Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni (Awdurdod Cyllid Cymru) wedi'u derbyn erbyn 19 Ebrill 2021.

Mae Ffigur 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2021
     
  • y newid o ran canran yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 (a wnaed ym mis Ebrill 2020)

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn adran 1 y datganiad hwn (‘Cymariaethau â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt’).

Image
Mae Ffigur 1. yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid o ran % o’r amcangyfrif blaenorol flwyddyn ynghynt. Dangosir y gwerthoedd hyn ar gyfer Ionawr i Mawrth 2021, ynghyd â dadansoddiad yn ôl y math o drafodiad.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ers mis Ebrill 2020, cafodd y coronafeirws (COVID-19) effaith ar nifer y trafodiadau eiddo a threth oedd yn ddyledus. Mae hyn yn wir ar gyfer trafodiadau preswyl a rhai amhreswyl.

Gan gymharu Ionawr i Fawrth 2021 gyda’r un cyfnod tri-mis yn 2020:

  • cynyddodd trafodiadau preswyl a threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 26% a 54% yn y drefn honno
     
  • cynyddodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 13%
     
  • bu gostyngiad bach mewn trafodiadau anhreswyl, i lawr 2%. Cynyddodd y dreth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 25%

Rhan o'r rheswm dros y cynnydd mewn trafodiadau preswyl yw adferiad rhannol mewn gweithgaredd yn dilyn y gostyngiadau yn rhan gynharach y flwyddyn oherwydd coronafeirws (COVID-19). Yn ystod Ionawr i Fawrth 2021, digwyddodd y nifer uchaf erioed o drafodiadau, a arweiniodd hefyd at y refeniw uchaf erioed, gyda'r ffigurau misol uchaf erioed yn ystod mis Mawrth, o gryn dipyn.

Mae hyn wedi adeiladu ar yr adferiad cyffredinol yn nifer y trafodiadau’n dilyn y cwymp sydyn cychwynnol ar ddechrau'r flwyddyn oherwydd cyfnod clo Covid-19. Byddai ffigurau dros dro ar gyfer y flwyddyn bellach yn dangos bod effaith gyffredinol Covid-19 dros 2020-21 wedi bod yn gymharol fach, gyda diffyg cyffredinol o tua 13% yn nifer y trafodiadau o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Er bod adferiad mwy i’w weld yn ystod y flwyddyn mewn trafodiadau preswyl cyfraddau uwch (a'r refeniw ychwanegol o'r rhain) nag ar gyfer pob trafodiad preswyl, mae hyn wedi gwastadu dros y chwarter diweddaraf. Yn y chwarter diweddaraf, mae trafodiadau prif gyfraddau wedi cael mwy o ddylanwad, gyda'r gymhariaeth yn cael ei heffeithio'n rhannol gan nifer fwy na'r arfer o drafodiadau cyfraddau uwch yn gynnar yn 2020.

Cafodd y codiadau preswyl uchod eu hachosi'n rhannol gan gynnydd mewn trafodiadau ond hefyd gan gynnydd yng ngwerth y trafodiadau hynny. Mae hyn yn fwy na gwrthbwyso’r gostyngiad dros dro mewn cyfraddau a gafodd effaith ar refeniw prif gyfraddau (gweler effeithiau coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir). Mae hyn hefyd yn cael yr effaith o wyro mwy o'r cynnydd tuag at y refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch a gaiff ei egluro'n fanylach yn nes ymlaen.

Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir

Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod 2020-21. Felly mae'n effeithio ar y cymariaethau a wnaed rhwng y cyfnod hwn a'r un cyfnod yn 2019-20.

Arweiniodd y cyfnod clo cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar y dyddiad hwn, sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Er y bu mwy o gyfyngiadau lleol ers hynny a chyfnod clo cenedlaethol yn ystod y cyfnod yr adroddwyd arno yn y datganiad hwn, fe ymddengys na chafodd y rhain unrhyw effaith ar nifer y trafodiadau.

