Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, ymddiriedaeth ac ansawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:
Gweld hanes diweddaru

Gwerth

Gwerth ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n mynd i dirlenwi.

Mae rhagweld refeniw Treth Gwarediadau Tirlenwi i Gymru yn y dyfodol yn ddefnydd pwysig o ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon TGT i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi yng ngwledydd eraill y DU

Mae Gyllid a Thollau EM a Cyllid yr Alban yn cyhoeddi ystadegau am y trethi cyfatebol yn Lloegr a’r Alban. Hyd at Ebrill 2018, yr oedd ystadegau ar warediadau tirlenwi yng Nghymru wedi’u cynnwys ym mwletin Cyllid a Thollau EM, ond ddim yn cael eu dangos fel gwerthoedd ar wahân o fewn data Cymru a Lloegr.

Cyllid a Thollau EM – Bwletin Trethi Amgylcheddol

Cyllid yr Alban – Ystadegau Treth Tirlenwi yr Alban

Yn yr adran dulliau o’r datganiadau ystadegol, rydym wedi nodi sut y byddwn yn addasu’r data i adlewyrchu’r dreth sy’n ddyledus yn y chwarter. Mae’n caniatáu i ni amcangyfrif ac adrodd ar y Treth Gwarediadau Tirlenwi sy’n ddyledus yn y chwarter hwnnw.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn adrodd ar y ffurflenni treth a gyflwynwyd bob mis, sy’n dibynnu ar gyfnodau cyfrifyddu gweithredwyr y safleoedd tirlenwi. Bydd Cyllid a Thollau EM yna’n gwneud rhai addasiadau cyfrifyddu i adlewyrchu’r gweithgaredd chwarterol.

Nid oedd modd i ni gyhoeddi yn ôl mis oherwydd:

  • y risg o ddatgelu manylion gweithredwyr safleoedd tirlenwi unigol
  •  ac rydym yn awyddus i'r dreth sy’n cael ei hadrodd ymwneud yn llwyr â’r cyfnod yr adroddir yn ei gylch

Noder felly, na fydd y data ar gyfer Cymru yn gwbl gymaradwy o bosibl â'r data ar gyfer Lloegr a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM, na chyda rhai ar gyfer yr Alban a gyhoeddir gan Cyllid yr Alban.

Dibynadwyedd

Rydym yn cynhyrchu ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Fel cynhyrchydd newydd o ystadegau swyddogol, rydym yn datblygu ein prosesau cyhoeddi ystadegol. Chyhoeddwyd yn blaenorol ein polisi ar allbynnau ystadegol, yn cynnwys:

  • y safonau proffesiynol a rydym yn dilyn wrth greu’r ystadegau hyn
  • sut mae Swyddog Arweiniol Ystadegau yn Awdurdod Cyllid Cymru yn rheoli cynnwys ac amseru’r allbynnau’n annibynnol;
  • sut rydyn ni’n rhoi gwybod i ddefnyddwyr am allbynnau sydd ar y gweill
  • sut caiff data ei gasglu, ei storio a’i reoli
  • a bydd staff sy’n ymwneud â chynhyrchu ystadegau’n mynd drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol â fframwaith Cymwyseddau'r Gwasanaeth Sifil a fframwaith cymwyseddau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth

Ansawdd

Rydym yn parhau i asesu ansawdd y data. Byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i fwy o ddata gael ei dderbyn.

Rydym wedi asesu’r budd a’r pryderon posibl o ran ansawdd yn unol â chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddefnyddio data gweinyddol, gan nodi unrhyw bryderon posibl o ran ansawdd. Mae’r tabl isod yn cyflwyno ein hasesiad cyfredol.

Ffynhonnell data

Proffil budd y cyhoedd

Lefel y risg o bryderon ynghylch ansawdd

Lefel yr wybodaeth sicrwydd a ddatblygir

Ffurflenni Treth Gwarediadau Tir

Isel

Isel

A1 – sicrwydd sylfaenol

Wrth baratoi ein datganiadau ystadegol, rydym yn gweithio’n agos gyda staff gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru i ganfod materion pellach yn ystod casglu a phrosesu ffurflenni unigol. Rydym wedi datblygu rhai systemau rheoli ansawdd yng nghyswllt ffurflenni treth sy’n tynnu sylw at feysydd pryder posibl o ran ein staff gweithredol. Gallant wedyn yn cysylltu â gweithredwyr safleoedd tirlenwi i gywiro problemau posibl.

