Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cwyn

Ymddygiad annerbyniol

Mae gan bob aelod o’r cyhoedd yr hawl i gael ei glywed, ei ddeall a’i barchu. Fodd bynnag mae gan ein staff yr un hawliau, felly osgowch:

  • ymddygiad ymosodol a sarhaus, fel rhegi neu fygwth
  • gofyn am bethau afresymol, mae amodau afresymol yn ei gwneud hi'n anoddach i ni ddarparu gwasanaeth da
  • bod yn afresymol o ddyfal, mae ymholiadau tebyg ac ailadroddus yn amharu ar ein gallu i weithio effeithiol

Dysgwch fwy am yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid a sut y byddwn yn ymateb.

Ffurflen ar-lein

Llenwch ein ffurflen gwyno ar-lein.

Ffôn

03000 251378

Post neu e-bost

Lawrlwythwch ein ffurflen dwyll ac e-bostiwch hi at cwynion@llyw.cymru neu postiwch i:

Y Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Y camau nesaf

Pan ddaw'ch cwyn i law byddwn yn ceisio ei datrys yn gyflym. Byddwn bob amser yn ceisio ei datrys cyn pen deng niwrnod gwaith.

Os nad ydych yn fodlon o hyd

Os nad ydych yn fodlon â'n penderfyniad terfynol ynghylch eich cwyn, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am ein proses gwyno darllenwch ein canllawiau ‘Sut i wneud cwyn am Lywodraeth Cymru'.