Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni (Awdurdod Cyllid Cymru) wedi'u derbyn erbyn 15 Mehefin 2020.

Mae Ffigur 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon o’r data blynyddol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020
     
  • y newid o ran canran ar gyfer y rhifau pennawd hyn yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (a wnaed ym mis Mehefin 2019).

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn Adran 1 y datganiad hwn (‘Cymariaethau â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt’).

Trafodiadau annodweddiadol o fawr

Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Trafodiadau gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd)

Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

Cymhariaethau blynyddol ar sail debyg am debyg

Fodd bynnag, ac eithrio'r trafodiadau hyn, cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus am Ebrill 2019 i Fawrth 2020 oedd £234.4 miliwn. Er mwyn cymharu â chyfnodau cynharach ac yn ôl math o drafodiad ar sail debyg am debyg, dyma’r gwerth a ddefnyddir gennym (gweler Ffigur 2.3).

Er gwaethaf cwymp bach yn nifer y trafodiadau yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol), bu cynnydd o 3% ar sail tebyg at ei debyg. Mae hyn yn bennaf oherwydd:

  • cynnydd yng ngwerth eiddo preswyl a'r dreth gysylltiedig sy'n ddyledus ar bob trafodiad
     
  • cynnydd yn y nifer o drafodiadau sy'n talu'r cyfraddau uwch o dreth breswyl

Ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020, codwyd £63.9 miliwn o refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfraddau uwch. Mae hyn 8% yn uwch na'n hamcangyfrif cyfwerth ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019).

Effaith coronafirws (COVID-19) ar yr ystadegau hyn

Mae'r argyfwng coronafirws (COVID-19) wedi cael effaith ar y ffigurau hyn (hyd at Mawrth 2020), ond effaith bach ydyw. Dangosir mwy o fanylion am hyn yn Ffigur 2.1 yn adran 2 y datganiad hwn.

Dadansoddiad o fewn Cymru

Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 yn ôl awdurdod lleol yn dangos:

  • ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£6,770). Ar gyfer trafodiadau amhreswyl, roedd y ffigur hwn ar ei uchaf yng Nghaerdydd (£29,020).
     
  • ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad ar ei uchaf yn Sir Fynwy (£282,200) ac ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£102,200).
     
  • roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio rhwng 16% yn Nhorfaen a 38% yng Ngwynedd.

Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
     
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
     
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
     
  • cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Am y tro cyntaf, mae adran 9 o’r datganiad hwn yn dadansoddi ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl lefel yr amddifadedd. Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein hail ystadegau blynyddol ar gyfer y dreth trafodiadau tir. Rydym yn cyflwyno dadansoddiad o fewn Cymru, gan gynnwys fesul awdurdod lleol, etholaeth y Senedd, ac yn ôl lefel amddifadedd.

Mae Ffigur 1.1 uchod yn dangos amcangyfrifon diwygiedig o’r data blynyddol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Mae'r rhain yn dangos cynnydd cyffredinol mewn treth sy'n ddyledus o’i gymharu â blwyddyn ynghynt, er bod niferoedd y trafodiadau’n weddol sefydlog.

Derbyniwyd y mwyafrif o drafodiadau cyn i’r coronafirws (COVID-19) gydio, felly mae unrhyw effaith ar yr ystadegau hyn yn fach.

Yn y datganiad hwn, rydym hefyd yn cyflwyno treth sy’n ddyledus ar drafodiadau a ddaeth i rym hyd at ddiwedd mis Mai 2020, a nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd (hyd at yr wythnos yn dechrau 27 Mehefin).

  • Roedd y dreth breswyl a oedd yn ddyledus ym mis Ebrill a mis Mai 2020 yn llai na hanner yr hyn a welwyd ym mis Ebrill a mis Mai 2019, yn y drefn honno.
     
  • Roedd y dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus yn gyson ym mis Ebrill 2020 cyn disgyn i'w lefel isaf erioed ym mis Mai 2020.
     
  • Mae nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i ACC wedi codi'n raddol o'r isafbwynt ym mis Ebrill, hyd at ddiwedd mis Mehefin - ond mae'n parhau i fod yn sylweddol is na'r cyfartaledd tymor hir.

Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn y datganiadau data’n unig hyn. A byddwn yn rhoi sylwadau manylach yn ein datganiad chwarterol nesaf ar gyfer Ebrill i Fawrth 2020, i'w gyhoeddi ar 30 Gorffennaf.

1. Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyniad o Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl  y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud hyn yn bennaf.

Data ar gael dros LTT

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Ar y cyd â'r datganiad blynyddol hwn, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
     
  • etholaeth y Senedd (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
     
  • lefel yr amddifadedd, gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
     
  • ardaloedd adeiledig (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)

Rydym yn darparu dolenni i’r setiau data StatsCymru perthnasol drwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae’r diagram ar y dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn esbonio amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mai 2020 a amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Bydd hyn, yn fwyaf arbennig, oherwydd bod:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
     
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru.
     
  • ffurflenni treth papur heb eu casglu ers diwedd mis Mawrth 2020. Mae hyn oherwydd coronafirws (COVID-19) ac nad yw ein hystafell bost yn hygyrch. Rydym yn disgwyl y bydd nifer fehan o ffurflenni’n ymwneud ag Ebrill 2019 i Fawrth 2020 nad ydym wedi'u derbyn eto, ond disgwyliwn i'r rhain fod yn drafodiadau gwerth isel. Mae cymhelliant i'r prynwr gyflwyno trafodiadau’n ddigidol er mwyn cael y dystysgrif Treth Trafodiadau Tir (prawf o gyflwyno), yn enwedig ar gyfer trafodiadau mwy.

