Neidio i'r prif gynnwy

Mae Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19)  yn cael ei gynnal ledled y DU a’i nod yw amcangyfrif:

  • faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol (positifedd)
  • faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol (digwyddedd)
  • faint o bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19

Mae’r arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith pobl mewn preswylfeydd preifat, sef poblogaeth y gymuned.

Cyfran y bobl yng Nghymru a oedd â COVID-19

Ar gyfer yr wythnos rhwng 27 Rhagfyr 2020 i 02 Ionawr 2021, amcangyfrifir bod cyfartaledd o 1.45% o boblogaeth y gymuned wedi cael COVID-19 (cyfwng credadwy o 1.11% i 1.85%).

Mae hyn yn cyfateb i tua 1 o bob 70 o unigolion (cyfwng credadwy o 95%: 1 mewn 90 i 1 mewn 55), neu amcangyfrif o 44,100 o bobl i gyd (cyfwng credadwy: 33,700 i 56,300).

Mae’r gyfradd positifedd wedi lleihau yn yr wythnosau diweddaraf, ar ôl cyrraedd uchafbwynt cyn Nadolig. Mae dadansoddiad o amrywiolion newydd ac eraill o’r coronafeirws yn dangos bod y tuedd yng Nghymru wedi’i yrru gan amrywiolion eraill. Mae achosion sy'n gydnaws â'r amrywiolyn newydd yn gymharol isel. Sylwer bod mwy o oedi o ran data o'r arolwg heintiadau nag o ffynonellau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru. Oherwydd y cyfnod amser rhwng cael COVID-19 a phrofi'n bositif amdano, mae'n debygol na fydd effaith cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn newydd ar brofion positif yn dod i’r amlwg tan ail wythnos mis Ionawr.

Gan fod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion positif, mae rhywfaint o ansicrwydd a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 22 Tachwedd 2020 i 02 Ionawr 2021. Mae’r gyfradd positifedd wedi lleihau yn yr wythnosau diweddaraf, ar ôl cyrraedd uchafbwynt cyn Nadolig.

Gwrthgyrff (yn cael ei ddiweddaru’n fisol)

Fel rhan o’r arolwg rydym yn mesur presenoldeb gwrthgyrff i wybod pwy sydd wedi cael COVID-19 yn y gorffennol. Mae’r amcangyfrifon gwrthgyrff yn cael eu diweddaru unwaith y mis.

Un ffordd mae’r corff yn ymladd COVID-19 yw drwy gynhyrchu gronynnau bach yn y gwaed a elwir yn wrthgyrff. Mae’n cymryd rhwng dwy a thair wythnos i wneud digon o wrthgyrff i ymladd yr haint. Ni wyddom yn llawn am ba mor hir mae gwrthgyrff yn aros yn y gwaed ar lefelau y gellir eu canfod. Ni wyddom chwaith, hyd yn hyn, ym mha ffordd mae bod â gwrthgyrff, nawr neu ar ryw adeg yn y gorffennol, yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddal COVID-19 eto.

Ym mis Tachwedd, cafodd 5.5% (cyfwng hyder o 95%: 3.6% i 8.0%) o bobl 16 oed a hŷn ganlyniad prawf positif am wrthgyrff coronafeirws (COVID-19). Mae’r amcangyfrif wedi’i bwysoli er mwyn iddo fod yn gynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan, ac mae’n cyfateb i oddeutu 1 o bob 18 person (cyfwng hyder o 95%: 1 o bob 28, i 1 o bob 12), neu oddeutu 140,000 o unigolion i gyd (cyfwng hyder o 95%: 91,000 i 203,000).

Mae Siart 2 yn rhoi amcangyfrif misol o fis Gorffennaf ymlaen (pan fu amcangyfrifon gwrthgyrff ar gael yng Nghymru am y tro cyntaf). Er bod ansicrwydd gyda’r amcangyfrifon, mae’n ymddangos bod cyfraddau gwrthgyrff wedi cynyddu ers yr haf. Gall lefelau gwrthgyrff yn y gwaed ddirywio dros amser, sy’n golygu y gall rhai pobl sydd wedi cael COVID-19 yn y gorffennol gael canlyniad prawf negatif. Oherwydd hyn, dylid ystyried y ffigurau hyn fel amcangyfrif o gyffredinrwydd gwrthgyrff bob mis ac nid fel ffigurau cronnol.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a brofodd yn bositif am wrthgyrff COVID-19 drwy samplau gwaed o fis Gorffennaf 2020. Ym mis Tachwedd, profodd 5.5% yn bositif.

Amcangyfrifon ar gyfer gwledydd y DU

Yng nghanol yr wythnos ddiweddaraf (27 Rhagfyr 2020 i 02 Ionawr 2021), roedd y ganran o'r boblogaeth gymunedol yr amcangyfrid bod COVID-19 arnynt ar ei huchaf yng Lloegr (2.06%) o’i chymharu â gwledydd eraill y DU.

Mae rhywfaint o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon pwynt unigol ar gyfer y gwledydd. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer dyddiau diwethaf y gyfres, a ddangosir fel llinellau toredig yn y siart isod, yn fwy ansicr.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 20 Tachwedd 2020 i 02 Ionawr 2021 ar gyfer pedair gwlad y DU.

