Mae Comisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain wedi cyhoeddi adroddiad heddiw am ei waith hyd yma gan argymell nifer o fesurau 'cyflym' ar gyfer lleihau tagfeydd ar yr M4.
Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil penderfyniad y Prif Weinidog i beidio ag adeiladu Ffordd Liniaru'r M4.
Mae adroddiad y Comisiwn yn cynnwys argymhellion 'cyflym' i Weinidogion Cymru:
- cyflwyno terfyn cyflymder cyfartalog o 50mya rhwng cyffyrdd 24 a 28 yr M4 (gan gymryd lle'r terfyn cyflymder newidiol presennol yn yr un mannau)
- darparu mwy o wybodaeth ynghylch defnyddio lonydd tua twnelau Bryn Glas o'r gorllewin a defnyddio bolardau i rwystro gyrwyr rhag newid lonydd ar y funud olaf
- defnyddio mwy o swyddogion traffig ar yr M4 ac estyn y patrolau i'r A48 a'r A4810 yng Nghasnewydd.
Ar ben hyn, mae'r Comisiwn yn ystyried sut y gallai wella'r rhwydwaith trafnidiaeth ar draws y De-ddwyrain. Bydd ffocws lawer ehangach i argymhellion y dyfodol na'r argymhellion 'cyflym' cychwynnol hyn, a byddant yn ymdrin hefyd â dulliau teithio eraill.
Meddai'r Arglwydd Burns, Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain:
Rwy'n cydnabod aruthredd a phwysigrwydd y dasg i ddatrys y problemau teithio dybryd yn y rhanbarth.
Ein hamcan fel Comisiwn yw argymell cyfres o fesurau fydd yn ysgafnhau'r tagfeydd mewn ffordd gynaliadwy er lles ehangach y bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yn y De-ddwyrain.
Mae'r argymhellion yn yr adroddiad cychwynnol hwn yn fesurau y gallwn eu rhoi ar waith yn gyflym. Er y bydd eu heffaith yn fach, rwy'n credu y bydd yr effaith honno'n amlwg ar leihau tagfeydd ar yr M4.
Bydd ein hargymhellion tymor hir yn cynnwys set lawer ehangach o fesurau, yn ymwneud â bysiau a threnau, teithio llesol, gwella'r ffyrdd, llywodraethu a pholisïau ehangach.