Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dros y pythefnos ddiwethaf, mae’n hymateb i argyfwng y coronafeirws (COVID–19) wedi dwysáu wrth i’r feirws ledaenu a’r cyngor arbenigol ddatblygu.
Ar 20 Mawrth, caewyd yr ysgolion i’r holl blant a phobl ifanc, ac eithrio plant bregus neu blant i weithwyr sy’n hanfodol i’n hymateb i’r argyfwng er mwyn caniatáu i’r rhieni hynny weithio os nad oes trefniadau gofal plant amgen ar gael. Dylid gofalu am blant gartref lle bynnag y bo modd.
Gofynnwyd i leoliadau gofal plant ac ysgolion roi blaenoriaeth i ofalu am blant gweithwyr hanfodol a phlant bregus.
Mae’n allweddol nad yw gweithwyr sy’n hanfodol i ymateb Cymru, gan cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar y rheng flaen, yn wynebu rhwystrau rhag mynd i’w gwaith os ydynt yn ffit ac yn iach.
Mae ysgolion wedi aros ar agor i’r plant hyn, os nad oes posibl gwneud trefniadau eraill gartref. Mae’r ddarpariaeth hon yn rhad ac am ddim, ond nid oes darpariaeth wedi’i hariannu ar gael ar hyn o bryd mewn gofal plant cofrestredig ar gyfer plant oedran cyn ysgol.
I’r perwyl hwnnw, rwyf wedi cytuno y dylem atal Cynnig Gofal Plant Cymru dros dro ar ei ffurf bresennol am gyfnod o dri mis o 1 Ebrill 2020, er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau’n cael eu defnyddio i gefnogi anghenion gofal plant gweithwyr hanfodol.
Mae ein Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant ar y cyd i rieni plant 3 a 4 oed sy’n gweithio yng Nghymru, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn. Mae wedi darparu cymorth yr oedd dirfawr ei angen i deuluoedd yng Nghymru ers iddo gael ei lansio yn 2017, ac rydym yn gwybod bod 56% o’r rhieni sy’n manteisio arno yn teimlo eu bod wedi cael mwy o gyfleoedd i gynyddu eu henillion.
Dros y tri mis nesaf bydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio eu cyllid o dan y Cynnig i gefnogi darpariaeth gofal plant cofrestredig ar gyfer plant dan 5 oed gweithwyr hanfodol a phlant bregus. Dylai hyn sicrhau y gall y teuluoedd hynny gael y i'r gofal sydd ei angen arnynt.
Er mwyn sicrhau bod hyn yn gallu digwydd yn gyflym, ac er mwyn rhyddhau staff awdurdodau lleol i gefnogi'r teuluoedd hyn, byddwn yn:
- cau'r cynnig gofal plant i bob cais newydd ar unwaith; a
- gohirio mynediad i'r plant a oedd fod i ddechrau manteisio ar y cynnig o ddechrau tymor yr haf tan ar ôl y cyfnod hwn o atal dros dro, hyd yn oed lle mae ceisiadau eisoes wedi’u cymeradwyo.
Mesur dros dro yw hwn, am dri mis. Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa.
Gwyddom, er y bydd y cyhoeddiad hwn yn destun rhyddhad i lawer o rieni, y bydd yn creu heriau i eraill. Rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o blant yn cael gofal yn y cartref.
Hoffwn dalu teyrnged i'n darparwyr gofal plant, gan gynnwys ein lleoliadau Dechrau'n Deg, sydd wedi aros ar agor i ofalu am y plant hyn. Mae hyn wedi helpu i gefnogi ein hymateb i COVID-19 a darparu gofal diogel i'r rhai y mae ei angen arnynt ar adeg arbennig o heriol.
Byddwn yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad ar 18 Mawrth i barhau i dalu darparwyr gofal plant am yr oriau gofal plant a archebwyd o dan y cynnig am gyfnod o dri mis. Byddwn yn gwneud hyn gan sicrhau eu bod yn parhau i gael eu hariannu'n briodol os oeddent yn darparu gofal i blant oedd yn manteisio ar y cynnig bryd hynny. Ers inni wneud yr ymrwymiad hwnnw ar 18 Mawrth, mae mesurau i gefnogi busnesau wedi’u cyhoeddi fydd yn helpu darparwyr gofal plant yn ystod y cofnod anodd hwn.
Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’n partneriaid cyflenwi - awdurdodau lleol, darparwyr addysg a gofal plant, cyrff cynrychioladol a chyrff rheoleiddio - er mwyn cyflwyno’r newidiadau pwysig hyn. Bydd canllawiau ar y trefniadau newydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.