Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

O dan Ddeddf Tai (Cymru) (2014), mae’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru atal a lleihau digartrefedd trwy ddarparu cyngor a chymorth i aelwydydd sydd naill ai mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sy’n ddigartref (Dyrannu llety a digartrefedd: canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol). Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ei ‘dîm tai’ ei hun, a’u rôl nhw yw cydlynu’r gwaith o ddarparu cymorth o dan y Ddeddf Tai (Cymru). Gall cymorth amrywio o ddarparu gwybodaeth am reoli arian, i sicrhau llety gwahanol i’r teulu; gall hyn gynnwys eu gosod mewn llety dros dro gan y cyngor.

Mae’r allbwn hwn yn archwilio pob cysylltiad gan deuluoedd â thîm tai Dinas a Sir Abertawe. Ni wnaeth data alluogi dadansoddiad manwl o’r gwahanol fathau o gymorth yr oedd eu hangen, felly mae’r dadansoddiad hwn yn archwilio pob cysylltiad â’r tîm tai, ni waeth pa mor ddifrifol oedd problem tai y teulu. Yn benodol, rydym yn cymharu’r plant oed ysgol o deuluoedd sy’n cysylltu â thîm tai Dinas a Sir Abertawe, â’r rheiny nad ydynt yn cysylltu â’r cyngor neu’r rhai sydd â chartref ‘sefydlog’. Gweler isod am olwg manwl ar y data sy’n cael ei ddefnyddio yn y dadansoddiad hwn.

Y prif ganlyniadau

  • Mewn unrhyw flwyddyn academaidd benodol, roedd ychydig dros 1% o ddisgyblion (rhwng 5 ac 16 oed) yn aelodau o deuluoedd sydd wedi troi at dîm tai Dinas a Sir Abertawe.
  • Roedd cyfran y plant a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn uwch ymhlith teuluoedd a oedd yn troi at dîm tai Abertawe.
  • Roedd absenoldeb yn amrywio yn ôl blwyddyn academaidd, ond roedd y lefelau yn llawer uwch ymhlith plant o deuluoedd yn troi at dîm tai Abertawe.
  • Roedd mynd yn ddigartref neu berygl o fynd yn ddigartref yn gysylltiedig â chynnydd o 7% yng nghyfanswm y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol o’r ysgol.

Data cysylltiedig

Mae’r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar gysylltu tair ffynhonnell ddata weinyddol: data tîm tai Dinas a Sir Abertawe, data ysgolion, a Gwasanaeth Demograffig Cymru.

Mae data Dinas a Sir Abertawe yn perthyn i geisiadau am gymorth â phroblemau’n gysylltiedig â thai, a wnaed i’r tîm tai yn yr awdurdod. Caiff gwybodaeth y mae ei hangen i gysylltu data ei chasglu dim ond oddi wrth y prif ymgeisydd am gymorth. At hynny, mae’r data sy’n cael ei ddarparu gan yr awdurdod yn ymwneud â digartrefedd ‘oedolion’ yn unig, h.y. pobl dros 16 oed, gan mai’r tîm digartrefedd ieuenctid yn yr awdurdod sy’n asesu digartrefedd ymgeiswyr iau. Felly, roedd angen defnyddio ffynonellau data gweinyddol eraill, sef Gwasanaeth Demograffig Cymru yn yr achos hwn, i nodi plant a phobl ifanc sy’n aelodau o deuluoedd sy’n cynnwys person sydd wedi gwneud cais am gymorth gan y tîm tai.

Mae Gwasanaeth Demograffig Cymru yn darparu hanes o breswylfeydd y cofrestrir bod pobl yng Nghymru yn byw ynddynt. Mae Gwasanaeth Demograffig Cymru yn cael ei greu o wybodaeth cyfeiriadau pan fydd pobl yn cofrestru gyda’u Meddyg Teulu. Yn hytrach na bod yn ‘aelwydydd’, yn ystyr yr uned deuluol, mae Gwasanaeth Demograffig Cymru yn darparu gwybodaeth am ‘breswylfeydd’, sef cyfeiriadau cod post fel arfer. Felly fe wnaeth Gwasanaeth Demograffig Cymru ein galluogi ni i nodi plant a phobl ifanc a oedd yn byw yn yr un cartref â rhywun a wnaeth gais i’r tîm tai am gymorth. Defnyddiwyd dulliau ychwanegol er mwyn torri’r cyd-breswylwyr i lawr i rywbeth yn debyg i’r ‘aelwyd’ (Dadansoddiad archwiliadol o ganlyniadau addysg plant a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd digartref).