Cymhariaethau â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Gwelir yr effeithiau hyn hefyd yn lefelau'r trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus. Felly, gall fod o gymorth cymharu'r cyfnod cyfredol â data am yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Fodd bynnag, yn ein hystadegau misol a chwarterol, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ebrill 2018 i Fawrth 2019 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Ebrill 2019 I Fawrth 2020 wedi cael ei ddywygio eto. Hefyd, yn y dyfodol, bydd rhywfaint o ddiwygiadau am i fyny i werth Ebrill 2019 i Fawrth 2020 oherwydd trafodiadau hwyr.

Felly yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • Data Ebrill 2019 i Fawrth 2020 yn erbyn
     
  • ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin 2019)

Mae hyn yn caniatáu’r cymariaethau tecaf dros amser.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
     
  • Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod 2019-20, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 4% a 5% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ryddhau diweddariad ar gyhoeddi ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru oherwydd coronafirws (COVID-19). Yn y diweddariad hwn, gwnaethom nodi y byddem, yn ein datganiad dyfodol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, yn edrych ar unrhyw effeithiau posibl y coronafirws (COVID-19) ar ein hystadegau.

Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng mis Rhagfyr 2019 ac Mehefin 2020. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2020.

Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (MS Excel)

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod. Er enghraifft, mae bar ’27.6’ yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 27 Mehefin i 3 Gorffennaf 2020 (yn gynhwysol).

Mae'r llinell lwyd doredig yn dangos cyfartaledd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2019 (trafodiadau preswyl a amhreswyl).

Sylwch fod Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad sy'n gyrru'r rhan fwyaf dadansoddi yn y datganiad hwn.

Mae Ffigur 2.1 yn dangos y cynnydd mawr yn nifer y trafodiadau a gyflwynwyd yn ystod yr wythnos waith ddiwethaf cyn Nadolig 2019. Yna mae nifer y trafodiadau a gyflwynwyd yn gostwng i lefel lawer is yn y cyfnod o bythefnos ar gyfer gwyliau'r Nadolig, yn unol â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd y trafodiadau wythnosol a gyflwynwyd yn Ionawr i Fawrth 2020 tua’r lefelau disgwyliedig yn seiliedig ar ddechrau'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, gostyngodd y nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd yn sylweddol ym mis Ebrill yn dilyn yr achosion o’r coronafirws, yn enwedig yn y sector preswyl.

Mae'r gostyngiad hwn yn nifer y trafodiadau a dderbyniwyd yn ymwneud i raddau bach â thrafodiadau a fyddai wedi dod i rym ym mis Mawrth, ac felly mae effaith fach ar y refeniw a ddangosir yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, prif effaith y lleihad yw gostyngiad yn y trafodiadau a fyddai fel arall wedi dod i rym ym mis Ebrill.

Cododd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd yn raddol trwy gydol mis Mai a mis Mehefin 2020, ond mae'n parhau i fod islaw'r lefelau a welwyd ym mis Ionawr i fis Mawrth 2020.     

Mae Ffigur 2.2 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn dod i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ar ddiwedd 15 Mehefin 2020, derbynion ni manylion o 61,280 drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym ar gyfer Ebrill 2019 i 2020. Mae hyn 1% yn llai na'n hamcangyfrif ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (a gwneud ym mis Mehefin 2019).

Yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, roedd 90% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 10% yn rhai amhreswyl. Mae’r rhain yn canrannau tebyg i gyfnodau blaenorol.

Mae Ffigur 2.3 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.3 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

Ar ddiwedd 15 Mehefin 2020, roedd y cyfanswm treth yn ddyledus ar gyfer 2019-20 yn £265 miliwn (dangosir yn Ffigur 1.1).

Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Yn ychwanegol, ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach.

Dylid y trafodiadau annodweddiadol o fawr a thrafodiadau gyda manylion cyfyngedig yn cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

Fodd bynnag, ac eithrio'r trafodiadau hyn, cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 oedd £234.4 miliwn. Er mwyn cymharu â chyfnodau cynharach ac yn ôl math o drafodiad ar sail debyg am debyg, dyma’r gwerth a ddefnyddir gennym (gweler Ffigur 2.3).

Mae gwerth hyn 3% yn uwch na'n hamcangyfrif cyntaf ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019). Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth breswyl oedd yn ddyledus a threth amhreswyl oedd yn ddyledus oedd cynnydd o 7% a chwymp o 6%, yn y drefn honno.

Mae Ffigur 2.4 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y chwarter a’r flwyddyn yr oedd y trafodiadau mewn grym. Mae Ffigur 2.4 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl, a ffigurau ar wahân ar gyfer gwerth rhentu ar gyfer lesoedd amhreswyl a roddwyd o’r newydd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn y flwyddyn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 oedd £12.2 biliwn.

