Neidio i'r prif gynnwy

Information about vulnerable children and safeguarding during the coronavirus pandemic.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Nid wyf yn defnyddio’r ddarpariaeth ar hyn o bryd, ond mae angen help arnaf, neu rwy’n teimlo y dylai fy mhlentyn fod yn gymwys i gael darpariaeth yn yr hybiau?

Awdurdodau lleol sydd yn y lle gorau i adnabod y plant sy’n derbyn cymorth gan weithiwr cymdeithasol neu sydd â datganiad AAA. Fodd bynnag, mae gan awdurdodau lleol hefyd yr hyblygrwydd i gynnig lle i’r rhai sydd ar gyrion gofal a chymorth os yw’r ysgol neu wasanaeth cymorth i deuluoedd yn gwybod eu bod yn agored i niwed. Dylai’r ysgol a’r awdurdod lleol benderfynu ar hyn fesul achos.

Os ydych yn teimlo bod angen help arnoch neu y dylech fod yn gymwys i gael y ddarpariaeth, dylech gysylltu â’ch ysgol neu awdurdod lleol.

Sut bydd awdurdodau lleol ac ysgolion a/neu leoliadau gofal plant cofrestredig yn rheoli effaith ariannol y newidiadau hyn?

Pa gymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc mewn gofal maeth neu’r rhai sy’n gadael gofal?

Rydym yn disgwyl i’r holl blant sy’n derbyn gofal maeth gael cymorth i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd genedigol, a medru treulio amser gyda’u brodyr a’u chwiorydd a derbyn gwasanaeth eirioli. Efallai na fydd yn bosibl, nac yn briodol, cael cysylltiad wyneb yn wyneb, ac fe fydd angen cadw mewn cysylltiad o bell yn bennaf.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cyhoeddi cyngor i’r rhai sy’n gadael gofal gan gynnwys dolenni at sefydliadau sy’n cynnig cymorth.

Mae Voices from Care wedi datblygu pecyn penodol o gymorth i’r rhai sy’n gadael gofal, sydd wedi’i ddosbarthu i awdurdodau lleol. Bwriedir i’r cymorth sy’n cael ei gynnig helpu gyda llesiant emosiynol drwy gynnig rhith ofod cymdeithasol. Mae hefyd yn darparu amrywiol gyngor a gwybodaeth ac fe fydd yn addasu’r gwasanaeth wrth i’r sefyllfa ddatblygu. Mae’r cynnig i’w weld yma: http://vfcc.org.uk/coronavirus/

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r canllawiau ynghylch Cronfa Dydd Gŵyl Dewi gan gynghorinodi y dylai awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i’r rhai sy’n gadael gofal a allai fod yn dioddef caledi ariannol yn sgil colli incwm, anawsterau gyda chytundebau tenantiaeth, bwyd ac anghenion byw sylfaenol eraill.

Gellir gweld cCyngor Llywodraeth Cymru i’r rhai sy’n gadael gofal ac sydd yn byw mewn llety rhent preifat yma: https://llyw.cymru/coronafeirws-covid-19-canllawiau-i-denantiaid-yn-y-sector-rhentu-preifat

Mae’r Rhwydwaith Maethu yn estyn allan i gefnogi gofalwyr maeth ar draws Cymru, gellir gweld y cyngor a’r cymorth sydd ar gael yma: https://www.thefosteringnetwork.org.uk/advice-information/coronavirus-covid-19

 

Mae’r Rhwydwaith Maethu yn estyn allan i gefnogi gofalwyr maeth ar draws Cymru, gellir gweld y cyngor a’r cymorth sydd ar gael yma: https://www.thefosteringnetwork.org.uk/advice-information/coronavirus-covid-19

Mae Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Cymru wedi cyhoeddi cyngor a chanllawiau ar gyfer gwasanaethau maethu, gan gynnwys cysylltiad teuluol: www.afacymru.org.uk/supporting-effective-functioning-during-covid-19/

Beth sy’n cael ei wneud i gefnogi’r broses fabwysiadu a rhieni mabwysiedig?

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau ar ei wasanaethau.