Mae’r gwiriadau hyn wedi tynnu sylw at y ffaith bod rhai materion bychan iawn o ran talgrynnu yn y data a gyflwynwyd i ni. Mae hyn yn bennaf oherwydd cyflwyno ffurflenni am fwy nac un safle a thalgrynnu ar y bont bwyso. Mae’r materion hyn yn creu gwahaniaethau o ran cysondeb mewnol o lai na £10 gyda’i gilydd, sy’n gyfforddus o fewn y paramedrau talgrynnu a ddefnyddiwyd gennym wrth gyflwyno’r canlyniadau.

Mae enghraifftau bellach o’r mater ansawdd a ddarganfuwyd gennym a'r camau a gymerwyd i’w weld isod.

Enghraifft 1

Drwy edrych ar gysondeb mewnol y data ar draws pob ffurflen, canfuwyd problemau lle yr oedd ein canllawiau ni yn amwys a lle yr oedd peth pwysau disgownt dŵr wedi ei gofnodi yn erbyn gwarediadau trethadwy. Aethom ati i ddiwygio’r canllawiau i’w gwneud yn gliriach, a chadarnhau fod yr holl weithredwyr safleoedd tirlenwi cysylltiedig wedi dilyn y canllawiau newydd hynny wedyn, gan gywiro data fel bo angen cyn cyhoeddi.

Enghraifft 2

Rydym wedi cyflwyno ffurflen dreth newydd i weithredwyr safleoedd tirlenwi ei chwblhau, wedi'i dylunio gan ymgynghori â gweithredwyr. Ar gyfer gwarediadau ar y gyfradd dreth is, rydym bellach yn casglu data yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW).a elwir hefydn yn cod Catalog Gwastraff Ewrop (EWC) ac am ddeunydd dirwyon, yn ôl gynhyrchydd gwastraff. Os bydd cynnydd neu ostyngiad mewn gwarediadau cyfradd is, gallwn nodi sut mae’r newid hwn yn cael ei ffurfio, ac a yw’r gwastraff, er enghraifft, wedi’i wared mewn man arall yng Nghymru. Mae hyn yn arwain ar ragor o wiriadau gweithredol, y mae pob un ohonynt yn arwain at fwy o hyder yn y data a ddarperir i ni gan weithredwyr, ac yn y pen draw at fwy o hyder yn yr ystadegau a gyhoeddwn.

Mae'r ffurflen dreth newydd hefyd yn caniatáu dull inni naill ai:

  • gael cyfanswm treth yn awtomatig o'r data sylfaenol sylfaenol
  • neu lle mae'r dreth wedi'i hunanasesu, sicrhau ei bod mewn ystod briodol yn seiliedig ar y ffigurau pwysau manylach a ddarperir

Dulliau a ddefnyddir i addasu data ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu gwahanol

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi gyfnodau cyfrifyddu safonol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd. Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Mae’r adran Dulliau yn yr datganiadau ystadegol yn egluro sut yr ydym yn ymdrin â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Diwygio data i’r dyfodol

Mae'r data yn yr un datganiad yn un dros dro ar hyn o bryd. Gallem yn diwygio y data mewn datganiadau yn y dyfodol i roi cyfrif am ddiweddariadau i ffurflenni, er enghraifft yn dilyn gwiriadau lliniaru ac adfer arferol a wneir gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Mae’r adran Dulliau yn yr un datganiad yn ymdrin â diwygiadau a gynlluniwyd i’r data, a marcio data’r chwarter diweddaraf fel ‘dros dro’, o ganlyniad. Fodd bynnag, mae’r diwygiadau ad hoc sy’n ofynnol yn dilyn gwiriadau lliniaru ac adfer yn llai hawdd eu rhagweld.

Er enghraifft, mae hawliadau am ryddhad yn cael eu hasesu ar hyn o bryd, ac yn yr achosion hyn, mae’r gwastraff dan sylw wedi’i gyfrifo ar hyn o bryd yn amcangyfrifon y gyfradd is a gyflwynwyd. Os caiff y rhyddhad ei gymeradwyo, gallai gael ei ôl-ddyddio i gynnwys chwarteri blaenorol, fel y gallai addasiad heb ei gynllunio i’r data a gyflwynir yma godi (er ei fod yn debygol o fod yn fychan). Pan mae angen gwneud diwygiadau heb eu cynllunio i ddata hanesyddol, byddwn bob amser yn esbonio’n glir y rhesymau dros hynny yn y datganiad perthnasol.