Ar wahân i hynny, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £1.4 biliwn yn y flwyddyn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae Ffigur 2.5 yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Mai 2020, ar gyfer trafodiadau preswyl a amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Mae nifer y trafodiadau preswyl yn ôl y mis y daeth y trafodiadau hynny i rym wedi amrywio'n fawr ers mis Ebrill 2018. Mae'r duedd fisol mewn trafodiadau preswyl yn 2019-20 wedi bod yn debyg yn fras i’r flwyddyn flaenorol. Mae yna ambell i gynnydd gwahanol rhwng y blynyddoedd, mewn rhai achosion oherwydd bod pum dydd Gwener mewn rhai misoedd, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn y datganiad hwn yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Ym mis Mawrth, rydym yn gweld cynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn i’w ddisgwyl, gan ei bod yn gyffredin i lesoedd amhreswyl gael eu hadnewyddu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Fel y nodwyd islaw Ffigur 2.1, mae coronafeirws (COVID-19) wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl ar ddechrau'r flwyddyn 2020-21.

Mae Ffigur 2.6 yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Mai 2020, ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Fel y gellir disgwyl, mae tueddiadau tebyg i’w gweld yn y dreth oedd yn ddyledus yn fisol ag y gwelir yn nifer misol y trafodiadau. Fodd bynnag, gellir esbonio'r refeniw cyffredinol uwch ar gyfer trafodiadau preswyl yn 2019-20 yn rhannol oherwydd yr ad-daliadau cyfraddau uwch sydd ddim eto wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau 2019-20. Mae Ffigur 1.1 yn cyflwyno niferoedd sy'n ystyried yr effaith hon yn well.

Mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol. Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Fel y nodwyd islaw Ffigur 2.1, mae coronafeirws (COVID-19) wedi arwain at ostyngiad mawr mewn refeniw ar ddechrau blwyddyn 2020-21. Roedd refeniw preswyl ym mis Ebrill a mis Mai 2020 yn llai na hanner y refeniw yn ystod y misoedd hyn flwyddyn ynghynt. Roedd refeniw amhreswyl yn gyson ym mis Ebrill 2020 cyn disgyn i'r lefel isaf a welwyd hyd yma ym mis Mai 2020 (£1.2 miliwn).

Mae Ffigur 2.7 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd, ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn ystod Ebrill 2019 i Fawrth 2020 yn £11.6 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd trawsgludo neu drosglwyddo perchenogaeth i gyfrif am y rhan fwyaf o’r trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020. 94% oedd y ffigur hwn ar gyfer trafodiadau preswyl a 66% ar gyfer trafodiadau amhreswyl

Rhoddwyd les newydd mewn 31% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 2% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer y flwyddyn blaenorol ac yn ôl chwarter.

Dadansoddiad yn ôl dyddiad cyflwyno'r ffurflen dreth

Rydym yn ymwybodol bod rhai cyhoeddiadau ystadegol eraill yn y DU yn seilio eu dadansoddiad ar y dyddiad y cyflwynir y ffurflen dreth. Felly rydym wedi cynhyrchu rhai ffigurau y gellir eu cymharu â gwledydd eraill y DU (gan ddefnyddio dyddiad cyflwyno) ac wedi cymharu'r rhain â'n hystadegau dyddiad dod i rym ni.

Mae Ffigur 2.8 yn dangos nifer misol y trafodiadau a ddaeth i rym ac a gyflwynwyd, o fis Ebrill 2018 i fis Mai 2020.

Trafodiadau yr hysbyswyd Awdurdod Cyllid Cymru ohonynt, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym/y’i cyflwynwyd, Ebrill 2018 i Fai 2020 (MS Excel)

Fel y gellid disgwyl, mae'r tueddiad misol yn eithaf tebyg ar y cyfan ar gyfer y ddwy gyfres am drafodiadau wedi’u cyflwyno a trafodiadau yn ôl dyddiad dod i rym. Gwelwyd y gwahaniaethau mwyaf rhwng y ddau rif yn y misoedd canlynol.

  • Yn Ebrill 2018, roedd 1,360 yn fwy o drafodiadau mewn grym nag a gyflwynwyd. Y rheswm pennaf am hyn yw oherwydd nad oedd unrhyw drafodiadau Treth Trafodiadau Tir a fyddai wedi bod mewn grym ym mis Mawrth 2018 i wrthbwyso rhai a oedd mewn grym ym mis Ebrill a dderbyniwyd ym mis Mai 2018. Roedd y trafodiadau Mawrth 2018 hyn yn dal i gael eu cyflwyno i CThEM o dan gyfundrefn dreth flaenorol Treth Dir y Dreth Stamp.
     
  • Yn ystod misoedd Rhagfyr ac Ionawr, gellir gweld gwahaniaethau o hyd at 600 o drafodiadau. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd gwyliau'r Nadolig ac oedi o ran cyflwyno trafodiadau yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae Ffigur 2.9 yn dangos canran y trafodiadau a ddaeth i rym ac a gyflwynwyd ar wahanol ddyddiau'r wythnos. Mae'r data yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym ym Ebrill 2019 i Fawrth 2020, a thrafodiadau a gyflwynwyd i’r Awdurdod rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.

Trafodiadau yr hysbyswyd Awdurdod Cyllid Cymru ohonynt, yn ôl diwrnod yr wythnos a dyddiad daeth y trafodiad i rym/y’i cyflwynwyd, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (MS Excel)

Dydd Gwener oedd y diwrnod mwyaf poblogaidd ar gyfer cyflwyno’r ddau drafodiad ac i'r trafodiadau ddod i rym, gydag ond ychydig iawn ar benwythnosau. Mae hyn yn adlewyrchiad o wythnos waith arferol asiantau sy'n cwblhau ffurflenni Treth Trafodiadau Tir.