Mae’r dadansoddiad sydd wedi’i gynnwys yn yr allbwn hwn yn ymwneud â phlant a phobl ifanc mewn teuluoedd digartref, yn hytrach na phlant a phobl ifanc sydd wedi gwneud cais eu hunain ynghylch digartrefedd. Gall effeithiau digartrefedd ar blant a phobl ifanc sy’n gwneud cais yn uniongyrchol i’r tîm tai fod yn fwy sylweddol o lawer, o gofio efallai nad oes ganddynt unrhyw rwydweithiau cymorth o gwbl y tu hwnt i’w teulu.

Ar ôl nodi plant a phobl ifanc mewn teuluoedd sy’n cael cymorth, cawsant eu cysylltu â’u data addysg, sef data absenoldeb a gwaharddiadau yn benodol. Roedd data absenoliaeth yn cynnwys nifer y sesiynau heb eu hawdurdodi, wedi’u hawdurdodi, a chyfanswm nifer y sesiynau ysgol pan oedd disgybl yn absennol mewn blwyddyn academaidd. Hanner diwrnod o ysgol yw sesiwn.

Data ar gyfer blynyddoedd academaidd 2012/13 i 2015/16 sy’n cael ei ddefnyddio yn y dadansoddiad hwn. Roedd data tîm tai Dinas a Sir Abertawe a ddarparwyd yn wreiddiol yn ymwneud ag achosion â dyddiad cau rhwng Ionawr 2011 a Mawrth 2017. Dewiswyd cyfnod i’w arsylwi a oedd yn dod o fewn amrediad y data a oedd ar gael er mwyn lleihau cyfnodau coll neu ‘wedi’u cwtogi’ o gymorth tai. Er enghraifft, efallai nad yw plant mewn teuluoedd a wnaeth gais am gymorth ym mlwyddyn academaidd 2016/17 wedi cael dyddiad cau ac, felly, byddent ar goll o ddata’r tîm tai.

Cyfyngwyd data i blant a oedd yn mynychu ysgolion o fewn Awdurdod Addysg Lleol Abertawe, sy’n cyd-fynd yn fras â ffiniau Dinas a Sir Abertawe. Roedd cyfyngu’r data i ranbarth daearyddol/adrodd penodol yn golygu y gallai ystadegau addysg cyhoeddedig gael eu defnyddio’n bwynt cyfeirio ar gyfer gwiriadau ansawdd data.

Plant mewn teuluoedd sy’n troi at gymorth tai

Mae canran y plant sy’n byw mewn teuluoedd sy’n troi at dîm tai Abertawe dros 1% ym mhob blwyddyn academaidd rhwng 2012 a 2016. Mae Siart 1 yn dangos cyfran y disgyblion rhwng 5 ac 16 oed (sydd wedi’u cofrestru mewn ysgolion yn ardal awdurdod lleol Abertawe) sy’n byw mewn teulu sy’n troi at gymorth â thai gan dîm tai Abertawe. Cyrhaeddwyd uchafbwynt o ychydig dros 1.4% ym mlwyddyn academaidd 2013 i 2014, gyda’r canran yn gostwng fymryn fel ei fod ychydig dros 1.2% yn 2015 i 2016.

Image
Mae canran y disgyblion sy’n aelodau o deuluoedd sy’n troi at dîm tai Abertawe dros 1% ar gyfer pob blwyddyn academaidd rhwng 2012  a 2016. Mae’r cyfraddau’n gostwng o 401 disgybl yn ystod 2012-2014 i 349 disgybl yn ystod 2015-2016.

Gall bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim gael ei ddefnyddio’n fesur statws economaidd-gymdeithasol. Mae’n ein helpu i ddeall mwy am boblogaeth y plant sy’n byw mewn teuluoedd ag anghenion tai. Yn ystod y blynyddoedd academaidd o 2012 i 2016, roedd nifer y plant a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn uwch ymhlith y rheiny a oedd yn aelodau o deuluoedd a drodd at gymorth gan dîm tai Abertawe. Gweler Siart 2.    

