Ynghylch yr Arddulliadur
Mae’r Arddulliadur yn casglu ynghyd amryw o ganllawiau ym maes arddull ac iaith.
Paratowyd y canllawiau hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu deunyddiau cyffredinol, gan helpu i sicrhau cysondeb ar draws holl waith y Llywodraeth. Gofynnir i gyfieithwyr sy’n gwneud gwaith i Lywodraeth Cymru ddilyn y cyngor a geir ynddynt.
Gall y cyngor fod o fudd, hefyd, i gyfieithwyr eraill ac i unrhyw un sy’n drafftio testunau Cymraeg.
Mae’r erthyglau yn yr Arddulliadur wedi’u rhannu’n dair adran. Dyma esboniad cryno o’r hyn sy’n cael ei gynnwys yn yr adrannau hynny. Mae rhywfaint o orgyffwrdd wrth gwrs, a bydd rhai erthyglau i’w gweld o dan fwy nag un pennawd.
Cywirdeb iaith
Materion gramadeg ac orgraff yw’r rhain yn bennaf. Y prif ffynonellau yr ydym ni’n cyfeirio atynt wrth benderfynu pa gyngor i’w roi yw Gramadeg y Gymraeg (1996) Peter Wynn Thomas, Geiriadur Prifysgol Cymru ac Orgraff yr Iaith Gymraeg (1987).
Cysondeb arddull
Materion yw’r rhain y gall fod sawl ffordd ddilys o ymdrin â nhw. Nodir yma yr hyn yr ydym ni am i gyfieithwyr ei ddefnyddio mewn gwaith a wneir i Lywodraeth Cymru, er mwyn i’n deunyddiau i gyd fod yn gyson o ran arddull.
Cyfieithu da
Rhoddir cyngor yn yr adran hon ar faterion a allai beri penbleth neu a allai fod yn anodd eu cyfieithu.
Gallwch bori trwy’r Arddulliadur yn ôl trefn yr wyddor neu yn ôl adran, neu ei chwilio am eiriau penodol. Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â chwilio’r Arddulliadur yn y ddolen ar y dde, Sut i chwilio'r Arddulliadur.