Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ionawr i Mawrth 2022:

  • bu 242 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 5% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2020. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei yrru'n bennaf gan gynnydd mewn gwarediadau cyfradd is gyda chynnydd llai mewn gwarediadau cyfradd safonol hefyd yn cyfrannu. Rydym yn cymharu â 2020 ac nid 2021 oherwydd effeithiau’r coronafeirws (COVID-19) yn y flwyddyn honno
  • roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £9.5 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae’n cynnydd 16% ers yr un cyfnod yn 2020. Yn adran dadansoddi’r datganiad hwn, rydym yn awgrymu rhai rhesymau posibl dros y cynnydd hwn
  • efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data. Mae dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Fodd bynnag, mae'r patrwm hwn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan effaith coronafirws (COVID-19)
  • dengys data cyhoeddedig newydd fod gronynnau mân i gyfrif am 36% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is. Roedd y ganran hon yn is nag ym mhob cyfnod o dri mis yn gynharach yn y flwyddyn ariannol. Nid yw’n glir a fydd patrwm tymhorol yn dod i’r amlwg yn y data newydd hwn, a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn y dyfodol
  • roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 84% yr holl dreth yn ddyledus
  • mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle

Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ebrill 2021 i Fawrth 2022:

  • bu 1,164 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 21% o'i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Rydym yn cymharu â dwy flynedd yn ôl ac nid Ebrill 2020 i Fawrth 2021 oherwydd effeithiau’r COVID-19 yn y flwyddyn honno
  • roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £44.9 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae’n cynnydd 21% o'i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020
  • mae deunydd dirwyon i gyfrif am 43% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is
  • roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 84% yr holl dreth yn ddyledus
Image
Siart 1a yn cynnwys pwysau ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl gradd treth a chwarter.
Image
Siart 1b yn cynnwys treth yn ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl gradd treth a chwarter.

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Dynodiad Ystadegau Gwladol

Ar 16 Chwefror 2022, rhoddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ddynodiad Ystadegau Gwladol holl ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru. Mae hyn yn golygu bod OSR wedi asesu bod ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru yn:

  • cydymffurfio'n llawn â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
  • bodloni safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth

Cyflwyniad o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

O fis Ebrill 2018, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn newid y Dreth Tirlenwi yng Nghymru. Rydym, Awdurdod Cyllid Cymru, yn casglu a rheoli’r Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r dreth wedi'i llunio a'i gwneud yng Nghymru a bydd y refeniw a gesglir yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth a maent yn trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd.

Diben y dreth yw:

  • lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
  • annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi

Gwerth ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi. Mae gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net.

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon TGT i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Data ar gael dros Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Mae ddata ar gael hefyd ar wefan StatsCymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y tudalennau rhestr termau a’r gwybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân.

  • Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
  • Mae ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Diwygiadau i ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae'r amcangyfrifon chwarterol yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Gall pob ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan Awdurdod Cyllid Cymru ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol.

Yn yr adran ganlynol, rydym yn disgrifio y dulliau yr ydym yn defnyddio i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni.

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Cyfnodau cyfrifyddu

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd.

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
  • mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol
Image
Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

A + B: defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

C: caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Yn ein gwybodaeth ansawdd allweddol, rydym yn disgrifio sut y gwnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd o Ebrill 2021. Yn y ffurflen newydd, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi unrhyw wastraff wedi'i ryddhau ac unrhyw ddisgownt dŵr mewn rhannau ar wahân o'r ffurflen. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyfuno’r ddau gategori hyn i gyflwyno categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’.

Yn y ffurflen dreth flaenorol, byddai gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi gwastraff wedi’i ryddhau fel gwastraff cyfradd is i ddechrau ac yna'n ei dynnu i ffwrdd mewn rhan ddiweddarach o'u ffurflen. Fodd bynnag, byddai ein datganiadau blaenorol yn adrodd am wastraff wedi’i ryddhau o fewn y categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’ ond nid fel rhan o’r categori cyfradd is, felly nid yw hyn wedi golygu newid yng nghyflwyniad y data dros amser.

Gwarediadau heb awdurdod

Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r hyn dan adolygiad. Pan fydd gennym ddigon o ddata, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein dull o gyhoeddi gwybodaeth am warediadau heb awdurdod.

Ansolfedd cwsmer

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn.

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Dadansoddiad

Cyfraddau treth sy’n berthnasol i Dablau 1a a 1b

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer 2018-19 i 2022-23.