Daeth Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 i rym ar 1 Ebrill 2020. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau darparwyr na fydd camau yn cael eu cymryd, drwy ddefnyddio pwerau Cyfarwyddiadau Gweinidogol neu fel arall,, ond ni fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri’r Rrheoliadau newydd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2020, neu nes bod popeth nôl i drefn, pa un bynnag fydd yn digwydd gyntaf, ar yr amod bod hyn yn digwydd am reswm da.

Gallai hynny olygu mewn rhai achosion y bydd asiantaethau yn cynnal prosesau Cam 1 a Cham 2 ar yr un pryd os byddant yn dymuno gwneud hynny. Mae’n parhau i fod yn ofynnol, fodd bynnag, cwblhau pob gwiriad angenrheidiol, gan gynnwys asesiadau iechyd a gwiriadau DBS cyn cymeradwyo mabwysiadwr. Gallai hyn olygu, er enghraifft, bod asesiadau meddygol ync ael eu gadael tan ddiwedd y broses.Mae gohebiaeth wedi’i anfon at y sector ynghylch hyn.

Beth sy’n digwydd am benderfyniadau mewn llysoedd teulu?

Mae Llywydd yr Is-adran Teuluoedd wedi cyhoeddi canllawiau am gyflawni gorchmynion trefniadau plant (cyfraith breifat) yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn, sydd wedi’u dosbarthu i awdurdodau lleol: https://www.judiciary.uk/announcements/coronavirus-crisis-guidance-on-compliance-with-family-court-child-arrangement-orders/

Mae’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd hefyd wedi cyhoeddi canllawiau mewn perthynas â gweithrediad y llys teulu:

https://www.judiciary.uk/coronavirus-covid-19-advice-and-guidance/

The Courts and Tribunals Service is providing regular updates

Mae’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn gyson, gan gynnwys eu blaenoriaethau a theclyn i ddangos pa lysoedd sy’n parhau i weithredu: https://www.gov.uk/government/organisations/hm-courts-and-tribunals-service

Mae’r Grŵp Hawliau Teuluoedd yn darparu cyngor am y cymorth sydd ar gael i deuluoedd yma: https://www.frg.org.uk/

Beth sy’n digwydd i sicrhau bod digon o weithwyr cymdeithasol ar gael i barhau i ofalu am blant agored i niwed?

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau y gall y gofal barhau ar gyfer plant agored i niwed os bydd COVID-19 yn cael effaith sylweddol ar y gweithlu. Mae hyn yn cynnwys, drwy ddeddfwriaeth frys y llywodraeth, caniatáu cofrestru brys ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd wedi gadael y proffesiwn yn ddiweddar, er mwyn eu galluogi i ddychwelyd, ynghyd â gweithio gyda’r sector ar fyrder i weld pa ofynion y gellid eu llacio i ryddhau amser gweithwyr cymdeithasol heb amharu ar fuddiannau plant agored i niwed.

Beth sy’n cael ei wneud i helpu pobl ifanc a’r gweithlu mewn lleoliadau preswyl?

Bydd cartrefi plant yn parhau i fod ar agor. Mae awdurdodau lleol yn gweithio i sicrhau fod ganddynt y gweithlu angenrheidiol i barhau i fod ar agor i wneud y gwaith hanfodol o ddiogelu plant agored i niwed. Mae cartrefi preswyl a chartrefi diogel i blant yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol ar gynlluniau i baratoi ar gyfer prinder staff o bosib ar lefel leol, ac mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar opsiynau i roi cymorth i ddarparwyr os bydd angen.

Rydym yn disgwyl i bob plentyn sydd mewn gofal preswyl gael cymorth i gadw mewn cysylltiad â’i deulu genedigol, a medru treulio amser gyda’i frodyr a’i chwiorydd a chael mynediad at wasanaeth eirioli. Efallai na fydd yn bosibl, nac yn briodol, cael cysylltiad wyneb yn wyneb, ac y bydd y cysylltiad yn bennaf yn digwydd o bell.

Pa ganllawiau sydd ar gael i wasanaethau cymdeithasol i blant er mwyn cefnogi plant sy’n derbyn gofal, y rhai sy’n gadael gofal a mesurau amddiffyn plant?

Mewn ymateb i COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i blant.

Beth sydd ar gael i ofalwyr ifanc?

