er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion UKFS a rheolau’r cynllun. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael isod.

Gydol y cyfnod cynllunio, byddwch yn gweithio ar fersiwn ddiweddara’ch plan. Rhaid ichi sicrhau bod y plan yn orffenedig ym mhob ffordd a’i fod yn adlewyrchu eich cynigion plannu arfaethedig yn gywir. O beidio â bodloni’r gofynion hyn, gallai Llywodraeth Cymru wrthod y plan.

Adran G: dilysu gan CNC

Bydd CNC yn gwirio bod y Plan Creu Coetir yn cydymffurfio ag UKFS a rheolau’r cynllun. Os nad yw'r Plan Creu Coetir yn bodloni'r gofynion hyn, bydd CNC yn ei ddychwelyd i'r cynllunydd cofrestredig er mwyn ei newid. Os na fyddwch yn ateb cwestiynau dilysu CNC o fewn amserlen resymol, gallai’ch plan gael ei ddychwelyd ichi heb ei ddilysu.

Safon Coedwigaeth y DU (UKFS)

Safon Coedwigaeth y DU yw safon y DU ar gyfer coedwigaeth gynaliadwy. Mae manylion y Safon ar gael ar wefan Forest Research: Safon Coedwigaeth y DU (ar gov.uk).

Mae rhai ardaloedd yng Nghymru yn cynnwys nodweddion sensitif sy’n galw am ystyriaeth ac ymgynghori arbennig wrth ddylunio Planiau Creu Coetiroedd. Mae canllawiau CNC ar gyfer cynllunwyr coetir cofrestredig ar gael yma: Help i gynllunio’ch Coetir ar Cyfoeth Naturiol CymruWrth ddilysu cynlluniau, mae’n ofynnol i CNC gyflawni ei amcan Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar sut mae hyn yn berthnasol i goetiroedd, gweler yma: Creu coetir: darparu tystiolaeth o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Ni ddylai’r plan gynnwys plannu llarwydd, coed ynn na rhywogaethau eraill sydd mewn perygl uniongyrchol o glefyd.

Ni ddylai’r plan gynnwys tyfu coed Nadolig na chnwd biomas cylchdro byr. Ni chewch ddefnyddio coed Nadolig fel cnwd blynyddol i sefydlu cnwd parhaol. Mae cylchdro byr yn golygu llai nag wyth mlynedd. 

Ymgynghori

Mae UKFS yn nodi bod ymgynghori cyhoeddus a statudol yn agwedd bwysig ar y cynigion i greu coetiroedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â nifer o ymgyngoreion gorfodol, os oes nodwedd sensitif yn neu wrth ymyl yr arwynebedd arfaethedig ar gyfer creu coetir. Bydd gofyn i’r cynllunydd cofrestredig gynnwys ymatebion ymgyngoreion gorfodol fel rhan o’r plan (neu dystiolaeth nad ydynt wedi ymateb o fewn 28 diwrnod).

Bydd angen i gynllunwyr cofrestredig hefyd gael caniatâd gan sefydliadau perthnasol wrth blannu mewn safle dynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu ger Heneb Restredig. Efallai y bydd angen ichi gael caniatadau eraill hefyd os yw eich cynnig plannu yn cael effaith bosibl ar nodwedd fel rhywogaeth a warchodir neu gorff dŵr. Mae Nodyn Cyfarwyddyd CNC GN002 yn rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch gan bwy y dylech gael y rhain, ac yn ystod pa gam o’r broses y dylid gwneud hynny.

Mae cysylltu â chymdogion sydd â diddordeb yn gynnar yn y broses o gynllunio i greu coetir yn gyfle i roi gwybodaeth am y cynnig ac osgoi gwrthdaro posibl. Dylai hyn gynnwys ymgynghori ag unrhyw unigolion y mae eu heiddo’n cydffinio â’r gwaith plannu newydd. Argymhellir cynnal digwyddiad i’r cyhoedd ar gyfer planiau creu coetir, yn enwedig planiau sydd wedi’u lleoli’n agos at gymuned.

Os yw’r pan creu coetir dros y trothwy ar gyfer Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, rhaid ichi neu’r cynllunydd cofrestredig roi gwybod i’r Cyngor Cymuned neu’r Cyngor Plwyf am eich Plan Creu Coetir cyn gynted ag y bo modd. Argymhellir hefyd eich bod yn ymgynghori â phartïon sydd â diddordeb e.e. cymdeithasau genweirio lleol a ‘chyfeillion’ grwpiau cymunedol. Mae codi posteri mewn mannau allweddol neu mewn siopau/swyddfeydd post lleol yn ffordd effeithiol arall o ymgysylltu â'r cyhoedd.  

Rhaid cwblhau'r holl ymgynghori cyhoeddus cyn cyflwyno plan. Ni fydd Llywodraeth Cymru nac CNC yn ymgynghori’n uniongyrchol â thrydydd partïon, ac eithrio pan na ellid datrys pryderon sy’n ymwneud â chyfranogiad y cyhoedd. Rhaid i chi, neu’r cynllunydd cofrestredig sy’n gweithio ar eich rhan, gynnwys adroddiad ar gyfranogiad y cyhoedd ochr yn ochr â’r plan. Dylai hyn ddangos eich bod chi neu’r cynllunydd cofrestredig wedi ymgynghori ag unigolion neu bartïon sydd â diddordeb, sut yr ymgynghorwyd â nhw (e.e. digwyddiad cyhoeddus, taflenni, mynd o ddrws i ddrws), am faint o amser y cynhaliwyd yr ymgynghoriad a phwy ymatebodd. Rhaid darparu tystiolaeth i CNC fod ymgais resymol a chymesur wedi’i wneud i gysylltu ag unigolion perthnasol, fel anfon llythyr a chaniatáu 28 diwrnod i ymateb.

Os nad oes modd mynd i’r afael â phryderon partïon sydd â diddordeb cyn cyflwyno, dylid eu cyflwyno gyda’r plan beth bynnag, ynghyd â’r rhesymau dros fethu mynd i'r afael â nhw. Fel rhan o’r broses ddilysu, bydd CNC yn ystyried y pryderon ac o bosibl drwy drafod ag eraill, yn rhoi gwybod a yw’r pryder yn ddilys ai peidio.

Cynllun dylunio tirwedd 

Bydd gofyn i unrhyw Blan Creu Coetir sydd dros 5Ha lle nad yw 100% o’r coed yn rhywogaethau brodorol, gyflwyno map Dylunio Tirwedd sy'n dangos gwasgariad rhywogaethau ar draws y safle.

Os ydych yn plannu’r cymysgedd hwnnw o rywogaethau dros nifer o leiniau plannu, er mwyn bodloni gofynion yr opsiwn a llunio map Dylunio Tirwedd, rhaid cyflwyno’r holl leiniau yn y plan ar gyfer eu plannu yr un pryd. Hynny fel bod y cymysgedd o rywogaethau gafodd eu dilysu yn cael eu plannu a’u cynnal a’u cadw o’r dechrau. 

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA)

Bydd y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (ar naturalresources.wales) yn cael eu hasesu wrth i CNC ddilysu ceisiadau o dan y Rhaglen Goetir. Er mwyn sicrhau cysondeb, bydd 1 o bob 20 plan creu coetir yn cael ei anfon at dîm Trwyddedu Coedwigaeth CNC er mwyn iddo gynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.  

Gallai unrhyw achos o dorri Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) rhwng cyflwyno’r datganiad o ddiddordeb a dechrau’r contract arwain at y contract yn cael ei dynnu’n ôl. Gellir cyfeirio unrhyw ddifrod amgylcheddol hefyd at yr awdurdod perthnasol mewn achosion posibl o dorri’r rheoliadau.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)

Bydd gofyn i unrhyw gynnig a allai effeithio ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) gydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 sy’n golygu y bydd angen cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Bydd CNC yn dweud wrthych os bydd angen HRA ar gyfer eich achos chi ac mae’n debygol y gofynnir am ragor o wybodaeth er mwyn helpu CNC i gynnal HRA cysgodol ar ran Llywodraeth Cymru. 

Os bydd angen EIA a HRA, caiff y Plan Creu Coetir ei ddilysu unwaith y bydd yr asesiadau hynny wedi dod i law ac unwaith y bydd y Plan a'r mapiau wedi mynd i'r afael ag unrhyw argymhellion.

Amrywio’r rheolau

Ambell waith bydd rhesymau amgylcheddol a choedwigol da dros amrywio’r rheolau safonol. Yn yr achosion hynny, rhaid cofnodi'r bwriad i ddilyn trywydd gwahanol yn glir ar y plan creu coetir er mwyn i CNC fedru ei ddilysu a chadarnhau bod y plan yn arfer coedwigaeth gynaliadwy y gellir ei chyfiawnhau. 

Pan fydd eich plan wedi cael ei ddilysu gan CNC a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r dilysiad, byddwch yn gymwys i wneud cais am y Grant Creu Coetir am bum mlynedd heb unrhyw ddilysu pellach, oni bai bod newidiadau i'r plan.

Os nad yw Plan Creu Coetir yn cael ei ddilysu, bydd yn cael ei anfon yn ôl at RPW  er mwyn cael ei wrthod, ac mae’n bosibl na fydd yr ymgeisydd yn cael  gwneud cais o dan y Cynllun Cynllunio Creu Coetir am gyfnod o ddwy flynedd.

Adran H: hawlio

Planiau Creu Coetir

Ar ôl i CNC ddilysu eich Plan Creu Coetir, bydd y plan sydd wedi’i ddilysu’n cael ei anfon atoch chi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Bydd ffurflen hawlio yn cael ei hanfon atoch i’w llenwi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.  Pan fydd y ffurflen hon yn ein cyrraedd ni, byddwn yn dilysu ac yn prosesu’ch hawliad ac, os yw’n gymwys, bydd y taliad yn cael ei brosesu a’i dalu drwy BACS.