 

Cyfradd safonol

Cyfradd is

Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi (ddim yn Nhablau 1a a 1b)

2018-19

£88.95 y dunnell

£2.80 y dunnell

£133.45 y dunnell

2019-20

£91.35 y dunnell

£2.90 y dunnell

£137.00 y dunnell

2020-21

£94.15 y dunnell

£3.00 y dunnell

£141.20 y dunnell

2021-22

£96.70 y dunnell

£3.10 y dunnell

£145.05 y dunnell

2022-23

£98.60 y dunnell

£3.15 y dunnell

£147.90 y dunnell

Image
Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle.

Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5] 

Pwysau a waredwyd (‘000 tunnell) [2]
  Rhyddhad neu ddisgownt [3] [r] Cyfradd is [r] Cyfradd safonol [r] Cyfanswm [4] [r]
2019-20 112 458 393 962
Ebr-Meh 24 113 110 248
Gor-Med 15 146 116 278
Hyd-Rhag 25 102 80 206
Ion-Maw 47 96 87 230
2020-21 122 543 323 988
Ebr-Meh 43 91 54 188
Gor-Med 35 146 104 285
Hyd-Rhag 24 170 90 284
Ion-Maw 20 137 74 231
2021-22 (p) 119 599 446 1164
Ebr-Meh 29 174 120 323
Gor-Med 53 154 138 344
Hyd-Rhag (r) 24 136 94 254
Ion-Maw (p) 13 135 94 242

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Nodiadau

[1] Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

[2] Mae’r pwysau a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r 1,000 tunnell agosaf.

[3] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[4] Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.

[5] Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym, gan fod y tîm gweithrediadau TGT yn adolygu'r gwelliannau hyn.

[p] Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Sylwadau ar Dabl 1a

Yn Ionawr i Fawrth 2022, roedd 242 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn 5% yn uwch na'r un cyfnod yn 2019. Rydym yn cymharu â 2020 ac nid 2021 oherwydd effeithiau’r coronafeirws (COVID-19) yn y flwyddyn honno.

O fewn y cyfanswm hwn, roedd 94 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn 8% yn uwch na'r un cyfnod yn 2020. Mae adborth gan weithredwyr safleoedd tirlenwi yn awgrymu bod y ffactorau canlynol yn gysylltiedig:

  • dychweliad i'r patrymau tymhorol o waredu gwastraff a welwyd cyn i'r pandemig COVID-19 ddechrau
  • cynnydd yn y ffrydiau gwastraff gan gwsmeriaid presennol gweithredwyr safleoedd tirlenwi
  • ffrydiau gwastraff newydd gan gwsmeriaid newydd

Nid yw'n amlwg a oes disgwyl i lefel gymharol uchel o warediadau cyfradd safonol yn 2021-22 yn parhau trwy’r 2022-23. Fodd bynnag, rydym wedi sicrhau bod y data a dderbyniwyd gennym yn gyson yn fewnol ar draws pob ffurflen dreth. Gan fod treth eisoes wedi'i thalu ar y gwarediadau hyn, nid oes gennym reswm i gwestiynu cywirdeb y symiau uwch.

Roedd y 135 mil o dunelli a waredwyd ar y gyfradd is 40% yn uwch nag yn Ionawr i Fawrth 2020. Yn ein datganiad o Ebrill i Fehefin 2021, fe wnaethom adrodd bod cynnydd diweddar mewn gwarediadau cyfradd is yn rhannol oherwydd cynnydd ym musnes rhai gweithredwyr safleoedd tirlenwi. Mae’r duedd hon yn debygol o barhau drwy gydol 2021-22.

Yn Ionawr i Fawrth 2022, roedd y 13 mil tunnell o warediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio oedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yma.

Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, bu 1,164 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 21% o'i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]

Treth yn ddyledus (£ miliwn) [2]
  Cyfradd is [r] Cyfradd safonol [r] Cyfanswm [3] [r] Swm y dreth a ryddhawyd [4] [r]
2019-20 1.3 35.8 37.2 0.2
Ebr-Meh 0.3 10.1 10.4 [c]
Gor-Med 0.4 10.5 10.9 [low]
Hyd-Rhag 0.3 7.3 7.6 [low]
Ion-Maw 0.3 7.9 8.2 0.1
2020-21 1.6 30.4 32.0 0.3
Ebr-Meh 0.3 5.1 5.4 0.1
Gor-Med 0.4 9.8 10.2 0.1
Hyd-Rhag 0.5 8.5 9.0 0.1
Ion-Maw 0.4 7.0 7.4 [c]
2021-22 (p) 1.9 43.1 44.9 0.3
Ebr-Meh 0.5 11.6 12.1 0.1
Gor-Med 0.5 13.3 13.8 0.1
Hyd-Rhag (r) 0.4 9.1 9.5 [c]
Ion-Maw (p) 0.4 9.1 9.5 [c]

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Nodiadau

[1] Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

[2] Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.

[3] Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.

[4] Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.

[5] Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym, gan fod y tîm gweithrediadau TGT yn adolygu'r gwelliannau hyn.

