Rydym wedi cynnig cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru.
Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig ble ceir nifer o bobl. Mae goleuadau stryd arnynt yn aml, heb fod yn fwy na 200 lath ar wahân.
Fe wnaethom y newid hwn i:
- leihau nifer y gwrthdrawiadau a’r niwed difrifol o ganlyniad iddynt (gan hefyd leihau’r effaith ar y GIG o drin pobl sydd wedi’u niweidio)
- annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
- helpu i wella ein iechyd a’n lles
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
- diogelu yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Cymru fydd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd, a’r wlad gyntaf yn y DU, i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd ble mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.
Beth wnaethom ni
Fe wnaethom weithio gydag awdurdodau priffyrdd, Asiantiaid Cefnffyrdd, sy’n gweithredu'r rhwydwaith ffyrdd strategol, ac awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am ffyrdd gwledig.
Nid yw pob ffordd sydd â therfyn cyflymder 30mya ar hyn o bryd yn addas i’w newid i 20mya. Gelwir y ffyrdd hyn yn eithriadau. Gwnaeth yr Awdurdodau Lleol ystyried pa ffyrdd ddylai aros ar gyflymder o 30mya. Bydd arwyddion 30mya yn eu lle i ddweud hyn wrthych.
Mae map ar DataMapCymru yn dangos pa ffyrdd a fydd yn aros ar 30mya.
Rhaid i bob awdurdod priffyrdd ddilyn y broses statudol ar gyfer Gorchmynion Rheoli Traffig i wneud eithriadau.
Effeithiau cynnar
Cafodd wyth cymuned eu dewis fel aneddiadau cam cyntaf i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya:
- Llandudoch, Sir Benfro
- Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
- Sant-y-brid, Bro Morgannwg
- Canol Gogledd Caerdydd
- Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
- Y Fenni, Sir Fynwy
- Glan Hafren, Sir Fynwy
- Bwcle, Sir y Fflint
Cewch ddarllen yr adroddiad monitro cyntaf sy'n manylu ar rai o'r effeithiau y mae cyflwyno 20mya wedi'u cael yn y cymunedau hyn. Mae'r cyflymder cyffredinol wedi lleihau yn yr ardaloedd hyn.