Mae’r diffiniad o blant agored i niwed, sy’n cynnwys gofalwyr ifanc, yn golygu bod modd iddyn nhw ddefnyddio darpariaeth yr hybiau os oes angen cymorth ychwanegol, neu seibiant byr oddi wrth eu rôl gofalu. Bydd yr hyn sydd ar gael yn cael ei bennu gan bob awdurdod lleol yn ôl y ddarpariaeth sydd ar gael. Dylai rhieni/gwarcheidwaid gofalwyr ifanc gysylltu â’u hysgol leol, neu adran addysg eu hawdurdod lleol yn uniongyrchol.

Gall gofalwyr ifanc gyrraedd at amrywiol wybodaeth a chyngor ar-lein, neu gymorth o fath arall. Gellir cael gafael ar hyn drwy’r awdurdod lleol, ac mae’r manylion cyswllt fel arfer ar wefan yr awdurdod lleol. Gellir cael cymorth hefyd gan sefydliadau cenedlaethol neu leol i ofalwyr.

Mae Gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gofalwyr, ac maent i’w gweld yma: https://www.carersuk.org/wales

Mae’r diffiniad o blant agored i niwed, sy’n cynnwys gofalwyr ifanc, yn golygu bod modd iddyn nhw ddefnyddio darpariaeth yr hybiau os oes angen cymorth ychwanegol, neu seibiant byr oddi wrth eu rôl gofalu. Bydd yr hyn sydd ar gael yn cael ei bennu gan bob awdurdod lleol yn ôl y ddarpariaeth sydd ar gael. Dylai rhieni/gwarcheidwaid gofalwyr ifanc gysylltu â’u hysgol leol, neu adran addysg eu hawdurdod lleol yn uniongyrchol.

Gall gofalwyr ifanc gyrraedd at amrywiol wybodaeth a chyngor ar-lein, neu gymorth o fath arall. Gellir cael gafael ar hyn drwy’r awdurdod lleol, ac mae’r manylion cyswllt fel arfer ar wefan yr awdurdod lleol. Gellir cael cymorth hefyd gan sefydliadau cenedlaethol neu leol i ofalwyr.

Beth fydd disgwyl i’r awdurdodau lleol eu darparu i ddysgwyr sydd â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)?

Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa hon, na welwyd ei thebyg o’r blaen, yn golygu efallai na fydd systemau cymorth yn gweithredu cystal ag arfer ar hyn o bryd. Rydym yn annog dull gweithredu ymarferol a hyblyg i ddiwallu anghenion unigol.

A ddisgwylir i sefydliadau Addysg Bellach arbenigol aros ar agor?

Os yw'n ddiogel, dylai lleoliadau arbenigol barhau i ofalu am blant lle bo hynny'n bosibl. Mae lleoliadau arbennig yn cynnwys sefydliadau addysg bellach arbenigol (AB) sy'n cael eu hariannu i ddarparu addysg, hyfforddiant ac, mewn llawer o achosion, gofal hefyd i bobl ifanc ag anawsterau dysgu difrifol a chymhleth.

Pan fo sefydliad addysg bellach (AB) arbenigol yn penderfynu cau neu pan nad yw pobl ifanc yn gallu dod i’r coleg, pa sicrwydd y gall LC ei roi y bydd lleoedd y bobl ifanc hynny’n parhau i gael eu hariannu am y rhaglenni astudio y cytunwyd

Er mwyn sicrhau y gall pobl ifanc barhau i dderbyn gofal mewn sefydliadau AB arbenigol, nawr ac yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y bydd yn parhau i ariannu lleoedd hyd nes ddiwedd y flwyddyn academaidd hon (Gorffennaf 2020) ar gyfer y rhaglenni astudio hynny y cytunwyd arnynt eisoes ac y tarfwyd arnynt gan COVID-19. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddarparu hyd yn oed pan na fydd person ifanc yn bresennol oherwydd COVID-19, a hyd yn oed os bydd sefydliad AB arbenigol yn cau neu'n cwtogi ei wasanaethau dros dro, mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws. Bydd y trefniant hwn yn cael ei adolygu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd bresennol.