Image
Mae cyfran uwch o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn teuluoedd a drodd at y tîm tai yn ystod blynyddoedd academaidd o 2012 i 2016 (rhwng 50 a 60%).  Roedd canran y disgyblion mewn teuluoedd na wnaethant droi at y tîm tai tuag 20% ym mhob blwyddyn.

Roedd gan blant o deuluoedd yr oedd angen cymorth tai arnynt lefelau uwch o absenoliaeth gyson o’r ysgol. Yn ystod blynyddoedd academaidd 2012 i 2016, roedd rhwng 12% a rhyw 14% o ddisgyblion a oedd yn absennol o’r ysgol yn gyson yn aelod o deulu a drodd at dîm tai Abertawe. Cwympodd hyn i 10% yn 2015 i 2016. Gweler Siart 3.

Image
Roedd mwy o ddisgyblion a oedd yn absennol yn gyson o’r ysgol mewn teuluoedd a drodd at y tîm tai (o 10% i oddeutu 14%), o gymharu â’r teuluoedd na wnaethant. Mae’r canran sydd heb droi at y tîm tai wedi gostwng yn flynyddol.

Angen am dai ac absenoliaeth o’r ysgol

Roedd lefelau absenoliaeth yn amrywiol fesul blwyddyn academaidd yng nghyfnod yr astudiaeth, gyda nifer cyfartalog y sesiynau pan roedd disgyblion o deuluoedd a drodd at y tîm tai yn absennol yn amrywio o 29.7 i 35.3, ac roedd y nifer ar gyfer disgyblion o deuluoedd na throdd at y tîm tai yn amrywio o 18.5 i 24.6. Er mwyn deall yr effeithiau unigryw ar blant sy’n byw mewn teuluoedd sy’n troi at dîm tai Abertawe yn well, gwnaed cyfres o ddadansoddiadau atchweliad ‘effaith sefydlog’ a ‘hap-effaith’ ar dri deilliant o ddiddordeb: absenoldeb heb ei awdurdodi, absenoldeb wedi’i awdurdodi a chyfanswm nifer y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol mewn blwyddyn academaidd. I gael manylion pellach am y dadansoddiad a’r fethodoleg, gweler Atodiad A.

Mae canfyddiadau allweddol y dadansoddiadau hyn fel a ganlyn:

  • roedd lefelau cyfanswm nifer y sesiynau pan oedd disgyblion o deuluoedd a drodd at dîm tai Dinas a Sir Abertawe yn absennol o’r ysgol 9% yn fwy na’r rheiny nad oeddent yn troi at y tîm tai
  • roedd y gwahaniaeth mewn lefelau absenoldeb wedi gostwng ychydig wrth ychwanegu rheolyddion ar gyfer nodweddion demograffig ac economaidd gymdeithasol eraill, i oddeutu 8%
  • pan fyddai angen ar ddisgybl o ran tai, h.y. pan ddechreuodd y teulu droi at y tîm tai, roedd hyn yn gysylltiedig â lefel 7% yn uwch o gyfanswm nifer y sesiynau pan oedd y disgybl yn absennol, na chyn i’r teulu droi at y tîm tai
  • ar ôl ychwanegu rheolyddion ar gyfer amrywiaeth o nodweddion sy’n newid gydag amser, fel bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd mynd i sefyllfa lle’r oedd angen o ran tai yn gysylltiedig â lefel 6% yn uwch o gyfanswm nifer y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol

Sicrhau ansawdd

Cynhaliwyd gwiriadau i sicrhau bod y data addysg, ar ôl eu cysylltu â'i gilydd, yn gyflawn ac yn cyd-fynd â ffigurau cyhoeddedig. Cafodd nifer y myfyrwyr a oedd wedi’u cofrestru mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Awdurdod Addysg Lleol Abertawe, ar gyfer pob blwyddyn academaidd, eu cynhyrchu a’u cymharu ag ystadegau wedi’u cyhoeddi gan StatsCymru. Nid oedd gwahaniaethau mawr rhwng data cyhoeddedig a data addysg cysylltiedig, gyda dim mwy na 60 o fyfyrwyr y naill ochr a’r llall i’r ffigurau cyhoeddedig. Gallai talgrynnu yn y data cyhoeddedig a/neu newidiadau i’r  data addysg sylfaenol ers rhyddhau’r ffigurau ar StatsCymru gyfrif am unrhyw wahaniaethau.