Daeth newidiadau pellach i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir i rym o 22 Rhagfyr 2020. Mae’r newidiadau hyn wedi ei gwneud hi’n angenrheidiol golygu Tabl 4 gan gyflwyno rhaniad mwy manwl o fandiau treth gwerth is. Mae hyn wedi ein galluogi i gywiro mater yn y datganiad blaenorol, a datganiadau data-yn-unig dilynol, lle roedd nifer fach o drafodiadau gwerth rhwng £150,001 a £225,000 yn ymddangos yn y band blaenorol. Rydym yn amcangyfrif bod hyn oddeutu 80 o drafodiadau dros y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021, sydd bellach yn cael eu dangos yn gywir.

Sylwch y bydd rhai trafodiadau cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl a ddangosir ym mis Rhagfyr 2020 wedi cael eu codi ar y cyfraddau a fodolai cyn 22 Rhagfyr, a rhai ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr. Rydym yn amcangyfrif bod tua 100 o drafodiadau cyfraddau uwch a 10 o drafodiadau amhreswyl ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr.

Nid yw'n bosibl ynysu effaith y newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir oddi wrth yr adferiad cyffredinol sy'n debygol o fod wedi digwydd oherwydd lleddfu cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19). Fodd bynnag, gallwn feintioli’r effaith ar fesul y trafodiad.

Mae’r newid cyntaf yn berthnasol i drafodiadau preswyl ar y brif gyfradd yn unig. Nid oedd newid yn y cyfraddau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfradd uwch a thrafodiadau amhreswyl. Ar gyfer y trafodiadau prif gyfradd hyn, codwyd y trothwy ar gyfer codi cyfraddau Treth Trafodiadau Tir o £180,000 i £250,000, fel bod y dreth ar bob trafodiad sydd â gwerth o £250,000 neu lai yn cael ei gostwng i sero. Er bod y cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ar werth eiddo uwch na £250,000 yn ddigyfnewid, mae'r trafodiadau hynny hefyd yn elwa o'r trothwy uwch ar £250,000 cyntaf eu gwerth. Yn yr achosion hyn, mae Treth Trafodiadau Tir yn cael ei ostwng £2,450 o'i gymharu â'r hyn a fyddai wedi'i godi’n flaenorol.

Cyflwynodd yr ail newid mewn cyfraddau o 22 Rhagfyr 2020 y canlynol:

  • cynnydd o 1% ar draws yr holl fandiau ar gyfer y cyfraddau treth preswyl uwch
     
  • ar gyfer trafodiadau amhreswyl, cynyddodd y band cyfradd sero a godir ar bremiymau lesoedd ac aseiniadau, a throsglwyddiadau eiddo rhydd-ddaliadol o £150,000 i £225,000
     
  • cynyddodd band cyfradd sero y dreth a godir ar elfen rent lesoedd amhreswyl o £150,000 i £225,000

Gellir gweld effaith gyfunol y pandemig coronafeirws a'r newid cyntaf yn y gyfradd yn Ffigur 2.1. Yn dilyn cwymp sydyn i ddechrau ym mis Ebrill a mis Mai 2020, bu adferiad cyson yn nifer y trafodiadau ers hynny. Roedd cyfanswm o 2,130 o drafodiadau preswyl ac amhreswyl mewn grym ym mis Ebrill 2020, a oedd ychydig yn llai na hanner y nifer a welwyd ym mis Ebrill 2019. Gwelodd yr adferiad yn y farchnad eiddo a ddilynodd, drafodiadau preswyl yn cynyddu ond maent yn parhau i fod yn is na lefelau 2019, hyd at ddiwedd Medi 2020. Ers mis Hydref, ac yn enwedig yn rhan olaf 2020-21, mae'r niferoedd wedi bod yn uwch nag yn yr un misoedd mewn blynyddoedd blaenorol, sy'n adlewyrchu'r adferiad y cyfeiriwyd ato uchod.

Yn wahanol i'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, caniatawyd i'r farchnad eiddo barhau i gryn raddau yn ystod y clo byr o bythefnos ddiwedd mis Hydref a’r cyfnod clo arall a gyflwynwyd ar 20 Rhagfyr hyd nawr. Nid yw'r gostyngiad mewn trafodiadau eiddo a welwyd yn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth wedi'i weld i'r un graddau eto yn ystod cyfnodau clo diweddarach.

1. Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud hyn yn bennaf.