Beth fydd yn digwydd os na all person ifanc, sydd i fod i gwblhau rhaglen astudio y cytunwyd arni ar ei gyfer ym mis Gorffennaf 2020, ei chwblhau oherwydd ei fod yn methu â mynd i’r coleg oherwydd COVID-19?

Pan na fydd person ifanc yn gallu cwblhau'r rhaglen astudio y cytunwyd arni ar ei gyfer, gellir gwneud cais am estyniad i'r rhaglen astudio honno. Mae'r canllawiau i gefnogi hyn wedi'u cynnwys ym mholisi Llywodraeth Cymru 'Sicrhau addysg ôl-16 i bobl ifanc ag anawsterau dysgu mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol' a chanllawiau technegol cysylltiedig ar gyfer Gyrfa Cymru a sefydliadau addysg bellach arbenigol. Fel y nodwyd (paragraff 82 o'r polisi), cyfrifoldeb y coleg yw adolygu rhaglen astudio person ifanc ac, os oes angen, cyflwyno cais am estyniad i'w ystyried gan Lywodraeth Cymru. Mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y cytunir ar geisiadau i ymestyn lleoliad person ifanc y tu hwnt i ddyddiad gorffen gwreiddiol y rhaglen y cytunwyd arni. Bydd yr holl geisiadau yn cael eu hystyried fesul achos unigol. Fodd bynnag, rhaid i'r amser y gofynnir amdano fod yn gymesur â'r hyn sydd eto i'w gwblhau o fewn y rhaglen astudio y cytunwyd arni ar gyfer y person ifanc. Er enghraifft, ni fyddem yn disgwyl derbyn cais am estyniad o flwyddyn, lle mae'r person ifanc wedi bod yn absennol am un tymor.

Beth sy'n cael ei wneud ynglŷn â phlant agored i niwed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol ac sy'n cael eu cynghori i ynysu ond sy’n dibynnu ar ysgolion i gael prydau bwyd?

Dylai ysgolion sicrhau bod disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn parhau i gael bwyd yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae Canllawiau i ysgolion ar brydau ysgol am ddim wedi'u cyhoeddi ac mae'n nhw’n awgrymu amrywiaeth o opsiynau ynghylch sut y gall ysgolion fodloni’r anghenion hyn tra’n sicrhau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol priodol yn cael eu parchu.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn uniongyrchol. Gallwch hefyd fynd i https://https://llyw.cymru/darganfod-mwy-am-brydau-ysgol-am-ddim-yn-eich-awdurdod-lleol-coronafeirws.

I'r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond sydd wedi cael eu cynghori i ynysu neu sy’n cael trafferth dygymod ar hyn o bryd, mae llawer o awdurdodau lleol yn cynnig cymorth a dylai rhieni/gofalwyr gysylltu â'u hawdurdod lleol neu edrych ar eu gwefan.

Beth mae Colegau Addysg Bellach yn ei wneud i helpu dysgwyr?

Dylai dysgwyr gysylltu ag adrannau gwasanaethau i fyfyrwyr unigol i gael gwybodaeth benodol, ond mae pob coleg yn awyddus i ddarparu’r cymorth gorau posib i bob dysgwr dan yr amgylchiadau hyn, na welwyd eu tebyg o’r blaen, gan gynnwys:

  • Bydd teuluoedd sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn cael cymorth drwy amrywiol systemau gan gynnwys taliadau uniongyrchol i’w cyfrifon banc, talebau a chynlluniau pecyn bwyd.
  • Mae dysgwyr sydd heb fynediad at gyfleusterau gartref wedi cael benthyg gliniaduron.
  • Mae cymorth i fyfyrwyr yn cael ei ddarparu o bell dros y ffôn, drwy e-bost, Skype ac ati. Mae gweithwyr achos yn cysylltu’n rheolaidd gyda’u dysgwyr sy’n arbennig o agored i niwed.
  • Mae gwasanaethau llyfrgell yn cael eu darparu ar-lein, gan gynnwys llinellau ffôn i gael gwybodaeth gan lyfrgellydd.

Beth sy’n digwydd gyda phrentisiaethau iau?