Gan fod y dadansoddiad yn cysylltu cofnodion addysg â setiau data eraill, arweiniodd y cysylltiadau pellach hyn at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr, o gymharu â ffigurau cyhoeddedig. Mae’r prif wahaniaeth yn ymwneud â phlant mewn ysgolion cynradd.

Roedd y cynnydd yn y gwahaniaeth rhwng y data deilliedig/cysylltiedig a’r ffigurau cyhoeddedig yn bennaf o ganlyniad i ddiffyg rhif cysylltu cyffredinol (a elwir hefyd yn Faes Cysylltu Wedi’i Anonymeiddio, neu ALF) ar gyfer rhai myfyrwyr. Heb faes cysylltu wedi’i anonymeiddio, ni ellir cysylltu data â ffynonellau eraill ym manc data SAIL, felly rhaid eu tynnu rhag eu dadansoddi ymhellach. Yn ogystal, tynnwyd nifer bach o fyfyrwyr wrth lanhau’r data.

Atodiad A: dadansoddiad manwl a methodoleg

Caiff data presenoldeb ei gasglu’n flynyddol ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i gofrestru mewn ysgol yng Nghymru. Er mwyn manteisio ar arsylwadau mynych o’r un bobl ifanc dros gyfnod, defnyddiwyd dulliau atchweliad panel. Defnyddiwyd modelau Hap-effeithiau ac Effeithiau Sefydlog ill dau. Mae atchweliadau effeithiau sefydlog yn helpu archwilio amrywiad mewn-pobl mewn newidynnau dibynnol sy’n gysylltiedig â nodweddion sy’n newid gydag amser – yn yr achos hwn, teulu sy’n ceisio cymorth gan dîm tai awdurdod lleol. Mae modelau atchweliad hap-effeithiau yn helpu i archwilio’r nodweddion nad ydynt yn newid dros gyfnod ac, felly, ar amrywiadau rhwng-pobl mewn newidynnau dibynnol, h.y. cysylltiadau â rhywedd. Mewn modelau effeithiau sefydlog, caiff nodweddion ‘amser-sefydlog’ o’r fath eu cynnwys yn y cyfeiliornad ar gyfer y model.

Mae atchweliad hap-effeithiau yn gofyn am o leiaf 2 bwynt arsylwi ar y deilliant o ddiddordeb fesul person, er mwyn asesu unrhyw newid dros gyfnod. Felly, cafodd y data a ddefnyddiwyd mewn dadansoddiad atchweliad hap-effeithiau ei gyfyngu i’r bobl ifanc hynny ag o leiaf 2 flynedd o ddata presenoldeb.

Budd modelau atchweliad effeithiau sefydlog yw eu bod yn arwain at amcangyfrifon o effeithiau sy’n cael eu gogwyddo yn llai gan nodweddion nad arsylwyd arnynt. O ystyried y diffyg manylder mewn data gweinyddol am fesurau ‘goddrychol’ pwysig ymgysylltiad plentyn ag ysgol, roedd risg uchel y byddai gogwyddau o’r fath mewn amcangyfrifon sy’n seiliedig ar ddulliau atchweliad panel eraill. Budd cynnal modelau atchweliad hap-effeithiau yw eu bod yn galluogi dadansoddiad o effeithiau nodweddion amser-sefydlog ar ddeilliannau, h.y. nodweddion nad ydynt yn newid dros gyfnod.

Roedd 3 phrif ddeilliant o ddiddordeb yn y dadansoddiad atchweliad: nifer yr absenoldebau wedi’u hawdurdodi, heb eu hawdurdodi, a chyfanswm nifer y sesiynau yr oedd pob person ifanc yn absennol ohonynt fesul blwyddyn academaidd. Y prif newidyn rhagfynegol o ddiddordeb oedd dangosydd ie/na ar gyfer p’un a oedd y person ifanc aelod o deulu a oedd wedi troi at dîm tai Dinas a Sir Abertawe.