Data ar gael dros LTT

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Hefyd, yn flynyddol, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
     
  • etholaeth y Senedd (trafodiadau preswyl yn unig)
     
  • lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (trafodiadau preswyl yn unig)
     
  • ardaloedd adeiledig (trafodiadau preswyl yn unig)

Ar gyfer data ar lefel Cymru, rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae’r diagram ar y dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn esbonio amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mawrth 2021, Ionawr i Fawrth 2021 ac amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Mae rhesymau am hyn yn cynnwys:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
     
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru

Cymhariaethau â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Fodd bynnag, fe ymddengys bod effeithiau Covid-19 a’r adferiad dilynol yn ffactor mwy blaenllaw o fewn y tueddiadau yn 2020-21, Serch hynny, gall fod yn ddefnyddiol cymharu'r cyfnod cyfredol â data am yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Fodd bynnag, yn ein hystadegau misol a chwarterol, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ionawr i Fawrth 2020 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2021 wedi cael ei ddywygio eto. Yn y dyfodol, bydd hefyd rhywfaint o ddiwygiadau am i fyny i werth Ionawr i Fawrth 2021 oherwydd trafodiadau hwyr.

Felly yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • Data Ionawr i Fawrth 2021; ac
     
  • ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 (a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill 2020)

Mae hyn yn caniatáu’r cymariaethau tecaf dros amser. Fodd bynnag, dylid ystyried pob cymhariaeth o ddata 2020-21 yn erbyn data 2019-20 yng ngoleuni effeithiau coronafeirws (COVID-19) a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad
     
  • mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod Ebrill 2019 i Fawrth 2020, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 4% a 5% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ryddhau diweddariad ar gyhoeddi ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru oherwydd coronafeirws (COVID-19). Gwnaethom nodi y byddem, yn ein datganiad ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, yn edrych ar unrhyw effeithiau posibl y coronafeirws (COVID-19) ar ein hystadegau.

Er mwyn deall yr effeithiau ar nifer y trafodiadau, y dreth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn.

Image
Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng Ionawr 2019 a Ebrill 2021. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2021.

Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (MS Excel)

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’17.4’ yn 2021-22 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 17 i 23 Ebrill 2021 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr un wythnos yn 2020-21 yn rhedeg rhwng 18 i 24 Ebrill 2020 (yn gynwysedig).

Sylwch fod Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn.

Roedd y nifer wythnosol o drafodiadau a gyflwynwyd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020 yn amrywio rhwng 40% a 60% o'r nifer a welwyd yn yr un wythnos yn 2019 ac ar gyfartaledd o tua 50% dros y cyfnod cyfan. Ers hynny, bu adferiad o ran trafodiadau, gyda lefelau’n debyg neu'n uwch na'r rhai a welwyd yn y flwyddyn flaenorol o fis Hydref ymlaen.

Image
Mae Ffigur 2.2 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn dod i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Ar ddiwedd 19 Ebrill 2021, derbynion ni fanylion 16,360 o drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym ar gyfer Ionawr i Fawrth 2021. Mae hyn 23% yn uwch na'n hamcangyfrif ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 (a wnaethpwyd ym mis Ebrill 2020 – gweler Ffigur 1.1).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd cynnydd o 26%, cynnydd o 13% a gostyngiad o 2%, yn y drefn honno. Hyd yn hyn, mae coronafirws (COVID-19) wedi cael mwy o effaith ar drafodiadau preswyl nag ar rai amhreswyl. Hyd yma bu mwy o adferiad o ran trafodiadau preswyl cyfraddau uwch nag ar gyfer pob trafodiad preswyl, er fel y dywedwyd eisoes, mae hyn wedi gwastadu rhywfaint yn y chwarter diweddaraf.

Yn Ionawr i Fawrth 2021, roedd 91% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 9% yn rhai amhreswyl. Yn y cyfnod o dri mis blaenorol, roedd trafodiadau preswyl yn gyfran ychydig yn uwch o'r holl drafodiadau (92%).