[p] Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

[c] Wedi'i atal i ddiogelu cyfrinachedd trethdalwyr unigol.

[low] Yn cynrychioli gwerth sy’n talgrynnu i 0, ond sydd heb fod yn 0.

Sylwadau ar Tabl 1b

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022 at £9.5 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae'n cynnydd o 16% o'r un cyfnod yn 2020. Gyrrwyd hyn i raddau helaeth gan:

  • gynnydd ym mhwysau gwarediadau cyfradd safonol, a ddisgrifir yn y sylwebaeth ar Dabl 1a
  • cynnydd blynyddol yn y cyfraddau treth

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 at £44.9 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae hyn yn cynnydd oddeutu 21% o'i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gallu cadw’r effeithiau yma ar wahan i’r tueddiadau mwy cyffredinol yn y data. Ond byddwn angen gwerth sawl blwyddyn o ddata cyn i hynny fod yn bosibl, ac mae effaith coronafeirws (COVID-19) bellach yn gymhlethdod ychwanegol.

Ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022, roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 84% yr holl dreth a dalwyd. Mewn cyfnodau o dri mis cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80-90%. Y ffigur cyfatebol ar gyfer y flwyddyn gyfan o Ebrill 2021 i Fawrth 2022 oedd 86%.

Mae’r gwerth ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd yn cynrychioli faint o dreth fyddai wedi bod yn ddyledus pe nad fyddai’r rhyddhad wedi’i ganiatáu.

Tabl 1c: Pwysau o wastraff gradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter [1]

Pwysau a waredwyd (‘000 tunnell) [2]
  Deunydd dirwyon [3] Priddoedd a cherrig [4] Teils, brics, concrid, a serameg [4] Arall cyfradd is [4] Cyfanswm cyfradd is [5]
2021-22 [p] 255 233 68 43 599
Ebr - Meh 21  83 65 21 5 174
Gor - Med 21  64 61 17 12 154
Hyd - Rhag 21  59 50 17 9 136
Ion - Maw 22 [p] 49 56 13 17 135

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Nodiadau

[1] Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

[2] Mae’r pwysau a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r 1,000 tunnell agosaf.

[3] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler yr eirfa am ragor o wybodaeth.

[4] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[5] Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.

[p] Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

Image
Siart 1c yn cynnwys y dadansoddiad o bwysau o wastraff gradd is a waredwyd i safleodd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter.

Sylwadau ar Tabl 1c a Siart 1c

Mae'r tabl a’r siart newydd uchod yn cyflwyno dadansoddiad o bwysau cyfradd is wedi’i rannu’n ronynnau mân cymwys, gyda gronynnau mân anghymwys wedi'i grwpio'n dri chategori yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW).

Mae Siart 1c yn dangos bod canran y gwastraff cyfradd is sy’n ronynnau mân yn amrywio o 48% ym mis Ebrill i fis Mehefin 2021, i 36% rhwng Ionawr a Mawrth 2022. Roedd canran y gwastraff cyfradd is oedd yn briddoedd a cherrig yn amrywio o 37% yn Hydref i Ragfyr 2021, i 42% rhwng Ionawr a Mawrth 2022. Gyda blwyddyn o ddata hyd yn hyn, nid yw'n glir a fydd unrhyw batrymau tymhorol yn y ganran hon. Byddwn yn parhau i fonitro hyn mewn datganiadau yn y dyfodol.

Rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, roedd gronynnau mân i gyfrif am 43% o bwysau’r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd dreth is. Y ganran gyfatebol ar gyfer priddoedd a cherrig oedd 39%.

Rydym yn croesawu adborth defnyddwyr ar y dadansoddiad newydd hwn a sut y gallech ddefnyddio'r data hwn. Gweler ein manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.

Dadansoddiad posib o’r categori ‘wedi derbyn rhyddhad a disgownt’

Yn haf 2020 y gwnaethom ystyried ddiwethaf a fyddai’n bosibl cyhoeddi dadansoddiad o’r categori ‘rhyddhadau a disgowntiau’. Ar gyfer y datganiad hwn, rydym wedi ystyried eto a allwn gyhoeddi dadansoddiad o ddata’n ddisgowntiau dŵr a'r pedwar rhyddhad unigol. Er bod pump neu fwy o weithredwyr yn rhai o'r categorïau hyn, mae un neu ddau weithredwr yn arbennig o amlwg yn y data. Byddai cyhoeddi unrhyw ddadansoddiad yn arwain at berygl o ddatgelu data ar ddamwain ar gyfer trethdalwyr unigol.

Rydym wedi dod i'r casgliad nad yw’r mater o amlygrwydd gweithredwyr yn y data yn debygol o newid yn y dyfodol. Byddwn yn adolygu hyn eto ymhen sawl blwyddyn er mwyn gweld a allwn gyhoeddi dadansoddiad o’r data hyn yn ddiogel.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae Tabl 2 isod yn dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.