Daeth bron i hanner y trafodiadau i rym yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 ar ddydd Gwener. Er bod cyfran uwch na'r cyfartaledd o'r ffurflenni treth wedi cael eu cyflwyno ar ddydd Gwener, mae'r gwahaniaeth yn llawer llai amlwg nag ar gyfer y dyddiad dod i rym. Mae hyn yn awgrymu nad yw ffurflenni'n cael eu cyflwyno’n gyffredinol ar yr un diwrnod ag y mae'r trafodiadau’n cael eu cwblhau.

Er na ddangosir hynny uchod, mae tystiolaeth yn y data hefyd bod cynnydd hyd yn oed mwy amlwg yn nifer y cyflwyniadau ar ddydd Gwener olaf pob mis

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 3 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr a rhai gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a’r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Mae Ffigur 3.2 yn dangos y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Gellir gweld tueddiadau tebyg ar gyfer y bandiau treth o ran nifer y trafodiadau a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae'r rhan fwyaf o'r bandiau treth yn dangos lleihad o trafodiadau a’r dreth oedd yn ddyledus yn Ionawr i Fawrth (o gymharu â Hydref i Ragfyr).

Fodd bynnag, mae mwy o ansefydlogrwydd yn y tueddiadau wrth ystyried y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo yn y bandiau gwerth uwch. Ar gyfer eiddo a brynwyd am fwy na £400,000, y dreth oedd yn ddyledus yn Hydref i Ragfyr 2019 oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Roedd hyn hefyd yn wir am eiddo a brynwyd am rhwng £250,000 a £400,000.

Mae Ffigur 3.3 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Yn y flwyddyn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, roedd dros ychydig tri ran o bump o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000 yn 0%, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am oddeutu chweched ran o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.

Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 4% yn unig o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am 34% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus.

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 4 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr a rhai gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos roedd 6,100 o drafodiadau amhreswyl mewn grym yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, gyda threth o £68.4 miliwn yn ddyledus.

Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 70% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob cyfnod o dri mis, mae tua 10% i 30% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl.

Mae Ffigur 4.3 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae Ffigur 4.4 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Mae Ffigur 4.3 yn dangos yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, 5% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 63% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 28% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 18% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

5. Rhyddhadau

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 5 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr a rhai gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • I sero, a elwir yn rhyddhad llawn
     
  • Neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Roedd 1,520 o drafodiadau yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Dyma'r llai na’r flwyddyn blaenorol.

Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 130 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth. Er enghraifft, mae rhai o'r rhain yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Mae'r enghraifft hon hefyd yn disgrifio rhai addasiadau a wnaed er mwyn nodi’n fwy cywir werth y dreth a ryddhawyd sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hyn. Rydyn ni’n disgwyl mwy o addasiadau yn y dyfodol ac felly rydym yn disgwyl diwygio'r Ffigur 5.1 yn y dyfodol.

Cyn iddynt Ebrill 2020, gwnaethom hepgor trafodiadau cysylltiol a thrafodiadau wedi’u rhyddhau o Ffigurau 5.1 a 5.2 yn ein datganiadau. Roedd hyn er mwyn i ni allu gwneud dadansoddiad pellach o'r trafodiadau hyn. Rydym bellach wedi cynnal y dadansoddiad hwn ac mae gennym lefel resymol o hyder yn ansawdd y data hyn. Yn ein datganiad chwarterol a chyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020, rydym wedi ychwanegu trafodiadau cysylltiol a thrafodiadau wedi’u rhyddhau yn Ffigurau 5.1 a 5.2, gan adolygu'r holl ddata yn ôl i Ebrill 2018. Mae hyn wedi ychwanegu:

  • tua 60 i 70 o drafodiadau i bob chwarter yn Ffigur 5.1
     
  • cyfartaledd o £4 miliwn i £5 miliwn i bob chwarter yn Ffigur 5.2

Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Ar gyfer pob cyfnod o dri mis, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Fodd bynnag, ym mhob cyfnod o dri mis, trafodiadau amhreswyl gyfranodd oddeutu 70% i 90% i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd. Mae gwerth y rhyddhadau a hawlir ym mhob cyfnod o dri mis wedi amrywio'n sylweddol dros amser.

Yn y datganiad hwn, rydym wedi cywiro am i lawr werth y rhyddhadau a hawliwyd ar rai trafodiadau. Er enghraifft, mae rhyddhadau preswyl ym mis Ionawr i fis Mawrth 2020 wedi'u hadolygu i lawr o £8.4 miliwn (fel y’u cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020) i £3.2 miliwn yn y datganiad hwn. Mae hyn oherwydd i ni ddarganfod bod y gydnabyddiaeth ar rai trafodiadau 100 gwaith yn uwch nag y dylai fod, a chywiro'r gwallau hynny. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i'w chael yn Enghraifft 6 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Mae Ffigur 5.3 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, yn ôl y math o ryddhad. Dangosir ffigur ar wahân ar gyfer nifer y rhyddhadau lle na chafodd y rhyddhad effaith ar y dreth a oedd yn ddyledus.

Mae Ffigur 5.4 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, yn ôl y math o ryddhad.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Y math o ryddhad a gafodd yr effaith fwyaf ar y dreth a oedd yn ddyledus yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 oedd rhyddhad grŵp, mewn trafodiadau amhreswyl yn bennaf. Roedd y rhyddhad hwn i gyfrif ycyhydig dros hanner o gyfanswm y dreth a gafodd ei rhyddhau.

Roedd y cyfanswm gwerth y rhyddhadau a gafodd eu hawlio yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 ar gyfer trafodiadau yn £50.6 miliwn. Mae hyn yn llai na’r £69.9 miliwn a gafodd eu hawlio yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 15 Mehefin 2020.

Mae Ffigur 6.1 yn dangos bod 780 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn ystod Ebrill 2019 i Fawrth 2020, gyda £6.4 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd y data hwn ar gyfer 2018-19 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl, yn ôl dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad

Mae Ffigur 6.2 isod yn dangos ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch, gan ddefnyddio'r dyddiad pan gymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Mae Ffigur 6.2 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl a roddwyd, yn ôl y chwarter y cymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Cynyddodd nifer yr ad-daliadau a gymeradwywyd (a gwerth yr ad-daliadau hynny) yn fwyaf chwarter yn ystod Ebrill 2109 i Fawrth 2020. Mae hyn gan adlewyrchu’r disgwyliad bod digon o amser wedi mynd heibio er mwyn i hawliadau gael eu gwneud.

Bu gostyngiad yn y data ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd:

  • niferoedd is o drafodiadau yn ystod yr hydref a'r gaeaf (na'r gwanwyn neu'r haf)
     
  • newidiadau i brosesau yn nhîm gweithrediadau ACC rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2019. Arweiniodd hyn at ddal i fyny gyda phrosesu ad-daliadau yn gynnar yn 2020.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

7. Treth a dalwyd

Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod, ar gyfer Ebrill 2018 i Fai 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £232.9 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Mae'r gwerth hwn wedi'i ddiwygio i lawr ychydig (o’r £233.5 miliwn) a gyflwynwyd yn ein datganiad ym mis Ebrill 2020. Mae hyn oherwydd tynnu o’r data rhywfaint o gyfrif taliadau ddwywaith.

Mae'r ffigurau hyn yn llai na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i dablau cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018 gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.

Ac eithrio trafodiad prif llinellau’r cymoedd, roedd y derbyniadau misol uchaf a welwyd hyd yma ym mis Rhagfyr 2019 (£30.5 miliwn).

Cyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru

Gall trafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir gael eu diwygio am amryw o resymau, er enghraifft yn dilyn adolygiad i'w cywirdeb, neu roi ad-daliadau cyfraddau uwch. Gan fod y data yn y datganiad hwn yn seiliedig i raddau helaeth ar y dyddiad y daeth y trafodiadau i rym, sydd fel arfer yn aros yr un fath, yna gall llawer o'r data a gyhoeddir yma am cyfnodau blaenorol newid o hyd.

Er y dylai bron pob trafodiad sy’n ymwneud â 2019-20 fod wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn (oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers diwedd y flwyddyn), ni fydd y data ar gyfer 2018-19 a 2019-20 wedi’i gwblhau'n llawn hyd nes bod y cyfnod ar gyfer adolygu wedi dod i ben. Yn achos ad-daliadau cyfradd uwch, gall hyn fod gyhyd â thair blynedd ar ôl y trafodiad gwreiddiol, gyda ffenestr hirach o bosibl ar gael ar gyfer rhai trafodiadau eraill, megis y rhai y mae’r Awdurdod yn dewis agor ymchwiliad iddynt.

At ddibenion cyfrifo a rhagfynegi, mae angen creu ffigur terfynol ar lefel Cymru ar gyfer cyfanswm y dreth sy'n ddyledus am bob blwyddyn. Er bod gwerth yr arian a dderbyniwyd yn Ffigur 7.1 yn cael ei bennu cyn gynted ag y daw pob cyfnod i ben, mae hyn yn rhy syml ar gyfer y diben hwn. Er enghraifft, nid yw Ffigur 7.1 yn nodi'r flwyddyn dreth y mae’r trafodiadau’n ymwneud â hi.

Yn hytrach, diffinnir ffigur cyfrifyddu terfynol hwn drwy gynnwys trafodiadau (neu unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau) a dderbyniwyd hyd at 30 Ebrill 2020 oedd â dyddiad dod i rym yn ystod 2019-20. Nid yw unrhyw drafodiadau a dderbyniwyd (neu ddiwygiadau a wnaed) ers 30 Ebrill 2020, neu sydd eto i'w derbyn, wedi'u cynnwys. Mae'r data hwn wedi'i gyhoeddi'n ffurfiol fel rhan o gyfrifon ACC ar gyfer 2019-20, fel y'u gosodwyd gerbron Senedd Cymru.

Ffigur 7.2 Refeniw a gyflwynir yn y Gyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru (£ miliwn), yn ôl blwydd

Math o drafodiad

2018-19

2019-20

Preswyl

 

155.4

163.4

Amhreswyl

72.4

96.9

Cyfanswm

227.8

260.3

Ffynhonnell: Cyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru

Mae gwahaniaeth allweddol rhwng cyfanswm y refeniw ar gyfer 2019-20 (Ffigur 7.2) a'n hystadegau ehangach yn ymwneud ag ad-daliadau cyfraddau uwch. Bydd trafodiadau a ad-dalwyd yn ystod 2019-20 (sy'n ymwneud â thrafodiad gwreiddiol yn 2018-19) yn cael effaith ar werth 2019-20 yn Ffigur 7.2, ond ar werthoedd 2018-19 yn ein hystadegau ehangach.

8. Dadansoddiad o fewn Cymru

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 8 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr a rhai gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Data yn ôl awdurdod lleol

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (ar sail flynyddol yn unig). Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.

Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.

Rydym yn cyflwyno data awdurdodau lleol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl a threth sy'n ddyledus.

Rydym yn cyflwyno data awdurdodau lleol ar werth eiddo sy'n cael ei drethu (a elwir yn gydnabyddiaeth) ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Mae hyn oherwydd bod rhai trafodiadau amhreswyl â chydnabyddiaeth arbennig o fawr a risg posibl o adnabod trethdalwr pe byddem yn cyhoeddi data blynyddol awdurdodau lleol ar y rhain.

Yn y dyfodol, byddwn yn ymchwilio i ymarferoldeb cyfuno nifer o flynyddoedd o drafodiadau amhreswyl er mwyn caniatáu cyhoeddi data cydnabyddiaeth yn ddiogel.

Data yn ôl etholaeth y Senedd ac ardal adeiledig

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau blynyddol ar gyfer Etholaethau'r Senedd ac ardaloedd adeiledig. Nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu dadansoddi yn y datganiad hwn ond maent ar gael ar wefan StatsCymru. Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig.

Pan ffyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth er mwyn canfod etholaeth y Senedd.

Lle nad yw'r cod post yn cael ei ddarparu, mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint, a chan na ellir dyrannu'r rhain i ardaloedd etholaethau’r Senedd, nid yw'r ystadegau sy'n deillio ohonynt yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer etholaethau'r Senedd ac ardaloedd adeiledig.

Cyflwyno cyfartaleddau yn yr adran hon

Lle caiff cyfartaleddau Cymru eu cyflwyno yn yr adran hon, mae'r rhain yn gymedrau wedi’u pwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd o drafodiadau ym mhob awdurdod lleol.

Mae ffigurau 8.1 i 8.4 yn rhoi cymarebau (er enghraifft, treth sy'n ddyledus fesul trafodiad neu drafodiadau cyfraddau uwch fel cyfran o'r holl drafodiadau). Mae angen y defnydd hwn o gymarebau er mwyn creu data y gellir ei gymharu ar draws yr holl awdurdodau lleol, gan y bydd y cysyniadau unigol yn aml yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau lleol oherwydd yr amrywiaeth o ran eu maint a'u poblogaeth.

Er enghraifft, ystyriwch Ffigur 8.1. Ymhlith awdurdodau lleol Cymru, Caerdydd oedd â’r swm uchaf o dreth breswyl yn ddyledus a nifer uchaf y trafodiadau preswyl. Oherwydd eu maint, byddai hyn yn atal cymhariaeth ystyrlon ar draws awdurdodau lleol, ond wrth edrych ar dreth a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl, awdurdod llawer llai (Sir Fynwy) oedd yn â’r swm uchaf, gyda'r swm cymaradwy yng Nghaerdydd y trydydd fwyaf.

Mae Ffigur 8.1 yn dangos ar gyfer trafodiadau preswyl: swm y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.1 yn dangos, ar gyfer trafodiadau preswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£6,770) a Bro Morgannwg (£5,580).

Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£800) a Merthyr Tudful (£1,180).

Ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg iawn i'r flwyddyn flaenorol.

Mae Ffigur 8.2 yn dangos ar gyfer trafodiadau amhreswyl: swm y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.2 yn dangos, ar gyfer trafodiadau amhreswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yng Nghaerdydd (£29,020).

Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad amhreswyl ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£1,260).

Yn yr un modd â thrafodiadau preswyl, roedd y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau unigol mewn awdurdod lleol yn amrywio'n fawr o amgylch y ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru.

Er bod y patrymau a welir ar gyfer preswyl a amhreswyl yn eithaf tebyg, mae rhai gwahaniaethau clir yn nhrefn yr awdurdodau lleol rhwng y ddau siart.

Ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020, mae’r safle gymharol yn y siart ar gyfer rhai awdurdodau lleol wedi newid yn sylweddol (o'i chymharu ag Ebrill 2018 i Fawrth 2019). Er enghraifft, mae Caerffili wedi codi o'r 17eg uchaf i'r 2il uchaf, tra bod Sir Fynwy wedi cwympo o'r 3ydd uchaf i'r 10fed uchaf. Mae hyn yn dangos anwadalrwydd y data amhreswyl o flwyddyn i flwyddyn.

Mae Ffigur 8.3 yn dangos trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.3 yn dangos yr amrywiaeth eang rhwng awdurdodau lleol o ran lefel y trafodiadau preswyl cyfradd uwch. Cyflwynir y data hwn fel canran o'r holl drafodiadau preswyl.

Pryd mae prynwyr yn talu cyfraddau uwch?

Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
     
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
     
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
     
  • cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Na allwn bennu dylanwad rhai o'r categorïau hyn (am nad yw'r ffurflen Treth Trafodiadau Tir yn gofyn y cwestiwn). Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn Adran 9 y datganiad hwn (yn ôl amddifadedd) yn ein galluogi i ddod i gasgliad petrus bod eiddo prynu i osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi.

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn fwy cyffredin yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yng Ngwynedd (38%), Ynys Môn (36%) ac Abertawe (30%).

Gwelwyd y canrannau isaf yn Nhorfaen (16%) a Sir y Fflint (17%).

Ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg i'r flwyddyn flaenorol.

Mae Ffigur 8.4 yn dangos gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad preswyl, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y gwerthoedd eiddo cyfartalog (neu gydnabyddiaeth) uchaf, fesul trafodiad yn Sir Fynwy (£282,200) a Bro Morgannwg (£249.900), ac isaf ym Mlaenau Gwent (£102,200) a Merthyr Tudful (£123,100).

Ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg iawn i'r flwyddyn flaenorol.

9. Dadansoddiad yn ôl ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 9 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr a rhai gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Yn yr adran hon o’r datganiad, rydym yn dadansoddi Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ardaloedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos lefel y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer ardaloedd MALlC ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r ardal MALlC. Lle na chaiff y cod post ei nodi, mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint, a chan na ellir eu dosbarthu i ardaloedd MALlC nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer ardaloedd MALlC.

Beth yw MALlC a sut yr ydym yn ei ddefnyddio?

Mae MALlC wedi'i gynllunio er mwyn nodi’r ardaloedd bychain hynny o Gymru sydd fwyaf difreintiedig. Ar hyn o bryd mae MALlC yn cynnwys wyth gwahanol faes (neu fath) o amddifadedd. Mae pob maes wedi'i lunio o ystod o wahanol ddangosyddion. Yr wyth maes yw incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, diogelwch cymunedol, yr amgylchedd ffisegol a thai. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we MALlC.

Pan fo wedi’i gofnodi, rydym wedi cysylltu'r cod post o’r ffurflen dreth i tua 1,900 o ardaloedd bychain yng Nghymru. Caiff yr ardaloedd bychain hyn eu rhestru gan MALlC o'r mwyaf i'r lleiaf difreintiedig. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u rhannu'n ddeg band cyfartal eu maint o'r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig (a elwir yn 'ddegfedau').

Diweddarwyd safleoedd MALlC yn ddiweddar (2019). Rydym wedi defnyddio'r safleoedd MALlC diweddaraf hyn yn y datganiad hwn. Mae pob diweddariad o safleoedd MALlC wedi'i gynllunio i bara am oddeutu tair i chwe blynedd. Pan wnaethom gyhoeddi'r dadansoddiad hwn y llynedd, gwnaethom ddefnyddio safleoedd MALlC 2014.

Lle caiff cyfartaleddau eu cyflwyno yn yr adran hon, mae hwn yn gymedr wedi’i bwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd y trafodiadau ym mhob degfed MALlC.

Mae'n bwysig nodi mai mesuriad ar sail ardal yw MALlC. Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, nid yw pawb sy'n byw yn yr ardaloedd hynny yn ddifreintiedig. Yn yr un modd, gall rhai o'r boblogaeth sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fod yn ddifreintiedig.

Mae’n bwysig nodi bod MALlC yn canolbwyntio ar amddifadedd cymharol yn unig, felly nid yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fydd y rhai mwyaf cefnog o reidrwydd. Dylai cyfeiriad y symudiad a nodir yma gael ei ystyried fel y symudiad o’r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig ac nid o’r difreintiedig i’r cefnog.

Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf o'r amrywiad o ran amddifadedd i'w weld yn y degfedau mwyaf difreintiedig. Mae'r gwahaniaeth (mewn amddifadedd cymharol) rhwng y degfed mwyaf difreintiedig a'r ail fwyaf difreintiedig yn fwy nag ydyw ym mhen arall y dosbarthiad.

Mae Ffigur 9.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac ar y cyfraddau uwch, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

Mae Ffigur 9.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl a’r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac ardal amddifadedd ar StatsCymru

Gan fod pob un o'r degfedau hyn o faint tebyg o ran poblogaeth, gallwn ddadansoddi'r data heb eu graddio ar gyfer eu maint , fel yr oedd yn angenrheidiol ar gyfer awdurdodau lleol (gweler y blwch gwyrdd yn Adran 8 y datganiad hwn). Mae hyn yn ein galluogi i ystyried nifer y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus ar wahân yn hytrach na'r gymhareb rhwng y ddwy eitem a ddadansoddwyd gennym ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae Ffigur 9.2 yn dangos, fel y gellid disgwyl, bod cyfanswm y dreth breswyl sy'n ddyledus yn tyfu'n sylweddol ac yn eithaf unffurf drwy'r ystod o ardaloedd (o'r mwyaf difreintiedig i'r lleiaf difreintiedig). Mae hyn yn cynrychioli gwahaniaethau tebygol yng ngwerth eiddo yn yr ardaloedd hyn.

Fodd bynnag, mae Ffigur 9.1 hefyd yn dangos fod nifer y trafodiadau preswyl ar ei isaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gyrraedd uchafbwynt tua chanol a thug at ran olaf y dosbarthiad, a gostwng ychydig ar gyfer y degfed lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn awgrymu bod amddifadedd nid yn cysylltu â’r prisiau ond hefyd i’r lefel y gweithgaredd yn y farchnad dai yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae'r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch hefyd yn tyfu o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig hyd at ddiwedd y dosbarthiad, cyn disgyn yn y degfed lleiaf difreintiedig.

Ar gyfer data Treth Trafodiadau Tir Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (gan ddefnyddio safleoedd MALlC 2019), mae'r patrwm a welir yn Ffigurau 7.1 a 7.2 yn debyg yn fras i ddadansoddiad y llynedd o ddata Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (gan ddefnyddio safleoedd MALlC 2014).