Image
Mae Ffigur 2.3 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.3 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr

Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd)

Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

Cymhariaethau chwarterol ar sail debyg am debyg

Ac eithrio'r trafodiadau a ddisgrifir uchod, cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ionawr i Fawrth 2021 oedd £79.1 miliwn. Mae gwerth hyn 46% yn fwy na'n hamcangyfrif cyntaf ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 (a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020 – gweler Ffigur 1.1).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth breswyl oedd yn ddyledus, refeniw ychwanegol o dreth breswyl cyfraddau uwch, a threth amhreswyl oedd yn ddyledus oedd cynnydd o 54%, 80%, a 25%, yn y drefn honno.

Cafodd y codiadau preswyl eu hachosi'n rhannol gan y cynnydd mewn trafodiadau ond hefyd gan gynnydd yng ngwerth y trafodiadau hynny, a oedd yn fwy na gwrthbwyso'r gostyngiad dros dro mewn cyfraddau a gafodd effaith ar refeniw prif gyfraddau (gweler ‘'Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’).

Mae'r cynnydd mewn refeniw yn bennaf oherwydd y gyfradd dreth uwch a godwyd ar eiddo prisiau uwch o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Sylwer, bod y cynnydd o 80% mewn refeniw ychwanegol wedi'i chwyddo rhywfaint gan y gostyngiad dros dro yn y prif gyfraddau gan na chymhwyswyd y gostyngiad hwnnw i drafodiadau cyfraddau uwch hefyd. Y canlyniad yw, ers mis Gorffennaf 2020, bod yr holl refeniw o gyfraddau uwch yn cael ei ddosbarthu fel refeniw “ychwanegol”, ond yn yr un cyfnod yn 2019, na fyddai'r elfen “ychwanegol” wedi cynnwys unrhyw elfennau prif gyfraddau.

Er enghraifft, roedd y gydran dreth a oedd yn ddyledus yn y band £180,000 i £250,000 yn flaenorol yn 3% o werth yr eiddo (ar gyfer trafodiadau preswyl prif gyfraddau a oedd mewn grym hyd at 26 Gorffennaf 2020). Rhwng 27 Gorffennaf 2020 a 31 Mehefin 2021, newidiodd hyn i 0%, ond ar gyfer trafodiadau preswyl ar y cyfraddau uwch, roedd y gydran dreth oedd yn ddyledus ar y band hwn yn ddigyfnewid ar 6.5%. Felly, ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae'r holl refeniw yn y band hwn bellach yn cael ei gyfrif fel refeniw ychwanegol.

Yn yr achos hwn, felly mae'n fwy diogel canolbwyntio ar y cynnydd mewn treth ar draws yr holl drafodiadau preswyl wrth wneud y cymariaethau uchod (sef, y ffigur o 54%). Mae’r ffaith fod hyn yn fwy na'r cynnydd yn nifer y trafodiadau (26%) yn dangos bod cymysgedd o nifer a gwerth y trafodiadau hynny ar waith.

Ar gyfer trafodiadau amhreswyl, gallwn weld bod y dreth oedd yn ddyledus ym mis Ionawr i fis Mawrth 2021 i fyny ar y cyfnod cyfatebol yn 2019, er bod nifer y trafodiadau wedi gostwng. Yn flaenorol, awgrymwyd y gallai hyn fod yn ddangosydd y gallai trafodiadau gwerth uwch fod yn adfer yn arafach. Byddai data ar gyfer 6 mis olaf 2020-21 bellach yn awgrymu nad yw hyn yn wir, gyda refeniw cyfartalog trafodiadau’n dychwelyd i'r lefelau a welwyd ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol.

Image
Mae Ffigur 2.4 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y chwarter a’r flwyddyn yr oedd y trafodiadau mewn grym. Mae Ffigur 2.4 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl, a ffigurau ar wahân ar gyfer gwerth rhentu ar gyfer lesoedd amhreswyl a roddwyd o’r newydd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ionawr i Fawrth 2021 oedd £3.9 biliwn, yn fwy na’r £2.6 biliwn a welwyd yn Ionawr i Fawrth 2019. Mae hyn yn gyson â'r cynnydd mewn trafodiadau preswyl ond hefyd gyda chynnydd yng ngwerth y trafodiadau hynny (a ddisgrifir o dan Ffigur 2.3). Mae adran 3 y datganiad hwn yn disgrifio tueddiadau mewn trafodiadau preswyl a’r dreth sy'n ddyledus yn ôl gwerth.