Mae Colegau Cymru wedi cau eu hystafelloedd dosbarth ond maent yn parhau i addysgu drwy ddulliau amgen gan ddefnyddio ystafelloedd dosbarth ar-lein. Disgwylir i brentisiaid iau fynychu sesiynau ar-lein a chyflwyno gwaith lle bo’n briodol. Mae anogwyr dysgu yn cysylltu â’r dysgwyr hyn i gadarnhau fod popeth yn iawn o ran eu llesiant. Mae pob prentis iau oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim wedi cael eu hystyried a’r opsiynau wedi cael eu trafod. Mae cynlluniau gweithredu manwl am y dysgwyr hyn wedi’u rhannu gyda’r rhanddeiliaid perthnasol.

Mae rhai elfennau o’r cymwysterau galwedigaethol yn parhau i gael eu hystyried, ac fe fydd y cyngor yn cael ei rannu gyda’r dysgwyr yn rheolaidd.

Rwy'n cael problemau ariannol, pa gymorth sydd ar gael i mi?

Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr sy'n profi anawsterau ariannol yn dymuno cysylltu â gwasanaethau caledi neu lesiant myfyrwyr eu darparwyr.

Mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi rhoi'r gorau i ymgymryd ag ôl-ddyledion a gweithgarwch casglu dyledion dros dro, er mwyn lleihau’r pwysau ar unigolion a pheidio â rhoi baich ariannol ychwanegol arnynt ar hyn o bryd. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi creu tudalen bwrpasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr ynghylch cyllid myfyrwyr yn ystod argyfwng y Covid-19 a gellir ei weld yma.

Rwy’n bryderus iawn ac o dan straen. Pa gymorth sydd ar gael i mi?

Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod bod prifysgolion Cymru wedi cynnal amrywiol weithgareddau gyda’r nod o gefnogi iechyd meddwl a lles y myfyrwyr, gyda chymorth cyllid a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i CCAUC. Dylai cymorth o’r fath gael ei ymestyn i fyfyrwyr sy’n byw oddi ar y campws, yn ogystal â’r rhai yn neuaddau preswyl y brifysgol. Efallai y bydd myfyrwyr sy’n dioddef straen a phryder am gysylltu â gwasanaethau lles myfyrwyr eu darparwr:

https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/

https://www.bangor.ac.uk/studentservices/index.php.cy

https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/student-life/student-support

http://www.metcaerdydd.ac.uk/study/studentservices/Pages/default.aspx

https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/

https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/a2z/student-services/

https://www.uwtsd.ac.uk/cy/gwasanaethau-myfyrwyr/

https://www.glyndwr.ac.uk/cy/Eincymorthifyfyrwyr/

Sut mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed?

Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid, yn y sector a gynhelir a’r sector gwirfoddol, yn draddodiadol yn cefnogi llawer o bobl ifanc o bob cefndir, gallu a dyhead, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed a’r rhai ar y cyrion yn eu plith, ac mae sgiliau gwaith ieuenctid o ran cysylltu â phobl ifanc yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi'n arbennig yn y cyswllt hwn. Mae’r gwasanaethau hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi datblygiad person ifanc yn holistaidd, drwy ddysgu mewn ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol ac mewn amrywiaeth o leoliadau. Yn yr argyfwng presennol, gan fod y rhan fwyaf o leoliadau mewn adeiladau, gan gynnwys canolfannau a phrosiectau ieuenctid, wedi cau eu drysau o ganlyniad i’r cyfyngiadau presennol, mae’r rhai sy’n gwneud gwaith ieuenctid gwirfoddol a gweithwyr proffesiynol, cyflogedig yn gweithio mewn ffyrdd newydd sy’n esblygu a datblygu. Mae hyn yn cynnwys cynnal gweithgareddau ar-lein a 'clybiau ieuenctid digidol', a hefyd drwy gefnogi ymatebion gweithwyr rheng flaen i Covid-19 a staffio lleoliadau mewn ysgolion a chanolfannau. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn gwaith allgymorth drwy ddefnyddio’r ffôn a dulliau digidol i gysylltu â phobl ifanc, ymateb i'w pryderon, eu cwestiynau a’u ceisiadau am gymorth, a chan eu hatgyfeirio at wasanaethau eraill lle bo angen, neu hwyluso mynediad atynt.

Yn ogystal, mae gwasanaeth llinell gymorth Meic wedi 'i wella mewn ymateb i Covid-19, ac mae 'n cynnig awgrymiadau defnyddiol i bobl ifanc ar amrywiaeth o faterion, drwy fideos, adnoddau, erthyglau a chymorth uniongyrchol gan Eiriolwyr Gynghorwyr y Llinell Gymorth.

Er mwyn cefnogi ymateb y sector i'r pandemig, mae Rhwydwaith Trawsnewid Gwaith Ieuenctid Digidol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro wedi dod yn ganolbwynt cydgysylltu cenedlaethol ar gyfer rhannu gwybodaeth, adnoddau, offer, hyfforddiant ac arweiniad ar waith ieuenctid digidol fel ymateb i'r cyfyngiadau a ddeilliodd o Covid-19. Mae'r Rhwydwaith wedi datblygu platfform rhannu gwybodaeth newydd sy'n cadw adnoddau gwerthfawr mewn un man, er mwyn helpu i osgoi dyblygu. Yn ogystal, mae'r bwletin gwaith ieuenctid yn rhoi newyddion i'r sector am y datblygiadau diweddaraf bob pythefnos.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector gwaith ieuenctid yn ystod y cyfnod hwn?

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £10 miliwn i awdurdodau lleol yn 2020-21 drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid. Mae hyn yn cynnwys £3.7 miliwn i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc a £2.5 miliwn i helpu iechyd meddwl a lles, yn ogystal ag arian craidd ar gyfer gwaith ieuenctid ac ymgysylltu â phobl ifanc drwy wasanaethau awdurdodau lleol ac mewn cydweithrediad â'u partneriaid. Mae telerau ac amodau'r grant wedi'u diwygio i gynnwys hyblygrwydd ychwanegol gyda'r nod o gydnabod a chefnogi ymatebion y gwasanaeth gwaith ieuenctid i Covid-19. Bwriad y newidiadau hyn yw diogelu seilwaith y gwasanaeth gwaith ieuenctid a chaniatáu rhagor o hyblygrwydd i Lywodraeth Leol a'i phartneriaid ar yr un pryd, gan gynnwys drwy adleoli staff a chryfhau dulliau digidol o ddarparu allgymorth.

Ynghyd â'r Grant Cymorth Ieuenctid, bydd awdurdodau lleol yn mynd ati i ystyried sut y byddant yn gwario eu cyllid o’r Grant Cynnal Refeniw, a ffrydiau cyllid eraill, ar weithgareddau y gwasanaeth ieuenctid i gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid drwy’r Grant Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol, a ddechreuodd ar 1 Ebrill 2020 ac a fydd yn rhedeg am ddwy flynedd. Mae'n bosibl y bydd angen newid yr amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer cyrff ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol o dan y grant hwn, o ystyried y sefyllfa bresennol ynghylch Covid-19, a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod hyn gyda’r rhai sy’n cael y grantiau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydgysylltu’r broses o gyhoeddi bwletin bob pythefnos ar ran y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Mae hyn yn golygu ymgysylltu â chynrychiolwyr y sector a dod â’u cwestiynau allweddol at ei gilydd, ac yna dod o hyd i ymatebion i arwain a chefnogi'r sector yn ystod y cyfnod hwn. I gael y bwletin gwaith ieuenctid cofrestrwch yma.

Beth sy'n cael ei wneud i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod y cyfnod hwn?

Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Cydgysylltwyr Digartrefedd Ieuenctid mewn awdurdodau lleol fel rhan o'r dyraniad o £3.7 miliwn ar gyfer digartrefedd pobl ifanc yn y Grant Cymorth Ieuenctid. Gall y cydgysylltwyr gyflawni swyddogaeth hanfodol drwy helpu i gydgysylltu ymateb ar y cyd i gefnogi pobl ifanc yn gynnar er mwyn helpu i atal digartrefedd. Mae prosiectau'r Gronfa Arloesedd yn parhau i gael eu hariannu ac mae sefydliadau yn darganfod ffyrdd o barhau i ymgysylltu â phobl ifanc a darparu gwasanaeth i rhai sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Gall pobl ifanc droi am help at y gwasanaeth cynghori annibynnol ar dai a ddarperir gan Shelter Cymru, ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â'r llinell gyngor, mae cyfleuster gwe-sgwrs ar gael hefyd ynghyd â gwybodaeth a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Mae Shelter Cymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Llamau i ddarparu gwasanaeth y tu allan i oriau arferol i bobl ifanc. Bydd ymgyrch digartrefedd cudd Llywodraeth Cymru yn parhau i redeg ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gyfeirio pobl ifanc at Shelter Cymru am gymorth.

