Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Mae'r Prif Weinidog wedi nodi'r bwriad i ddod â digartrefedd ymhlith pobl ifanc i ben o fewn degawd yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i'n cyd-ddealltwriaeth o achosion ac effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifanc wella.

Mae ysgolion yn darparu amgylchedd lle gellir cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ac atal digartrefedd o bosib. Felly, mae prif faes diddordeb yn y berthynas rhwng addysg a digartrefedd. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth sy'n bodoli ar gysylltiadau rhwng addysg a digartrefedd yn seiliedig ar astudiaethau ansoddol bach ac arolygon sampl cyfleustra nad ydynt yn meintioli effeithiau digartrefedd ar addysg.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth archwiliadol a oedd â dau nod:

  1. profi methodoleg ar gyfer adnabod plant a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd digartref, gan gysylltu data digartrefedd statudol a data cofrestru Ymarfer Cyffredinol
  2. dechrau archwilio cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd digartref

Mae'r dadansoddiad hwn yn ymwneud â phlant a phobl ifanc mewn aelwydydd digartref, yn hytrach na phlant/pobl ifanc sydd wedi gwneud cais digartrefedd eu hunain.

2. Canfyddiadau rhagarweiniol

Mae'r dadansoddiad hwn yn adlewyrchu plant/pobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd a gafodd eu hasesu gan yr awdurdod lleol ac a ddiffiniwyd yn gyfreithiol fel pobl ddigartref. Dylid nodi bod y diffiniad hwn yn cynnwys aelwydydd mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd digartref, ac felly efallai y bydd gwahaniaethau o ran canlyniadau addysg o fewn y diffiniad o ddigartrefedd a ddefnyddir y gallai'r dadansoddiad hwn eu cuddio. Dim ond y canlyniad addysg cyntaf ar ôl digartrefedd yr adroddir arno.

At ei gilydd, roedd yn bosib nodi data a oedd yn ymwneud ag asesiadau ac arholiadau ar gyfer 971 o blant a phobl ifanc yn dilyn y cais am gymorth trwy gysylltu'r data digartrefedd a chyrhaeddiad addysg.

Mae Tabl 1 yn darparu trosolwg o gyfran y plant sy'n cyflawni'r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer y meysydd pwnc craidd ar bob lefel. Ar gyfer y cyfnod sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4, gelwir y canlyniadau disgwyliedig yn ddangosydd y cyfnod sylfaen a dangosydd y pwnc craidd. Er mwyn darparu cyd-destun ar gyfer canlyniadau addysg y grŵp digartref, mae Tabl 1 yn cynnwys y canlyniadau cenedlaethol ar gyfer cyfnod sylfaen 1 hyd at Gyfnod Allweddol 4, wedi'u rhannu â statws Prydau Ysgol am Ddim (FSM). Dim ond ar gyfer blynyddoedd sengl y mae data cenedlaethol ar gael, ac mae'r garfan ddigartref yn ymwneud â'r cyfnod asesu cyfan (2012 i 2016). Felly, nid yw cymariaethau uniongyrchol yn bosibl a dangosir y data at ddibenion eglurhaol yn unig. Mae'r golofn ychwanegol yn cynnwys canlyniadau ar gyfer grŵp digartref am y cyfnod cyfun 2012-2016.

Mae nifer o astudiaethau eraill ar effeithiau digartrefedd ar agweddau ar addysg, pob un ohonynt o'r Unol Daleithiau[1], wedi defnyddio cymhwysedd ar gyfer FSM fel dirprwy ar gyfer tlodi. Yna defnyddiwyd hwn wrth greu grwpiau cymharu gyda phobl ifanc ddigartref. Cymerir bod statws cymhwysedd am FSM yn y data addysg yng Nghymru yn fesur digonol, yn hytrach nag yn fesur perffaith o anfantais economaidd-gymdeithasol[2]. Yn ogystal, dyma'r unig ddirprwy ar gyfer anfantais economaidd-gymdeithasol ar lefel unigol sydd ar gael o fewn y set ddata addysg.

Fel y dangosir yn Nhabl 1, ymddengys fod cyfran y garfan ddigartref a gyflawnodd y gofynion pwnc craidd ar bob un o'r gwahanol lefelau yn debycach i ganlyniadau myfyrwyr sy'n gymwys am FSM na'r rhai nad ydynt yn gymwys i gael FSM. Gallai'r canfyddiad y gallai fod gan fyfyrwyr FSM a myfyrwyr digartref lefelau cyrhaeddiad tebyg adlewyrchu'r cysylltiadau rhwng digartrefedd a thlodi, a/neu fod myfyrwyr a oedd yn ddigartref hefyd felly'n gymwys i gael FSM. Mae i ba raddau yr oedd y garfan ddigartref yn gymwys i gael FSM yn rhywbeth a fydd yn cael ei archwilio mewn dadansoddiad yn y dyfodol.

Tabl 1: Canran y myfyrwyr sy'n cyflawni dangosydd cyfnod sylfaen a dangosydd pwnc craidd (CSI) ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 i 4, yn ôl cymhwysedd prydau bwyd ysgol am ddim a blwyddyn yr asesiad a'r arholiad
  Blwyddyn yr asesiad a'r arholiad Garfan ddigartref 
  2012 2013 2014 2015 2016 2012 i 2016
Dangosydd cyfnod sylfaen            
Cymwys i gael prydau ysgol am ddim 66 69 72 75 76 -
Ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 85 87 89 90 90 -
Pob disgybl 80 83 85 87 87 74
Cyfnod Allweddol 2            
Cymwys i gael prydau ysgol am ddim 67 70 72 75 77 -
Ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 87 88 90 91 91 -
Pob disgybl 83 84 86 88 89 78
Cyfnod Allweddol 3            
Cymwys i gael prydau ysgol am ddim 48 54 61 66 69 -
Ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 78 82 86 88 90 -
Pob disgybl 73 77 81 84 86 64
Cyfnod Allweddol 4            
Cymwys i gael prydau ysgol am ddim 22 23 27 29 33 -
Ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 55 55 59 61 64 -
Pob disgybl 49 49 53 55 58 35

Ffynhonnell: Casgliad data asesiadau athrawon cenedlaethol a PLASC, Llywodraeth Cymru

[1] Brumley, B. et al. (2015) The unique relations between early homelessness and educational well-being: An empirical test of the Continuum of Risk Hypothesis. Children and Youth Services Review. 48:31-37Canfield, J.P. et al. (2016) Using a Person-Centre Approach to Examine the Impact of Homelessness on School Absences. 33:199-205; Deck, S.M. (2017) School outcomes for homeless children: difference among sheltered, doubled-up, and poor, housed children. Journal of Children and Poverty. 23(1): 57-77

[2] Taylor, C. (2018) The Reliability of Free School Meal Eligibility as a Measure of Socio-Economic Disadvantage: Evidence from the Millennium Cohort Study in Wales. British Journal of Educational Studies. 66(1): 29-51

3. Trosolwg o fethodoleg

Fe wnaeth yr ymchwil hon gysylltu tair set ddata weinyddol arwahanol a gedwir yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).

  1. Data digartrefedd statudol o Ddinas a Sir Abertawe
  2. Data cyrhaeddiad addysg (Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion a Chasglu Data Cenedlaethol)
  3. Gwasanaeth Demograffig Cymru (WDS)

Mae'r data digartrefedd a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon yn ymwneud â cheisiadau, neu 'achosion', a wnaed gan oedolion sy'n ceisio cymorth o dan ddeddfwriaeth ddigartrefedd. Yn yr astudiaeth hon, diffinnir oedolyn fel unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn. Mae'r dadansoddiad hwn yn ymwneud â phlant a phobl ifanc mewn aelwydydd digartref, yn hytrach na phlant a phobl ifanc sydd wedi gwneud cais digartrefedd eu hunain.

Roedd y data a oedd ar gael i'w ddadansoddi ar y dechrau yn ymwneud â'r holl asesiadau o dan ddeddfwriaeth dai Cymru lle daeth yr achos am gymorth i ben rhwng Ionawr 2012 a Mawrth 2017. Roedd hyn yn cyfateb ag 16,971 o achosion neu geisiadau o dan ddeddfwriaeth ddigartrefedd i'r awdurdod lleol.

Un o heriau allweddol yr astudiaeth oedd bod y data digartrefedd statudol ar gael i'r prosiect hwn yn ymwneud ag ymgeiswyr 'mewn oed' am gymorth yn unig. Mae hyn yn broblemus o ystyried yr angen i nodi canlyniadau addysg plant. Defnyddiwyd data dienw o'r WDS i nodi plant sy'n byw mewn aelwydydd digartref.

Mae'r WDS yn darparu hanes o breswylfeydd lle mae unigolyn wedi cofrestru fel un sy'n byw yno, wedi'i ddiweddaru bob tro maent yn cofrestru â Meddyg Teulu yng Nghymru, neu'n newid eu cyfeiriad gyda'u Feddyg Teulu. Gellir defnyddio'r WDS i nodi plant a phobl ifanc sy'n byw gydag ymgeisydd sydd mewn oed ar ddyddiad y cais am gymorth digartrefedd.

Fodd bynnag, yn hytrach na chymryd yr holl blant a phobl ifanc y nodwyd eu bod yn ‘gyd-breswylio’ ag ymgeisydd digartref, dim ond y rhai a gofrestrodd neu a ddadgofrestrodd o gyfeiriad ar yr un dyddiad â’r prif ymgeisydd y cafodd eu cynnwys. Y dybiaeth oedd bod yr unigolion hyn yn cael rhyw fath o gysylltiad, yn fwy felly na dim ond yn byw yn yr un cartref. Fe wnaeth y cyfyngiad hwn ar bwy yr ystyriwyd ei fod yn gyd-breswylio wella cywirdeb y dull ar gyfer nodi plant a phobl ifanc sy'n gysylltiedig ag achos. Fel mesur terfynol i sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc wedi'u nodi'n gywir fel pobl ddigartref, fe wnaethom gadw plant sy'n byw mewn aelwydydd dim ond lle roedd data awdurdodau lleol hefyd yn dangos bod yr aelwyd yn cynnwys dibynyddion.