Tabl 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [1]
  Gwerth taliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (£ miliwn)
2019-20 37.2
Ebr-Meh 9.2
Gor-Med 10.1
Hyd-Rhag 10.9
Ion-Maw 7.1
2020-21 33.9
Ebr-Meh 2.5
Gor-Med 9.9
Hyd-Rhag 11.6
Ion-Maw 10.0
2021-22 (p) 43.3
Ebr-Meh 7.7
Gor-Med 12.2
Hyd-Rhag 13.4
Ion-Maw 10.0

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Nodiadau 

[1] Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.

[p] Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Sylwadau ar Tabl 2

Yn Ionawr i Fawrth 2022, cawsom £10.0 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 41% yn uwch na'r un cyfnod yn 2020. Fel mewn tablau cynharach, rydym yn cymharu hyn â 2020 ac nid 2021 oherwydd effeithiau’r coronafirws (COVID-19) y flwyddyn honno.

Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, cawsom £43.3 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 16% yn fwy nag yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae'r tueddiadau yn y data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Fel rheol gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol.

Sylwch hefyd fod Tabl 2:

  • yn cynnwys symiau bach iawn o gosbau a llog a dalwyd mewn perthynas â Threth Gwarediadau Tirlenwi
  • ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Gwarediadau Tirlenwi heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Diwygiadau i ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi

Mae Tabl 3 isod yn newydd i’r datganiad hwn. Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd y data hwn gyntaf fel cais ad-hoc. Byddwn yn cyhoeddi'r data hwn yn ein datganiadau chwarterol yn y dyfodol.

Mae Tabl 3 yn cynnwys manylion diwygiadau i dreth oedd yn ddyledus a ddigwyddodd mewn blwyddyn ariannol wahanol i waredu’r gwastraff cysylltiedig. Bydd diwygiadau fel hyn yn digwydd yn dilyn canlyniadau ymholiadau i furflenni treth a’r llifau gwastraff cysylltiedig, a allai gymryd blwyddyn neu fwy i’w cwblhau. Yn yr achosion hyn, fel arfer bydd y newid yn y dreth yn cael ei gofnodi ar ôl i gyfrifon y flwyddyn ariannol waredu gael eu cau, gyda’r symiau’n cael eu trosglwyddo i’r cyfnod ariannol sydd ar agor ar y pryd.

Mae’r tabl hwn yn dangos y symiau o dreth sy’n ddyledus lle mae diffyg cyfatebiaeth rhwng y flwyddyn waredu a’r flwyddyn gyfrifo ac mae’n caniatáu i’r defnyddiwr addasu’r data a ddangosir yn Nhabl 1b er mwyn adlewyrchu’n agosach y symiau a gofnodir yn y cyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru.

Dylai defnyddwyr nodi ei bod yn bosibl i Dabl 3 ddangos gwerthoedd negyddol yn y dyfodol, a fyddai'n cynrychioli symiau treth a ddiwygiwyd am i lawr. Mae hefyd yn bosibl diwygio gwerthoedd Tabl 3 ar i lawr yn y dyfodol. Byddai hyn yn bosibl, er enghraifft, os yw apeliadau yn erbyn penderfyniadau treth yn llwyddiannus.

Tabl 3: Diwygiadau i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n ddyledus, yn ôl y flwyddyn ariannol y gwaredwyd y gwastraff a’r flwyddyn ariannol y cyfrifwyd y newid treth ynddi [1]
Blwyddyn ariannol y gwaredwyd y gwastraff  Blwyddyn ariannol y cyfrifwyd y newid yn nhreth yn ddyledus ynddi  Newid yn y dreth sy'n ddyledus (£ miliwns) [2]
2018 i 2019 2019 i 2020 [low]
2018 i 2019 2020 i 2021 0.2
2018 i 2019 2021 i 2022 neu'n hwyrach [3] 3.5
2019 i 2020 2020 i 2021 [low]
2019 i 2020 2021 i 2022 neu'n hwyrach [3] 0.1
2020 i 2021 2021 i 2022 neu'n hwyrach [3] 0.1

Diwygiadau i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi oedd yn ddyledus, yn ôl blwyddyn ariannol y gwaredwyd y gwastraff a’r flwyddyn ariannol y cyfrifwyd y newid treth ynddi (MS Excel)

Nodiadau

[1] Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.

[2] Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.

[3] Nid yw'n bosibl nodi eto a fydd refeniw'n cael ei gynnwys yn erbyn 2021-22 yn benodol, gan nad yw cyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn honno wedi'u cau eto.

[low] Yn cynrychioli gwerth sy’n talgrynnu i 0, ond sydd heb fod yn 0.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo