Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar. Mae’n ddyddiau cynnar ond mae’n amlwg bod llawer iawn o gasglu tystiolaeth, ymgynghori a dadansoddi wedi’i wneud ac rwy’n diolch i’r Comisiwn am gyrraedd y garreg filltir hon mor gyflym.
Ers lansio’r Comisiwn ym mis Hydref, maent wedi cyfarfod dair gwaith ac wedi cynnal gweithdai gydag oddeutu 100 o randdeiliaid ledled y De-ddwyrain. Nid ydynt wedi gwastraffu amser yn dod i ddeall y problemau sy’n cael eu hwynebu gan y cyhoedd wrth ddod o hyd i swyddi a gwasanaethau, busnesau wrth gyrraedd cwsmeriaid a marchnadoedd, a’r diwydiant cludo wrth symud nwyddau yn gyflym ac yn effeithiol. Maent wedi rhoi tri chynnig cynnar i ni ar gyfer mesurau carlam sy'n canolbwyntio ar draffyrdd ac a luniwyd i gael effaith di-oed ar lif traffig. Mae fy swyddogion yn gweithio ar y rhain gyda'r bwriad o ymateb yn ddi-oed yn y flwyddyn newydd.
Fel y mae'r adroddiad yn ei wneud yn glir, mae'r Comisiwn yn gweithio ar gyfres eang ac uchelgeisiol o argymhellion a gynlluniwyd i fynd i'r afael â'r materion gwaelodol. Crynhoir cwmpas eu gwaith yn arbennig ym mharagraffau 25-27, ar opsiynau ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth newydd, teithio llesol, integreiddio gwasanaethau, a materion llywodraethu a defnydd tir.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chamau i wella cysylltedd yn y rhanbarth. Ym mis Medi, amlinellais fy Egwyddorion ar gyfer Cysylltiadau Trafnidiaeth Gyhoeddus, gan nodi uchelgais y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru i alluogi’r cysylltiadau sy’n hanfodol i’n ffyniant yn y dyfodol, y gwasanaethau rheolaidd sydd eu hangen i sicrhau y newid mewn ymddygiad sy’n angenrheidiol i gefnogi system drafnidiaeth mwy gwyrdd.
Mae darparu y newid hwn fesul cam mewn opsiynau a chyfleoedd i deithwyr yn y rhanbarth yn golygu:
- Pedair trên yr awr i bob un o’r gorsafoedd Metro, gan gynnwys i Y Fenni, Casgwent, ac ar hyd rheilffordd Glyn Ebwy
- Chwe trên yr awr rhwng Caerdydd, Casnewydd, a Bryste (gyda 4 i Temple Meads, ar yr amod y bydd Llywodraeth y DU yn cytuno ar hyn)
- Maes parcio capasiti uchel a chyfleusterau parcio a theithio ble y mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yn croesi ffyrdd strategol neu ffyrdd allweddol, a
- Gwasanaethau bws lleol, a’r ddarpariaeth teithio llesol sy’n cysylltu cyfnewidfeydd gyda’u cymunedau â’r ardal yn ehangach.
Dros yr haf, mae’r Fframwaith Gwella Metro wedi’i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Trafnidiaeth Cymru ac Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarth Prifddinas Caerdydd (CCRTA). Ei bwrpas yw helpu i nodi y prif feysydd a choridorau trafnidiaeth sy’n flaenoriaeth.
Rwyf wedi gofyn i swyddogion Trafnidiaeth Cymru ddatblygu Gwerthusiad Strategol Weltag o’r coridorau blaenoriaeth hyn y flwyddyn nesaf, gan gynnwys rhwng Casgwent a Chasnewydd, i nodi y gyfres fwyaf priodol o atebion atodol ar gyfer trafnidiaeth fydd yn cyfrannu tuag at fynd i’r afael â’r heriau hyn drwy ymestyn y cyfnod presennol o’r Metro i Gasnewydd a thu hwnt.
Megis dechrau yw yr adroddiad hwn i waith y Comisiwn ac rwy’n edrych ymlaen at dderbyn rhagor o ddiweddariadau y flwyddyn nesaf. Dim ond rhan fechan y gall y mesurau rheoli traffig ei chwarae mewn ateb holistaidd sy’n ystyried rhesymau gwaelodol strwythurol, cymdeithasol, ac economaidd y tagfeydd ar yr M4 tra’n bodloni anghenion, a’n ymrwymiad i, genedlaethau’r dyfodol. Mae’r Comisiwn yn ymrwymedig i glywed barn pobl, a hoffwn annog ymatebion gan bob sector sydd â diddordeb yn y materion a godwyd a’r atebion a nodwyd.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.