Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r data gwrthgyrff a gyflwynir yn rhan o’r Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19) ar draws y DU gyfan. Gellir defnyddio’r data i adnabod unigolion sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu wedi datblygu gwrthgyrff drwy gael y brechlyn.

Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd ar heintiadau yn y gorffennol a/neu’r brechlyn, wedi’i ddiffinio fel profi’n bositif am wrthgyrff i SARS-CoV-2 yn seiliedig ar ganfyddiadau o Arolwg Heintiadau COVID-19. SARS-CoV-2 yw’r enw gwyddonol a roddir i’r feirws penodol sy’n achosi COVID-19.

Mae’r amcangyfrifon positifedd gwrthgyrff a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn wedi cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio model newydd. Mae rhagor o wybodaeth am y dull newydd a ddefnyddir i fodelu amcangyfrifon gwrthgyrff ar gael ar wefan yr ONS.

Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cynnwys amcangyfrifon o’r ganran o bobl sydd wedi dweud trwy’r arolwg eu bod wedi cael un dos neu fwy o frechlyn COVID-19.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, ac amcangyfrifon o bositifedd gwrthgyrff yn ôl oedran ar gyfer pob un o wledydd y DU ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyfran y bobl yng Nghymru a oedd â gwrthgyrff yn erbyn COVID-19

Rhwng 8 ac 14 Mawrth 2021, cafodd 50.5% (cyfwng credadwy o 95%: 44.2% i 57.2%) o bobl 16 oed a hŷn ganlyniad prawf positif am wrthgyrff coronafeirws (COVID-19).  Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 1 o bob 2 berson 16 oed a hŷn

Er bod ansicrwydd gyda’r amcangyfrifon, mae’n ymddangos bod cyfraddau gwrthgyrff wedi cynyddu’n sylweddol yn y misoedd diwethaf. Wrth i fwy o bobl gael eu brechu mae nifer y bobl sydd â gwrthgyrff yn debygol o gynyddu.

Gall lefelau gwrthgyrff yn y gwaed ddirywio dros amser, sy’n golygu y gall rhai pobl sydd wedi cael COVID-19 yn y gorffennol gael canlyniad prawf negatif. Oherwydd hyn, dylid ystyried y ffigurau hyn fel amcangyfrif o gyffredinrwydd gwrthgyrff bob mis ac nid fel ffigurau cronnol.

Image
Mae'r siart yn dangos bod nifer y bobl sy'n profi'n bositif am wrthgyrff COVID-19 wedi codi'n barhaus ers 7 Rhagfyr 2020.

Mae'r amcangyfrifon sydd wedi'u modelu yn awgrymu bod y cyfradd gwrthgyrff a chanran y bobl a gofnodwyd eu bod wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn COVID yn parhau i gynyddu.

Nid yw'r amcangyfrifon brechiadau yr un peth â'r ffigurau cyhoeddedig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar frechiadau a gofnodwyd ac nid ydynt yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal. Bydd gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon wedi'u modelu hyn a'r ffigurau swyddogol oherwydd gwahaniaethau mewn cwmpas, dulliau ac amseroldeb. Mae’r amcangyfrifon a gynhyrchwyd o’r arolwg yn ddefnyddiol i’w cymharu â nodweddion eraill, megis profi’n bositif am wrthgyrff.

Image
Mae'r siart yn dangos bod y cyfradd gwrthgyrff a chanran y bobl a gofnodwyd eu bod wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn COVID yn parhau i gynyddu ers 7 Rhagfyr 2020.

Rhwng 8 ac 14 Mawrth 2021, roedd canran y bobl 80 oed a throsodd a oedd yn profi'n bositif am wrthgyrff yn 79.2% (cyfwng credadwy 95%: 68.4% i 86.4%).

Roedd y cyfraddau gwrthgyrff yn uchel ymhlith pobl 65 oed ac yn hŷn, gyda’r cyfraddau’n amrywio o 79.2% i 88.7%. Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, mae canran y bobl a gafodd prawf positif ar gyfer gwrthgyrff ymhlith y rheini 16 oed i 64 oed, yn amrywio o 33.7% i 50.7%.

Gwelir bod cyfran y bobl sy’n dweud eu bod wedi cael o leiaf un dos o frechlyn COVID, hefyd ar ei huchaf yn y grwpiau o bobl hŷn. Felly, mae’n debygol bod cyfraddau gwrthgyrff uchel yn y grwpiau oedran hyn, yn digwydd o ganlyniad i’r cyfraddau brechu uwch. 

Dylid gofalu nad ydym yn gorddehongli’r amcangyfrifon diweddaraf. Mae’r cyfyngau credadwy yn eang a maint y sampl yn gymharol fychan, sy’n golygu bod ansicrwydd mawr yn y ffigurau hyn.

Image
Mae'r siart yn dangos bod y cyfradd gwrthgyrff a chanran y bobl a gofnodwyd eu bod wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn COVID yn uwch mewn grwpiau oedran dros 65 oed rhwng 8 a 14 Mawrth 2021.

Diffiniadau

Poblogaeth gymunedol

Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth gymunedol. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.

