Yr hyn yr ydym yn ei wneud i gefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol drwy'r pandemig COVID-19.
Coronafeirws – Cefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru
Mae’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwneud cyfraniad enfawr i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws, ac rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith caled a’r ymdrech gan bawb sydd ynghlwm wrth y gwaith. Ond mae hwn yn sector o dan bwysau.
Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r sector, y degau o filoedd o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r nifer llawer uwch sy’n derbyn cefnogaeth.
Cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol
Darparwyd £40m ychwanegol cychwynnol gennym ar 14 Ebrill i helpu’r sector gofal cymdeithasol i oedolion i dalu’r costau ychwanegol ynghlwm wrth y pandemig coronafeirws. Caiff hwn ei ddarparu trwy’r gronfa caledi llywodraeth leol.
Mae perchnogion gwasanaethau cartrefi gofal, a gwasanaethau cartrefi gofal gyda nyrsio, wedi gallu gwneud cais am gymorth ariannol trwy Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500m Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i ategu ffynonellau cymorth busnes eraill a sefydlwyd gan lywodraethau’r DU a Chymru.
Cyfarpar Diogelu Personol
Mae pob lleoliad gofal cymdeithasol wedi derbyn cyflenwadau rheolaidd o Gyfarpar Diogelu Personol am ddim o storfeydd canolog a phandemig Cymru i ategu eu cyflenwadau rheolaidd o’r fath gyfarpar. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan staff yr offer hanfodol sy’n angenrheidiol iddynt i wneud eu gwaith ac i deimlo’n hyderus wrth ei wneud.
Erbyn 24 Ebrill, roedd bron i 12m o eitemau Cyfarpar Diogelu Personol wedi’u dosbarthu i holl storfeydd offer ar y cyd awdurdodau lleol i’w dosbarthu ymlaen i leoliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cefnogir y defnydd o Gyfarpar Diogelu Personol ym maes gofal cymdeithasol gan ganllawiau DU-gyfan, a gyhoeddwyd ar 2 Ebrill.
Profion
Mae profion ar gael ar gyfer unrhyw staff gofal cymdeithasol sydd â symptomau ac, o 22 Ebrill, bydd holl breswylwyr cartrefi gofal sydd â symptomau coronafeirws yn cael eu profi. I ategu hyn, bydd profion hefyd yn cael eu hymestyn i bobl sy’n mynd i mewn i gartrefi gofal trwy ba bynnag lwybr, gan gynnwys rhyddhau o’r ysbyty, dychwelyd o ofal llai dwys, symud cartrefi neu gael eu derbyn o’r gymuned.
Mae polisi profi gweithwyr critigol ar gael.
Canllaw a chymorth i gomisiynwyr
Gan weithio gyda’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, cyhoeddwyd canllawiau i gefnogi darparwyr a chomisiynwyr.
Mae’r teclyn capasiti gofal a chymorth ar-lein, sy’n cefnogi comisiynwyr, wedi’i gyflwyno’n gynnar – ers iddo lansio ar 26 Mawrth, mae mwy na 40% o ddarparwyr gofal preswyl i oedolion wedi cofrestru. Bydd yn helpu comisiynwyr i nodi argaeledd lleoedd cartrefi gofal ac yn helpu i leoli pobl sydd angen gwely cartref gofal cyn gynted â phosibl.
Mae Deddf y Coronafeirws 2020 yn rhoi pwerau brys ychwanegol i bedair llywodraeth y DU i ymateb i’r pandemig. O dan y Ddeddf rydym yn cyhoeddi canllawiau i ddarparu fframwaith cyson a chydlynol, sy’n galluogi awdurdodau lleol i gynnal cefnogaeth i’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Mae’n atgyfnerthu ein hegwyddorion trosfwaol a’n gwerthoedd craidd ac, ochr yn ochr â’r Fframwaith Moesegol i Ddarparu Gofal Iechyd, bydd yn sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal.
Rheoleiddio ac arolygu
Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym wedi cytuno ar ymagwedd bragmatig tuag at orfodi’r gofynion o amgylch y gweithlu, yn cynnwys mewn perthynas â gweithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig eraill. Byddwn yn cyflwyno newidiadau deddfwriaethol os bydd eu hangen.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyflwyno galwad wythnosol i ddarparwyr, er mwyn cynnig cefnogaeth a nodi unrhyw broblemau y gallent fod yn eu hwynebu. Mae mwy o wybodaeth am waith AGC ar gael.
Gofal preswyl a gofal nyrsio
Cyhoeddwyd canllawiau manwl gennym ynghylch cau cartrefi gofal i ymwelwyr, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol, ar 23 Mawrth.
Rydym wedi datblygu llwybr profi a rhyddhau newydd ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysbyty i fynd i gartrefi gofal yn ystod argyfwng COVID-19, sy’n golygu y bydd pobl sydd naill ai â chanlyniad prawf COVID-19 positif neu sydd â symptomau yn cael eu rhyddhau i ofal llai dwys priodol a’u profi eto cyn cael eu rhyddhau o ofal llai dwys i gadarnhau nad yw’r feirws ganddynt cyn iddynt ddychwelyd i’w cartref gofal.
Er mwyn cefnogi darpariaeth nyrsio mewn gofal preswyl, rydym yn gweithio i leoli nyrsys sy’n dychwelyd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, gan gynnwys cysylltu hyb COVID y GIG â phorthol recriwtio ar-lein Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ardal benodol yn cael ei chreu ar gyfer swyddi nyrsio gwag.