Gwnaed cyfanswm o 12 atchweliad panel: 6 atchweliad yn rhagfynegi’r 3 phrif ddeilliant heb unrhyw newidynnau rheolydd gan ddefnyddio modelau effeithiau sefydlog a hap-effeithiau; a 6 atchweliad yn cynnwys rheolyddion, eto’n mabwysiadu modelau effeithiau sefydlog a hap-effeithiau.

Dewiswyd y nodweddion â rheolydd ar sail eu cysylltiad hysbys ag absenoliaeth, gan gynnwys: oedran, math o ysgol (cynradd neu uwchradd), a oedd disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, anghenion addysgol arbennig, cael eu gwahardd o fewn y flwyddyn, ac amddifadedd ardal leol fel y caiff ei fesur gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Cynhaliwyd yr holl ddadansoddiadau yn STATA v 16.1.

Mae Siart 4 yn rhoi’r gwahaniaeth amcangyfrifedig yn nifer y sesiynau wedi’u hawdurdodi, heb eu hawdurdodi a chyfanswm y sesiynau pan oedd disgyblion o deuluoedd a oedd yn troi at wasanaethau tai yn absennol, wedi’u rhannu yn ôl effeithiau sefydlog a hap-effeithiau. Ni ddefnyddiwyd rheolyddion ar gyfer unrhyw nodweddion disgybl neu ardal ychwanegol yn yr atchweliadau sy’n sylfaen i Siart 4.

Fel y mae’r model hap-effeithiau ar gyfer cyfanswm yr absenoldebau yn ei ddangos, roedd bod yn aelod o deulu a drodd at dîm tai Abertawe yn gysylltiedig â chyfanswm nifer y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol sydd 9% yn fwy nag ar gyfer cyfoedion â chartref mwy sefydlog.

Yn y model effeithiau sefydlog, pan roedd y teulu yr oedd plentyn yn aelod ohono’n dechrau troi at dîm tai Abertawe, roedd hyn yn gysylltiedig â chynnydd o 7% yng nghyfanswm nifer y sesiynau pan oedd y plentyn yn absennol o’r ysgol.

Image
Mae Ffigur 4 yn rhoi’r gwahaniaeth amcangyfrifedig yn nifer y sesiynau wedi’u hawdurdodi, heb eu hawdurdodi a chyfanswm y sesiynau pan oedd disgyblion o deuluoedd a oedd yn troi at wasanaethau tai yn absennol, wedi’u rhannu yn ôl effeithiau sefydlog a hap-effeithiau. Ni ddefnyddiwyd rheolyddion ar gyfer unrhyw nodweddion disgybl neu ardal ychwanegol yn yr atchweliadau sy’n sylfaen i Ffigur 4.

Gwnaethom yr un atchweliadau effeithiau sefydlog a hap-effeithiau gan ragfynegi sesiynau wedi’u hawdurdodi, heb eu hawdurdodi a chyfanswm nifer y sesiynau pan oedd y disgybl yn absennol, gan ychwanegu rheolyddion ar gyfer nifer o nodweddion y gwyddom eu bod yn gysylltiedig ag absenoliaeth. Er eglurder, mae Ffigur 5 yn canolbwyntio ar effeithiau byw mewn teulu sydd wedi troi at dîm tai Abertawe, mae allbynnau llawn yr atchweliad i’w gweld isod (Tablau 1 a 2).

Ar ôl ychwanegu rheolyddion ar gyfer nodweddion disgybl ac ardal, bu gostyngiad ym maint y cysylltiad rhwng cymorth y tîm tai a chyfraddau’r sesiynau pan oedd disgybl yn absennol. Fodd bynnag, roedd cysylltiad arwyddocaol o hyd rhwng mynd i angen o ran tai a chynnydd yng nghyfanswm nifer y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol, sef 6%.

Image
Er eglurder, mae Ffigur 5 yn canolbwyntio ar effeithiau byw mewn teulu sydd wedi troi at dîm tai Abertawe – mae allbynnau llawn yr atchweliad i’w gweld isod (Tablau 1 a 2).