Ar wahân i hynny, yn Ionawr i Fawrth 2021, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £380 miliwn. Roedd y ffigur cyfatebol yn Ionawr i Fawrth 2019 yn £293 miliwn.

Image
Mae Ffigur 2.5 yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2021, ar gyfer trafodiadau preswyl a amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Data preswyl 2019-20

Roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn rhai misoedd, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn ein datganiad ystadegol blynyddol yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Data preswyl 2020-21

Yn dilyn dyfodiad coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020, gostyngodd nifer misol y trafodiadau preswyl yn sylweddol ym mis Ebrill. Ers hynny, mae wedi adfer yn raddol, gan godi uwchlaw'r niferoedd a welwyd yn y flwyddyn flaenorol rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr. Ym mis Ionawr 2021 gostyngodd y niferoedd ond ers hynny maent wedi codi eto yn uwch na'r niferoedd a welwyd yn y flwyddyn flaenorol. O fewn y nifer hwn, mae trafodiadau preswyl cyfradd uwch wedi adfer i raddau mwy, er fel y dywedwyd eisoes, mae hyn wedi gwastadu rhywfaint yn y chwarter diweddaraf.

Amrheswyl

Ym mis Mawrth 2020 a Mawrth 2021, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Gellir disgwyl hyn, gan ei bod yn gyffredin i lesoedd amhreswyl gael eu hadnewyddu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae’n fwy anodd gweld effaith coronafirws mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer is o drafodiadau’n gyffredinol, a hefyd bod nifer y trafodiadau wedi dal ei dir yn well na nifer y trafodiadau preswyl.

Image
Mae Ffigur 2.6a yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2021, ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y gwelir yn nifer misol y trafodiadau, er y bu adferiad hyd yn oed yn fwy mewn refeniw ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch nag ar gyfer pob trafodiad preswyl yn 2020-21. Ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2020, roedd y refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl uwch wedi adfer i gryn dipyn yn uwch na'r lefel a welwyd yn yr un misoedd yn 2019, er y bydd yn lleihau ychydig wrth i ad-daliadau sydd heb gael eu hawlio eto, gael eu prosesu. Yn ystod y 3 mis diweddaraf, mae refeniw preswyl wedi parhau i godi i'r lefelau uchaf erioed, gyda dylanwad trafodiadau prif gyfraddau’n cynyddu o'i gymharu â chwarteri blaenorol.

Mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol. Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Image
Mae Ffigur 2.6b yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2021, ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd refeniw amhreswyl yn gyson ym mis Ebrill 2020, oherwydd nifer fach o drafodiadau mawr ym mis Ebrill. Roedd refeniw amhreswyl yn disgyn i'r lefel isaf a welwyd hyd yma ym mis Mai 2020 (£1.5 miliwn), cyn gwella'n gyffredinol yng ngweddill 2020. Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2021, mae refeniw wedi cynyddu uwchlaw'r lefelau a welwyd yn 2019.

Image
Mae Ffigur 2.7 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd, ar gyfer Hydref i Fawrth 2021. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn ystod Ionawr i Fawrth 2021 yn £3.9 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd y mwyafrif o’r trafodiadau hyn yn gysylltiedig â thrawsgludo neu drosglwyddo perchnogaeth. Roedd y ffigur hwn yn 95% ar gyfer trafodiadau preswyl a 72% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Rhoddwyd les newydd mewn 25% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 1% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer cyfnodau o dri mis a blynyddoedd blaenorol.

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Image
Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a’r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.
Image
Mae Ffigur 3.2 yn dangos y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Er gwaethaf effaith Covid-19, a'r adferiad y cyfeiriwyd ato’n flaenorol, mae tueddiadau tymhorol i’w gweld yn nifer y trafodiadau o hyd, gyda'r mwyafrif o'r bandiau treth yn dangos gostyngiad ym mis Ionawr i fis Mawrth (o'i gymharu â'r Hydref i Ragfyr blaenorol). Mae tueddiadau tymhorol mewn refeniw yn fwy cymhleth, gan fod effeithiau coronafirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol i lawer o 2020-21. Er mwyn deall y tueddiadau hyn, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn.