 

Tabl 1: Cyfraddau positifedd profion ar draws gwledydd y DU ar gyfer yr wythnos o 27 Rhagfyr 2020 i 2 Ionawr 2021
  Cyfraddau positifedd
 (Cyfwng Hyder o 95%)
Cymru  1.45%
(1.11 i 1.85)
1 mewn 70 o bobl
(1 mewn 90 i 1 mewn 55)
44,100 o bobl
(33,700 i 56,300)
Lloegr 2.06%
(1.96 i 2.16)
1 mewn 50 o bobl
(1 mewn 50 i 1 mewn 45)
1,122,000 o bobl
(1,070,600 i 1,175,700)
Yr Alban* 0.87%
(0.72 i 1.04)
1 mewn 115 o bobl
(1 mewn 140 i 1 mewn 95)
45,900 o bobl
(37,900 i 54,900)
Gogledd Iwerddon 0.50%
(0.29 i 0.77)
1 mewn 200 o bobl
(1 mewn 340 i 1 mewn 130)
9,100 o bobl
(5,400 i 14,000)

*O ganlyniad i’r ŵyl banc ychwanegol yn yr Alban, cyflwynir data’r wythnos o 25 Rhagfyr i 31 Rhagfyr 2020.

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19), ONS

Diffiniadau

Poblogaeth y gymuned

Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth y gymuned. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.

Cyfyngau hyder

Mae cyfwng hyder yn dangos y lefel o sicrwydd i amcangyfrif, gan ddangos pa mor gywir yw amcangyfrif sampl. Mae’r cyfyngau hyder o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau, pe baem yn ailadrodd yr astudiaeth lawer o weithiau, y byddai’r gwir gwerth nad yw’n hysbys rywle rhwng y terfynau hyder isaf ac uchaf, 95% o’r amser. Mae gorgyffwrdd rhwng y cyfryngau hyder yn dangos ei bod yn bosibl nad oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dau amcangyfrif.

Cyfwng Credadwy

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Digwyddedd

Nifer yr heintiau newydd dros gyfnod penodol.

Amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelau ystadegol

Mae amcangyfrifon o bositifedd yn yr arolwg hwn yn seiliedig ar fodelau ystadegol o’r data sy’n sail iddo. Mae’r model yn llyfnu’r gyfres i ddeall y tueddiad, ac mae’n cael ei adolygu bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd.

Amcangyfrifon pwynt

Mae amcangyfrifon pwynt yn seiliedig ar y tueddiad wedi’i fodelu, ac maent yn adlewyrchu’r pwynt cyfeirio mwyaf cynrychiadol ar gyfer yr wythnos o dan sylw. 

Y gyfradd positifedd

Yr amcangyfrif o’r gyfran o bobl sy’n cael canlyniad positif i brawf am y coronafeirws (COVID-19) ar adeg penodol, gyda symptomau neu hebddynt, yn seiliedig ar swabiau trwyn a gwddf.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae canlyniadau’r arolwg wedi’u seilio ar swabiau trwyn a gwddf a ddarparwyd gan y cyfranogwyr. Mae is-grŵp o gyfranogwyr hefyd yn rhoi sampl o waed, wedi’i chymryd gan staff maes wedi eu hyfforddi.

Yn ogystal ag edrych ar ddigwyddedd cyffredinol, positifedd a lefel gwrthgyrff, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau. Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill. Cyfeirir at hyn fel poblogaeth y gymuned.

Mae’r arolwg yn cynnwys pob gwlad yn y DU, gan alluogi cyfrifo amcangyfrifon ar gyfer pob gwlad yn unigol, ac yn y pen draw ar gyfer y DU gyfan. Dechreuodd y maes gwaith yn Lloegr ar 26 Ebrill. Mae hyn yn golygu bod rhagor o ddata cronnol ar gyfer Lloegr, sy’n galluogi dadansoddiadau mwy manwl ar hyn o bryd. Dechreuodd gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin, wedyn yng Ngogledd Iwerddon ar 26 Gorffennaf ac yn yr Alban ar 21 Medi.

Nid yw’r sampl ar gyfer Cymru yn ddigon mawr eto i gynnal dadansoddiad mwy manwl na’r hyn a roddir yma (ffigurau pennawd ar gyfer positifedd a gwrthgyrff) Mae’r gwaith maes yn cael ei gynyddu gyda’r bwriad o sicrhau tua 9 mil o gyfranogwyr bob pythefnos. Ar hyn o bryd, disgwylir cyrraedd hyn erbyn canol mis Mawrth. Bydd cynnydd yn y sampl yn caniatáu gwaith dadansoddi mwy manwl, a allai gynnwys dadansoddi digwyddedd (nifer yr heintiau newydd dros gyfnod penodol) a dadansoddi nodweddion pobl sy’n cael canlyniadau prawf positif. Bydd y math o ddadansoddiad a fydd yn bosibl hefyd yn dibynnu ar nifer sylfaenol yr achosion o’r feirws, gyda chyfraddau heintio uwch yn caniatáu mwy o waith dadansoddi a chyfraddau heintio llai yn caniatáu llai.

Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy neu cyfyngau hyder o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae’r amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelu ystadegol. Mae gwaith modelu'n cael ei wneud o'r newydd bob wythnos gan ddefnyddio'r data am y 6 wythnos ddiwethaf. Mae'r model yn gweithio drwy hwyluso’r gyfres i ddeall y duedd ac mae'n cael ei diwygio bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd. Mae hyn yn golygu y gallai'r amcangyfrif diweddaraf am gyfnod cynharach fod yn wahanol i'r amcangyfrif swyddogol a gynhyrchwyd ar y pryd. Dengys Siart 1 y duedd ddiweddaraf wedi'i modelu a'r amcangyfrifon swyddogol (pwynt) a gyhoeddwyd ar y pryd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi bwletinau ystadegol wythnosol, tablau cyfeirio ac erthyglau ystadegol cyfnodol, gan gynnwys canlyniadau ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban ar ei gwefan. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac ar dudalennau'r arolwg ar wefan Prifysgol Rhydychen.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 6/2021