Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r allbwn hwn yn cymharu plant oed ysgol sy’n aelodau o deuluoedd sy’n troi at dîm tai Dinas a Sir Abertawe, â’r teuluoedd nad ydynt yn gwneud hynny neu’r rhai sydd â chartref ‘sefydlog’.

Canfyddiadau

  • Mewn unrhyw flwyddyn academaidd benodol, roedd ychydig dros 1% o ddisgyblion (rhwng 5 ac 16 oed) yn aelodau o deuluoedd sydd wedi troi at dîm tai Dinas a Sir Abertawe.
  • Roedd cyfran y plant a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn uwch ymhlith teuluoedd a oedd yn troi at dîm tai Abertawe.
  • Roedd absenoldeb yn amrywio yn ôl blwyddyn academaidd, ond roedd y lefelau yn llawer uwch ymhlith plant o deuluoedd yn troi at dîm tai Abertawe.
  • Roedd mynd yn ddigartref neu berygl o fynd yn ddigartref yn gysylltiedig â chynnydd o 7% yng nghyfanswm y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol o’r ysgol.

Cyswllt

Matthew Davies

Rhif ffôn: 0300 025 5533

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.