Sut mae gwasanaethau adsefydlu wedi helpu claf cymunedol wrth iddi adfer o COVID hir.
Trosolwg o’r claf
Mae’r fenyw 53 oed yn gweithio i’r GIG mewn rôl nad yw’n wynebu cleifion.
Cyn dal COVID-19, roedd hi’n iach ac nid oedd ganddi unrhyw hanes meddygol sylweddol. Mae’n disgrifio ei hun fel rhywun heini iawn sy’n ofalus ynglŷn â’i hiechyd, ond ei bod weithiau’n gallu teimlo o dan straen ac yn orbryderus.
Ym mis Ebrill 2020, dechreuodd deimlo’n sâl a’r gred oedd bod COVID-19 arni. Nid oedd prawf ar gael ac roedd yn sâl am oddeutu pythefnos gyda thymheredd uchel, peswch a blinder ac roedd wedi colli ei synnwyr blasu ac arogli.
Ar ôl 3 wythnos, ceisiodd y claf ddychwelyd i’w gwaith ond teimlai nad oedd modd iddi weithredu’n iawn. Adroddodd fwy o flinder, diffyg anadl, myalgia, anawsterau gwybyddol a mwy o orbryder.
Roedd ganddi symptomau COVID-19 parhaus, a oedd yn gwaethygu ac yn gwella am yn ail, a pharhaodd i ffwrdd o’i gwaith.
Mae’r holl brofion ac archwiliadau’n awgrymu nad oes unrhyw bryderon clinigol sylweddol, na tharddiad ar gyfer y symptomau parhaus.
Ceisiodd ddychwelyd i’w gwaith eto ym mis Hydref 2020 a methu. O ganlyniad, teimlai o dan straen sylweddol a gwaethygodd ei symptomau.
Adsefydlu’r claf
Ym mis Ionawr 2021, fe’i hatgyfeiriwyd ar gyfer asesiad gan y Tîm Adsefydlu COVID a Gwasanaeth Llesiant y GIG. Mae’r cymorth hwn wedi’i helpu i wella ei dealltwriaeth o strategaethau i’w defnyddio i reoli ei symptomau yn ei gwaith ac yn ei bywyd personol.
Rhoddodd y gwasanaeth Adsefydlu COVID gyngor sylweddol ar Adsefydlu Galwedigaethol, gan weithio gyda gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol ar broses araf a graddol o ddychwelyd i’r gwaith ac ar addasiadau i’w hamgylchedd gwaith.
Bu hyn o gymorth iddi reoli ei blinder a’i gorbryder a’r ffordd y mae’n dod i’r amlwg yn wybyddol. Bellach, mae hi wedi dychwelyd i’w gwaith ac yn teimlo ei bod yn gallu ymdopi â’i symptomau a’u rheoli’n well.