Mae’n bosibl mai geiriau jargonllyd mewn testunau Saesneg yw un o gas bethau rhai cyfieithwyr. A ddylid defnyddio neu fathu jargon Cymraeg? A fyddai’n well aralleirio neu symleiddio? Y nod yma yw rhoi gair o gyngor ynghylch y pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu, a chynnig rhai enghreifftiau ac awgrymiadau.
Yn ogystal â’r geiriaduron arferol, mae nifer o ffynonellau defnyddiol eraill ar gael sy’n cynnig gwahanol ffyrdd o gyfieithu geiriau ac ymadroddion, ee rhestrau geiriau Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: Geiriaduron - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a Chorpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad: Corpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad |.
termau yn y lle anghywir
Un diffiniad o ‘jargon’ yw termau sy’n cael eu defnyddio mewn mannau amhriodol. Label ar un cysyniad penodol mewn maes arbenigol yw term, a phan fo’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno rhaid defnyddio’r term Cymraeg cyfatebol. Ar y llaw arall, os defnyddir y term mewn maes gwahanol neu i gyfleu ystyr mwy cyffredinol, gallai gair neu ymadrodd mwy cyffredin fod yn addas.
Dylai natur y darn a’r gynulleidfa darged helpu’r cyfieithydd i benderfynu ai term ynteu gair neu ymadrodd o’r iaith gyffredinol fyddai’n taro deuddeg. Wrth ddewis gair neu ymadrodd amgen, ystyriwch a yw’n cyfleu’r hyn y mae awdur y darn yn dymuno’i ddweud yn llawn ac yn gywir. Rhoddir rhai enghreifftiau isod, gan bwysleisio mai cynigion yn unig yw’r geiriau neu’r ymadroddion amgen, ac y gallai opsiynau eraill fod yn briodol.
Term Saesneg | Term Cymraeg | Gair neu ymadrodd |
---|---|---|
projection Economeg / Ystadegau: cyfrifiad neu ragolwg |
amcanestyniad | rhagolygon |
scoping Ymchwil academaidd: prosiect sy’n edrych yn Dadansoddi data: adnabod is-set o elfennau o fewn |
cwmpasu | pennu hyd a lled |
align Technoleg iaith: y broses o drefnu testun yn segmentau |
alinio |
cyd-fynd |
geiriau aneglur neu eang iawn eu hystyr
Ceir math arall o jargon lle mae ystyr y Saesneg yn aneglur, neu lle mae llu o wahanol ystyron ymhlyg yn y gair neu’r ymadrodd. Nid yw’r rhain yn dermau mewn unrhyw faes penodol. Gellid barnu ar adegau mai bod yn ymhonnus y mae’r awdur, a bryd hynny dylid ystyried ai tôn bwriadol sydd wedi’i daro, ynteu a fyddai’n briodol symleiddio wrth gyfieithu. Fodd bynnag, dylai’r cyfieithydd ystyried a yw pob elfen, neu’r elfennau allweddol, yn cael eu cyfleu yn llawn. A yw ‘trafod’, er enghraifft, yn cyfleu pob agwedd ar y gair ‘negotiate’ yn y cyd-destun dan sylw?
Rhaid cadw mewn cof hefyd y gall fod pwrpas bwriadol i’r amwysedd yn Saesneg. Mae’n bosibl y defnyddir ‘minded to’, er enghraifft, er mwyn osgoi cyfleu bwriad pendant neu benderfyniad terfynol. Os felly, rhaid i’r cyfieithydd ystyried a oes angen cyfleu’r un amwysedd.
Mae temtasiwn weithiau i gyfieithu rhai o’r geiriau hyn yn llythrennol. Rhoddir enghreifftiau o’r rhain yn y grŵp cyntaf isod, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gwahanol ffyrdd o’u cyfieithu.
Mae’r ail grŵp yn ymadroddion sydd, o bosibl, yn fwy trosiadol ac yn defnyddio geiriau cyfarwydd i gyfleu ystyr newydd.
Saesneg | Cymraeg llythrennol | Cymraeg amgen |
---|---|---|
overarching | trosfwaol |
cyffredinol |
[gain / give an] insight |
mewnwelediad |
dealltwriaeth |
maximise | uchafu |
manteisio i’r eithaf ar |
engage(ment) | ymgysylltu |
ymwneud â |
Saesneg | Cymraeg llythrennol | Cymraeg amgen |
---|---|---|
gain access to | cael mynediad at |
manteisio ar |
inform [ee This will be crucial in informingpolicy going forward.] |
hysbysu |
cyfrannu at |
look at [doing] | edrych ar |
ystyried |
ymadroddion trosiadol
Dyma ymadroddion sydd wedi cael eu gorddefnyddio nes iddynt ddod yn ystrydebol, bron. Maent yn gyffredin ym maes marchnata a busnes, ond i’w gweld mewn meysydd eraill hefyd. Sylwch y gall ystyr rhai o’r ymadroddion hyn fod yn ddifrïol neu’n ffafriol – mae’n dibynnu ar y cyd-destun a thôn y darn.
Saesneg | Cymraeg |
---|---|
blue sky thinking |
meddwl yn greadigol |
thinking outside the box |
meddwl mewn ffordd arloesol |
close of play |
diwedd y diwrnod gwaith |