Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
1 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

Dynodi enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth

Egwyddorion

Dyma'r egwyddorion a ddilynir wrth bennu ffurfiau Cymraeg ar enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth, i'w rhoi yn TermCymru. Dylid nodi mai pennu ffurf benodol at ddibenion Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a wneir, ac nad yw hynny’n golygu bod ffurfiau eraill yn annilys.

Dyma’r egwyddorion a ddilynir wrth benderfynu ar ffurfiau:

  1. Y nod yw dewis ffurfiau ymarferol sy’n taro cydbwysedd rhwng bod yn ddealladwy i gynulleidfaoedd amrywiol testunau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a chydymffurfio â chonfensiynau orgraffyddol y Gymraeg.
  2. Dosberthir yr enwau i dri phrif gategori, yn y drefn hon: (1) ffurf sefydledig yn Gymraeg, (2) Cymreigiad o’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig, (3) y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig. Ceir rhagor o fanylion am y categorïau yn y tabl isod.
  3. Yn gyffredinol o ran categori (2), rhoddir mwy o bwys ar gydnabod y ffurfiau hynny sydd eisoes yn gyfarwydd fel ffurfiau wedi’u Cymreigio mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant. Gochelir rhag Cymreigio ffurfiau oni bai bod rheswm da dros wneud hynny yn unol â’r egwyddorion, rhag amlhau ffurfiau a chyflwyno ffurfiau sy’n anghyfarwydd i’r gynulleidfa.
  4. Yn sgil egwyddor 3 ac yn sgil cysylltiadau daearyddol, diwylliannol, masnachol a gwleidyddol â Chymru, rhoddir ystyriaeth i Gymreigio pob un o enwau gwledydd yn Ewrop nad oes ganddynt eisoes ffurf sefydledig yn Gymraeg.
  5. Yn sgil egwyddor 3, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurfiau i’w defnyddio yn Gymraeg newid dros amser, wrth i leoedd ddod yn fwy cyfarwydd mewn trafodaethau yn Gymraeg.

Ffurfiau sefydledig Cymraeg a ffurfiau a Gymreigiwyd

  • Yn gyffredinol, ni Chymreigir ffurfiau sydd angen mwy nag un neu ddau addasiad i’r orgraff er mwyn eu Cymreigio.
  • Yn gyffredinol, dylid naill ai Gymreigio’r enw cyfan, neu beidio â’i Gymreigio o gwbl: Kosovo, nid Kosofo.
O ran cytseiniaid
  • Mae’n arferol defnyddio’r llythyren f yn Gymraeg i gyfleu’r sain [v] a ddynodir gan y llythyren v yn Saesneg ar gychwyn ac yng nghanol enwau: Dinas y Fatican, nid Dinas y Vatican, Slofenia, nid Slovenia.
  • Mae’n llai arferol defnyddio’r llythyren c yn Gymraeg i gyfleu’r sain [k] a ddynodir gan y llythyren k yn Saesneg ar gychwyn enwau lleoedd tramor: Gogledd Korea, nid Gogledd Corea. Serch hynny, mae’n fwy arferol ei defnyddio felly yng nghanol enwau: Slofacia, nid Slovakia
  • Mae llai arferol trosi rhai cytseiniaid eraill i’r orgraff gyfatebol yn y Gymraeg, ar gychwyn ac yng nghanol enwau. Er enghraifft mae’n llai arferol Cymreigio enwau sy’n cynnwys llythrennau neu gyfuniadau fel y llythyren g i gyfleu’r sain [dʒ] (Gibraltar, Georgia), y llythyren q i gyfleu’r sain [k] (Martinique), y llythyren z i gyfleu’r sain [ts] (Bosnia a Herzegovina), a’r cyfuniad ti i gyfleu’r sain [ʃ] (Croatia).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r cyfuniad tsi i gyfleu’r sain [tʃ] ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd (Chad, Chile). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn ar gychwyn enwau (Y Weriniaeth Tsiec, Tsieina).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r llythyren s ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd i gyfleu’r seiniau [z] neu [s] (Zambia, Tanzania). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn (Seland Newydd, Brasil).
O ran llafariaid
  • Yn gyffredinol yn achos enwau a Gymreigir, dylid Cymreigio llafariaid er mwyn cyfleu’r ynganiad yn Gymraeg: Bwlgaria, Lithwania, Periw, Ciwba.
O ran marciau diacritig
  • Hepgorir marciau diacritig sy’n dangos yr aceniad mewn ffurfiau a Gymreigiwyd, a hynny er mwyn osgoi creu ffurfiau sydd yn fwy anghynefin na’r angen i ddefnyddwyr. Tybir y bydd y gynulleidfa yn gyfarwydd â’r ynganiad ac nad oes angen dangos lle mae’r acen yn syrthio: Fietnam, Irac, Pacistan, Wcrain, Belarws.

Ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

  • Mae rhai ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg ac eithrio, efallai, farciau diacritig i ddynodi acen neu hyd llafariad: Estonia, Tonga, Iran, Jamaica. Gellid ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra: Canada, India, Sweden.
  • Derbynnir bod llawer o enwau lleoedd tramor yn seiliedig ar ieithoedd nad yw eu seiniau, eu hynganiad, eu horgraff na’u morffoleg yn cyd-fynd â nodweddion a chonfensiynau’r Gymraeg. Oherwydd hyn, yn achos ffurfiau sy’n adlewyrchu’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig:
  1. Derbynnir y gall yr arwyddion orgraffyddol gyfleu seiniau nad ydynt yn seiniau cynhenid i’r Gymraeg neu gallent gyfleu seiniau nad ydynt fel arfer yn cael eu cyfleu yn Gymraeg gan yr arwyddion hynny: Croatia, Lesotho, Niger.
  2. Derbynnir y gall rhai o’r arwyddion orgraffyddol a chlymau cytseiniol fod yn anghyfarwydd: Kyrgyzstan, Ynysoedd Åland, Djibouti.
  3. Derbynnir y gall yr acen syrthio ar sillafau nad ydynt yn gyfarwydd yn Gymraeg, heb nodau diacritig i ddynodi’r acenion hynny: Tajikistan, Mozambique, Paraguay.

Enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol

  • Yn achos enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol, dylid ystyried pa mor ymarferol fyddai creu tarddeiriau Cymraeg fel enwau ieithoedd neu hunaniaethau/pobloedd ar sail y ffurf a ddewisir. Er enghraifft, wrth ystyried Faroe Islands, dylid hefyd ystyried enw’r iaith Faroese neu’r hunaniaeth Faroese. Mae Ynysoedd Ffaro yn rhoi Ffaröeg a Ffaroaidd, ond anodd fyddai creu tarddeiriau Cymraeg dealladwy pe defnyddid Ynysoedd Føroyar neu Ynysoedd Faroe yn enw ar Faroe Islands.
  • Dylid osgoi amlhau ffurfiau. Wrth benderfynu ar ffurfiau lle ceir mwy nag un ffurf bosibl drwy ddilyn yr egwyddorion hyn, rhoddir ystyriaeth i ffurfiau rhestr Bwrdd yr Iaith Gymraeg o enwau lleoedd tramor (2011), ffurfiau yr Atlas Cymraeg Newydd (CBAC, 1999) a ffurfiau sydd eisoes yn TermCymru fel rhan o dermau eraill a safonwyd (ee enwau safonol anifeiliaid a phlanhigion).

Cyfieithu a throsi elfennau i’r Gymraeg

  • Ni waeth ym mha gategori y mae’r enw, cyfieithir yr elfennau canlynol:
    1. elfennau cyffredinol megis Ynysoedd, Gweriniaeth, Tiroedd.
    2. ansoddeiriau: Guinea Gyhydeddol, Seland Newydd.
    3. cysyllteiriau: St Kitts a Nevis.
    4. pwyntiau’r cwmpawd a geiriau lleoliadol: Gogledd Korea, Ynysoedd Sandwich y De, Gweriniaeth Canolbarth Affrica.
    5. elfennau disgrifiadol a meddiannol: Ynys y Nadolig, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Polynesia Ffrengig.
  • Ni throsir enwau personol i’r Gymraeg: Ynysoedd Marshall. Nac ychwaith enwau seintiau: St Lucia, Sint Maarten.

