Neidio i'r prif gynnwy

Bydd data gwrthgyrff ar gyfer Cymru ymhellach yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos mewn datganiad gwahanol. Cyhoeddir y datganiad hwn am y tro cyntaf ar 2 Mawrth 2021.

Mae Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19)  yn cael ei gynnal ledled y DU a’i nod yw amcangyfrif:

  • faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol (positifedd)
  • faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol (digwyddedd)
  • faint o bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19

Mae’r arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith pobl mewn preswylfeydd preifat, sef poblogaeth gymunedol.

Cyfran y bobl yng Nghymru a oedd â COVID-19

Ar gyfer yr wythnos rhwng 13 i 19 Chwefror 2021, amcangyfrifir bod cyfartaledd o 0.48% o’r boblogaeth gymunedol wedi cael COVID-19 (cyfwng credadwy o 0.36% i 0.62%).

Mae hyn yn cyfateb i tua 1 o bob 205 o unigolion (cyfwng credadwy o 95%: 1 o bob 275 i 1 o bob 160), neu amcangyfrif o 14,700 o bobl i gyd (cyfwng credadwy: 11,100 i 18,800).

Mae’r gyfradd positifedd wedi parhau i ostwng yn yr wythnos ddiweddaraf

Gan fod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer gymharol isel o brofion positif, mae rhywfaint o ansicrwydd a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 9 Ionawr i 19 Chwefror 2021. Mae’r gyfradd positifedd wedi gostwng yn ddiweddar.

 

Mae'r cyfnod amser ar gyfer modelu positifedd wedi lleihau gan ddiwrnod oherwydd gŵyl banc. Nid yw hyn yn newid y neges gyffredinol ar gyfer yr amcangyfrifon a fodelwyd.

Mae achosion sy'n gydnaws ag amrywiolyn newydd y DU, achosion nad sy’n gydnaws ag amrywiolyn newydd y DU ac achosion lle mae'r feirws yn rhy isel i'r amrywiolyn fod yn adnabyddadwy i gyd wedi gostwng yng Nghymru yn yr wythnos ddiweddaraf.

Mae achosion lle mae'r feirws yn rhy isel i'r amrywiolyn gael ei adnabod yn debygol o fod oherwydd bod unigolion wedi cael y feirws am gyfnod hwy.

Ceir rhagor o wybodaeth am y dosbarthiad o achosion cadarnhaol ar wefan y SYG.

Sylwer bod mwy o oedi o ran data o'r arolwg heintiadau nag o ffynonellau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Image
Siart yn dangos amcangyfrifon o ganran yr achosion cadarnhaol sy’n gydnaws â'r amrywiolyn newydd, sydd ddim yn gydnaws â'r amrywiolyn newydd a rhai sydd ddim yn adnabyddadwy.

 

Darperir amcangyfrifon wedi'u modelu ar gyfer rhanbarthau yng Nghymru. Darperir amcangyfrifon ar gyfer y saith diwrnod hyd at 19 Chwefror 2021 yn seiliedig ar fodelu'r holl cyfnod saith diwrnod.

Mae cyfraddau achosion cadarnhaol ar eu uchaf yn y rhanbarth sy'n cwmpasu Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Oherwydd meintiau sampl llai, mae mwy o ansicrwydd mewn amcangyfrifon ar gyfer rhanbarthau unigol, fel y dangosir gan gyfyngau credadwy mwy.

Mae'r categorïau a ddefnyddir yn y map isod wedi'u diweddaru ers y datganiad blaenorol ac felly nid yw’n gymharol.

Ffigur 1: Amcangyfrifon o ganran y boblogaeth yng Nghymru sy'n profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) fesul rhanbarth rhwng 13 i 19 Chwefror 2021

Image
Ffigur yn dangos yr amcangyfrifon o ganran y boblogaeth yng Nghymru sy'n profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) fesul rhanbarth rhwng 13 a 19 Chwefror 2021.