Shelter Cymru a Llamau

Llinell gyngor: 0800 495 495

Shelter Cymru: https://sheltercymru.org.uk/cy/

Llamau: https://www.Llamau.org.uk/

 

Rwyf wedi bod yn derbyn gwasanaeth cwnsela drwy fy ysgol i gefnogi fy iechyd meddwl.Hoffwn dderbyn gwasanaeth cwnsela i gefnogi fy iechyd meddwl. A fydd modd i mi gyrraedd at y gwasanaeth hwnnw nawr?

Yn sgil y pandemig coronafeirws sy’n parhau, mae gwasanaethau cwnsela awdurdodau lleol wedi gorfod newid y ffordd y maent yn cyfathrebu ac yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc. Maent yn parhau i gynnig cymorth i blant a phobl ifanc o bell, naill ai gan ddefnyddio gwasanaethau dros y ffôn neu ar-lein. Gellir atgyfeirio drwy eich awdurdod lleol gan ddefnyddio manylion cyswllt ar wefan Llywodraeth Cymru.

Pa gymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd angen cymorth iechyd meddwl?

Bydd nifer o bobl yn ei gweld yn anodd aros gartref, ond mae llawer o ffyrdd i gefnogi eich iechyd meddwl eich hun. Anogwch bobl ifanc i siarad agDywedwch wrth oedolyn y mae’nr ydych yn ymddiried ynddo am eich dteimladau a thrafodwch ffyrdd y gall pawbo helpu ei’ch iechyd meddwl.

Gan gydnabod bod nifer o bobl ifanc yn gweld y sefyllfa bresennol yn heriol, ac i’w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym wedi creu adnodd ar-lein sy’n hyrwyddo nifer o adnoddau digidol wedi’u llunio’n benodol i helpu pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol.

Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn arwain pobl ifanc 11 i 25 oed o Hwb at amrywiol adnoddau ar-lein i’w helpu drwy’r pandemig Covid-19 a thu hwnt. Ym mhob  un o’r chwe rhan mae hyd at ddeg o wefannau hunangymorth, apiau, llinellau cymorth a llawer mwy i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Mae’r GIG yn dal i fod yma i’ch helpu, er bod y gwasanaethau dan fwy o bwysau nag arfer, felly dylech fedru cael cymorth drwy eich meddyg teulu os oes angen. Ar ben hynny, mae gwasanaethau cwnsela awdurdodau lleol, a oedd yn arfer cael eu darparu wyneb yn wyneb mewn ysgolion ac yn y gymuned, yn parhau i fod ar gael. Ers y pandemig maent wedi symud i fod ar-lein neu dros y ffôn. Gellir cael atgyfeiriad drwy wefan eich awdurdod lleol.

Mae fy mhlentyn yn dal i aros am ddatganiad AAA a/neu rwy’n mynd i dribiwnlys i gael datganiad AAA ar gyfer fy mhlentyn. A fydd yn cyfri fel plentyn agored i niwed ac yn medru mynd i’r ysgol a/neu leoliad gofal plant cofrestredig?

Os nad yw’r awdurdod lleol wedi cyhoeddi datganiad AAA eto ar gyfer eich plentyn, ni fydd yn dod o dan y diffiniad o blentyn agored i niwed at ddibenion mynd i’r ysgol a/neu leoliad gofal plant cofrestredig yn ystod yr argyfwng COVID-19. Felly, os nad yw’n cael ei ystyried fel plentyn agored i niwed dan faen prawf arall, ni fydd yn cael ei gyfrif fel ‘plentyn agored i niwed’.

Os ydych yn teimlo y dylai eich plentyn gael ei gyfrif fel un agored i niwed, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol yn y lle cyntaf, er mwyn iddynt roi rhagor o wybodaeth i chi, a’r meini prawf sy’n cael eu defnyddio yn eich ardal.

Rhannu’r dudalen hon