Mae'r ansefydlogrwydd mwyaf yn y tueddiadau wrth ystyried y dreth sy'n ddyledus ar eiddo yn y bandiau gwerth uchaf. Ar gyfer eiddo a brynwyd am fwy na £400,000, y dreth oedd yn ddyledus rhwng Ionawr a Mawrth 2021 oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Achosir y tueddiadau diweddar hyn gan gyfuniad o gynnydd yn nifer y trafodiadau, a gwerth y trafodiadau hynny.

Yn ogystal, mae gostyngiad yng ngwerth gyfartalog y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad rhwng £180,000 a £250,000 yn y chwarteri diweddaraf. Mae hyn oherwydd y gostyngiad dros dro yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau preswyl prif gyfradd a gyflwynwyd ar 27 Gorffennaf 2020, er gwaethaf y cynnydd yn yr elfen gyfraddau uwch o’r Dreth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar 22 Rhagfyr 2020.

Image
Mae Ffigur 3.3 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ionawr i Mawrth 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Yn Ionawr i Fawrth 2021, roedd 51% o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000 yn 0%, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am 17% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.

Roedd yr 20% o drafodiadau yn yr ail fand treth (pris prynu £180,001 i £250,000) i gyfrif am gyfran is o'r dreth oedd yn ddyledus (9%) na'r hyn a welwyd mewn chwarteri cynharach (tua 15% yn flaenorol). Byddai disgwyl yr effaith hon oherwydd y newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar 27 Gorffennaf 2020.

Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 8% o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am 48% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, y gyfran uchaf hyd yn hyn.

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Image
Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.
Image
Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau ym mhob band gwerth wedi gostwng i'r gwerthoedd chwarterol isaf a welwyd hyd yma ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020, cyn adfer rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2020, a gwastadu yn y chwarter diweddaraf. Er mwyn deall y tueddiadau hyn, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar 27 Gorffennaf 2020’ y datganiad hwn.

Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 70% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob cyfnod o dri mis, mae tua 10% i 30% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl.

Image
Mae Ffigur 4.3 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ionawr i Mawrth 2021.
Image
Mae Ffigur 4.4 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ionawr i March 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Mae Ffigur 4.3 yn dangos yn Ionawr i Fawrth 2021, 6% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 68% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 23% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 15% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

5. Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • I sero, a elwir yn rhyddhad llawn
     
  • Neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol
Image
Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Roedd 340 o drafodiadau yn Ionawr i Fawrth 2021 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na'r chwarter blaenorol. Roedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yma yn 160 a 250 trafodiadau a ryddhawyd yn Ebrill i Fehefin 2020 a Gorffennaf i Fedi 2020. Mae'r effeithiau hyn yn gyson â thueddiadau diweddar yn niferoedd y trafodiadau yn eu cyfanrwydd a dylid eu darllen yng nghyd-destun yr adran gynharach ar effaith y coronafeirws (COVID-19) ar lefelau trafodiadau o fis Ebrill 2020 a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir.

Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 120 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth.

Er enghraifft, mae rhai o'r rhain rhyddhadau a hawliwyd drwy gamgymeriad yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Image
Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Ar gyfer pob cyfnod o dri mis, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Mae gwerth y rhyddhadau a hawlir ym mhob cyfnod o dri mis wedi amrywio'n sylweddol dros amser, ynghyd â chyfran y gwerth o drafodiadau preswyl neu amhreswyl. Ym mhob cyfnod o dri mis, trafodiadau amhreswyl gyfranodd dros 50% i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd.

Fodd bynnag, cyfrannodd sawl trafodiad preswyl mawr yn Ebrill i Fehefin 2019 a Hydref i Ragfyr 2020 at y ffaith bod ryddhadau preswyl yn sylweddol fwy na rhyddhadau amhreswyl yn y cyfnod hwn.

Mae rhagor o ddata ar ryddhadau ar gael ar StatsCymru drwy'r ddolen uchod, gan gynnwys data chwarterol yn ôl math o ryddhad.

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Image
Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl chwarter yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 19 Ebrill 2021.