Gan fod y deilliannau o ddiddordeb yn ddata cyfrif (sef nifer y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol mewn blwyddyn academaidd) defnyddiwyd math penodol o atchweliad sy’n fwy addas i ddata cyfrif: atchweliad Poisson. Yn yr allbynnau o atchweliadau Poisson (Tablau 1 a 2), gall cyfernodau gael eu mynegi ar ffurf Cymarebau Cyfradd Digwyddiad, sydd yna’n cael eu dehongli’n newid yn y lefelau absenoldeb sy’n gysylltiedig â chynnydd o flwyddyn mewn oedran, neu gael nodwedd benodol, gan gadw pob newidyn arall yn gyson.

Os bydd cyfernod yn hafal ag 1, yna ni chaiff y nodwedd unrhyw effaith ar lefel yr absenoldeb. Os yw’r cyfernod yn llai nag 1, mae hyn yn dangos bod y nodwedd yn gysylltiedig â gostyngiad yn y lefel; mae’r gwrthwyneb yn wir pan fydd y cyfernod yn fwy nag 1. Mae graddfa’r newid yn y lefel yn effaith ‘luosogol’. Er enghraifft, os oedd cyfernod yr atchweliad wrth ragfynegi cyfanswm nifer y sesiynau pan oedd plentyn yn absennol yn 1.5 ar gyfer defnyddio gwasanaeth tai, byddai hyn yn golygu bod nifer y sesiynau pan oedd plant sy’n cael cymorth gan y tîm tai yn absennol 1.5 gwaith, neu 50%, yn fwy nag ydyw ar gyfer y plant hynny nad oes angen cymorth arnynt.

Er mwyn ei gwneud hi’n haws dehongli allbynnau atchweliad Poisson, mae Siart 4 a 5 yn seiliedig ar Gymarebau Cyfradd Digwyddiad, a chyflwynant ganran y gwahaniaeth yn nifer y sesiynau pan oedd plentyn sy’n aelod o deulu sy’n troi at dîm tai Dinas a Sir Abertawe yn absennol.

Tabl 1: Cyfernodau model atchweliad (cymarebau cyfradd digwyddiad) a chyfyngau hyder ar gyfer newid yn nifer y sesiynau wedi’u hawdurdodi, heb eu hawdurdodi a chyfanswm nifer y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol o fewn blwyddyn academaidd, gyda’r disgybl yn aelod o deulu sy’n troi at y tîm tai; yn ôl modelau hap-effeithiau ac effeithiau sefydlog
  Hap-effeithiau Effeithiau sefydlog
  Cymarebau cyfradd digwyddiad Cyfwng hyder Cymarebau cyfradd digwyddiad Cyfwng hyder
Cyfanswm yr absenoldeb 1.088 (1.042-1.136) 1.072 (1.025-1.120)
Heb ei awdurdodi 1.117 (0.989-1.262) 1.092 (0.964-1.236)
Wedi'I awdurdodi 1.080 (1.033-1.128) 1.064 (1.017-1.114)
Tabl 2a: Crynodeb o gyfernodau model atchweliad hap-effeithiau sy’n rhagfynegi newid yng nghyfradd (cymarebau cyfradd digwyddiad) absenoldebau wedi’u hawdurdodi, heb eu hawdurdodi a chyfanswm nifer y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol o fewn blwyddyn academaidd, gyda rheolyddion
  Cymarebau cyfradd digwyddiad Cyfwng hyder
Cyfanswm absenoldeb:  
Oedran 0.942 (0.937-0.946)
Cymwys i gael PYDd 1.071 (1.045-1.098)
Benywaidd 1.065 (1.042-1.088)
Ddim yn wyn 0.880 (0.850-0.912)
AAA 1.031 (1.008-1.055)
Cymorth tai 1.078 (1.032-1.126)
Ysgol Uwchradd 0.872 (0.852-0.892)
Gwaharddwyd yn y flwyddyn 1.144 (1.077-1.215)
1 chwartel MALlC (a) 1.167 (1.120-1.215)
2 chwartel MALlC (a) 1.132 (1.085-1.180)
3 chwartel MALlC (a) 1.091 (1.041-1.143)
Cyfanswm heb ei awdurdodi:    
Oedran 1.163 (1.148-1.178)
Cymwys i gael PYDd 1.084 (1.015-1.158)
Benywaidd 1.046 (1.002-1.093)
Ddim yn wyn 1.174 (1.101-1.252)
AAA 1.048 (0.981-1.120)
Cymorth tai 1.146 (1.019-1.289)
Ysgol Uwchradd 0.662 (0.612-0.716)
Gwaharddwyd yn y flwyddyn 1.170 (1.034-1.323)
1 chwartel MALlC (a) 1.276 (1.132-1.438)
2 chwartel MALlC (a) 1.104 (0.965-1.263)
3 chwartel MALlC (a) 1.109 (0.971-1.267)
Cyfanswm wedi'i awdurdodi:  
Oedran 0.898 (0.894-0.903)
Cymwys i gael PYDd 1.071 (1.044-1.098)
Benywaidd 1.070 (1.046-1.096)
Ddim yn wyn 0.827 (0.792-0.862)
AAA 1.020 (0.998-1.043)
Cymorth tai 1.060 (1.015-1.107)
Ysgol Uwchradd 0.933 (0.912-0.955)
Gwaharddwyd yn y flwyddyn 1.089 (1.02-1.1630)
1 chwartel MALlC (a) 1.129 (1.085-1.174)
2 chwartel MALlC (a) 1.131 (1.087-1.177)
3 chwartel MALlC (a) 1.077 (1.028-1.128)