Roedd y sampl olaf, ar ôl glanhau a phrosesu data, yn cynnwys 2,099 o achosion. O'u cymharu â'r boblogaeth wreiddiol o achosion, nodwyd 44% o achosion gyda dibynyddion yn llwyddiannus trwy'r dull data gweinyddol. Er bod maint y sampl wedi'i leihau, mae'r mesurau a gymerwyd i sicrhau bod plant digartref yn cael eu nodi'n gywir yn cyfyngu ar unrhyw faterion dilysrwydd a ddaw o gynnwys plant a phobl ifanc nad ydynt yn ddigartref yn y grŵp digartref.

Tynnwyd y canlyniadau addysg ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hyn ar gyfer y cyfnod 2012 i 2016 o'r data addysg a gedwir yng Nghronfa Ddata SAIL. Wrth i asesiadau cyfnod sylfaen ddisodli Cyfnod Allweddol 1 yn 2011/12, defnyddiwyd y cyfnod amser o 2012 ymlaen. Gostyngodd hyn yr angen i ystyried y newidiadau mewn asesiadau yn 6-7 oed.  Roedd y data addysg a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod sylfaen, hyd at ac yn cynnwys Cyfnod Allweddol 4 (neu TGAU), ac felly roedd yn cwmpasu'r cyfnod addysg orfodol.

4. Crynodeb

Yn y Deyrnas Unedig, prin yw'r dystiolaeth feintiol o'r cysylltiadau rhwng addysg a digartrefedd; fe ddaw mewnwelediad yn bennaf o samplau ansoddol bach o brofiadau aelwydydd digartref.

Fe wnaeth yr astudiaeth hon ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig i ddechrau archwilio cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd digartref.

Mae gan ddadansoddiad rhagarweiniol y potensial i ddangos yr ymddengys fod cyrhaeddiad yn ôl y canlyniadau disgwyliedig yn y meysydd dysgu craidd ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd digartref yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, mae eu cyflawniadau o bosibl yn unol â phobl ifanc sy'n gymwys i gael FSM. Ystyrir y canfyddiad hwn mewn dadansoddiad pellach.

Mae'r prosiect hwn yn gwneud cyfraniad methodolegol wrth ddarparu dull ar gyfer nodi plant a phobl ifanc mewn aelwydydd digartref lle mai dim ond y pennaeth mewn oed sy'n cael ei gofnodi. Er bod y fethodoleg hon yn ddull pragmatig at ddibenion dadansoddol, mae'r defnydd o ddulliau anuniongyrchol o gyfleu strwythur aelwydydd a nodi deiliaid tai eraill ymhell o fod yn berffaith. Mae hyn yn arbennig o wir at ddibenion asesu graddfa digartrefedd yng Nghymru yn gywir.

Prif argymhelliad yr adroddiad hwn yw annog darparwyr gwasanaeth, os nad ydynt yn gwneud hynny eisoes, i gasglu data personol ar holl aelodau'r aelwyd. Mae cael data personol ar bob deiliad tŷ yn cynnig buddion ymarferol, o ran galluogi gwasanaethau i nodi pobl sy'n dychwelyd atynt, yn ogystal ag agor y potensial ar gyfer ymchwil ym maes cysylltu data. Hyd nes y bydd gwasanaethau digartrefedd yn cofnodi data ar holl aelodau'r aelwyd, bydd y datblygiad methodolegol hwn yn allweddol i unrhyw ymchwil i gysylltu data digartrefedd yn y dyfodol.

5. Datganiadau'r dyfodol

Cefnogwyd yr adroddiad hwn gan arian o Gronfa Atal Digartrefedd Llywodraeth Cymru.

Mae dau brosiect arall ar y gweill ym maes addysg a digartrefedd; mae'r cyntaf yn adeiladu'n uniongyrchol ar yr astudiaeth archwiliadol i gymharu cyrhaeddiad addysg pobl ifanc â llety (difreintiedig/heb fod yn ddifreintiedig) a phobl ifanc ddigartref. Bydd yr ail brosiect yn archwilio gwahaniaethau mewn patrymau absenoldeb rhwng pobl ifanc â llety a'r rhai ddigartref. Mae hyn o ddiddordeb oherwydd bod corff mawr o dystiolaeth sy'n rhyngwladol yn bennaf sydd yn awgrymu bod digartrefedd yn gysylltiedig ag ymddieithrio o ysgolion, gan gynnwys absenoldeb.  Felly, efallai y bydd yn bosibl i'r ysgol weithredu fel safle atal cynnar ac fel lleoliad i weithio gyda theuluoedd sy'n profi ansicrwydd tai.

6. Cydnabyddiaethau

Fe wnaed y gwaith hwn gan Dr Ian Thomas a Dr Pete Mackie yn WISERD, fel rhan o gorff gwaith tai a digartrefedd Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru.

Mae YDG Cymru yn rhan o ADR UK a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac ArloesI y DU).

5. Manylion cyswllt

Kathryn Helliwell
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ADRUWales@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
YDG Cymru

 

Image
GSR logo

Rhif ymchwil gymdeithasol: 54/2020