Mae Ffigur 9.3 yn dangos trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl ardal amddifadedd a math o drafodiad ar StatsCymru

Mae Ffigur 9.3 yn dangos canran y trafodiadau cyfraddau uwch o fewn cyfanswm y trafodiadau preswyl ar gyfer pob degfed MALlC. Yn gyffredinol, mae cyfran y trafodiadau preswyl sy'n cael eu trethu ar y cyfraddau uwch yn disgyn o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig i'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (gyda rhai eithriadau).

Mae'r duedd yn y canrannau (gan fynd o'r mwyaf difreintiedig i'r lleiaf difreintiedig) yn llyfnach ar y siart hon na'r dadansoddiad a gyhoeddwyd y llynedd ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (gan ddefnyddio data MALlC 2014). Mae hyn yn debygol o fod oherwydd bod mwy o aliniad rhwng dyddiad y trafodiadau a'r dyddiad sy'n berthnasol i’r dadansoddiad MALlC (2019).

Fel y nodwyd yn Adran 8 y datganiad hwn, mae amryw o resymau am godi’r cyfraddau treth uwch, dau o'r rhain yw pryniant eiddo prynu-i-osod a phrynu ail gartrefi neu dai gwyliau. Mae Ffigur 9.3, ynghyd â ffigur 9.1 (sy'n dangos mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd yn nifer y trafodiadau cyfraddau uwch rhwng degfedau MALlC), yn gallu rhoi cipolwg ar y cydbwysedd rhwng y ddwy eitem hyn.

Gan dybio bod eiddo prynu-i-osod yn fwy tebygol o gael ei brynu mewn ardaloedd mwy difreintiedig, tra bod ail gartrefi neu dai gwyliau yn fwy tebygol o gael eu prynu ymhellach i fyny'r dosbarthiad, yna gellir dod i gasgliad petrus bod eiddo prynu-i-osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi. Mae'n bwysig, felly, peidio â thybio mai unrhyw ffactor unigol yw achos codi’r gyfradd uwch.

Atodiad A: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn edrych yma ar effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Mawrth 2020. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 30 Ebrill, yr ail amcangyfrif ar 22 Mai a'r trydydd amcangyfrif ar 19 Mehefin.

Mae Ffigur A1 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn nifer y trafodiadau a'r newid yn y dreth oedd yn ddyledus.

Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (MS Excel)

Mae Ffigur A1 yn dangos bod lefelau uwch o adolygiadau i’w gweld yn gyffredinol yn y misoedd cynharaf y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu Treth Trafodiadau Tir. Felly y mae pethau, yn arbennig ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar drafodiadau sydd â’r dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018, pan roedd 30% o gynnydd yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus (o’r amcangyfrif cyntaf i’r ail amcangyfrif am y mis). Disgwylid diwygio ym mis Ebrill 2018 oherwydd byddai defnyddwyr yn llai cyfarwydd â’r system, a hefyd oherwydd bod dyddiad terfynol cynharach wedi cael ei ddefnyddio yn y mis canlynol i echdynnu’r data.

Fodd bynnag, mae’r ffigwr ar gyfer Ebrill 2018 o 30% yn y dreth sy’n ddyledus lawer yn uwch na’r ffigwr cyfatebol yn nifer y trafodiadau (11%). Yr esboniad yw nad oedd Awdurdod Cyllid Cymru wedi cael gwybod am rai trafodiadau mawr, sydd â dyddiad dod i rym yn hwyr ym mis Ebrill 2018, tan yn ddiweddarach ym mis Mai (cyn y terfyn llenwi, sef 30 diwrnod, ond ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer eu cyhoeddi ym mis Ebrill).

Mae Ffigur A1 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Hydref 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod rhwng 0 a 3%. Yr eithriadau diweddar oedd:

  • Mis Mehefin 2019 pan oedd y dreth yn ddyledus i fyny 9% rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif
     
  • Mis Medi 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 16%)
     
  • Mis Ionawr 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 27%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data. Er enghraifft, diwygion ni mwy ar amcangyfrifon mis Gorffennaf 2018 na’r misoedd o’i gwmpas. Fodd bynnag, nid ydym yn gweld unrhyw batrymau tymhorol amlwg yn y data ar gyfer 2019 ac yn 2020 hyd yn hyn. Ond, bydd angen i ni gael o leiaf flwyddyn arall o ddata i asesu unrhyw faterion tymhorol sy’n gysylltiedig â’r data.

Gwnaed diwygiad am i lawr i'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus ar gyfer mis Ebrill 2019 (rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail). Cafodd trafodiad amhreswyl a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019 ei nodi'n anghywir fel yn rhy mawr a chafodd ei ddiwygio’n ddiweddarach.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau 1 a 2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Rydym yn dadansoddi ad-daliadau yn adran 6 o'r datganiad ystadegol hwn.

Yn y dyfodol, gallen ni fod yn ystyried cymhwyso ffactor grosio i amcangyfrifon cyntaf mis. Gallai hyn fod yn gymorth i ostwng nifer y diwygiadau sydd eu hangen ar amcangyfrif cyntaf y mis. Gan fod y data’n ymddangos yn anwadal hyd yma, mae’n debygol y bydd angen i ni gael sawl blwyddyn o ddata Treth Trafodiadau Tir er mwyn cyfrifo ffactorau grosio priodol.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Logo Awdurdod Cyllid Cymru

Rhannu’r dudalen hon