Cysondeb â data arall

At Ddibenion Trwyddedu Amgylcheddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu data chwarterol ar wastraff i mewn ac allan o safleoedd gwastraff a ganiateir gan gynnwys gwarediadau mewn safleoedd tirlenwi. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu’r data hwn (gan ddefnyddio’r ‘ffurflenni gwastraff a ganiateir’) gan weithredwyr safleoedd, casglwyr a phroseswyr gwastraff, er mwyn monitro cydymffurfiaeth ag amodau trwyddedau. Mae ein staff gweithrediadau’n cyrchu ac yn adolygu'r data hwn bob chwarter, yn bennaf o safbwynt asesu risg treth ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Defnyddir codau’r Rhestr Wastraffoedd (LoW) yn y ddwy set ddata ac rydym yn eu casglu fel ffordd o sicrhau ansawdd ac asesu risg treth. Cesglir y cod LoW ar gyfer yr holl ddata yn y ffurflenni gwastraff trwydedig, ond yn y ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi, dim ond ar gyfer gwarediadau penodol y cesglir y cod LoW. Nid yw'r codau LoW ar gyfradd safonol nac ar gyfradd is yn unig ac felly ar eu pen eu hunain, ni ellir eu defnyddio i awgrymu'r gyfradd dreth a allai fod yn berthnasol.

Gwahaniaeth arall rhwng y 2 ffynhonnell yw bod data sy'n ymwneud â gwarediadau ar gyfer adfer safle tirlenwi yn cael eu cyflwyno o dan god 'adfer' yn hytrach na chod 'gwaredu', yn y ffurflenni treth gwastraff trwyddedig. Ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi, caiff unrhyw warediadau at ddibenion adfer safle eu trin fel gwarediad trethadwy. Dim ond os bodlonir  rhai meini prawf penodol y gall gweithredwyr safleoedd tirlenwi hawlio rhyddhad adfer safle.

Wrth gymharu’r 2 ffynhonnell, mae sawl rheswm arall pam nad yw data ar gyfer cyfnod penodol o amser yn alinio o bosibl:

  • nid yw deunydd sy'n cael ei ddodi gan weithredwyr safleoedd tirlenwi mewn ardal gymeradwy nad yw'n ardal waredu (fel deunydd sy'n cael ei bentyrru ar gyfer adfer safle yn y dyfodol) yn weithgaredd trethadwy ac nid yw data sy'n ymwneud â hyn wedi'i gynnwys yn y ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi. Ar yr adeg y bydd deunydd yn gadael yr ardal nad yw'n ardal waredu, os yw'n aros ar y safle tirlenwi, daw'n ddarostyngedig i reolau treth arferol a bydd yn cael ei gynnwys yn y Ffurflen Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Yn y ffurflenni gwastraff trwyddedig, nid oes cysyniad o ardal nad yw'n ardal waredu
  • mae rhai gweithredwyr safleoedd tirlenwi wedi cytuno ar gyfnodau cyfrifyddu ansafonol gyda ni ar gyfer cyflwyno eu ffurflenni treth. Efallai na fydd y rhain yn cyd-fynd â'r cyfnodau yn y ffurflenni gwastraff trwyddedig. Mae ein tudalen geirfa yn rhoi rhagor o wybodaeth am gyfnodau cyfrifyddu ansafonol
  • mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cyflwyno ffurflenni gwastraff trwyddedig i Cyfoeth Naturiol Cymru ar sail y cyfnodau y derbyniwyd gwastraff ar y safle. Mae ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi yn seiliedig ar yr adeg y daw'r dreth yn daladwy. Gall hyn fod naill ai pan wneir gwarediad neu pan gyhoeddir anfoneb, sydd yn aml yn hwyrach na dyddiad y gwarediad gwirioneddol. Gall y mater hwn fod yn fwy amlwg wrth gymharu data ar gyfer cyfnodau chwarterol, ond yn llai felly am gyfnodau hwy o amser, megis cymharu data blynyddol

Er bod rhywfaint o ddefnydd i'r data o'r ffurflenni gwastraff trwyddedig ar gyfer sicrhau ansawdd data Treth Gwarediadau Tirlenwi, mae defnyddioldeb cymharu'r ddwy set ddata wahanol rywfaint yn gyfyngedig oherwydd y rhesymau a amlinellir uchod.