Er mwyn sicrhau bod cartrefi gofal yn gallu parhau i gael gafael ar gyflenwadau bwyd, rydym wedi bod yn gweithio gydag archfarchnadoedd i sicrhau bod cartrefi gofal yn cael eu cydnabod fel blaenoriaeth. Rydym hefyd wedi cysylltu cartrefi gofal â Menter a Busnes, i’w cysylltu â chyflenwyr cyfanwerthol, a all gyfleu’r cyflenwadau angenrheidiol. Mae gan Menter a Busnes linell wybodaeth ar gyfer cwestiynau ynghylch cyflenwi bwyd i fusnesau sy’n cael ei staffio saith diwrnod yr wythnos.
Mae cyngor pwrpasol ynghylch gweithio mewn cartrefi gofal wedi’i ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwasanaethau cymorth cartref
Cyngor ynghylch coronafeirws ar gyfer gwasanaethau cymorth cartref.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyflwyno cwrs hyfforddiant meddyginiaeth ar-lein ar gyfer gweithwyr gofal, a fydd yn sicrhau y bydd mwy o weithwyr gofal yn gallu gweinyddu meddyginiaeth i bobl yn eu cartrefi.
Gofal cymdeithasol plant
Cyhoeddwyd canllawiau gweithredol cynhwysfawr ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant ar 21 Ebrill. Cafodd ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â’r sector. Mae cyfres o gwestiynau cyffredin ar gyfer plant agored i niwed ar gael hefyd.
Gan weithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru, rydym wedi datblygu gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal.
Mae gwasanaeth gwybodaeth ieuenctid, sy’n defnyddio’r gwasanaeth eirioli ieuenctid MEIC cyfredol, yn cael ei ddatblygu.
Mae gwasanaethau mabwysiadu yn cael rhywfaint o hyblygrwydd wrth ddehongli’r gofynion yn y rheoliadau mabwysiadu newydd rhwng 1 Ebrill a 30 Medi neu hyd nes y bydd y drefn arferol yn ailddechrau, pa un bynnag yw’r cynharaf, i’w galluogi i barhau i symud ymlaen cyn belled ag sy’n bosibl o dan yr amodau argyfwng cyfredol.
Er mwyn cefnogi teuluoedd sy’n profi anawsterau penodol yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud pob gofal plant cyn-ysgol yn rhad ac am ddim i blant o dan bump sydd â gweithwyr cymdeithasol yn ogystal ag i blant gweithwyr critigol o dan bump oed. Gall gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd gynghori am yr opsiynau gofal plant sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol.
Y gweithlu gofal cymdeithasol
Eleni, rydym wedi cyflwyno gofyniad gorfodol i weithwyr gofal cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r amserlen i weithwyr gofal cartref newydd gofrestru wedi'i hymestyn dros dro o chwech i 12 mis.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi agor cofrestr frys ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, sy’n galluogi’r rhai sydd wedi gadael y proffesiwn i ailgofrestru er mwyn cynnig cefnogaeth, heb orfod talu ffi. Mae dros 50 o weithwyr cymdeithasol wedi eu rhoi ar y gofrestr frys hyd yma.
Mae hyb recriwtio Gofal Cymdeithasol Cymru yn amlygu dros 450 o swyddi gwag yn y maes gofal cymdeithasol, ac mae ganddo ddolenni gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i roi sylw i swyddi gwag yn y sector.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu cerdyn adnabod ar gyfer pob gweithiwr gofal cymdeithasol.
Ar 6 Ebrill, ysgrifennodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, at holl weithwyr gofal cymdeithasol Cymru i ddiolch iddynt.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau i gefnogi llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae gofal plant ar gael yn rhad ac am ddim i blant gweithwyr critigol (o dan bump oed), gan gynnwys staff gofal cymdeithasol.
Pobl agored i niwed
Mae dros 90,000 o bobl â chyflyrau iechyd penodol wedi derbyn llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn gofyn iddynt fabwysiadu cyfres o fesurau gwarchod i’w hamddiffyn rhag bod yn agored i coronafeirws. Mae’r grŵp hwn yn agored iawn i afiechyd difrifol. Rydym wedi rhannu rhywfaint o wybodaeth am y grŵp hwn gyda’r archfarchnadoedd i sicrhau y gallant gael blaenoriaeth wrth dderbyn danfoniadau i’w cartrefi ac, i’r rheini nad oes ganddynt unrhyw gefnogaeth leol, mae danfoniadau bwyd wythnosol am ddim ar gael gan eu hawdurdod lleol.
Bydd cynorthwywyr personol yn cael eu cynnwys yng nghynllun cardiau adnabod Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cefnogaeth profedigaeth
Rydym wedi ategu cyllid sydd eisoes ar gael fel rhan o’r Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy tair blynedd ar gyfer Gofal mewn Galar Cruse. Darparwyd £72,000 ychwanegol i’w galluogi i ehangu’r gefnogaeth maen nhw’n ei chynnig yng Nghymru.
Diogelu
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tudalen we benodol i gyfleu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch diogelu a COVID-19.
Er mwyn cefnogi byrddau diogelu rhanbarthol, rydym wedi cyhoeddi cyngor i fyrddau diogelu ynghylch eu rôl a’u swyddogaeth yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym eisiau pwysleisio pwysigrwydd aros yn wyliadwrus i achosion lle gallai oedolyn neu blentyn fod yn profi camdriniaeth, niwed neu esgeulustod. Mae gwybodaeth i ymarferwyr ar adrodd am bryderon diogelu wedi’i rhaeadru trwy rwydweithiau sector.