Materion ymarferol wrth ddefnyddio enwau

  • Rhaid gwerthfawrogi bod enwau gwledydd yn gallu bod yn wleidyddol sensitif. Os oes dwy iaith swyddogol a dwy ffurf bosibl ar enw yn sgil hynny, dylid dilyn y testun gwreiddiol wrth gyfieithu. Er enghraifft, os rhoddir ‘New Zealand (Aotearoa)’ yn y Saesneg, dylid rhoi’r ddwy ffurf ‘Seland Newydd (Aotearoa)’ yn y Gymraeg. Os na roddir ond un ffurf yn y gwreiddiol, dylid ystyried bwriad yr awdur wrth benderfynu ar ba ffurf i’w dewis ar gyfer y testun Cymraeg.
  • Mae enwau a chyd-destunau gwleidyddol enwau yn gallu newid ac yn gallu amrywio: Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (gynt Zaire), Eswatini (gynt Gwlad Swazi). Oherwydd hyn, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurf i’w ddefnyddio yn Gymraeg newid.
  • Gall fod yn anodd penderfynu a ddylid treiglo enwau tramor. Yn gyffredinol, argymhellir treiglo ffurfiau sydd yng nghategorïau (1) a (2). Argymhellir peidio â threiglo’r rhan fwyaf o’r ffurfiau sydd yng nghategori (3) ond dylid arfer crebwyll o ran treiglo enwau o’r fath sy’n cyd-fynd ag orgraff y Gymraeg. Mae’n gyffredin treiglo ambell un sy’n gyfarwydd yn Gymraeg: i Ganada ond nid yw’n gyffredin treiglo eraill: i Trinidad a Tobago, o Malawi, yn Botswana.

Tabl o'r categoriau

  Categori Treiglo Acennu Pa fath o leoedd
1

Ffurf sefydledig Gymraeg

Gall hyn gynnwys enwau lle cyfieithwyd pob elfen
Confensiynau arferol y Gymraeg Confensiynau arferol y Gymraeg

Lleoedd sydd ag enwau traddodiadol yn Gymraeg (ond gan osgoi ffurfiau hynafiaethol).

Ffrainc, Gwlad Pwyl, Denmarc, Ariannin, Yr Aifft

Lleoedd sydd ag enwau cwbl ddisgrifiadol yn y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig.

Ynys y Nadolig, Y Tiriogaethau Deheuol Ffrengig
2 Cymreigiad o ffurf gynhenid neu ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig Confensiynau arferol y Gymraeg Osgoi acennu yn gyffredinol

Lleoedd lle nad yw’r ffurf a Gymreigiwyd yn ffurf sefydledig yn Gymraeg, ond

(i) bod y lle yn Ewrop

Lithwania, Slofenia, Wcrain.

(ii) bod y ffurf a Gymreigiwyd eisoes yn gyfarwydd mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant

Affganistan, Ffiji, Ciwba, Mecsico
3

Enwau nad ymdrechwyd eu Cymreigio, lle y cadwyd y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Sylwer bod cyfran o’r ffurfiau hyn yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg (gyda neu heb farciau diacritig)

Estonia, Tonga, Iran, Jamaica.

Gellir ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra:

Canada, India, Sweden.

Dim treiglo

Serch hynny, dylid arfer crebwyll yn achos ffurfiau sy’n cyd-fynd â chonfensiynau  orgraff y Gymraeg.

Bydd yn gyffredin treiglo ambell un sy’n sefydledig yn Gymraeg (ee Canada) ond nid y rhelyw (ee Botswana, Trinidad a Tobago, Malawi)
Acennu yn ôl y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Lleoedd nad oes ganddynt enw sefydledig Cymraeg, ac nad yw’n briodol eu Cymreigio o dan yr egwyddorion

Libya, Qatar, Réunion, Chile, Tuvalu, Kenya

Mae’n bosibl y bydd ambell elfen o enw o’r fath wedi ei chyfieithu

De Korea, Ynysoedd Åland, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.