(heb ei ddangos yn Ffigur 6.1) Yn ngronnol, roedd 3,860 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym ers Ebrill 2018, gyda £32.1 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd yr holl gwerthoedd yn Ffigur 6.1 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2021 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl, yn ôl dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad

Ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch yw defnyddio'r dyddiad pan gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo gan Awdurdod Cyllid Cymru. Gellir gweld set ddata sy'n defnyddio'r dyddiadau hyn a dyddiad dod i rym y trafodiad gwreiddiol ar wefan StatsCymru ar y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

7. Treth a dalwyd

Image
Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod, ar gyfer Ebrill 2018 i Marwth2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Mae'r data hyn ar taliadau Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd yn wahanol i rai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i dablau cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018 gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.

Ac eithrio trafodiad prif llinellau’r cymoedd (a disgrifir o dan Ffigur 2.3):

Atodiad A: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn edrych yma ar effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Ionawr 2021. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 19 Chwefror 2021, yr ail amcangyfrif ar 19 Mawrth 2021 a'r trydydd amcangyfrif ar 29 Ebrill 2021.

Image
Mae Ffigur A1 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn nifer y trafodiadau a'r newid yn y dreth oedd yn ddyledus.

Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (MS Excel)

Mae Ffigur A1 yn dangos bod lefelau uwch o adolygiadau i’w gweld yn gyffredinol yn y misoedd cynharaf y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu Treth Trafodiadau Tir. Felly y mae pethau, yn arbennig ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar drafodiadau sydd â’r dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018, pan roedd 30% o gynnydd yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus (o’r amcangyfrif cyntaf i’r ail amcangyfrif am y mis). Disgwylid diwygio ym mis Ebrill 2018 oherwydd byddai defnyddwyr yn llai cyfarwydd â’r system, a hefyd oherwydd bod dyddiad terfynol cynharach wedi cael ei ddefnyddio yn y mis canlynol i echdynnu’r data.

Nevertheless, the 30% figure for April 2018 in terms of tax due is considerably higher than the equivalent figure for the number of transactions (11%). It is explained by a few larger transactions with an effective date late in April 2018 that were not reported to WRA until later in May 2018 (before the 30 day filing limit, but after the cut-off date for the April publication).

Fodd bynnag, mae’r ffigwr ar gyfer Ebrill 2018 o 30% yn y dreth sy’n ddyledus lawer yn uwch na’r ffigwr cyfatebol yn nifer y trafodiadau (11%). Yr esboniad yw nad oedd Awdurdod Cyllid Cymru wedi cael gwybod am rai trafodiadau mawr, sydd â dyddiad dod i rym yn hwyr ym mis Ebrill 2018, tan yn ddiweddarach ym mis Mai (cyn y terfyn llenwi, sef 30 diwrnod, ond ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer eu cyhoeddi ym mis Ebrill).

Mae Ffigur A1 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Hydref 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod rhwng 0 a 5%. Yr eithriadau diweddar oedd:

  • mis Mehefin 2019 pan oedd y dreth yn ddyledus i fyny 9% rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif
     
  • mis Medi 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 16%)
     
  • mis Ionawr 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 27%)
  • mis Mawrth 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 6%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data. Er i ni weld diwygiadau uwch ar gyfer amcangyfrifon Gorffennaf 2018 na’r misoedd o’i gwmpas, nid ydym yn gweld unrhyw debygrwydd amlwg yn y data ar gyfer 2019. Mae effeithiau coronafirws (COVID-19) wedi effeithio’n sylweddol ar ddata 2020-21. Felly bydd angen gwerth blwyddyn arall o ddata arnom er mwyn asesu unrhyw ddiwygiadau o ran effeithiau tymhorol.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau 1 a 2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Rydym yn dadansoddi ad-daliadau yn adran 6 o'r datganiad ystadegol hwn.

Yn y dyfodol, gallen ni fod yn ystyried cymhwyso ffactor grosio i amcangyfrifon cyntaf mis. Gallai hyn fod yn gymorth i ostwng nifer y diwygiadau sydd eu hangen ar amcangyfrif cyntaf y mis. Gan fod y data’n ymddangos yn anwadal hyd yma, mae’n debygol y bydd angen i ni gael sawl blwyddyn o ddata Treth Trafodiadau Tir i gyfrifo ffactorau grosio priodol.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Adam Al-Nuaimi

Rhif ffôn: 03000 254 670

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Logo Awdurdod Cyllid Cymru