Cyfwng credadwy

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Y gyfradd positifedd

Y gyfran o bobl a amcangyfrifir sy’n profi’n bositif am wrthgyrff rhag coronafeirws (COVID-19) ar adeg benodol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r amcangyfrifon positifedd gwrthgyrff a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn wedi cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio model newydd. Mae’r model newydd yn seiliedig ar safoni wythnosau gwyliadwriaeth sy’n mynd o ddydd Llun i ddydd Sul, yn hytrach nag yn seiliedig ar y cyfnodau 28 o ddiwrnodau a ddefnyddiwyd i adrodd yn flaenorol, er mwyn ei gwneud yn bosibl cynhyrchu amcangyfrifon wythnosol sy’n fwy amserol. Cafodd yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar y model newydd eu cyflwyno o 7 Rhagfyr ymlaen. Mae mwy o ansicrwydd ynglŷn â’r amcangyfrif a gafodd ei fodelu ar gyfer yr wythnos olaf, gan fod honno’n wythnos anghyflawn ac mae’r data felly’n fwy tebygol o newid pan ddaw mwy o ddata i law.

Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd yn seiliedig ar ganlyniadau profion gwaed o is-sampl dethol o unigolion 16 oed a hŷn a ddewiswyd ar hap, a ddefnyddir i brofi am wrthgyrff yn erbyn SARS-CoV-2. Gellir ei ddefnyddio i adnabod unigolion sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu wedi datblygu gwrthgyrff o ganlyniad i’r brechlyn.

Un ffordd mae’r corff yn ymladd COVID-19 yw drwy gynhyrchu gronynnau bach yn y gwaed a elwir yn wrthgyrff. Mae’n cymryd rhwng dwy a thair wythnos i wneud digon o wrthgyrff i ymladd yr haint. Mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefel isel, er y gall y lefelau hyn leihau dros amser nes eu bod mor isel na all y profion eu hadnabod. Gall gwrthgyrff helpu i atal unigolion rhag dal yr un haint ddwywaith.

Bydd presenoldeb gwrthgyrff yn cael ei fesur i ddeall pwy sydd wedi cael coronafeirws (COVID-19) yn y gorffennol ac effaith y brechlynnau. Ar ôl dal yr haint, ni wyddom yn llawn am ba mor hir mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefelau y gellir eu canfod. Ni wyddom chwaith, hyd yn hyn, ym mha ffordd mae bod â gwrthgyrff, nawr neu ar ryw adeg yn y gorffennol, yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddal COVID-19 eto.

Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cyflwyno amcangyfrifon yn seiliedig ar bobl yn hunanadrodd, mewn perthynas â’r ganran ohonynt sydd wedi cael un dos neu fwy o frechlyn COVID-19 ers 14 Rhagfyr 2020. Mae’r amcangyfrifon hyn yn defnyddio modelu sy’n seiliedig ar y bobl yr ymwelwyd â nhw yn yr Arolwg Heintiadau COVID-19 a gynhaliwyd yn y gymuned am gyfnod penodol o amser. Mae’r amcangyfrifon wedyn yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r boblogaeth.

Nid yw’r amcangyfrifon hyn yr un â ffigurau’r llywodraeth a gyhoeddwyd ar gyfer y brechiadau a gofnodwyd, a gallai fod gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon hyn sydd wedi eu modelu a’r ffigurau swyddogol, sy’n cael eu diweddaru’n fwy rheolaidd. Mae’n ddefnyddiol cymharu’r amcangyfrifon a gynhyrchwyd gan yr arolwg â nodweddion eraill megis profi’n bositif ar gyfer gwrthgyrff.

Mae dangosfwrdd coronafeirws y DU yn cynnwys data dyddiol ar gyfer y DU, a phob gwlad sy’n rhan ohoni, o ran y nifer gwirioneddol o bobl sydd wedi cael brechiad COVID-19. Mae hyn yn seiliedig ar gofnodion brechu unigol (data gweinyddol sy’n cael eu cadw gan bob gwlad), ac a ddylai gael eu defnyddio i ddeall hynt y rhaglen frechu ar draws y DU.

Mae’r data gwrthgyrff wythnos y tu ôl i’r data brechu, gan fod amser yn mynd heibio cyn cael data gwrthgyrff, lle bo’r data brechu yn ddata sydd wedi ei hunanadrodd, ac felly mae ar gael yn haws.

Mae’r ystadegau hyn yn cyfeirio at heintiadau a adroddwyd yn y gymuned, sef aelwydydd preifat. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys heintiadau a adroddwyd mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu sefydliadau eraill. Mae’r boblogaeth a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn yn cyfeirio at y boblogaeth gymunedol 16 oed a hŷn.

Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda cyfyngau credadwy o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae rhagor o wybodaeth am y canlyniadau profion gwrthgyrff yn cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadgau Gwladol ac yn cynnwys gwybodaeth am wrthgyrff ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a thudalennau arolwg safle Prifysgol Rhydychen.

Rhagor o wybodaeth am Arolwg Heintiau COVID-19 yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

14 Ebrill 2021

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Lisa Bloemberg
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 95/2021