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19), ONS

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon o ganran y boblogaeth yng Nghymru sy'n profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) fesul rhanbarth rhwng 6 i 12 Chwefror 2021.

 

Mae cyfraddau achosion positif yn amrywio yn ôl oedran, ac ymddangos eu bod wedi gostwng ym mhob grŵp oedran yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon wedi'u modelu ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif am y coronafeirws (COVID-19) yn ôl blynyddoedd unigol o oed ar 13 Ionawr 2021. Mae cyfraddau achosion positif yn amrywio yn ôl oedran.

 

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon wedi'u modelu ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif am y coronafeirws (COVID-19) yn ôl blynyddoedd unigol o oed ar 16 Chwefror 2021. Mae cyfraddau achosion positif yn amrywio yn ôl oedran.

 

Yn y data a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r amcangyfrifon hyn, roedd nifer y bobl a samplwyd yn y gwahanol oedrannau a oedd yn profi'n bositif am COVID-19 yn is o'i gymharu â Chymru yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu bod mwy o ansicrwydd i’r amcangyfrifon ar gyfer grwpiau oedran unigol dros y cyfnod hwn, fel y dangosir gan gyfyngau credadwy mwy llydan.

Mae canran y bobl sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn ôl blwyddyn unigol o oed ers 9 Ionawr 2021 ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban i’w gael yn set ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Amcangyfrifon ar gyfer gwledydd y DU

Yng nghanol yr wythnos ddiweddaraf (13 i 19 Chwefror 2021), roedd y ganran o'r boblogaeth gymunedol yr amcangyfrif bod COVID-19 arnynt ar ei huchaf yng Lloegr (0.69%) o’i chymharu â gwledydd eraill y DU.

Mae rhywfaint o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon pwynt unigol ar gyfer y gwledydd. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer dyddiau diwethaf y gyfres, a ddangosir fel llinellau toredig yn y siart isod, yn fwy ansicr.

Image
Siart yn dangos yr amcangyfrifon swyddogol ar gyfer canran y bobl a gafodd brofion positif drwy swabiau trwyn a gwddf o 9 Ionawr i 19 Chwefrof 2021 ar gyfer pedair gwlad y DU.

 

Tabl 1: Cyfraddau positifedd profion ar draws gwledydd y DU ar gyfer yr wythnos o 13 i 19 Chwefror 2021
  Cyfraddau positifedd
(Cyfwng Hyder o 95%) 
Cymru  0.48%
(0.36 i 0.62)
1 o bob 205 o bobl
(1 o bob 275 i 1 o bob 160)
14,700 o bobl
(11,100 i 18,800)
Lloegr 0.69%
(0.64 i 0.74)
1 o bob 145 o bobl
(1 o bob 155 i 1 o bob 135)
373,700 o bobl
(346,400 i 401,300)
Yr Alban 0.45%
(0.35 i 0.55)
1 o bob 225 o bobl
(1 o bob 285 i 1 o bob 180)
23,400 o bobl
(18,600 i 29,000)
Gogledd Iwerddon 0.52%
(0.36 i 0.71)
1 o bob 195 o bobl
(1 o bob 280 i 1 o bob 140)
9,500 o bobl
(6,600 i 13,100)

Ffynhonnell: Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19), ONS

Diffiniadau

Poblogaeth gymunedol

Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys pobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat, a chyfeirir atynt fel poblogaeth gymunedol. Nid yw’n cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a/neu leoliadau sefydliadol eraill.

Cyfyngau hyder

Mae cyfwng hyder yn dangos y lefel o sicrwydd i amcangyfrif, gan ddangos pa mor gywir yw amcangyfrif sampl. Mae’r cyfyngau hyder o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau, pe baem yn ailadrodd yr astudiaeth lawer o weithiau, y byddai’r gwir gwerth nad yw’n hysbys rywle rhwng y terfynau hyder isaf ac uchaf, 95% o’r amser. Mae gorgyffwrdd rhwng y cyfryngau hyder yn dangos ei bod yn bosibl nad oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dau amcangyfrif.