(a) Lleiaf amddifad, er gwybodaeth.

Tabl 2b: Crynodeb o gyfernodau model atchweliad effeithiau sefydlog sy’n rhagfynegi newid yng nghyfradd (cymarebau cyfradd digwyddiad) absenoldebau wedi’u hawdurdodi, heb eu hawdurdodi a chyfanswm nifer y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol o fewn blwyddyn academaidd, gyda rheolyddion
  Cymarebau cyfradd digwyddiad Cyfwng hyder
Cyfanswm absenoldeb:  
Oedran 0.920 (0.915-0.925)
Cymwys i gael PYDd 1.015 (0.988-1.044)
Benywaidd - -
Ddim yn wyn - -
AAA 1.006 (0.981-1.031)
Cymorth tai 1.058 (1.011-1.107)
Ysgol Uwchradd 0.859 (0.839-0.880)
Gwaharddwyd yn y flwyddyn 1.119 (1.051-1.192)
1 chwartel MALlC (a) 1.011 (0.953-1.071)
2 chwartel MALlC (a) 1.013 (0.956-1.074)
3 chwartel MALlC (a) 1.019 (0.958-1.083)
Cyfanswm heb ei awdurdodi:  
Oedran 1.205 (1.187-1.223)
Cymwys i gael PYDd 1.021 (0.949-1.098)
Benywaidd - -
Ddim yn wyn - -
AAA 1.001 (0.933-1.075)
Cymorth tai 1.126 (1.000-1.269)
Ysgol Uwchradd 0.674 (0.624-0.729)
Gwaharddwyd yn y flwyddyn 1.120 (0.986-1.271)
1 chwartel MALlC (a) 1.027 (0.865-1.219)
2 chwartel MALlC (a) 0.924 (0.769-1.111)
3 chwartel MALlC (a) 0.983 (0.827-1.168)
Cyfanswm wedi'i awdurdodi:  
Oedran 0.865 (0.860-0.870)
Cymwys i gael PYDd 1.022 (0.994-1.052)
Benywaidd - -
Ddim yn wyn - -
AAA 1.002 (0.978-1.027)
Cymorth tai 1.043 (0.997-1.092)
Ysgol Uwchradd 0.915 (0.894-0.937)
Gwaharddwyd yn y flwyddyn 1.073 (1.002-1.150)
1 chwartel MALlC (a) 1.004 (0.948-1.065)
2 chwartel MALlC (a) 1.032 (0.975-1.093)
3 chwartel MALlC (a) 1.026 (0.963-1.092)

(a) Lleiaf amddifad, er gwybodaeth 

Cydnabyddiaethau

Fe wnaed y gwaith hwn gan Dr Ian Thomas a Dr Pete Mackie yn WISERD, fel rhan o gorff gwaith tai a digartrefedd Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru.

Mae YDG Cymru yn rhan o ADR UK a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac ArloesI y DU).

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Matthew Davies
Ffôn: 03000255533
E-bost: cydg.cymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
GSR logo

Rhif ymchwil cymdeithasol: 27/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-056-5