Dim ond os bydd CNC wedi dilysu’r plan sydd wedi’i gwblhau y bydd taliadau’n cael eu gwneud. Bydd y swm a delir yn seiliedig ar arwynebedd terfynol y coetir yn y plan ar ôl ei ddilysu. Anfonir y gymeradwyaeth drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Arolwg arbenigol

Bydd angen cyflwyno anfoneb a chyfriflen banc gyda phob hawliad am arolygon arbenigol, i ddangos bod taliad o’r fath wedi cael ei wneud. 

Os bydd arolwg arbenigol y bydd CNC wedi gofyn amdano yn dangos na chewch blannu ar unrhyw ran o’r cynllun, bydd dal gofyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, gall Llywodraeth Cymru dalu am gyfraniad at yr arolwg arbenigol. 

Adran I: gwerthuso a chadw cofnodion

Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir.

Ar ôl gwerthu neu drosglwyddo tir sy’n rhan o’r plan sydd wedi’i ddilysu, er mwyn i’r meddiannydd newydd wneud gwaith plannu, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru cyn gwneud cais am gostau plannu. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhannu copi o’r Plan Creu Coetir â rheolwr tir nad yw’n ymgeisydd gwreiddiol.

Adran J: apeliadau

Nid oes sail dros apelio os na fydd eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis.

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • cam 1: adolygiad gan RPW
  • cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng ngham 1)

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ac yn dod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu'r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o fanylion ynglŷn â'r broses apelio a sut i gyflwyno apêl, gan gynnwys defnyddio'r ffurflen apelio ar-lein, ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ar ein gwefan Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllawiau.

Adran K: cwynion

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn ar gael gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378. 

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed,
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru

Adran L: hysbysiad preifatrwydd – grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol rydych yn ei roi mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid grant

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata a roddwch mewn perthynas â’r cais am grant neu gyllid grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn inni roi cyllid grant ichi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei dderbyn.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwyster efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais ag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Mae’n bosibl y bydd aelod arall o’r cyhoedd yn gofyn i weld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw data. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, yna bydd eich data personol yn cael ei gadw am ddeng mlynedd o ddiwedd unrhyw ddyfarniad cymorth. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu er mwyn arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost:  swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Adran M: deddfwriaeth

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cyflawni yn erbyn amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth. Maent wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cael ei reoli gan Gyfraith yr UE a Ddargedwir (neu ‘Gyfraith a Gymathwyd’ fel y’i gelwir erbyn hyn): Rheoliadau’r Cyngor Rhifau. 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd).

Mae cyfraith a gymathwyd yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o bryd i’w gilydd), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Mae'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar gael i reolwyr tir a busnesau ffermio ledled Cymru, a'i nod yw cyflawni pedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol;
  • cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • sicrhau cadernid hinsawdd.
  • sicrhau bod economïau a chymunedau gwledig yn cael eu datblygu mewn modd tiriogaethol gytbwys, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.

Mae tri amcan trawsbynciol i’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir, sef:

  • lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd ac addasu iddi.
  • arloesi
  • yr Amgylchedd

Bydd gweithgareddau’n mynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. annog pobl i rannu gwybodaeth ac i arloesi ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac mewn ardaloedd gwledig;
  2. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo cadwyni cyflenwi bwyd trefnus, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth;
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau  amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, a daw’r rheini o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd.’
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn yn cael eu hesemptio o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE a system rheoli cymhorthdal dros dro'r DU.

Adran N: manylion cyswllt

Mae gwybodaeth allweddol ar ein wefan ac yng nghylchgrawn Gwlad yn cynnwys gwybodaeth allweddol.  Dyma’r manylion cyswllt:

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) 
Blwch Post 251
Caernarfon
LL55 9DA

Ffôn: 0300 062 5004. 

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Cysylltiadau defnyddiol eraill:

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol (Asesu’r Effaith Amgylcheddol, SoDdGA, GNG, ACA neu AGA)

Cyfoeth Naturiol Cymru 
d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Ffôn: 0300 065 3000
Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun-Gwe 8am 6pm)

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol i CNC:

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.llyw.cymru 
enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Ar gyfer ymholiadau i CNC ynghylch dilysu coetir:

gwiriocynlluncoetir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 
woodlandplanverification@naturalresourceswales.gov.uk

Ar gyfer Henebion Rhestredig / parciau a gerddi cofrestredig:

Cadw
Llywodraeth Cymru
Plas Caeriw
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ

Ffôn: 01443 33 6000. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.                   
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: cadw@gov.wales

Ar gyfer henebion sydd heb eu rhestru a nodweddion hanesyddol:

Heneb
Y Tŷ Cornel 
6 Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6AE

Tel: 01558 823121

Email: info@Heneb.org.uk