Cyfwng credadwy

Mae cyfwng credadwy yn dangos y lefel o ansicrwydd i amcangyfrif mewn dadansoddiad data. Mae cyfryngau credadwy o 95% yn cael eu cyfrifo i sicrhau mai’r tebygolrwydd y bydd y gwir gwerth o fewn y cyfrwng yw 95%.

Digwyddedd

Nifer yr heintiadau newydd dros gyfnod penodol.

Amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelau ystadegol

Mae amcangyfrifon o bositifedd yn yr arolwg hwn yn seiliedig ar fodelau ystadegol o’r data sy’n sail iddo. Mae’r model yn llyfnu’r gyfres i ddeall y tueddiad, ac mae’n cael ei adolygu bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd.

Amcangyfrifon pwynt

Mae amcangyfrifon pwynt yn seiliedig ar y tueddiad wedi’i fodelu, ac maent yn adlewyrchu’r pwynt cyfeirio mwyaf cynrychiadol ar gyfer yr wythnos o dan sylw.

Y gyfradd positifedd

Yr amcangyfrif o’r gyfran o bobl sy’n cael canlyniad positif i brawf am y coronafeirws (COVID-19) ar adeg penodol, gyda symptomau neu hebddynt, yn seiliedig ar swabiau trwyn a gwddf.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae canlyniadau’r arolwg wedi’u seilio ar swabiau trwyn a gwddf a ddarparwyd gan y cyfranogwyr. Mae is-grŵp o gyfranogwyr hefyd yn rhoi sampl o waed, wedi’i chymryd gan staff maes wedi eu hyfforddi.

Yn ogystal ag edrych ar ddigwyddedd cyffredinol, positifedd a lefel gwrthgyrff, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau. Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill. Cyfeirir at hyn fel poblogaeth gymunedol.

Mae’r arolwg yn cynnwys pob gwlad yn y DU, gan alluogi cyfrifo amcangyfrifon ar gyfer pob gwlad yn unigol, ac yn y pen draw ar gyfer y DU gyfan. Dechreuodd y maes gwaith yn Lloegr ar 26 Ebrill. Mae hyn yn golygu bod rhagor o ddata cronnol ar gyfer Lloegr, sy’n galluogi dadansoddiadau mwy manwl ar hyn o bryd. Dechreuodd gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin, wedyn yng Ngogledd Iwerddon ar 26 Gorffennaf ac yn yr Alban ar 21 Medi.

Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, fod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy neu cyfyngau hyder o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.

Mae’r amcangyfrifon wedi’u seilio ar fodelu ystadegol. Mae gwaith modelu'n cael ei wneud o'r newydd bob wythnos gan ddefnyddio'r data am y 6 wythnos ddiwethaf. Mae'r model yn gweithio drwy hwyluso’r gyfres i ddeall y duedd ac mae'n cael ei diwygio bob wythnos i gynnwys canlyniadau profion newydd. Mae hyn yn golygu y gallai'r amcangyfrif diweddaraf am gyfnod cynharach fod yn wahanol i'r amcangyfrif swyddogol a gynhyrchwyd ar y pryd. Dengys Siart 1 y duedd ddiweddaraf wedi'i modelu a'r amcangyfrifon swyddogol (pwynt) a gyhoeddwyd ar y pryd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi bwletinau ystadegol wythnosol, tablau cyfeirio ac erthyglau ystadegol cyfnodol, gan gynnwys canlyniadau ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban ar ei gwefan. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael eu cyhoeddi gan y gwahanol weinyddiaethau, yn yr un modd ag yma yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

5 Mawrth 2021

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Lisa Bloemberg
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 54/2021

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 638 KB.

Maint Ffeil 638 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.